llais y sir

Newyddion

Cymorth Datblygu Cymunedol Sir Ddinbych

Ers y rhifyn diwethaf o Llais y Sir, mae Tîm Datblygu Cymunedol Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio’n galed i gefnogi grwpiau a sefydliadau cymunedol ar draws y Sir i ddatblygu syniadau prosiect a chynnig cyngor cyllido cymunedol.

Roedd rownd gyntaf y gronfa Fferm Wynt Brenig yn hynod o gystadleuol yn ôl y disgwyl, ond gyda chyfran fawr o’r ymgeiswyr llwyddiannus yn brosiectau wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych, roedd yn ganlyniad cadarnhaol iawn i gymunedau lleol. Disgwyliwn yn eiddgar i glywed canlyniad ail rownd Cronfa Fferm Wynt Brenig ac edrychwn ymlaen at lansiad y Gronfa Fferm Wynt Clocaenog (sydd werth oddeutu £758,000 y flwyddyn, dolen i’r mynegai).

Wrth gwrs, mae nifer o gyfleoedd cyllido eraill ar gyfer prosiectau cymunedol yn Sir Ddinbych ac isod rydym wedi rhestru dyddiadau cyllido allweddol sydd ar y gweill, ar gyfer eich dyddiadur:

Cronfa Waddol Cymuned Sir Ddinbych: Cronfa addysgol ar gyfer unigolion a sefydliadau yn Sir Ddinbych. Y dyddiad cau nesaf: 31 Mawrth (y gronfa yn agor 6 wythnos cyn hynny)

Cronfa Addysg Dinbych a’r Cyffiniau: Cronfa addysgol ar gyfer unigolion a sefydliadau yn Ninbych a’r pentrefi cyfagos. Y dyddiad cau nesaf: 31 Mawrth (y gronfa yn agor 6 wythnos cyn hynny)

Grantiau Mawr Cronfa Fferm Wynt Gwynt y Môr: Cyllid cyfalaf a refeniw ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol yng Ngogledd Sir Ddinbych. Y dyddiad cau nesaf: 31 Mawrth

Cronfa Fferm Wynt Banc Burbo: Cyllid cyfalaf a refeniw ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol yng Ngogledd Sir Ddinbych. Y dyddiad cau nesaf: 1 Ebrill

Yn ogystal â chynnig cymorth un i un wedi’i deilwra ar gyfer grwpiau sy’n datblygu prosiectau cymunedol yn Sir Ddinbych, mae’r Tîm Datblygu Cymunedol hefyd yn trefnu digwyddiadau amrywiol. Sicrhewch eich bod yn nodi’r hyn sydd ar y gweill:

Digwyddiad Cymunedol Tref Glân Gorllewin y Rhyl – Dydd Llun 20 Ebrill, 5-7pm yng Nghanolfan y Foryd, Princes Street, Y Rhyl, LL18 1LS.

  • A hoffech chi weld gwelliannau yng Ngorllewin y Rhyl? Beth am gael dweud eich barn am ddyfodol eich cymuned? Hoffech chi ddarganfod beth mae eraill yn ei wneud a sut i gymryd rhan?
  • Dewch draw i’n digwyddiad agored am ddim, lle gallwch gwrdd â thrigolion tebyg i chi a siarad â sefydliadau sy’n creu prosiectau i gynorthwyo Gorllewin y Rhyl i fod yn lleoliad glanach a mwy gwyrdd i fyw a gweithio.
  • Bydd enwau’r holl fynychwyr yn cael eu rhoi mewn raffl fawr, gallwch greu eich basged grog neu blannwr eich hun i fynd adref gyda chi, gallwch weddnewid eich bin (dewch â’ch bin ailgylchu glas gyda chi a bydd artist lleol yn eich cynorthwyo i’w addurno am ddim), a darperir bwffe ysgafn a lluniaeth.

Gweithdy Gwybodaeth ar Drefnu Digwyddiadau Cymunedol – Dydd Mawrth 12 Mai, 6-8pm ym Mhafiliwn Rhewl, Rhewl, LL15 1TN.

  • Dewch draw i’n gweithdy gwybodaeth am ddim, sy’n canolbwyntio ar drefnu digwyddiadau cymunedol bychain neu ganolig yn Sir Ddinbych.
  • Bydd cyfle i rwydweithio gyda threfnwyr digwyddiadau eraill, dysgu am ystyriaethau allweddol, clywed am broses hysbysu digwyddiad Sir Ddinbych a phecyn digwyddiadau, gofyn cwestiynau a chael cyngor ar gyfer eich digwyddiad eich hun, rhannu arferion da a heriau allweddol, dysgu am isadeiledd digwyddiadau’r Cyngor a phrosiect rhestr eiddo offer. Darperir lluniaeth ysgafn.

Gweithdy Gwybodaeth Tystiolaethu Cymorth ac Ymgysylltu Cymunedol – Dydd Mercher 1 Gorffennaf, 10am-12.30pm yng Nghanolfan Gymunedol Eirianfa, Dinbych,LL16 3TS.

  • Dewch draw i’n gweithdy gwybodaeth am ddim, sy’n canolbwyntio ar gasglu a dangos ymgysylltu â'r gymuned a chymorth ar gyfer eich prosiect. Gofyniad allweddol i nifer o gyllidwyr.
  • Rhagor o fanylion i'w cadarnhau.

Ffair Cyllidwyr Gogledd Sir Ddinbych – Y Rhyl, dyddiad a lleoliad i’w cadarnhau.

  • Dewch draw i’n ffair cyllidwyr am ddim. Dewch i gwrdd â chyllidwyr grant lleol a chenedlaethol, darganfyddwch pa gyllid sydd ar gael, cewch gyngor ar gyfer eich prosiect cymunedol a thrafod ceisiadau grant gyda’r cyllidwyr yn uniongyrchol.
  • Rhagor o fanylion i'w cadarnhau.

Os hoffech gefnogaeth i ddatblygu prosiect cymunedol neu syniad, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol drwy e-bost: communitydevelopment@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch: 01824 706000

I gael rhagor o wybodaeth am argaeledd cyllid a datblygu cymunedol, ymwelwch â’n gwefan cynllunio cymunedol.

Cynnydd gyda datblygiad Canolfan Iaith

Efallai eich bod wedi sylwi wrth i chi yrru heibio i Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, fod gwaith wedi dechrau ar adeiladu Canolfan Iaith ar y safle.

Nid oedd defnydd ar gyfer yr hen floc gwyddoniaeth yn yr ysgol fel rhan o fuddsoddiad £16miliwn o ddatblygiadau ysgol newydd sbon ar y safle a bydd bellach yn gartref i'r ganolfan iaith newydd sbon.

Bydd y Ganolfan yn cael ei defnyddio i ddarparu ar gyfer disgyblion cyn oed ysgol, cefnogi hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg, cyfleuster ar gyfer datblygu adnoddau iaith Gymraeg, yn ogystal â chyfleuster y gellir ei ddefnyddio ar gyfer dysgu oedolion y tu allan i oriau ysgol.

Bydd y datblygiad yn darparu cynhwysedd parcio ychwanegol ar gyfer 40 o gerbydau.  

Mae'r cynllun yn rhan o'r ymrwymiad a wnaed gan y Cyngor tuag at gyfrannu at ddatblygiad y Gymraeg yn y Sir a thuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hynt y gwaith.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid