llais y sir

Sioe awyr y Rhyl 2020 wedi'i chanslo er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd yng nghanol pandemig Covid-19

Mae ‘r Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn cyhoeddi na fydd y sioe awyr, sydd bellach yn ei 11eg blwyddyn, yn mynd yn ei blaen ar ŵyl banc ym mis Awst, yn ôl y bwriad.

Roedd y sioe'r llynedd yn cael ei hystyried fel y gorau erioed ac enillodd y wobr i'r dyrfa orau yng Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Cadeirydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf: "Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn monitro cyngor y Llywodraeth yn ofalus, ac ar ôl llawer o drin a thrafod yn ofalus rydym wedi dod i'r casgliad hwn.  Mae ein penderfyniad wedi cael ei wneud yng ngoleuni'r heriau sy'n cael eu cyflwyno gan Covid 19, a'r disgwyliad parhaus o fesurau ymbellhau cymdeithasol.  Yn anffodus, teimlwn na fyddem yn gallu gwarantu diogelwch staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr sy'n mynd i ddigwyddiad mor fawr, nac yn dymuno rhoi straen ychwanegol ar y gwasanaethau brys ar adeg mor anodd.

"Roeddem yn anelu at wneud y Sioe eleni yn well, gyda'r tîm Red Arrows mawreddog a'r  sioe teithiau coffa  Brwydr Prydain yn cael eu trefnu ar gyfer y ddau ddiwrnod. Mae'r tîm digwyddiadau cyfan wedi'i siomi'n naturiol, ond bydd yn awr yn anelu at wneud digwyddiad y flwyddyn nesaf yn well nag erioed.  Mae'n siomedig gorfod canslo digwyddiadau sy'n cyfrannu cymaint i economi ymwelwyr y Rhyl, ond rydym yn ymrwymo i weithio gyda'r holl randdeiliaid a busnesau yn y Rhyl, i sicrhau bod y gyrchfan yn cynnig rhaglen gref a bywiog i ymwelwyr yn 2021."

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: "Gyda llawer o edifeirwch rydym yn cyhoeddi canslo'r sioe awyr eleni. Deallwn y bydd hyn yn siom enfawr i bawb sy'n gysylltiedig â'r achos, ac i'r miloedd o drigolion ac ymwelwyr sy'n mynychu, y mae llawer ohonynt yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn.  Rydym hefyd yn gwerthfawrogi'r effaith a gaiff y diddymiad hwn ar y gymuned fusnes leol, sy'n elwa bob blwyddyn ar y fasnach ychwanegol a gynhyrchir gan y sioe awyr. Hoffem ddiolch i'n holl bartneriaid am eu hamynedd a'u cefnogaeth yn yr amgylchiadau digyffelyb hyn.  Bydd ein tîm nawr yn canolbwyntio ar ddatblygu rhaglen wych ar gyfer sioe awyr y Rhyl 2021. "

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid