llais y sir

Llais y Sir: Argfraffiad Arbennig COVID19

Glanhau baw cŵn – hyd yn oed yng nghefn gwlad

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn galw ar holl berchnogion cŵn i lanhau baw cŵn yng nghefn gwlad agored, yn dilyn pryderon a godwyd yn genedlaethol. 

Mae sefydliadau yn y diwydiant amaethyddol ar draws Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o gwynion ynglŷn â baw cŵn yng nghefn gwlad. 

Mae yna bryder oherwydd yr un fath â’r risg o glefyd yn y parciau a strydoedd preswyl, mae’r un mor beryglus i dda byw yng nghefn gwlad. 

Y cyngor i bobl yng nghefn gwlad yw glanhau ar ôl eu hanifeiliaid a gwaredu’r bagiau’n briodol a pheidio â’u gwaredu mewn caeau neu ar ymyl ffordd. 

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai a Chymunedau Mwy Diogel: “Mae baw cŵn ar strydoedd ac mewn parciau yn broblem amlwg ac yn cael ei gyhoeddi o dro i dro, ond o ganlyniad i’r coronafeirws a phobl yn ymarfer corff tra’n mynd â’u cŵn am dro, mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn cwynion. 

 “Mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol ond mae yna rai nad ydynt yn dilyn y rheolau.  Gydag ardaloedd mor helaeth ar draw Sir Ddinbych, mae hyn yn profi’n anodd o ran camau gorfodi. Felly, rydym yn gofyn i bobl fod yn gyfrifol a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid yng nghefn gwlad agored a chadw eu cŵn ar dennyn.

“Hoffwn ddiolch i drigolion ymlaen llaw am wneud cefn gwlad yn ddiogel i bawb.”

Dywedodd Mari Jones, swyddog gweithredol sirol FUW Sir Ddinbych: “Er mwyn diogelu iechyd da byw, mae’n hanfodol bod cerddwyr cŵn yn glanhau baw eu ci.  Mae baw cŵn yn gallu lledaenu clefydau i dda byw sy’n achosi problemau iechyd a lles, ac fel gydag ymosodiadau cŵn, mae hyn yn cyflwyno mater lles y gellir ei osgoi. 

“Rydym yn parhau i annog aelodau o’r cyhoedd i ddefnyddio cefn gwlad yn gyfrifol ac mae hyn yn cynnwys cadw cŵn yn ddiogel ar dennyn ger da byw a chasglu baw ci ar ôl iddo faeddu."

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...