llais y sir

Newyddion

Cartref Gofal Dolwen yn derbyn adroddiad arolwg disglair

Nid yw Cartref Gofal Dolwen yn Ninbych, a dderbyniodd arolwg gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn gynharach yn y flwyddyn wedi gweld unrhyw feysydd gwella wedi eu nodi yn dilyn arolwg undydd dirybudd yn ôl ym mis Chwefror.

Roedd yr adroddiad yn nodi bod Dolwen yn wasanaeth cyfeillgar a chroesawgar ac mae’r staff gofal yn adnabod pobl yn dda ac yn rhoi sylw i’w hanghenion.

Roedd yr adroddiad yn canmol arferion rheoli yn y cartref, gan ddweud bod rheolwyr y gwasanaeth yn monitro’n ofalus sut mae’r gwasanaeth yn perfformio ac mae eu systemau yn helpu i nodi a gweithredu yn dilyn unrhyw faterion a ganfyddir ganddynt. Mae’r unigolyn cyfrifol yn ymweld â’r gwasanaeth yn rheolaidd i sicrhau y darperir gofal a chefnogaeth o ansawdd da.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi bod staff yn dilyn cynlluniau clir a manwl, yn sicrhau y bodlonir anghenion iechyd a chefnogaeth a bod staff gofal yn glir o ran deilliannau personol unigolion ac yn eu cefnogi i’w cyflawni.

Wrth nodi’r trefniadau byw, roedd yr adroddiad yn sôn bod preswylwyr yn falch o ddangos eu hystafelloedd a sylwyd eu bod wedi dod â rhywfaint o’u heiddo eu hunain a lluniau o’u cartref i’w wneud yn gartrefol. Roedd yn nodi bod preswylwyr yn byw mewn cartref sydd â digon o le i eistedd ac ymlacio, mwynhau gweithgareddau neu gyfarfod ymwelwyr a bod y gegin yn y ganolfan ddydd yn cynnwys arwynebau y gellir eu haddasu gyda lle ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Dywedodd Pamela Pack, Rheolwr Cartref Gofal Dolwen:

“Rydym yn falch o dderbyn adroddiad mor gadarnhaol a’i fod yn adlewyrchu ac yn cydnabod yr ymdrech a wnaed gan staff a phreswylwyr i wneud y cyfleuster gofal hwn y lle ydyw.

Rwy’n falch iawn o’r amgylchedd rydym wedi’i greu yma yn Nolwen, a hoffwn ddiolch i’r holl staff gweithgar sy’n dod yma bob dydd i wneud y cartref gofal hwn yn gartref gwirioneddol i’n preswylwyr.”

Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Rwy’n falch iawn o weld bod un o’n cartrefi gofal wedi derbyn yr adroddiad disglair hwn gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Hoffwn sôn am y staff sy’n gweithio’n ddiflino yn y cyfleuster hwn i sicrhau bod gofal proffesiynol ac o’r ansawdd gorau pedair awr ar hugain yn cael ei ddarparu i’r preswylwyr sy’n byw yn Nolwen. Da iawn i bawb sydd wedi cyfrannu.”

Y llynedd, gwariodd y Cyngor £39 miliwn ar ddarparu pecynnau gofal a chefnogaeth i rai o oedolion mwyaf diamddiffyn yn y sir, mae hyn oddeutu 15% o gyllideb gyffredinol y Cyngor.

Diweddariad Cabinet

Mae’r Cynghorydd Diane King wedi’i phenodi’n Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd i Gabinet y Cyngor.

Cynghorydd Diane King

Ar ôl gweithio am flynyddoedd ym maes Addysg Uwch, mae gan y Cynghorydd King brofiad a dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd a all godi ym maes addysg. Etholwyd y Cynghorydd King i’r Cyngor Sir yn 2022.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor:

“Rwy’n gwybod bod y Cynghorydd King wedi ymrwymo i ddarparu addysg o safon a chreu amgylchedd sy’n meithrin twf a photensial pob plentyn, ac fydd yn rhagorol yn y rôl.

Mae hi'n weithiwr polisi cyhoeddus ymroddedig a phrofiadol gyda chefndir cryf mewn addysg, amddiffyn plant, a llywodraethu. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi.”

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Rwy’n gyffrous am y cyfle i gyfrannu at genhadaeth Cyngor Sir Ddinbych o ddarparu addysg a chefnogaeth ragorol i blant a theuluoedd yn y gymuned.

Rwy’n hyderus y bydd fy mhrofiad o weithio yn y sector addysg, fy sgiliau mewn cynllunio strategol, cyfathrebu, a datrys problemau yn fy ngalluogi i fynd i’r afael yn effeithiol â’r heriau ac ysgogi newid cadarnhaol yn y sector addysg.”

Bydd y Cynghorydd Julie Matthews, sydd ar hyn o bryd yn Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldeb yn awr yn ymgymryd â’r rôl fel Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych. Etholwyd y Cynghorydd Matthews i’r Cyngor yn 2022 ac mae’n cynrychioli Ward Gallt Melyd a hefyd yn eistedd ar y Pwyllgor Cynllunio. Mae’r Cynhorydd Matthews hefyd yn Gefnogwr y Lluoedd Arfog i’r cyngor.

Cynghorydd Julie MatthewsDywedodd y Cynghorydd Jason McLellan:

“Rwyf hefyd yn hapus i gyhoeddi bod y Cynghorydd Julie Matthews wedi derbyn rôl y Dirprwy Arweinydd. Bydd y Cynghorydd Matthews yn ddirprwy ardderchog ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi yn y dyfodol.”

Ymgynghoriad ar Gynllun Toiledau Cyhoeddus newydd

Fel nifer o Awdurdodau Lleol, mae'r Cyngor yn wynebu heriau sylweddol wrth geisio gosod cyllideb gytbwys.

Bu’n rhaid i’r Cyngor ddod o hyd i £10.4m o arbedion yn rhan o gyllideb 2024/25, ac mae’r cynnig i adolygu’r ddarpariaeth o gyfleusterau cyhoeddus yn y Sir yn un o’r cynigion ar gyfer arbedion a nodwyd.

Er nad oes yna ofyniad cyfreithiol bod y Cyngor ei hun yn darparu cyfleusterau cyhoeddus, mae Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 yn gofyn am dystiolaeth o adolygiad o anghenion y boblogaeth leol, ac mae strategaeth yn dangos sut y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio bodloni’r anghenion hyn.

O ganlyniad i hyn, mae'r Cyngor wrthi’n cynnal asesiad o anghenion ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus yn y Sir. Fe fydd hyn yn galluogi i ni wybod faint o gyfleusterau cyhoeddus sydd eu hangen yn Sir Ddinbych a bydd yn helpu’r Cyngor i lunio Strategaeth Toiledau Cyhoeddus addas.

Er mwyn llunio’r Strategaeth, mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ac annogir preswylwyr, perchnogion busnes ac ymwelwyr i gymryd rhan a dweud eu dweud.

Meddai Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Rydym ni’n deall bod cyfleusterau cyhoeddus yn asedau sy’n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan rannau penodol o’r gymuned. Serch hynny, y ffaith yw nad yw darparu cyfleusterau cyhoeddus yn ddyletswydd statudol, ac nid oes gennym ni bellach gyllideb ddigon mawr i’n galluogi ni i barhau i ddarparu gwasanaethau yr ydym ni wedi’u darparu yn y gorffennol.

“Yn yr ardaloedd lle mae darparu cyfleusterau cyhoeddus yn cael ei ystyried yn hanfodol, rydym ni’n gobeithio gweithio gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i ystyried trefniadau gwahanol.

Nid ydym wedi gwneud penderfyniad eto ynglŷn â chau unrhyw gyfleusterau cyhoeddus, a bydd unrhyw benderfyniad am hyn yn cael ei wneud gan ein Cabinet, yn dilyn adroddiad pellach i’n Pwyllgor Craffu Cymunedau.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i'r dudalen Sgwrs y Sir ar y wefan.

Y Cyngor yn gofyn am farn y cyhoedd ar ddyluniad newydd Parc Drifft

Bydd y Cyngor, mewn partneriaeth gyda Balfour Beatty, yn cynnal dwy sesiwn wybodaeth yng Nghanolfan Ieuenctid y Rhyl, a fydd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd weld dyluniad y Parc Drifft newydd yn y Rhyl.

Cynhelir y sesiynau ar 30 Medi ac 1 Hydref, a byddant ar agor i’r cyhoedd rhwng 1pm a 7pm, gan ganiatáu slot amser hyblyg i rieni a phlant.

Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i’r tîm gyflwyno’r dyluniad arfaethedig a ellir ei ddefnyddio ar gyfer Man Chware newydd Parc Drifft.

Bydd y tîm yn gofyn i breswylwyr a busnesau lleol sy’n mynychu am eu barn a’u hawgrymiadau ar y dyluniad, a fyddai yn eu tro, yn helpu i nodi’r dyluniad terfynol wrth symud ymlaen.

Os nad oes modd i breswylwyr fynychu un o’r ddwy sesiwn, gellir canfod a llenwi ffurflen ar-lein ar wefan Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl.

Pan fydd y flwyddyn academaidd yn ailgychwyn, cynhelir ymgysylltiad pellach gydag ysgolion lleol mewn perthynas â dyluniad y parc.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Rydym yn falch iawn fod Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl wedi cyrraedd y cam lle rydym yn edrych ar ailosod Parc Drifft, sydd wedi’i leoli ar bromenâd y Rhyl.

Bydd y sesiynau hyn gyda phreswylwyr a busnesau yn caniatáu i’r tîm glywed adborth a syniadau gan y gymuned leol.

Rydym yn deall fod gwaith hanfodol ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl wedi cael effaith ar argaeledd mannau chwarae ar hyd y promenâd, serch hynny, mae’r gwaith yn hanfodol er mwyn sicrhau bod arfordir y Rhyl wedi’i ddiogelu’n llwyr rhag digwyddiadau o lifogi. Ailosod y parc oedd y cynllun o hyd, ac rwy’n falch fod hyn ar y gweill erbyn hyn.

Rydw i’n edrych ymlaen at glywed barn y cyhoedd ar ddyluniad y parc, sy’n cael ei nodi gan y bobl leol fydd yn ei ddefnyddio am flynyddoedd i ddod.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid