llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Cyfle i arddio yn helpu i greu lle cymunedol newydd yn yr awyr agored

Mae cyfle i wirfoddoli wedi helpu i ysgogi garddwr i weddnewid ei chymdogaeth

Mae cyfle i wirfoddoli wedi helpu i ysgogi garddwr i weddnewid ei chymdogaeth.

Mae Corinne Barber o Langollen wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau garddio gwirfoddol dan arweiniad staff ym Mhlas Newydd, gyda chefnogaeth Natur er Budd Iechyd.

Mae Natur er Budd Iechyd yn brosiect cydweithredol sy’n cydweithio gydag unigolion a chymunedau i amlygu sut all mynediad at natur wella iechyd a lles.

Mae Plas Newydd wedi lansio cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer garddwyr selog sydd â diddordeb hefyd mewn cadw darn o hanes y dref.

Mae cartref y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby yn cynnwys oddeutu 10 erw o dir, o erddi rhosod i goetir a’r glyn, wedi’u hategu gan nant yn llifo drwyddo.

Fe eglurodd Corinne ei fod wedi bod yn ‘ysbrydoliaeth’ i wirfoddoli yn y safle hanesyddol fel un o’r garddwyr.

Dywedodd: “Rydw i’n byw mewn fflat heb ardd a dim ond lle i barcio. Rydw i’n caru garddio ac fe awgrymodd ffrind fy mod i’n gwirfoddoli gyda chi. Mae gen i gi sydd bellach yn hen a methu symud llawer erbyn hyn, felly roedd ei gymryd yno’n golygu y gallai eistedd yn awyr iach tra roeddwn i’n garddio.

“Ar ôl ychydig fisoedd, cefais fy ysbrydoli i drio gwneud ein maes parcio yn fwy deniadol, nid i mi fy hun yn unig, ond i fy nghymdogion hefyd. Fe baentiais y ffensys a phlannu llawer o lwyni a phlanhigion. Fe greodd fy chwaer stand planhigion allan o hen baled ac fe baentiodd fy nghymydog ‘The Grapes Community Garden’ arno.

“Mae’r cymdogion wedi dod ynghyd, fe roddodd rhai blanhigion, fe roddodd rhai arian ac fe roddodd rai eraill werthfawrogiad a chefnogaeth. Drwy wneud hyn, rwyf yn gweld bod y cymdogion i gyd wedi dod ynghyd. Mae gennym rywle braf i eistedd ac rwyf wedi ychwanegu goleuadau solar i roi awyrgylch braf min nos.

“Mae ychydig ohonom yn dod ynghyd ac yn eistedd y tu allan am sgwrs ac mae pobl sydd yn cerdded i fynd a lawr yr allt yn galw draw am sgwrs i drafod y planhigion weithiau. Alla i ddim credu’r gwahaniaeth y mae wedi ei wneud i’n cymuned fach, ac mae’r cyfan yn deillio o fy nghyfnod yn gwirfoddoli ym Mhlas Newydd, fe roddodd ysbrydoliaeth a hyder i mi greu ein paradwys fach ein hunain.

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Mae gwirfoddoli i helpu gyda’r ardd ym Mhlas Newydd yn gyfle gwych i drigolion sydd â diddordeb mewn garddio i hybu eu lles trwy dreulio amser yn helpu yn yr awyr agored hardd hon.

“Mae’n wych clywed bod Corianne wedi mwynhau’r profiad yma a’i bod wedi ei ddefnyddio i greu ardal o ardd gymunedol ffantastig iddi hi a’i chymuned ei fwynhau a phrofi manteision yr awyr agored ar stepen eu drws eu hunain.”

Prosiect yn datblygu cynlluniau i helpu newydd-ddyfodiaid

gylfinir

Mae tîm prosiect yn paratoi i ddiogelu dyfodiaid bach i helpu aderyn dan fygythiad i oroesi.

Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cymryd rhan ym mhrosiect “Cysylltu Gylfinir Cymru”, partneriaeth prosiect Adfer y Gylfinir yng Nghymru sy’n gweithio gyda Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helfeydd a Bywyd Gwyllt.

Mae hyn o dan brosiect partneriaeth Cymru gyfan, Gylfinir Cymru sydd â’r nod o roi hwb i’r gylfinirod sy’n magu ledled y wlad, gan gynnwys Sir Ddinbych.

Mae’r gylfinir dan fygythiad enbyd ac fe’i rhoddwyd ar ‘Restr Goch’ Adar o Bryder Cadwraethol Cymru a’r Deyrnas Unedig. Ers y 1990au, mae mwy nag 80 y cant o’r gylfinirod sy’n magu yng Nghymru wedi diflannu.

Mae nifer o resymau am y dirywiad, gan gynnwys colli cynefin, pwysau ffermio yn ystod y tymor nythu ac effaith anifeiliaid eraill yn eu lladd.

Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i amddiffyn yr adar mewn deuddeg o ardaloedd yng Nghymru, wedi’i ariannu drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Y Swyddog Gylfinirod a Phobl Lleol, Sam Kenyon, sy’n arwain y gwaith yn yr ardal, sy’n cynnwys ardaloedd helaeth yn Sir Ddinbych a rhannau o Sir y Fflint a Wrecsam.

Drwy weithio ochr yn ochr gyda ffermwyr a gwirfoddolwyr, mae Sam a’i thîm wedi lleoli bron i 30 pâr o’r gylfinir ac maent yn paratoi ar gyfer yr hyn fydd y cam prysuraf o’r prosiect.

Dywedodd: “Mae’r prosiect yn mynd yn dda iawn, rydym yn cael llawer o wybodaeth am ein hadar y tymor hwn drwy ddod i’w hadnabod nhw a’r parau yn well a sut maent yn ymddwyn, diolch i’r wybodaeth leol sydd gennym yn ein cymunedau.

“Mae’r ffermwyr wedi bod yn anhygoel wrth weithio gyda nhw. Rydym wedi derbyn cefnogaeth wych sydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer y prosiect. Roedd un ar ddeg o bobl o wyth fferm wahanol wedi cyfarfod y tîm yn ddiweddar yn y Berwyn Arms ac roedd y cyfnewid gwybodaeth yn werthfawr.”

Drwy weithio gyda’r ffermwyr, mae Sam a’r tîm wedi cynnal ymyriadau syml i ddiogelu’r Gylfinirod a nythod ar draws yr Ardal o Bwysigrwydd i’r Gylfinir.

Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn monitro saith nyth, rhai wedi gweld ffens drydan yn amgylchynu pob nyth i gadw ysglyfaethwyr draw.

Eglurodd Sam “Gyda hon yn flwyddyn gyntaf i ni, drwy gynnal yr ymyriadau, rydym yn gobeithio llwyddo i gynyddu’r raddfa deori o tua 30 y cant i tua 90 y cant.

Mae arwyddion o’r deoriad cyntaf o gywion yn agosáu'n gyflym ac mae Sam a’r Tîm yn barod i symud i’r cam nesaf o amddiffyn a monitro’r adar gyda chymorth ffermwyr lleol.

“Byddwn yn monitro’r cywion ar y ddaear ac yn gweithio’n agos gyda’n ffermwyr i gadw’r cywion mor ddiogel â phosibl. Oherwydd eu bod ar y ddaear am chwe wythnos nes byddant yn magu plu, yn gyffredinol bydd yna 10 wythnos rhwng dodwy a dechrau hedfan”

Bydd y Gylfinir gwrywaidd yn gofalu am y rhan fwyaf o fagu’r cywion tra bydd y menywod yn gwneud yn fawr o allu bwydo eu hunain ac adennill eu cyflwr.
Ychwanegodd Sam: “Ni fydd y cywion yn gadael ardal y ffens drydan am yr ychydig ddyddiau cyntaf, ond yna yn eithaf buan byddant yn gallu mynd ychydig gannoedd o fetrau ar draws y ddaear ar eu coesau bach, sy’n golygu y byddant yn gallu symud drwy ffensys i gaeau eraill ac ar ffermydd eraill a dyna ran arall yn y prosiect ble mae ein rhwydwaith o ffermwyr yn ein helpu i gadw cyfrif o’r adar.”

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Mae hwn yn brosiect arbennig o bwysig i helpu aderyn oedd unwaith i’w weld yn aml, nid yn unig yn Sir Ddinbych a Gogledd Cymru ond ledled y Deyrnas Unedig. Rydym yn ddiolchgar bod y prosiect a’r cyllid hwn yn caniatáu i’r Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fwrw ymlaen yn wirioneddol â gwaith i ddiogelu’r gylfinir, gan annog y poblogaethau i oroesi a gobeithio ffynnu yn y dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect neu sôn am unrhyw ylfinirod rydych chi wedi’u gweld neu’u clywed yn yr ardaloedd dan sylw, e-bostiwch samantha.kenyon@sirddinbych.gov.uk

Fforwm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Fforwm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol)

Cynhaliwyd Fforwm Cefnogwyr, Cynghorau Thref a Chymuned ac Aelodau Lleol Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ddiweddar yn Ninbych (ac roedd ar gael ar-lein). Pwrpas y Fforwm oedd creu llwyfan rhyngweithiol i Gynghorau Tref a Chymuned ac Aelodau Lleol yn Nhirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ddod ynghyd a thrafod syniadau, a gweithio tuag ar gymunedau gwell. Cynhaliwyd trafodaethau a chyflwyniadau am Brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru, https://www.denbighshire.gov.uk/cy/newyddion/manylion-newyddion.aspx?article=b4a73cd1-b462-45ff-9be5-7839f6539a0e

Cofnodi Biolegol, INNS Mapper https://innsmapper.org/home

 a gweithio gyda Cofnod https://www.cofnod.org.uk/Home a Bionet,  https://www.bionetwales.co.uk/

a’r Prosiect Dynodiad Parc Cenedlaethol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/north-east-gogledd-ddwyrain/new-national-park-proposal-information-page-wales/

Cafodd y rhai oedd yn bresennol gipolwg gwerthfawr ar rai o brosiectau a mentrau parhaus Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Cynhelir y Fforymau ddwywaith y flwyddyn a bydd y Fforwm nesaf yn yr Hydref.  

Perchnogion cŵn yn cael eu hannog i fod yn gyfrifol

Mae'r Cyngor a Thirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn atgoffa perchnogion cŵn i fod yn gyfrifol wrth i bobl baratoi i ymweld â mannau cefn gwlad poblogaidd y sir yn ystod gwyliau’r haf.

Yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiadau yn ardal Moel Famau, mae pobl yn cael eu hannog i ddilyn cyngor pwysig i gadw anifeiliaid anwes ar dennyn tra bod nhw allan yng nghefn gwlad yn ystod y gwyliau.

Mae tarfu ar dda byw, hynny yw cŵn yn tarfu ar ddefaid ac yn eu herlid, yn anghyfreithlon. Gall cŵn sy’n cael eu dal yn tarfu ar dda byw gael eu difa a gall eu perchnogion gael eu herlyn.

Dylai ymwelwyr â chefn gwlad fod yn ymwybodol o ba gyfyngiadau a chanllawiau sydd mewn grym yn yr ardal benodol honno a chadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Fe atgoffir pobl hefyd i wirio ymlaen llaw i weld a yw cyfleusterau cefn gwlad ar agor yn ystod adegau prysur a pharcio’n gyfrifol mewn ardaloedd dynodedig.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Fe wyddom fod llawer o berchnogion cŵn sy’n ymweld â’n hardaloedd cefn gwlad yn barchus ac yn cadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn tra’u bod yn mwynhau’r golygfeydd, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am hynny.

“Fodd bynnag, rydym ni’n gwybod bod yna rai sydd ddim yn dilyn y rheolau ac rydym ni’n eu hatgoffa mai nhw sy’n gyfrifol am les eu ci pan fyddan nhw’n cerdded drwy gefn gwlad.

“Gellir erlyn pob perchennog ci sy’n anwybyddu’r rheolau ac sy’n gadael i’w hanifeiliaid anwes darfu ar dda byw, ac os caiff eu hanifeiliaid eu dal yn tarfu, fe ellir eu saethu’n gyfreithiol. Mae hyn yn achosi trallod i bawb ac yn ganlyniad sydd arnom ni wir eisiau ei osgoi.

“Os ydych chi’n dod â’ch ci efo chi i’n cefn gwlad, cofiwch gynllunio ymlaen llaw, dewch i wybod am y tir y byddwch chi’n cerdded arno, parchwch y cod cefn gwlad a chadwch eich ci ar dennyn bob amser.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'w gwefan.   

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid