llais y sir

Llais y Sir: Argfraffiad Arbennig COVID19

Eisteddfod yr Urdd gyda gwahaniaeth yn dod a llwyddiant i Sir Ddinbych

Mae’r Cyngor yn dymuno llongyfarch plant a phobl ifanc o bob cwr o'r sir am eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd eleni - gŵyl gyda gwahaniaeth!

Roedd yr Eisteddfod i fod i gael ei chynnal yn Sir Ddinbych yr wythnos hon yn ystod gwyliau'r hanner tymor, ond mi benderfynodd swyddogion yr Urdd ganslo'r digwyddiad ffurfiol eleni yn dilyn yr achosion o coronafeirws a’r canllawiau cenedlaethol.  Mae'r digwyddiad bellach wedi'i drefnu i gael ei gynnal yn y sir ym mis Mai 2021.

Penderfynodd y trefnwyr gynnal Eisteddfod T, gŵyl rithwir gyda'r cystadleuwyr yn cael eu gwahodd i anfon fideos ohonynt eu hunain ar gyfer amrywiaeth eang o gystadlaethau, gan gynnwys canu, llefaru a dawnsio, yn ogystal â rhai cystadlaethau newydd fel dynwared a meimio i gerddoriaeth.

Mi gystadlodd nifer o blant a phobl ifanc o Sir Ddinbych, gyd rhai yn profi llwyddiant.  Mae fideo o gân o’r sioe ysgol gynradd y dylai fod wedi cael ei lwyfannu'r mis hwn hefyd  wedi cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnos.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd: "Rydym yn llwyr ddeall penderfyniad yr Urdd i ganslo'r digwyddiad eleni, yng ngoleuni'r canllawiau cenedlaethol ac edrychwn ymlaen at weithio gyda threfnwyr y digwyddiad  yn 2021.

"Mae'r syniad o gynnal Eisteddfod rithwir wedi bod yn un wych ac wedi gafael dychymyg pobl ar hyd a lled Cymru. Rydym wedi gweld llawer o geisiadau o Sir Ddinbych, gyda llwyddiant yn dod i’r sir. Mae'n wych bod cyfoeth diwylliant a thalent y sir yn cael ei gydnabod.

"Rydym nawr yn troi ein sylw at ddigwyddiad y flwyddyn nesaf ac yn gweithio gyda threfnwyr i drefnu Eisteddfod i'w chofio".

Gallwch wylio nôl arlein.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...