llais y sir

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Dôl yn tyfu preswylydd tymhorol newydd

tegeirian bera

Mae tegeirian wedi ymddangos am y tro cyntaf mewn dôl tref.

Gwnaeth Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor ganfyddiad newydd tra’n archwilio’r ddôl blodau gwyllt wrth Neuadd y Sir yn Rhuthun.

Ymwelodd y tîm â’r safle i wirio ei gynnydd y tymor hwn sydd eisoes wedi gweld arddangosfa dda o flodau gwyllt gan gynnwys gludlys coch, llygad llo mawr a’r melynydd.

Mae’r safle hwn yn rhan o’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt sy’n cynnwys ychydig dros 70 erw o ddolydd sy’n helpu ac yn diogelu natur leol ac yn cefnogi lles cymunedol ar draws y sir. Ariannwyd y prosiect hwn hefyd gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Leol Cymru.

Wrth archwilio’r ddôl, canfuwyd tegeirian bera yn tyfu ymhlith y rhywogaethau eraill gan y Tîm Bioamrywiaeth.

Roedd y blodyn gwyllt ond wedi’i ganfod yn flaenorol mewn dwy ddôl arfordirol ym Mhrestatyn yn ystod 2023.

Mae’n cynnwys blodau pinc pigog sy’n ffurfio siâp pyramid ac mae’n tyfu fel arfer ar laswelltir sialc, cynefinoedd arfordirol, prysgwydd, ymylon ffyrdd, hen chwareli ac argloddiau rheilffordd.

Mae tegeirian bera yn blodeuo ym mis Mehefin a Gorffennaf ac yn denu amrywiaeth o loÿnnod byw a gwyfynod.

Meddai Liam Blazey, Uwch Swyddog Bioamrywiaeth: “Mae’r dolydd ar draws y sir yn cael eu rheoli i helpu i ddod â darn pwysig o fioamrywiaeth a gollwyd dros y blynyddoedd er mwyn i’n natur i ffynnu a hefyd i bryfed peillio barhau i allu cynnal y gadwyn fwyd yr ydym ni fel bodau dynol yn dibynnu arni.

“Dyma ganfyddiad gwych yn Rhuthun gan ei fod yn dangos bod y dolydd sydd gennym yn gweithio fel priffordd gyfunol i bryfetach ac anifeiliaid ar draws i sir i helpu i ailboblogi’r safleoedd hyn drwy gario hadau o un i’r llall.

“Mae’n wych i gymunedau lleol hefyd gan fod y dolydd yn dod â phlanhigion y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau unwaith eto ynghyd â’r gefnogaeth gadarnhaol a gynigir ganddynt i natur leol.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn ganfyddiad cyntaf gwych yn un o’n dolydd tref gorau ac mae’n dangos wrth i’n dolydd aeddfedu eu bod yn hanfodol i ddarparu cefnogaeth i natur sydd wedi ei chael hi’n anodd oherwydd effaith newid hinsawdd.

“Wrth i fwy o flodau gwyllt fel y tegeirian hwn ddychwelyd i safleoedd byddant yn helpu i ychwanegu amrywiaeth a lliw yn ein safleoedd i’r gymuned ei fwynhau, ynghyd â’r peillwyr sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.

“O gofio’r amser mae’n gymryd i’w sefydlu, bydd ein dolydd i gyd er lles preswylwyr a’r bywyd gwyllt i’w mwynhau rŵan ac, yn bwysicach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol sef ein preswylwyr iau yn Sir Ddinbych.”

Mae’r tegeirian bera wedi’i gofnodi gan y tîm Bioamrywiaeth sy’n rheoli a monitro’r holl rywogaethau a ganfyddir ar ddolydd y sir i helpu i ddiogelu a thyfu cefnogaeth iddynt yn y dyfodol.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch neges e-bost at biodiversity@sirddinbych.gov.uk 

Gwaith dechrau ar lwybr i gysylltu cymuned y Rhyl safle natur newydd

Ffordd Parc Elan yn Llys Brenig

Mae gwaith yn parhau i gysylltu cymuned leol y Rhyl gyda manteision safle natur newydd ar gyfer lles.

Mae gwaith datblygu’r Safle Natur Cymunedol newydd wrth ymyl Ffordd Parc Elan yn Llys Brenig ar Ystâd Park View yn parhau dros yr haf hwn yn barod ar gyfer cwblhau’r prosiect erbyn mis Rhagfyr.

Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â thri Safle Natur Cymunedol arall a sefydlwyd gan y Cyngor eleni yn Llanelwy, Henllan a Chlocaenog.

Mae’r Prosiect Safleoedd Natur Cymunedol wedi derbyn cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cafodd ardal gwlyptir newydd ei greu yn y safle yn gynharach eleni ac mae eisoes wedi dangos arwyddion o rywogaethau newydd, gydag amrywiaeth o flodau gwyllt cyfagos yn cefnogi pryfed peillio. Roedd y gwaith gwlyptir yn dilyn disgyblion Blwyddyn 4 Ysgol Bryn Hedydd yn plannu dros fil o goed ar y safle sydd bellach yn ffynnu gyda cheidwaid a gwirfoddolwyr cefn gwlad.

Mae contractwyr yn gwneud y gwaith terfynol ar lwybr troed newydd o amgylch ymyl y safle a fydd yn cysylltu gyda Llys Brenig a Ffordd Elan, gan ganiatáu i’r gymuned leol fwynhau natur unwaith y bydd y safle’n agored.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych gweld y safle’n ffynnu yn dilyn yr holl waith caled a wnaed gan bawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r ardal i gaffael y tir.

“Rwyf wedi gwylio’r hwyaid eisoes yn mwynhau’r safle natur cymunedol newydd hwn ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gymuned leol yn mwynhau cerdded o amgylch y safle gan y bydd wirioneddol yn helpu eu hiechyd meddwl a’u lles corfforol ac yn eu galluogi i ddysgu am fywyd gwyllt lleol.

Ar y cyd â safleoedd cyfagos ym Maes Gwilym, The Green, Fern Way a’r parc cyfagos yn Ffordd Elan, bydd hefyd yn cyfrannu at rwydwaith o fannau gwyrdd i helpu i ddarparu coridorau o fywyd gwyllt o fewn y gymdogaeth faestrefol.

Bydd safle natur y Rhyl hefyd yn darparu buddion cymunedol eraill megis gwell ansawdd aer, oeri gwres trefol ac ardaloedd o ddiddordeb cymysg ar gyfer addysg a chwarae.

Mae’r gwaith hwn yn cefnogi’r ymdrech i leihau ôl troed carbon y sir hefyd drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno) gan goed.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid