llais y sir

Canolfannau ailgylchu nawr ar agor gyda system archebu

Mae canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref wedi ail-agor gyda system archebu lle i waredu ar unrhyw wastraff cartref angenrheidiol.

Bydd y galw o ddefnydd y canolfannau ailgylchu yn Lôn Parcwr (Rhuthun), Ystâd Ddiwydiannol Colomendy (Dinbych) a Ffordd Marsh (y Rhyl) yn uchel iawn, felly mae'r Cyngor wedi cyflwyno system archebu lle, i gadw’r traffig sy’n ciwio ar lefel rhesymol ac er mwyn cydymffurfio â mesurau ymbellhau cymdeithasol. Gall pobl archebu lle ar-lein neu os ydynt yn cael trafferth, dylai pobl gysylltu â’r Cyngor. Mae’r system yn fyw rŵan.

Bydd angen i yrwyr ddod â’u rhif cyfeirnod archebu a phrawf o’u man preswylio. Ni chaniateir unrhyw un heb apwyntiad i ddod ar y safle.

Mae’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref achlysurol yng Nghorwen a Llangollen yn dal wedi eu hatal nes y rhoddir gwybod yn wahanol. Y rheswm am hyn yw na all y Cyngor sicrhau y bydd cadw pellter cymdeithasol yn cael ei gynnal, ac nid yw felly’n ddiogel i agor rhain.

Mae’r Cyngor yn rhoi’r cyngor canlynol i’r rhai sy’n ymweld â'r canolfannau ailgylchu: 

  • Ni ddylai pobl ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu os ydyn nhw neu unrhyw un sy’n byw gyda nhw yn hunan-ynysu neu’n dangos symptomau COVID-19.
  • Ni fyddwn yn caniatáu mynediad i unrhyw drelars dwy echel (Rhoddir mynediad i faniau sy’n seiliedig ar geir/ cerbydau 4x4 a threlars un echel). Dim ond os oes ganddynt hawlen ar gyfer gwneud hynny y gall pobl ddod â gwastraff y cartref mewn cerbyd gwaith. Mae’r Cyngor yn prosesu ceisiadau am hawlenni newydd fel arfer. Peidiwch ag archebu lle nes fod gennych hawlen ddilys.
  • Gwahanwch eich gwastraff cyn dod i’r safle er mwyn cyflymu eich ymweliad.
  • Bydd cyfyngiad ar y nifer o gerbydau a ganiateir ar y safle a lle bo modd, dylent ond gynnwys y gyrrwr fel yr unig berson a ganiateir i ddadlwytho eu cerbydau. Rhaid i bobl aros yn eu car wrth giwio.
  • Rhaid i staff ac ymwelwyr gadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol bob amser.
  • Dim ond gwastraff nad oes modd ei ailgylchu ddylai fod mewn bagiau gwastraff du. Mae CSDd yn casglu bwyd, caniau, plastig, papur, cardiau a gwydr o ymyl palmant felly dylai trigolion ddefnyddio’r casgliadau hyn ar gyfer y deunyddiau hyn. Ni fyddwn yn derbyn gwastraff bagiau du sy’n cynnwys bwyd a deunyddiau y gellir eu hailgylchu.
  • Bydd y safleoedd hyn yn brysur iawn a dylech ddisgwyl ciwio i gael mynediad i'r safle. Bydd y system archebu yn lleihau amseroedd aros, ond dylech ddisgwyl oedi. Yn ein safleoedd llai yn Ninbych a Rhuthun, bydd amseroedd aros yn cynyddu o tua 20 munud ymhellach os bydd y sgipiau’n llawn ac angen eu gwagio gan na chaniateir defnyddwyr ar y safle yn ystod y gweithrediad hwn.
  • Bydd system reoli traffig newydd ar waith ond os bydd y ciwiau'n ymestyn yn ôl at ffordd brysur ac yn achosi perygl, efallai y gofynnir i bobl symud yn eu blaenau. Mae’r Cyngor wedi gwneud y cyfan yn ei allu i liniaru hyn gyda'r system archebu, ond mae’n dibynnu ar y cyhoedd i gadw at y slotiau 20 munud a pheidio dod heb archebu ymlaen llaw.
  • Dangoswch barch ac ystyriaeth tuag at ein staff a’ch cyd-gwsmeriaid yn ystod y cyfnod heriol hwn. Ni fyddwn yn goddef unrhyw ddigwyddiadau/camdriniaeth o staff neu ddefnyddwyr eraill, a bydd yn golygu na allwch chi archebu lle i ymweld eto a gallai fod angen ymyrraeth gan yr heddlu.

Amseroedd agor y safleoedd fydd:

  • Rhuthun: Llun – Iau: 10am-6pm; Ar gau ddydd Gwener; Sadwrn a Sul 9am – 5pm
  • Dinbych: Llun, Mawrth, Mercher, Gwener – 10am – 6pm; Ar gau ddydd Iau; Sadwrn a Sul 9am – 5pm
  • Y Rhyl: Llun - Sul 10am – 6pm

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant ac Amgylchedd y Cyngor: “Mae ein timau wedi bod yn gweithio'n galed yn ystod y cyfnod digynsail hwn i gadw cymaint o’n gwasanaethau â phosibl yn gweithredu, gan gynnwys casgliadau ailgylchu, bwyd a gwastraff.

“Rydym yn cydnabod y bydd cau’r canolfannau ailgylchu wedi achosi amhariad a diolchwn i drigolion am eu hamynedd a’u dealltwriaeth. Roeddem yn dilyn y canllawiau cenedlaethol nad oedd yn cysidro siwrneiau i ganolfannau ailgylchu fel pwyn rhesymol i adael cartref, felly gwnaed y penderfyniad i gau'r safleoedd. Mae’r sefyllfa honno wedi bod yn cael ei hadolygu’n ddyddiol ac rydym wedi cymryd rhan mewn trafodaethau rhanbarthol i ailagor y safleoedd mor sydyn â phosibl.

“Rydym yn profi galw mawr iawn i ddefnyddio’r safleoedd a phenderfynwyd defnyddio system archebu i leihau tagfeydd traffig ac i sicrhau diogelwch y bobl sy'n defnyddio'r safle neu'n gweithio yno. Bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu’n gyson a byddwn yn rhoi gwybod i drigolion os bydd unrhyw beth yn newid.

“Gofynnwn i bobl ddilyn y rheolau a gallwn weithio gyda'n gilydd i geisio ailgyflwyno'r gwasanaeth mewn modd mor esmwyth â phosibl".

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid