llais y sir

Llais y Sir: Argfraffiad Arbennig COVID19

Ymestyn galwadau lles i drigolion Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi ymestyn ei wiriadau lles ar drigolion yn ystod y cyfnod coronafeirws.

Gyda chefnogaeth Hamdden Sir Ddinbych Cyf, mae'r Cyngor yn cysylltu â phawb sy’n derbyn llythyrau gwarchod gan Brif Swyddog Meddygol Cymru ac erbyn hyn yn ymestyn y gwasanaeth galw i drigolion dros 70 oed.

Hyd yn hyn rydym wedi cysylltu â mwy na 5,000 o drigolion ac mae cefnogaeth wedi cynnwys atgyfeiriadau i grwpiau cymunedol neu elusennau lleol i gael cymorth gydag, er enghraifft, cyngor am arian, siopa bwyd neu gerdded cŵn.

Mae tîm Cymunedau Actif Denbighshire Leisure wedi ymweld â dros 300 o drigolion, gyda’r bwriad o ymweld â 200 o drigolion eraill o fewn yr wythnosau nesaf. Mae’r tîm wedi ymweld â phobl sydd wedi derbyn llythyr gwarchod ond heb allu cysylltu â nhw dros y ffôn er mwyn sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ar y cyfan, mae’r prosiect wedi cynnwys mwy na 80 aelod o staff o ystod o adrannau’r Cyngor, yn ogystal â Denbighshire Leisure Ltd a phartneriaid allanol, gan gynnwys Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a’r Groes Goch Brydeinig ac mae aelodau etholedig wedi cael eu recriwtio i gefnogi drwy ddod yn ffrindiau dros y ffôn.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Diolch i waith caled a hyblygrwydd staff, rydym wedi cysylltu a mwy na 5,000 o bobl, ac rydym mewn cyswllt rheolaidd gyda’r mwyafrif.  Rydym wedi atgyfeirio mwy na 250 o bobl ar gyfer bocsys bwyd Llywodraeth Cymru, a mwy na 300 o bobl at Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych i ddod o hyd i gymorth gyda siopa a chasglu meddyginiaeth.  Rydym wedi nodi nifer o bryderon diogelu a lles ac wedi atgyfeirio’r rhain ar gyfer ymateb proffesiynol uniongyrchol.  Mae hyn wedi golygu bod nifer o swyddogion wedi gorfod gweithio mewn ffyrdd hollol wahanol i’r arfer ac hoffwn ddiolch i staff am eu hymroddiad a’u gwaith caled yn ystod y broses.”

Mae nifer o drigolion wedi cysylltu â’r Cyngor i ddiolch i staff, yn ogystal ag anfon neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd adborth gan drigolyn o Ruthun yn dweud ei fod yn gysur mawr cael y tîm Cymunedau Actif Denbighshire Leisure yn galw heibio a dywedodd bod ef a’i wraig yn teimlo nad ydynt ar eu pennau eu hunain.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Denbighshire Leisure Ltd: “Mae’r tîm wedi mynd tu hwnt i’r disgwyliadau dros y mis diwethaf ac mae’n wych clywed yr adborth gwych gan y gymuned lleol, sy’n cael eu cefnogi gan y tîm yn ystod y cyfnod anodd hwn. Roeddent yn hapus i gamu i’r adwy ac yn teimlo ei fod yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad gyda’n trigolion a’n defnyddwyr gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn. Yn ffodus iawn, mae mwyafrif y trigolion yn ddiogel ac yn mwynhau sgwrsio gyda’r tîm, o bellter diogel.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...