llais y sir

Llais y Sir: Argfraffiad Arbennig COVID19

Y Cyngor yn cyhoeddi datganiad yn dilyn cyhoeddiad ysgolion

Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi datganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad gan Weinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams AS y bydd ysgolion yn ail-agor fesul cam o 29 Mehefin.

Prif bwyntiau cyhoeddiad y Gweinidog oedd:

  • Cynigir y bydd pob ysgol yn dechrau'r cam nesaf ar 29 Mehefin, gyda'r tymor yn cael ei ymestyn wythnos, gan ddod i ben ar 27 Gorffennaf.
  • Yn y flwyddyn academaidd nesaf, gan ddechrau ym mis Medi, y bwriad yw y bydd egwyl hanner tymor yr hydref yn cael ei ymestyn i bythefnos.
  • Ym mhob ysgol, bydd y dull gweithredu'n cael ei gyflwyno fesul cam.  Bydd grwpiau blwyddyn yn cael eu rhannu'n garfannau gydag amser dechrau, gwersi ac egwyliau ar wahanol adegau.  Disgwylir y bydd hyn yn golygu y bydd traean o'r disgyblion, ar y mwyaf, yn bresennol ar unrhyw un adeg, er y gallai fod angen amser ar ysgolion i gyrraedd y lefel hon o weithredu.
  • Bydd dosbarthiadau llawer llai, gan ddarparu amser penodol diogel gydag athrawon a chyd-ddisgyblion. Bydd y cyfnod hwn yn cynnwys profiad ystafell ddosbarth ar-lein a phersonol, cael plant ac athrawon yn barod ar gyfer brofiad tebyg ym mis Medi.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd: "Mae diogelwch ein plant, pobl ifanc a'n staff yn flaenoriaeth uchel gennym a hoffem sicrhau rhieni a gwarcheidwaid y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i greu amgylcheddau diogel pan fydd ein disgyblion a'n myfyrwyr yn dychwelyd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir o ddechrau’r Coronafeirws mai dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny y bydd ysgolion yn ailagor yng Nghymru, ond rydym yn cydnabod bod rhai rhieni/gwarcheidwaid yn dal i fod â phryderon ynghylch yr amseru.

“Mae llawer o waith yn mynd rhagddo yn Sir Ddinbych ac ar draws Gogledd Cymru, i adolygu ein holl bolisïau a gweithdrefnau addysg ac ysgolion, i sicrhau eu bod yn addas i'r diben ar gyfer sefydlu trefniadau newydd a fydd yn caniatáu i'n hysgolion agor yn ddiogel.

“Byddwn nawr yn ystyried manylion y cyhoeddiad yn fanwl iawn a byddwn yn gweithio’n agos gydag ysgolion, cyrff llywodraethu ac undebau athrawon i baratoi ar gyfer ailagor ysgolion, gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol llym yn cael eu cyflwyno ym mhob ysgol.  Bydd gweithdrefnau glanhau a hylendid dwylo trwyadl ar waith a byddwn yn sicrhau bod gan ysgolion bopeth sydd ei angen arnynt i weithredu'n ddiogel.

“Bydd ysgolion yn darparu gwybodaeth dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf am drefniadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith a chamau y mae’n rhaid i bobl eu dilyn i sicrhau bod iechyd a diogelwch ein holl ddisgyblion a staff yn cael eu gwarchod”.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...