Adnoddau Cymunedol
Yn ystod yr wythnos diwethaf mae swyddogion Cyngor Sir Ddinbych ynghyd a chynghorwyr y Sir, tref a chymuned wedi rhoi rhestr at i gilydd o adnoddau sydd ar gael yn y sir yn ystod y pandemig Covid 19.
Mae'r rhestr ar gael yma www.sirddinbych.gov.uk/adnoddaucymunedol.
Mae'r rhestr yn cynnwys gwybodaeth am fusnesau a grwpiau newydd lleol sydd yn cynnig cymorth fel gwasanaeth cludo bwyd, nol siopa a gwasanaethau cefnogaeth eraill. Hefyd mae yn cynnwys linc i amrywiaeth o asiantau cymorth a rhwydwaith sydd yn darparu yn lleol, rhanbarthol a genedlaethol.
Plis, rhannwch y wybodaeth i deulu, ffrindiau a'r gymuned yn gyffredinol.
Rydym yn deall bydd y daflen Excel ddim yn gyraeddadwy i bawb a dim yn hawdd darllen ar rhai dyfais. Mae ein swyddogion yn gweithio ar hyn i ddarganfod ffyrdd eraill o rannu'r wybodaeth, a wnawn ei diweddaru a rhannu mor fuan â phosib.
Bydd y wybodaeth allweddol yn cael ei diweddaru yn rheolaidd. Os oes gennych unrhyw wybodaeth rhydych yn teimlo bydd yn ddefnyddiol i'n trigolion cysylltwch trwy e-bost community.development@sirddinbych.gov.uk