Ffordd y Gogledd
Mae Ffordd Cymru yn cynnwys tri llwybr penodol - Ffordd Gogledd Cymru, Ffordd yr Arfordir a Ffordd Cambria.
Mae Ffordd Gogledd Cymru’n rhedeg am 75 milltir ar draws y gogledd drosodd i Ynys Môn.
Mae 25 milltir o Ffordd y Gogledd yn rhedeg drwy Ogledd Ddwyrain Cymru o'r ffin â Lloegr at y Rhyl. Ar hyd y darn hwn ceir traethau tywodlyd, dyffrynnoedd afonydd coediog, cestyll canoloesol, trefi marchnad gosgeiddig yn ogystal a bryngaerau Oes yr Haearn, treftadaeth ddiwydiannol ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Ewch i safle we Ffordd Gogledd Cymru i ddarganfod mwy ac i weld syniadau am deithiau ar wahanol themâu - treftadaeth, antur, cerdded, tirweddau, golff a bwyd a diod.