llais y sir

Newyddion

Ymestyn galwadau lles i drigolion Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi ymestyn ei wiriadau lles ar drigolion yn ystod y cyfnod coronafeirws.

Gyda chefnogaeth Hamdden Sir Ddinbych Cyf, mae'r Cyngor yn cysylltu â phawb sy’n derbyn llythyrau gwarchod gan Brif Swyddog Meddygol Cymru ac erbyn hyn yn ymestyn y gwasanaeth galw i drigolion dros 70 oed.

Hyd yn hyn rydym wedi cysylltu â mwy na 5,000 o drigolion ac mae cefnogaeth wedi cynnwys atgyfeiriadau i grwpiau cymunedol neu elusennau lleol i gael cymorth gydag, er enghraifft, cyngor am arian, siopa bwyd neu gerdded cŵn.

Mae tîm Cymunedau Actif Denbighshire Leisure wedi ymweld â dros 300 o drigolion, gyda’r bwriad o ymweld â 200 o drigolion eraill o fewn yr wythnosau nesaf. Mae’r tîm wedi ymweld â phobl sydd wedi derbyn llythyr gwarchod ond heb allu cysylltu â nhw dros y ffôn er mwyn sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ar y cyfan, mae’r prosiect wedi cynnwys mwy na 80 aelod o staff o ystod o adrannau’r Cyngor, yn ogystal â Denbighshire Leisure Ltd a phartneriaid allanol, gan gynnwys Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a’r Groes Goch Brydeinig ac mae aelodau etholedig wedi cael eu recriwtio i gefnogi drwy ddod yn ffrindiau dros y ffôn.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Diolch i waith caled a hyblygrwydd staff, rydym wedi cysylltu a mwy na 5,000 o bobl, ac rydym mewn cyswllt rheolaidd gyda’r mwyafrif.  Rydym wedi atgyfeirio mwy na 250 o bobl ar gyfer bocsys bwyd Llywodraeth Cymru, a mwy na 300 o bobl at Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych i ddod o hyd i gymorth gyda siopa a chasglu meddyginiaeth.  Rydym wedi nodi nifer o bryderon diogelu a lles ac wedi atgyfeirio’r rhain ar gyfer ymateb proffesiynol uniongyrchol.  Mae hyn wedi golygu bod nifer o swyddogion wedi gorfod gweithio mewn ffyrdd hollol wahanol i’r arfer ac hoffwn ddiolch i staff am eu hymroddiad a’u gwaith caled yn ystod y broses.”

Mae nifer o drigolion wedi cysylltu â’r Cyngor i ddiolch i staff, yn ogystal ag anfon neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd adborth gan drigolyn o Ruthun yn dweud ei fod yn gysur mawr cael y tîm Cymunedau Actif Denbighshire Leisure yn galw heibio a dywedodd bod ef a’i wraig yn teimlo nad ydynt ar eu pennau eu hunain.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Denbighshire Leisure Ltd: “Mae’r tîm wedi mynd tu hwnt i’r disgwyliadau dros y mis diwethaf ac mae’n wych clywed yr adborth gwych gan y gymuned lleol, sy’n cael eu cefnogi gan y tîm yn ystod y cyfnod anodd hwn. Roeddent yn hapus i gamu i’r adwy ac yn teimlo ei fod yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad gyda’n trigolion a’n defnyddwyr gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn. Yn ffodus iawn, mae mwyafrif y trigolion yn ddiogel ac yn mwynhau sgwrsio gyda’r tîm, o bellter diogel.”

Cyngor tariannu gan Lywodraeth Cymru

Gall pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain ymarfer yn yr awyr agored yn awr a chyfarfod pobl o gartref arall, ar yr amod bod hyn yn digwydd yn yr awyr agored.

Mae dau newid i’r cyngor ar gyfer y grŵp hwn:

  • nid oes cyfyngiadau ar ymarfer yn yr awyr agored, ar yr amod bod unigolion yn cadw’n llym at reolau cadw pellter cymdeithasol ac arferion hylendid
  • gall y rhai sy’n gwarchod eu hunain gyfarfod yn yr awyr agored â phobl o gartref arall – ond ni ddylent fynd i mewn i dŷ person arall na rhannu bwyd gyda hwy

Mae’r cyngor hwn yn dod gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, a ddywedodd: "Rydyn ni wedi cynghori pawb yng Nghymru i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr a chadw at arferion hylendid da wrth gyfarfod yn yr awyr agored. I’r rhai sy’n gwarchod eu hunain, mae cadw’n llym at y rheolau yma’n hanfodol.Rydw i’n falch bod cymaint o bobl wedi bod yn gwarchod eu hunain mor ofalus – gan nid yn unig warchod eu hunain ond hefyd helpu i warchod ein GIG. Rydyn ni’n deall bod y misoedd diwethaf yma wedi bod yn heriol iawn, heb fawr ddim cyswllt wyneb yn wyneb ag eraill. Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn parhau i ddatblygu ei gyngor ar gyfer pobl sy’n gwarchod eu hunain ar ôl 15 Mehefin. Bydd pawb sy’n gwarchod eu hunain yn cael llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol yn ystod y pythefnos nesaf yn datgan y camau newydd.

"Rydw i’n eithriadol falch o bawb sydd wedi ac sy’n parhau i ddarparu’r gefnogaeth hanfodol yma i alluogi pobl i warchod eu hunain. Mae ein partneriaid ni yn yr Awdurdodau Lleol ac mewn fferyllfeydd, gwirfoddolwyr a manwerthwyr bwyd ar raddfa fawr wedi tynnu at ei gilydd i gyd i sicrhau bod gwarchod yn bosibl."

Mae'r cynllun wedi ei ymestyn hyd at 16 Awst, a chynghorir pobl sy'n tariannu i ddal ymlaen i neud hyn hyd y dyddiad yma.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn mynd ymlaen

Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gydag ystod eang o asiantaethau partner yn ystod yr achosion o coronafeirws, i geisio cadw ein cymunedau yn ddiogel.

Mae'r gwaith yn cynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, y gwasanaethau brys, sefydliadau iechyd, Traffig Cymru, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill i lunio cynlluniau ar sut y byddwn yn cydgysylltu'r ymateb i'r pandemig.

Mae hyn wedi golygu rhannu gwybodaeth a negeseuon cyhoeddus, i annog preswylwyr i ddilyn canllawiau a fydd yn ceisio eu diogelu nhw ac eraill rhag coronafeirws.

Mae llawer iawn o waith wedi bod yn digwydd yn lleol yn Sir Ddinbych i gyflwyno newidiadau i wasanaethau, er mwyn diogelu iechyd a lles trigolion. Mae ein cartrefi gofal a'n gwasanaethau cymorth yn y gymuned wedi chwarae rhan bwysig ac maent wedi bod yn gweithio'n ddiflino o dan bwysau i ofalu am ein hanwyliaid.

Rydym wedi darparu gofal plant ar gyfer plant gweithwyr blaenoriaethol; rydym wedi gweithio i amddiffyn y rhai sy'n fregus drwy wiriadau lles ac rydym wedi gweinyddu grantiau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru.

Dim ond blas ar y gwaith sydd wedi bod yn digwydd yn Sir Ddinbych yw hyn. Mae'r gwaith o ddiogelu cymunedau yn parhau.

Yr ydym hefyd wedi gweithio ar faterion fel prydau ysgol am ddim a cymorth i fusnesau.

Ceir nifer o is-grwpiau rhanbarthol sydd hefyd yn ymateb yn eu meysydd gwaith, gan gytuno ar gamau gweithredu lleol a chenedlaethol a sicrhau bod yr ymateb gweithredol a chyfathrebu yn cael ei gydlynu.

Mae'r Uwch Dîm Rheoli Argyfwng yn cyfarfod deirgwaith yr wythnos i wneud penderfyniadau am faterion sy'n effeithio ar y Cyngor. Mae wedi bod yn edrych ar faterion megis ysgolion, prydau ysgol am ddim, parhad busnes gofal cymdeithasol, cymorth busnes, cyllid, rheoli cyfleusterau, offer amddiffynnol personol, diogelwch yn y gweithle. Rydym hefyd yn dechrau'r broses o edrych ar adferiad – sut ydym ni'n mynd i geisio cael pethau'n ôl i’r arfer pan ddaw'r cyfnod yma i ben.

Nid yw honno'n rhestr gynhwysfawr ond mae'n rhoi blas i chi o rai o'r materion sy'n peri her i ni ar y funud.

Cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru

O Mehefin 1af mae aelodau o ddwy wahanol aelwyd yn yr un ardal leol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, mae’n rhaid i bobl ddilyn arferion llym o ran cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo, i reoli lledaeniad y feirws.

Yn gyffredinol mae lleol yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir o’ch cartref, i leihau’r risg y bydd y coronafeirws yn lledaenu o ardal i ardal.

Mae’r newidiadau yn golygu y gall pobl gyfarfod ag aelodau o aelwyd wahanol yn yr awyr agored yn ei hardal leol ond bydd yr holl reolau eraill i ddiogelu pobl rhag y coronafeirws yn parhau ar hyn o bryd.

Mae cyfarfod yn yr awyr agored yn allweddol gan fod y dystiolaeth wyddonol yn dweud wrthym nad yw’r feirws ond yn goroesi am funudau yn yr awyr agored ond ei fod yn goroesi am oriau ar arwynebau o dan do.

Mae’r newidiadau yn dilyn y trydydd adolygiad statudol o’r rheoliadau gan Weinidogion Cymru. Mae’r adolygiad yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Mae Cymru wedi pasio’r brig cyntaf yn nifer yr achosion o’r haint ac mae’r cyfraddau’n gostwng ond mae’r gyfradd R yn parhau ar 0.8. Mae SAGE a Sefydliad Iechyd y Byd wedi cynghori na ddylai newidiadau ond gael eu gwneud un cam ar y tro.

Hefyd mae Prif Weinidog Cymru Drakeford wedi rhoi arwydd y dylai busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy’n gallu cydymffurfio â’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol, ddechrau paratoi i ailagor yn ystod y tair wythnos nesaf. Bydd penderfyniad a fydd busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn ailagor yn cael ei wneud yn ystod yr adolygiad nesaf ar 18 Mehefin a bydd yn dibynnu ar y dystiolaeth wyddonol a meddygol.

Yn ystod yr adolygiad nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer:

  • Ailagor safleoedd manwerthu nad ydynt yn hanfodol
  • Cynyddu’r capasiti ar gyfer gofal plant a thrafnidiaeth gyhoeddus i gefnogi mwy o unigolion i ddychwelyd i’r gwaith
  • Hwyluso symud tŷ er mwyn hybu’r farchnad dai
  • Ailagor safleoedd awyr agored, gan gynnwys marchnadoedd awyr agored, cyrtiau chwaraeon, ystafelloedd arddangos yn yr awyr agored ac amgueddfeydd awyr agored
  • Ailagor cyfleusterau i athletwyr elît nad ydynt yn broffesiynol allu hyfforddi’n ddiogel.

Cefnogaeth i’r ymgyrch i drigolion Sir Ddinbych ofalu am ei gilydd

Mae'r Cyngor yn cefnogi ymgyrch i helpu pobl sy'n aros gartref oherwydd Coronafirws.

Mae ymgyrch ‘Edrych ar ôl ein gilydd’ Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sut i helpu ein gilydd yn ystod y pandemig ac yn darparu arweiniad ymarferol ar sut i aros yn actif yn feddyliol ac yn gorfforol yn ogystal â sut i gyflawni tasgau bob dydd yn ddiogel i leihau'r risg o ddal Coronafirws.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i’n holl breswylwyr ond y neges bwysicaf yw i bobl aros adref a lleihau cyswllt ag eraill. Mae hyn yn helpu i arafu lledaeniad y firws ac yn helpu i amddiffyn ein staff GIG, gofal cymdeithasol a gwasanaethau brys yn ogystal â gweithwyr allweddol sy'n parhau i ddarparu gwasanaethau i bob un ohonom.

“Mae'r cyngor hwn yn arbennig o bwysig i aelodau bregus y gymdeithas fel pobl dros 70 oed a'r rhai â chyflyrau meddygol sylfaenol. Ein neges iddynt yw peidiwch â chymryd unrhyw risgiau.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar sut y gallwn gefnogi’r rhai yn ein cymunedau sydd angen gofal ychwanegol, ond mae’r neges yn glir y dylid gwneud hyn yn ddiogel trwy gadw eich pellter oddi wrth eraill a lleihau’r nifer o weithiau yr ydych yn mynd allan o’ch cartref.”

Mae enghreifftiau o gefnogaeth y gellir eu darparu i aelodau bregus y gymdeithas yn cynnwys:

Help gyda siopa bwyd. Gallwch wneud hyn yn bersonol a gadael nwyddau ar stepen y drws, neu helpu'r rhai nad ydyn nhw'n gyfarwydd â siopa ar-lein.

Cadw mewn cysylltiad. Gall aros gartref am amser hir fod yn brofiad unig. Mae'n bwysig dweud helo a chadw cysylltiad rheolaidd dros y ffôn neu ar-lein.

Nol neges.  Bydd angen help ar rai pobl i gasglu meddyginiaeth. Efallai y bydd angen cefnogaeth archebu ar eraill fel nad ydyn nhw'n rhedeg allan.

Rhannwch ffynonellau gwybodaeth dibynadwy. Mae'n hawdd poeni am wybodaeth ar-lein, a gall rhai ohonynt gael eu cynllunio'n fwriadol i gamarwain pobl. Helpwch eich cymuned trwy rannu gwybodaeth ddibynadwy gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Sir Dinbych a Heddlu Gogledd Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ofalu am ei gilydd ewch i https://llyw.cymru/iach-a-diogel   

 

Ymgyrch recriwtio i ofal yn Sir Ddinbych

Mae ymgyrch recriwtio fawr wedi cael ei lansio yn Sir Ddinbych er mwyn denu staff gofal dan gytundeb i gynorthwyo gyda gofal iechyd a gofal ychwanegol yn y sir, ac i gynorthwyo darparwyr annibynnol mewn cymunedau yn ystod yr achosion presennol o coronafeirws.

Mae'r Cyngor eisoes wedi derbyn cymorth 55 o staff, gwirfoddolwyr ac aelodau'r cyhoedd, ac mae'r Cyngor wedi lansio ymgyrch Gallu Gofalu? i lenwi nifer o swyddi gwag mewn contractau cartrefi gofal ledled y sir.

Mae’r angen mwyaf am ofal ymarferol ac mae'r Cyngor yn awyddus i recriwtio staff dan gytundeb i weithio mewn timau gofal ledled y sir. Mae yna amrywiaeth o rolau a bydd rhai yn rhoi cymorth hanfodol i gymunedau lleol. Nid oes angen profiad gan ddarperir hyfforddiant, ond mae’r Cyngor yn chwilio am bobl gofalgar, twymgalon a thostiruiol

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Les ac Annibyniaeth: "Mae hwn yn apêl frys am weithwyr ar gyfer cartrefi gofal. Rydym mewn cyfnod digynsail ac mae'r dyfodol gyda coronafeirws yn edrych yn ansicr iawn.

"Mae llawer o bwysau ar ofal cymdeithasol ac mae adnoddau'n cael eu hymestyn i'r eithaf. Dyna pam ein bod yn cael ymgyrch mor fawr i recriwtio staff a byddem yn gofyn i unrhyw un sydd awydd fod yn rhan i gysylltu fel mater o frys ".

I gael gwybod sut i ymgeisio am swyddi cytundeb gwag, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/coronafeirws  neu drwy ffonio'r tîm adnoddau dynol, ar 01824 706200.

Adnoddau Cymunedol

Yn ystod yr wythnos diwethaf mae swyddogion Cyngor Sir Ddinbych ynghyd a chynghorwyr y Sir, tref a chymuned wedi rhoi rhestr at i gilydd o adnoddau sydd ar gael yn y sir yn ystod y pandemig Covid 19.

Mae'r rhestr ar gael  yma  www.sirddinbych.gov.uk/adnoddaucymunedol.

Mae'r rhestr yn cynnwys gwybodaeth am fusnesau a grwpiau newydd lleol sydd yn cynnig cymorth fel gwasanaeth cludo bwyd, nol siopa a gwasanaethau cefnogaeth eraill. Hefyd mae yn cynnwys linc i amrywiaeth o asiantau cymorth  a rhwydwaith  sydd yn darparu yn lleol, rhanbarthol a genedlaethol.

Plis, rhannwch y wybodaeth i deulu, ffrindiau a'r gymuned yn gyffredinol.

Rydym yn deall bydd y daflen Excel ddim yn gyraeddadwy i bawb a dim yn hawdd darllen ar rhai dyfais.  Mae ein swyddogion yn gweithio ar hyn i ddarganfod ffyrdd eraill o rannu'r wybodaeth, a wnawn ei diweddaru a rhannu mor fuan â phosib.

Bydd y wybodaeth allweddol yn cael ei diweddaru yn rheolaidd. Os oes gennych unrhyw wybodaeth rhydych yn teimlo bydd yn ddefnyddiol i'n trigolion  cysylltwch trwy e-bost community.development@sirddinbych.gov.uk

 

Cyngor yn dweud diolch i'r GIG

Mae staff y GIG am gael diolch arbennig ar y ffordd i’r gwaith.

Mae ‘Diolch yn Fawr GIG, Thank You NHS’ wedi cael ei beintio ar y ffyrdd i gyfeiriad Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Cafodd y gwaith ei gyflawni gan Gyngor Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth y contractwyr K T L Contracting o Lanbedr Dyffryn Clwyd ac L & R Roadlines o Ellesmere Port.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Wastraff, Cludiant a’r Amgylchedd: “Roedd y Cyngor eisiau dweud diolch mawr i weithwyr y GIG yn Ysbyty Glan Clwyd ar ran trigolion y sir. Mae gweithwyr rheng flaen ar draws y sir, yn y GIG, gofal cymdeithasol a’r rhai hynny sy’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau yn ystod y pandemig,  yn haeddu ein diolch a’n gwerthfawrogiad yn ystod y cyfnod hwn. 

“Ein bwriad gyda’r fenter hon oedd dangos gwerthfawrogiad cymunedau Sir Ddinbych”.

“Hoffwn ddiolch i KTL Contracting ac L & R Roadlines am gynnal y gwaith am ddim”.

Dywedodd Ellen, Greer, Cyfarwyddwr yr Ysbyty: “Ar ran pawb yn Ysbyty Glan Clwyd, hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Ddinbych am eu haelioni.

“Rydym wedi profi haelioni gan y gymuned gyfan sy’n cefnogi’r ysbyty, gan ein partneriaid a chan aelodau’r cyhoedd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl negeseuon a chynnig o gymorth rydym wedi ei dderbyn a hoffwn atgoffa pobl i barhau i gadw pellter cymdeithasol a helpu’n staff a’n cleifion i fod yn ddiogel.

Yn y cyfamser, mae’r Cyngor yn dymuno diolch I holl staff y rheng flaen sy’n gweithio mewn cymunedau ar draws y sir.

Mae rhai yn darparu gofal a chefnogaeth i un igolion, ond mae nifer o sefydliadau a busnesau eraill yn darparu cymorth arbenigol i gefnogi’r ymdrechion yn Sir Ddinbych ac ar draws y Gogledd.

Mae’r ymdrech yn parhau ac mae’r Cyngor yn dymuno diolch I bawn am eu hymrwymiad.

Y Cyngor a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn diolch i wirfoddolwyr fis Mehefin

Mae'r Cyngor Sir mewn partneriaeth â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi diolch i wirfoddolwyr sydd wedi gwirfoddoli yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr 2020 sydd yn dathlu cyfraniad miliynau o wirfoddolwyr ar draws y DU, mae’r Cyngor a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi diolch i bawb sydd wedi gwirfoddoli i helpu i ddarparu gwasanaethau gyda’r Cyngor ac yn y gymuned ers mis Mawrth.

Cofrestrodd mwy na 500 o breswylwyr Sir Ddinbych fel gwirfoddolwyr gyda Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych ers mis Mawrth, a bu’r cyngor a’r Gwasanaeth yn cysylltu â’r gwirfoddolwyr yma i roi swyddi iddynt.

Mae nifer wedi helpu’r Cyngor yn uniongyrchol gyda gwaith gofal mewn cartrefi ac yn y gymuned, galwadau cyfeillio, gyrwyr offer a Chyfarpar Diogelu Personol, rhoi cefnogaeth i bobl ddigartref a dyletswyddau domestig megis glanhau a golchi dillad, tra bod Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi lleoli llawer mwy gyda grwpiau cymunedol ar draws y sir.

Dywedodd y Cyng. Tony Thomas Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Sir Ddinbych: “Mae’r gefnogaeth wedi bod yn eithriadol yn ein cymunedau ers yr achosion o Coronafeirws. Mae pobl wedi dod at eu gilydd i helpu pobl eraill, ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu. Fe hoffwn i ddiolch i bawb ar draws Sir Ddinbych sydd yn gwirfoddoli, a’u llongyfarch am eu gwaith, ac fe hoffwn i hefyd ddiolch i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych am weithio mewn partneriaeth gyda’r Cyngor yn ystod y cyfnod heriol yma.

 “Fe hoffwn i hefyd roi teyrnged i’r rhai sydd wedi bod yn gwirfoddoli drwy’r Cyngor yn uniongyrchol ac sydd yn darparu cefnogaeth a chymorth hanfodol i bobl. Mae’n hyfryd gweld yr effaith y mae hyn yn ei gael ar fywydau pobl ac rydym ni’n gwybod fod y rhai sydd yn derbyn y cymorth yma’n arbennig o ddiolchgar”.

Dywedodd Helen Wilkinson, Prif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych: “Dros y misoedd diwethaf, mae Ymateb Gwirfoddolwyr Cymunedol Covid-19 y mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi ei sefydlu, wedi dibynnu ar wirfoddolwyr i ddarparu cefnogaeth i rai o’n preswylwyr mwyaf diamddiffyn.

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych i sicrhau ein bod yn lleoli gwirfoddolwyr lle'r oedd yr angen fwyaf, a bod y gweithredoedd gwirfoddol a chymunedol yn ddiogel, yn effeithiol ac yn ysgogi pobl i barhau i wirfoddoli. 

“Rydym eisiau diolch o galon i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi cefnogi preswylwyr, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, sefydliadau trydydd sector, mentrau cymdeithasol, busnesau lleol, a’n partneriaid gwasanaeth cyhoeddus fel Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae pob gweithred o wirfoddoli – yn fawr neu’n fach – wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl”.

Caiff yr Wythnos Gwirfoddoli sy’n cael ei gynnal rhwng 1 a 7 Mehefin, ei arwain mewn partneriaeth gyda Cefnogi Cymru y Trydydd Sector y mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn aelod ohono, Volunteer Scotland, Volunteer Now (Gogledd Iwerddon) a Chyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol a chaiff ei gefnogi gan sefydliadau ar draws y DU. 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid