Cyfarfod Awduron yn Llyfrgelloedd Sir Ddinbych
Simon McCleave
Cafwyd sesiwn prysur gyda’r awdur trosedd Simon McCleave yn trafod ei nofelau poblogaidd sydd wedi eu lleoli yng Ngogledd Cymru yn Llyfrgell Y Rhyl. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf ‘The Snowdonia Killings’ gyda’r ditectif Ruth Hunter yn 2020, ers hynny mae wedi dod yn awdur llwyddiannus a phoblogaidd ar Amazon.
Les Jones
Daeth yr awdur lleol atom i Lyfrgell Y Rhyl i drafod ei lyfr newydd ‘Twelve Doors’. Sgwrsiodd yr awdur a’r cyn-blismon am ei nofel sydd wedi ei lleoli yn ardal y Rhyl. Mae’n sôn am ddeuddeg o ddynion a marched cyffredin sy’n ddiffoddwyr tân ‘ar alwad’ sy’n peryglu eu bywydau i achub eraill.
Martin Kaye
Roedd yr awdur Martin Kaye yn lansio y dryddydd nofel hanesyddol mewn cyfres wedi ei seilio ar y chwedlau Arthuraidd a’r cyfnod presennol sydd wedi eu lleoli yn ardaloedd Rhuthun a Dinbych. Mae Martin yn wreiddiol o Ddyffryn Clwyd ac yn byw yn Ne Cymru. Mae’r antur yn parhau yn ei nofel newydd ‘The Fallen and the Fled’
Holwch yn eich Llyfrgell leol am gopiau o’r llyfrau.