llais y sir

Llais y Sir: Argfraffiad Arbennig COVID19

Annog busnesau yn Sir Ddinbych i ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol

Mae‘r Cyngor yn annog pobl a busnesau i barhau i ddilyn canllawiau iechyd cyhoeddus ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.

Gyda rhai busnesau yng Nghymru yn cael ailagor, fel canolfannau garddio, mae'r Cyngor yn atgoffa preswylwyr a busnesau bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn glir ac y dylai pobl aros adref yn gyffredinol a dim ond mynd allan i ymarfer corff yn lleol a siopa am hanfodion. Rhaid dilyn gofynion ymbellhau cymdeithasol bob amser.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Gynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel: “Er ein bod ni i gyd eisiau dychwelyd i normal cyn gynted â phosibl mae'n hanfodol ein bod ni'n dilyn y canllawiau gan Lywodraeth Cymru.  Mae ymbellhau cymdeithasol yn rhan allweddol o reoli'r firws a gall busnesau chwarae eu rhan drwy sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn cael ei gynnal yn eu hadeiladau ac o'u cwmpas." 

Mae'n rhaid i bob busnes sy’n cael caniatâd i agor weithredu gweithdrefnau i sicrhau pellter o ddau fetr rhwng pobl, staff a chwsmeriaid a dylai perchenogion atgoffa staff i ddod i'r gwaith dim ond os ydynt yn iach ac nad oes unrhyw un yn eu cartref yn hunan-ynysu.

Er mwyn diogelu staff a chwsmeriaid, mae'n ddoeth rheoli mynediad i'r safle, gan ganiatáu nifer cyfyngedig o bobl ar unrhyw adeg benodol.

Dylai arwyddion fod yn glir ac atgoffa cwsmeriaid gyda symptomau i beidio mynd i mewn yn ogystal ag atgoffa staff a chwsmeriaid i gadw dau fetr ar wahân bob amser tra'u bod yn yr adeilad neu’n aros mewn ciw.

Dylai golchi dwylo a glanhau arwynebau yn rheolaidd fod yn arfer cyffredin a dylai perchnogion busnes ystyried unrhyw fesur sy'n cael gwared ar yr angen am gyswllt agos megis trwy ddefnyddio taliadau digyswllt a rhwystrau plexiglass.

Ychwanegodd y Cynghorydd Young: "Mae'n ymddangos y bydd ymbellhau cymdeithasol o gwmpas am beth amser a dylai pob un ohonom chwarae ein rhan. Er ein bod yn canolbwyntio ar y sector manwerthu, mae'r mesurau hyn yn berthnasol i bob busnes, boed yn wynebu'r cyhoedd ai peidio, yn fawr neu'n fach, yn fanwerthu neu'n weithgynhyrchu, a hefyd i'r cyhoedd pan fyddant wedi gadael eu cartref. Gofynnwn i bawb gadw at y gofynion a pharchu eraill o'u cwmpas"

Bydd swyddogion y Cyngor o dimau Gwarchod y Cyhoedd yn monitro cydymffurfiaeth mewn busnesau dros yr wythnosau nesaf.

Gall unrhyw un sy'n dymuno codi pryderon ynglŷn â ymbellhau cymdeithasol ar safle busnesau roi gwybod i ni amdano drwy ffonio 01824 706000 ar neu ar-lein yn http://www.denbighshire.gov.uk/cy/

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...