llais y sir

Natur Er Budd Iechyd: Gwirfoddoli Er Budd Lles

Mae’r prosiect ‘Natur er Budd Iechyd’ yn waith ar y cyd rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Gwasanaeth Tai Sir Ddinbych. Mae’r prosiect peilot 18 mis hwn, a ariannwyd yn wreiddiol gan Gyfoeth Naturiol Cymru ers ei lansio yn 2018, wedi derbyn blwyddyn o estyniad gyda chymorth gan Wasanaethau Cymdeithasol a Thai Sir Ddinbych. Mae ei ffocws ar wella lles yn defnyddio rhagnodi cymdeithasol: gall gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a sefydliadau eraill atgyfeirio defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth a ffordd o fyw iach.

Dyma Claudia Smith o'r Cyngor Sir i ddweud ychydyg o'r hanes:

“Mae’r prosiect yn darparu cyfleoedd ar garreg drws i helpu pobl fyw bywydau iachach a llawnach drwy fynediad gwell i’r amgylchedd naturiol” - Emily Reddy, Cydlynydd Datblygu Cymunedol, Gwasanaeth Tai Sir Ddinbych.

Mae’r tîm Natur er budd Iechyd wedi bod yn gweithio ar draws Sir Ddinbych, gan gynnwys Gwarchodfeydd Natur sy’n cael eu rheoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych. Mae sesiynau cadwraeth a cherdded wedi bod yn cael eu cynnal yn y Rhyl, Prestatyn, Llangollen a Chorwen. Fel Ceidwad yng ngogledd Sir Ddinbych, fy rôl i ydi darparu gweithgareddau cadwraeth yn y Rhyl a Phrestatyn. Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ymwneud â chynnal a chadw dwy warchodfa yn benodol; Glan Morfa yn y Rhyl a Choed y Morfa ym Mhrestatyn, y ddau yn gyn safle tirlenwi bellach wedi eu trawsnewid yn fannau gwyrdd. Yn y Rhyl, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn cymryd rhan yn y prosiect ‘Plannu’ cenedlaethol gyda 1350 o goed wedi eu plannu hyd yma'r gaeaf hwn. Mae gwirfoddolwyr wedi cyfrannu at gynnal a chadw golygfan, ffensio, gosod mainc, plygu gwrych, creu cynefin blodau gwyllt a mis ‘Glanhau Blynyddol Cymru’ Cadwch Gymru'n Daclus. Ym Mhrestatyn, rydym wedi plannu a chynnal a chadw perth 300 metr o hyd, mewn partneriaeth gyda Phrosiect Y Fforest Hir Cadwch Gymru'n Daclus, yn ystod nifer o sesiynau gyda nifer dda yn bresennol. Mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn rhan o welliannau coetir ar y safle, yn ogystal â phlannu blodau gwyllt a gwneud bocsys nythu. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Pete Harrison a Steve Ford o Brosiect Porth Morfa i drawsnewid mynedfa’r safle yn fan gwyrdd croesawgar y gall y bywyd gwyllt a phobl ei fwynhau!

Plannu coed yng Nghlan Morfa, Y Rhyl

Rydym wedi bod yn arwain mathau eraill o sesiynau: mae gweithgareddau crefft yn boblogaidd gyda gwirfoddolwyr ac yn cael eu hystyried fel gwobr am eu gwaith caled! Maent hefyd yn annog cyfranogwyr gydag anawsterau symudedd i gyfrannu a chyflwyno mynychwyr newydd i wirfoddoli. Roedd ein sesiynau plethu helygen, ffeltio, mosaig a gwneud torch yn llwyddiannus iawn. Mae teithiau gwirfoddoli wedi profi’n bleserus iawn, gan gynnwys tîm y gogledd yn ymuno gyda thîm y de yn rhandiroedd Corwen ac ymweld â nythfa môr-wennol fechan Gronant. Yn ystod yr haf, roeddem wedi darparu amrywiaeth o weithgareddau i’r teulu a dyddiau hwyliog, gan gynnwys sgiliau coetir, coginio yn yr awyr agored a sgyrsiau am fywyd gwyllt, ymgysylltu gyda phlant lleol a natur. Yn ogystal, mae ein digwyddiadau hyfforddiant wedi darparu sgiliau newydd i wirfoddolwyr, gan gynnwys plygu gwrych, walio sych a hyfforddiant tywys teithiau cerdded.

Teithiau gwirfoddolwyr i randiroedd Corwen

Mae cynnwys y cyhoedd yn y prosiect Natur Er Budd Iechyd wedi parhau i dyfu. Mae’r gweithgareddau yn dod â chymunedau ynghyd ac yn annog trigolion lleol i ymfalchïo yn eu mannau gwyrdd lleol. Mae’n ddull amgen o ymarfer corff i’r rhai na fyddai fel rheol yn defnyddio campfa, mewn lleoliad yn yr awyr agored, i wella lles meddyliol a chorfforol. Mae ein cyfranogwyr yn mwynhau cwrdd â phobl newydd, ac mae’r gweithgareddau yn ffordd o dorri’r iâ i'r rhai sy’n cael anawsterau mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae’r agweddau cymdeithasol yn bwysig iawn i wirfoddolwyr ag anableddau, sy’n mwynhau dod at ei gilydd gyda’r gymuned. Yn ogystal, mae’r sesiynau Natur Er Budd Iechyd wedi profi’n llwyddiannus gyda’r sawl sy’n wirfoddolwyr newydd. Mae llawer o’n gwirfoddolwyr eisoes wedi ennill hyder i fynychu ein gweithgareddau diwrnod llawn. Mae gwirfoddolwyr eraill wnaeth ddechrau mynychu’r teithiau iach wedi derbyn hyfforddiant a bellach yn arwain teithiau cerdded eu hunain, gan ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth. Mae gwirfoddolwyr wedi datblygu sgiliau newydd drwy’r gweithgareddau, sydd wedi gwella eu rhagolygon swyddi.

“Rwyf wedi rhoi fy mhrofiad gwirfoddoli ar fy CV ac wrth wneud hynny mae wedi fy helpu i gael gwaith llawn amser.... Rwy’n parhau i gyfarfod y grŵp Natur Er Budd Iechyd ar fy nyddiau i ffwrdd gan ei fod yn ffordd wych i gadw’n heini ac yn iach’ – Ben Haworth-Booth, gwirfoddolwr Natur Er Budd Iechyd.

Gwneud mosaig yn y Ganolfan Phoenix, Y Rhyl
Credyd:  Katrina Day

Mae Natur Er Budd Iechyd wedi bod o fudd i’n gwaith o fewn y Gwasanaeth Cefn Gwlad. Roedd llawer o wirfoddolwyr newydd wedi mynychu’r prosiect Natur Er Budd Iechyd, a bellach maent yn gwirfoddoli yn ein sesiynau cadwraeth cyffredinol. Roedd nifer o’r gwirfoddolwyr hyn wedi mynychu ein cystadleuaeth plygu gwrych blynyddol ym mis Rhagfyr! Mae cysylltiadau o fewn sefydliadau eraill wedi cyfrannu at gyflwyno gwirfoddolwyr newydd i ni: rydym wedi derbyn atgyfeiriadau gan feddygon teulu yn ogystal â lleddfu materion iechyd meddwl a chorfforol. Mae cysylltiadau newydd o fewn Sir Ddinbych yn Gweithio wedi atgyfeirio gwirfoddolwyr atom, yn ogystal â sefydliadau byw â chymorth. Mae cynhyrchu ffilmiau hyrwyddo i’w dangos mewn meddygfeydd wedi codi mwy o ymwybyddiaeth o’r prosiect. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn ddull effeithiol: mae llawer o fynychwyr wedi dod i wybod am y sesiynau hyn drwy ein tudalen Facebook. O ganlyniad, mae ein horiau gwirfoddoli wedi cynyddu’n sylweddol, ac rydym wedi gallu datblygu ein gwaith ar safleoedd Cefn Gwlad.

Plannu gwrych ym Mhrestatyn

Rydym yn bwriadu parhau gyda phrosiect Natur Er Budd Iechyd dros y misoedd nesaf yn yr ardaloedd targed, a’r nod ydi ymgysylltu â mwy o bobl mewn cymunedau lleol. Gobeithio y bydd sefydliadau y tu hwnt i Sir Ddinbych yn defnyddio natur i hyrwyddo lles i annog cymunedau lleol i gymryd rhan yn eu mannau gwyrdd.

Cysylltwch â claudia.smith@sirddinbych.gov.uk, neu ffoniwch ar 01824 708313.  Hefyd, gallwch fynd i'r gwefan neu neu ewch i dudalen Facebook Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych am fwy o wybodaeth ar sut i gyfrannu at y prosiect Natur Er Budd Iechyd.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid