llais y sir

Cyngor yn dweud diolch i'r GIG

Mae staff y GIG am gael diolch arbennig ar y ffordd i’r gwaith.

Mae ‘Diolch yn Fawr GIG, Thank You NHS’ wedi cael ei beintio ar y ffyrdd i gyfeiriad Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Cafodd y gwaith ei gyflawni gan Gyngor Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth y contractwyr K T L Contracting o Lanbedr Dyffryn Clwyd ac L & R Roadlines o Ellesmere Port.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Wastraff, Cludiant a’r Amgylchedd: “Roedd y Cyngor eisiau dweud diolch mawr i weithwyr y GIG yn Ysbyty Glan Clwyd ar ran trigolion y sir. Mae gweithwyr rheng flaen ar draws y sir, yn y GIG, gofal cymdeithasol a’r rhai hynny sy’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau yn ystod y pandemig,  yn haeddu ein diolch a’n gwerthfawrogiad yn ystod y cyfnod hwn. 

“Ein bwriad gyda’r fenter hon oedd dangos gwerthfawrogiad cymunedau Sir Ddinbych”.

“Hoffwn ddiolch i KTL Contracting ac L & R Roadlines am gynnal y gwaith am ddim”.

Dywedodd Ellen, Greer, Cyfarwyddwr yr Ysbyty: “Ar ran pawb yn Ysbyty Glan Clwyd, hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Ddinbych am eu haelioni.

“Rydym wedi profi haelioni gan y gymuned gyfan sy’n cefnogi’r ysbyty, gan ein partneriaid a chan aelodau’r cyhoedd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl negeseuon a chynnig o gymorth rydym wedi ei dderbyn a hoffwn atgoffa pobl i barhau i gadw pellter cymdeithasol a helpu’n staff a’n cleifion i fod yn ddiogel.

Yn y cyfamser, mae’r Cyngor yn dymuno diolch I holl staff y rheng flaen sy’n gweithio mewn cymunedau ar draws y sir.

Mae rhai yn darparu gofal a chefnogaeth i un igolion, ond mae nifer o sefydliadau a busnesau eraill yn darparu cymorth arbenigol i gefnogi’r ymdrechion yn Sir Ddinbych ac ar draws y Gogledd.

Mae’r ymdrech yn parhau ac mae’r Cyngor yn dymuno diolch I bawn am eu hymrwymiad.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid