llais y sir

Cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru

O Mehefin 1af mae aelodau o ddwy wahanol aelwyd yn yr un ardal leol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, mae’n rhaid i bobl ddilyn arferion llym o ran cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo, i reoli lledaeniad y feirws.

Yn gyffredinol mae lleol yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir o’ch cartref, i leihau’r risg y bydd y coronafeirws yn lledaenu o ardal i ardal.

Mae’r newidiadau yn golygu y gall pobl gyfarfod ag aelodau o aelwyd wahanol yn yr awyr agored yn ei hardal leol ond bydd yr holl reolau eraill i ddiogelu pobl rhag y coronafeirws yn parhau ar hyn o bryd.

Mae cyfarfod yn yr awyr agored yn allweddol gan fod y dystiolaeth wyddonol yn dweud wrthym nad yw’r feirws ond yn goroesi am funudau yn yr awyr agored ond ei fod yn goroesi am oriau ar arwynebau o dan do.

Mae’r newidiadau yn dilyn y trydydd adolygiad statudol o’r rheoliadau gan Weinidogion Cymru. Mae’r adolygiad yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Mae Cymru wedi pasio’r brig cyntaf yn nifer yr achosion o’r haint ac mae’r cyfraddau’n gostwng ond mae’r gyfradd R yn parhau ar 0.8. Mae SAGE a Sefydliad Iechyd y Byd wedi cynghori na ddylai newidiadau ond gael eu gwneud un cam ar y tro.

Hefyd mae Prif Weinidog Cymru Drakeford wedi rhoi arwydd y dylai busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy’n gallu cydymffurfio â’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol, ddechrau paratoi i ailagor yn ystod y tair wythnos nesaf. Bydd penderfyniad a fydd busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn ailagor yn cael ei wneud yn ystod yr adolygiad nesaf ar 18 Mehefin a bydd yn dibynnu ar y dystiolaeth wyddonol a meddygol.

Yn ystod yr adolygiad nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer:

  • Ailagor safleoedd manwerthu nad ydynt yn hanfodol
  • Cynyddu’r capasiti ar gyfer gofal plant a thrafnidiaeth gyhoeddus i gefnogi mwy o unigolion i ddychwelyd i’r gwaith
  • Hwyluso symud tŷ er mwyn hybu’r farchnad dai
  • Ailagor safleoedd awyr agored, gan gynnwys marchnadoedd awyr agored, cyrtiau chwaraeon, ystafelloedd arddangos yn yr awyr agored ac amgueddfeydd awyr agored
  • Ailagor cyfleusterau i athletwyr elît nad ydynt yn broffesiynol allu hyfforddi’n ddiogel.
Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid