Y Parcdir yn llawn bwrlwm gyda’r newydd-ddyfodiaid prysur
Mae’r gwaith ym Modelwyddan eisoes yn sicrhau cefnogaeth i’r peillwyr pwysig.
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor wedi gosod sawl cwch gwenyn yn y parcdir ger y gwesty ym Modelwyddan.
Mae ardal y parc hanesyddol, sy’n gymysgedd o laswelltir, coed a pherllannau, wedi bod yn cael ei rheoli a’i chynnal a’i chadw gan y Ceidwaid Cefn Gwlad ers 2022.
Erbyn hyn, mae cychod gwenyn wedi’u gosod gan wenynwr lleol ar y safle, er budd y gwenyn, drwy’r amrywiaeth gyfoethog o goed a phlanhigion sydd ar y tir. Maent wedi cael eu cyflwyno hefyd i wirfoddolwyr drwy’r rhaglen Natur er Budd Iechyd, a gynhelir mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cefn Gwlad.
Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Mae’r gwenyn yn rhan hollbwysig o’r system peillio ac mae’r parcdir hwn yn cynnig cymysgedd gwych o gefnogaeth iddynt gyflawni eu rôl bwysig. Maent yn gallu peillio bron i 90% o’r holl blanhigion sy’n blodeuo a chefnogi’r broses o ffrwytho tua 30% o’r bwyd ar ein byrddau. Ar ôl chwilota a helpu i drosglwyddo paill o un blodyn i’r llall, gall y gwenyn hefyd gario cymysgedd o neithdar a phaill i’r cychod gwenyn, a gaiff ei droi’n fêl yn y pen draw.
“Mae wedi bod yn wych gweld y preswylwyr newydd hyn yn ymgartrefu yn y parcdir ac yn helpu ein gwirfoddolwyr i ddysgu mwy am ba mor bwysig yw natur o ran eu lles hwythau, ac mae’n gyfle iddynt weld â’u llygaid eu hunain sut mae’r gwenyn yn gallu cael dylanwad ar y bwyd maent yn ei fwyta.”
“Mae llawer o waith caled wedi’i wneud eisoes gan ein tîm o geidwaid a gwirfoddolwyr y tu ôl i’r llen, er mwyn cynnal a gwella ardal y parcdir a bydd y cychod gwenyn hyn ar y tir o gymorth mawr o ran cyfoethogi’r amrywiaeth o rywogaethau sy’n tyfu yma ac rydym yn edrych ymlaen at weld effaith y preswylwyr bach newydd hyn.”