llais y sir

Y Cyngor a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn diolch i wirfoddolwyr fis Mehefin

Mae'r Cyngor Sir mewn partneriaeth â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi diolch i wirfoddolwyr sydd wedi gwirfoddoli yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr 2020 sydd yn dathlu cyfraniad miliynau o wirfoddolwyr ar draws y DU, mae’r Cyngor a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi diolch i bawb sydd wedi gwirfoddoli i helpu i ddarparu gwasanaethau gyda’r Cyngor ac yn y gymuned ers mis Mawrth.

Cofrestrodd mwy na 500 o breswylwyr Sir Ddinbych fel gwirfoddolwyr gyda Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych ers mis Mawrth, a bu’r cyngor a’r Gwasanaeth yn cysylltu â’r gwirfoddolwyr yma i roi swyddi iddynt.

Mae nifer wedi helpu’r Cyngor yn uniongyrchol gyda gwaith gofal mewn cartrefi ac yn y gymuned, galwadau cyfeillio, gyrwyr offer a Chyfarpar Diogelu Personol, rhoi cefnogaeth i bobl ddigartref a dyletswyddau domestig megis glanhau a golchi dillad, tra bod Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi lleoli llawer mwy gyda grwpiau cymunedol ar draws y sir.

Dywedodd y Cyng. Tony Thomas Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Sir Ddinbych: “Mae’r gefnogaeth wedi bod yn eithriadol yn ein cymunedau ers yr achosion o Coronafeirws. Mae pobl wedi dod at eu gilydd i helpu pobl eraill, ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu. Fe hoffwn i ddiolch i bawb ar draws Sir Ddinbych sydd yn gwirfoddoli, a’u llongyfarch am eu gwaith, ac fe hoffwn i hefyd ddiolch i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych am weithio mewn partneriaeth gyda’r Cyngor yn ystod y cyfnod heriol yma.

 “Fe hoffwn i hefyd roi teyrnged i’r rhai sydd wedi bod yn gwirfoddoli drwy’r Cyngor yn uniongyrchol ac sydd yn darparu cefnogaeth a chymorth hanfodol i bobl. Mae’n hyfryd gweld yr effaith y mae hyn yn ei gael ar fywydau pobl ac rydym ni’n gwybod fod y rhai sydd yn derbyn y cymorth yma’n arbennig o ddiolchgar”.

Dywedodd Helen Wilkinson, Prif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych: “Dros y misoedd diwethaf, mae Ymateb Gwirfoddolwyr Cymunedol Covid-19 y mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi ei sefydlu, wedi dibynnu ar wirfoddolwyr i ddarparu cefnogaeth i rai o’n preswylwyr mwyaf diamddiffyn.

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych i sicrhau ein bod yn lleoli gwirfoddolwyr lle'r oedd yr angen fwyaf, a bod y gweithredoedd gwirfoddol a chymunedol yn ddiogel, yn effeithiol ac yn ysgogi pobl i barhau i wirfoddoli. 

“Rydym eisiau diolch o galon i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi cefnogi preswylwyr, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, sefydliadau trydydd sector, mentrau cymdeithasol, busnesau lleol, a’n partneriaid gwasanaeth cyhoeddus fel Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae pob gweithred o wirfoddoli – yn fawr neu’n fach – wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl”.

Caiff yr Wythnos Gwirfoddoli sy’n cael ei gynnal rhwng 1 a 7 Mehefin, ei arwain mewn partneriaeth gyda Cefnogi Cymru y Trydydd Sector y mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn aelod ohono, Volunteer Scotland, Volunteer Now (Gogledd Iwerddon) a Chyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol a chaiff ei gefnogi gan sefydliadau ar draws y DU. 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid