llais y sir

Newyddion

Cartref Gofal Dolwen yn derbyn adroddiad arolwg disglair

Nid yw Cartref Gofal Dolwen yn Ninbych, a dderbyniodd arolwg gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn gynharach yn y flwyddyn wedi gweld unrhyw feysydd gwella wedi eu nodi yn dilyn arolwg undydd dirybudd yn ôl ym mis Chwefror.

Roedd yr adroddiad yn nodi bod Dolwen yn wasanaeth cyfeillgar a chroesawgar ac mae’r staff gofal yn adnabod pobl yn dda ac yn rhoi sylw i’w hanghenion.

Roedd yr adroddiad yn canmol arferion rheoli yn y cartref, gan ddweud bod rheolwyr y gwasanaeth yn monitro’n ofalus sut mae’r gwasanaeth yn perfformio ac mae eu systemau yn helpu i nodi a gweithredu yn dilyn unrhyw faterion a ganfyddir ganddynt. Mae’r unigolyn cyfrifol yn ymweld â’r gwasanaeth yn rheolaidd i sicrhau y darperir gofal a chefnogaeth o ansawdd da.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi bod staff yn dilyn cynlluniau clir a manwl, yn sicrhau y bodlonir anghenion iechyd a chefnogaeth a bod staff gofal yn glir o ran deilliannau personol unigolion ac yn eu cefnogi i’w cyflawni.

Wrth nodi’r trefniadau byw, roedd yr adroddiad yn sôn bod preswylwyr yn falch o ddangos eu hystafelloedd a sylwyd eu bod wedi dod â rhywfaint o’u heiddo eu hunain a lluniau o’u cartref i’w wneud yn gartrefol. Roedd yn nodi bod preswylwyr yn byw mewn cartref sydd â digon o le i eistedd ac ymlacio, mwynhau gweithgareddau neu gyfarfod ymwelwyr a bod y gegin yn y ganolfan ddydd yn cynnwys arwynebau y gellir eu haddasu gyda lle ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Dywedodd Pamela Pack, Rheolwr Cartref Gofal Dolwen:

“Rydym yn falch o dderbyn adroddiad mor gadarnhaol a’i fod yn adlewyrchu ac yn cydnabod yr ymdrech a wnaed gan staff a phreswylwyr i wneud y cyfleuster gofal hwn y lle ydyw.

Rwy’n falch iawn o’r amgylchedd rydym wedi’i greu yma yn Nolwen, a hoffwn ddiolch i’r holl staff gweithgar sy’n dod yma bob dydd i wneud y cartref gofal hwn yn gartref gwirioneddol i’n preswylwyr.”

Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Rwy’n falch iawn o weld bod un o’n cartrefi gofal wedi derbyn yr adroddiad disglair hwn gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Hoffwn sôn am y staff sy’n gweithio’n ddiflino yn y cyfleuster hwn i sicrhau bod gofal proffesiynol ac o’r ansawdd gorau pedair awr ar hugain yn cael ei ddarparu i’r preswylwyr sy’n byw yn Nolwen. Da iawn i bawb sydd wedi cyfrannu.”

Y llynedd, gwariodd y Cyngor £39 miliwn ar ddarparu pecynnau gofal a chefnogaeth i rai o oedolion mwyaf diamddiffyn yn y sir, mae hyn oddeutu 15% o gyllideb gyffredinol y Cyngor.

Diweddariad Cabinet

Mae’r Cynghorydd Diane King wedi’i phenodi’n Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd i Gabinet y Cyngor.

Cynghorydd Diane King

Ar ôl gweithio am flynyddoedd ym maes Addysg Uwch, mae gan y Cynghorydd King brofiad a dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd a all godi ym maes addysg. Etholwyd y Cynghorydd King i’r Cyngor Sir yn 2022.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor:

“Rwy’n gwybod bod y Cynghorydd King wedi ymrwymo i ddarparu addysg o safon a chreu amgylchedd sy’n meithrin twf a photensial pob plentyn, ac fydd yn rhagorol yn y rôl.

Mae hi'n weithiwr polisi cyhoeddus ymroddedig a phrofiadol gyda chefndir cryf mewn addysg, amddiffyn plant, a llywodraethu. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi.”

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Rwy’n gyffrous am y cyfle i gyfrannu at genhadaeth Cyngor Sir Ddinbych o ddarparu addysg a chefnogaeth ragorol i blant a theuluoedd yn y gymuned.

Rwy’n hyderus y bydd fy mhrofiad o weithio yn y sector addysg, fy sgiliau mewn cynllunio strategol, cyfathrebu, a datrys problemau yn fy ngalluogi i fynd i’r afael yn effeithiol â’r heriau ac ysgogi newid cadarnhaol yn y sector addysg.”

Bydd y Cynghorydd Julie Matthews, sydd ar hyn o bryd yn Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldeb yn awr yn ymgymryd â’r rôl fel Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych. Etholwyd y Cynghorydd Matthews i’r Cyngor yn 2022 ac mae’n cynrychioli Ward Gallt Melyd a hefyd yn eistedd ar y Pwyllgor Cynllunio. Mae’r Cynhorydd Matthews hefyd yn Gefnogwr y Lluoedd Arfog i’r cyngor.

Cynghorydd Julie MatthewsDywedodd y Cynghorydd Jason McLellan:

“Rwyf hefyd yn hapus i gyhoeddi bod y Cynghorydd Julie Matthews wedi derbyn rôl y Dirprwy Arweinydd. Bydd y Cynghorydd Matthews yn ddirprwy ardderchog ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi yn y dyfodol.”

Ymgynghoriad ar Gynllun Toiledau Cyhoeddus newydd

Fel nifer o Awdurdodau Lleol, mae'r Cyngor yn wynebu heriau sylweddol wrth geisio gosod cyllideb gytbwys.

Bu’n rhaid i’r Cyngor ddod o hyd i £10.4m o arbedion yn rhan o gyllideb 2024/25, ac mae’r cynnig i adolygu’r ddarpariaeth o gyfleusterau cyhoeddus yn y Sir yn un o’r cynigion ar gyfer arbedion a nodwyd.

Er nad oes yna ofyniad cyfreithiol bod y Cyngor ei hun yn darparu cyfleusterau cyhoeddus, mae Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 yn gofyn am dystiolaeth o adolygiad o anghenion y boblogaeth leol, ac mae strategaeth yn dangos sut y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio bodloni’r anghenion hyn.

O ganlyniad i hyn, mae'r Cyngor wrthi’n cynnal asesiad o anghenion ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus yn y Sir. Fe fydd hyn yn galluogi i ni wybod faint o gyfleusterau cyhoeddus sydd eu hangen yn Sir Ddinbych a bydd yn helpu’r Cyngor i lunio Strategaeth Toiledau Cyhoeddus addas.

Er mwyn llunio’r Strategaeth, mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ac annogir preswylwyr, perchnogion busnes ac ymwelwyr i gymryd rhan a dweud eu dweud.

Meddai Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Rydym ni’n deall bod cyfleusterau cyhoeddus yn asedau sy’n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan rannau penodol o’r gymuned. Serch hynny, y ffaith yw nad yw darparu cyfleusterau cyhoeddus yn ddyletswydd statudol, ac nid oes gennym ni bellach gyllideb ddigon mawr i’n galluogi ni i barhau i ddarparu gwasanaethau yr ydym ni wedi’u darparu yn y gorffennol.

“Yn yr ardaloedd lle mae darparu cyfleusterau cyhoeddus yn cael ei ystyried yn hanfodol, rydym ni’n gobeithio gweithio gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i ystyried trefniadau gwahanol.

Nid ydym wedi gwneud penderfyniad eto ynglŷn â chau unrhyw gyfleusterau cyhoeddus, a bydd unrhyw benderfyniad am hyn yn cael ei wneud gan ein Cabinet, yn dilyn adroddiad pellach i’n Pwyllgor Craffu Cymunedau.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i'r dudalen Sgwrs y Sir ar y wefan.

Y Cyngor yn gofyn am farn y cyhoedd ar ddyluniad newydd Parc Drifft

Bydd y Cyngor, mewn partneriaeth gyda Balfour Beatty, yn cynnal dwy sesiwn wybodaeth yng Nghanolfan Ieuenctid y Rhyl, a fydd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd weld dyluniad y Parc Drifft newydd yn y Rhyl.

Cynhelir y sesiynau ar 30 Medi ac 1 Hydref, a byddant ar agor i’r cyhoedd rhwng 1pm a 7pm, gan ganiatáu slot amser hyblyg i rieni a phlant.

Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i’r tîm gyflwyno’r dyluniad arfaethedig a ellir ei ddefnyddio ar gyfer Man Chware newydd Parc Drifft.

Bydd y tîm yn gofyn i breswylwyr a busnesau lleol sy’n mynychu am eu barn a’u hawgrymiadau ar y dyluniad, a fyddai yn eu tro, yn helpu i nodi’r dyluniad terfynol wrth symud ymlaen.

Os nad oes modd i breswylwyr fynychu un o’r ddwy sesiwn, gellir canfod a llenwi ffurflen ar-lein ar wefan Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl.

Pan fydd y flwyddyn academaidd yn ailgychwyn, cynhelir ymgysylltiad pellach gydag ysgolion lleol mewn perthynas â dyluniad y parc.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Rydym yn falch iawn fod Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl wedi cyrraedd y cam lle rydym yn edrych ar ailosod Parc Drifft, sydd wedi’i leoli ar bromenâd y Rhyl.

Bydd y sesiynau hyn gyda phreswylwyr a busnesau yn caniatáu i’r tîm glywed adborth a syniadau gan y gymuned leol.

Rydym yn deall fod gwaith hanfodol ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl wedi cael effaith ar argaeledd mannau chwarae ar hyd y promenâd, serch hynny, mae’r gwaith yn hanfodol er mwyn sicrhau bod arfordir y Rhyl wedi’i ddiogelu’n llwyr rhag digwyddiadau o lifogi. Ailosod y parc oedd y cynllun o hyd, ac rwy’n falch fod hyn ar y gweill erbyn hyn.

Rydw i’n edrych ymlaen at glywed barn y cyhoedd ar ddyluniad y parc, sy’n cael ei nodi gan y bobl leol fydd yn ei ddefnyddio am flynyddoedd i ddod.”

Gwastraff ac Ailgylchu

Nodyn atgoffa am gasgliadau gwastraff

 ♻️ Nodyn atgoffa am gasgliadau gwastraff ♻️

Ailgylchu – bob wythnos

Gwastraff bwyd – bob wythnos

Gwastraff na ellir ei ailgylchu – bob pedair wythnos (bob wythnos os ydych ar y gwasanaeth bagiau)

Gwastraff gardd (gwasanaeth a delir amdano) – bob pythefnos

Casgliad NHA (gwasanaeth a gofrestrir amdano) – bob wythnos

Gallwch wirio eich dyddiadau casglu ar y wefan.

 

Gwybodaeth am gasgliadau eitemau swmpus

Mae’r casgliadau eitemau swmpus wedi eu gohirio am y tro ac nid ydym yn cymryd archebion ar hyn o bryd. Mae hyn er mwyn clirio’r ceisiadau presennol a chanolbwyntio ein hadnoddau ar y gwasanaeth ailgylchu a gwastraff newydd.

Fe fydd modd i chi wneud cais am gasgliadau eto erbyn dydd Llun 2 Medi 2024.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Lansiad Cenedlaethol Sialens Ddarllen yr Haf 2024

Roedd Llyfrgell Dinbych yn llawn bwrlwm ar 10fed o Orffennaf yn ystod lansiad y Sialens Ddarllen – Crefftwyr Campus.

Daeth dosbarth Blwyddyn 3 o Ysgol Twm o’r Nant i gyfarfod Leisa Mererid, actor ac awdur ‘Y Wariar Bach’ a’r ‘Goeden Ioga’. Cafwyd sesiwn llawn egni a hwyl yn dysgu am symudiadau ioga ac anadlu. Ymunodd y plant gyda’r sialens gan gofrestru a dewis llyfrau wedi’r sesiwn. Bydd cyfle i blant ymuno gyda’r sialens yn eu Llyfrgell leol neu arlein gan gasglu sticeri, darganfod straeon newydd a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau am ddim dros yr haf. Cysylltwch a’ch Llyfrgell leol am fanylion neu ewch i sialensddarllenyrhaf.org.uk.

Leisa Mererid a phlant blwyddyn 3 Ysgol Twm o’r Nant yn y sesiwn ioga  

Croesawyd pawb i’r digwyddiad gan Shoned Davies, Rheolwr Prosiect Addysgol a Francesca Sciarillo, Swyddog Hyrwyddo Darllen o Gyngor Llyfrau Cymru. Hefyd cafwyd gwmni Maer Dinbych, Catherine Jones; Bethan Lee o Lywodraeth Cymru, Rona Aldrich, Is-gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru a Phennaeth Gwasanaeth Tai a Chymunedau, Liz Grieve.

Cafwyd air o ddiolch a chanmoliaeth am y sesiwn gan Y Cynghorydd Emrys Wynne, aelod arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth.

Dechrau ardderchog i haf o brysurdeb llawn llyfrau, darllen a gweithgareddau creadigol yn ein llyfrgelloedd.

Cyfarfod Awduron yn Llyfrgelloedd Sir Ddinbych

Simon McCleave

Cafwyd sesiwn prysur gyda’r awdur trosedd Simon McCleave yn trafod ei nofelau poblogaidd sydd wedi eu lleoli yng Ngogledd Cymru yn Llyfrgell Y Rhyl. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf ‘The Snowdonia Killings’  gyda’r ditectif Ruth Hunter yn 2020, ers hynny mae wedi dod yn awdur llwyddiannus a phoblogaidd ar Amazon.

Les Jones

Daeth yr awdur lleol atom i Lyfrgell Y Rhyl i drafod  ei lyfr newydd ‘Twelve Doors’. Sgwrsiodd yr awdur a’r cyn-blismon am ei nofel sydd wedi ei lleoli yn ardal y Rhyl.  Mae’n sôn am ddeuddeg o ddynion a marched cyffredin sy’n ddiffoddwyr tân ‘ar alwad’ sy’n peryglu eu bywydau i achub eraill.

Martin Kaye

Roedd yr awdur Martin Kaye yn lansio y dryddydd nofel hanesyddol mewn cyfres wedi ei seilio ar y chwedlau Arthuraidd a’r cyfnod presennol sydd wedi eu lleoli yn ardaloedd Rhuthun a Dinbych. Mae Martin yn wreiddiol o Ddyffryn Clwyd ac yn byw yn Ne Cymru. Mae’r antur yn parhau yn ei nofel newydd ‘The Fallen and the Fled’

Holwch yn eich Llyfrgell leol am gopiau o’r llyfrau.

BorrowBox

Darganfyddwch rifyn diweddaraf Y Cymro a mwy o e-bapurau ar gael ar BorrowBox nawr!

Gallwch fenthyg a lawrlwytho e-lyfrau ac eLyfrau Llafar gan ddefnyddio'r ap BorrowBox.

Lawrlwythwch yr ap yn awr oddi ar yr App Store a Google Play, a dechreuwch fenthyca, lawrlwytho a mwynhau e-Lyfrau llafar heddiw. Defnyddiwch yr ap i ddarllen neu wrando 24/7

Twristiaeth

Gwobrau Twristiaeth Go North Wales

Bydd Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yn cael eu cynnal ddydd Iau 21 Tachwedd 2024 yn Venue Cymru, Llandudno i ddathlu a chydnabod rhagoriaeth a chyflawniadau arbennig busnesau ac unigolion sy’n gweithio yn y sector twristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru.

Rydym ni’n chwilio am fusnesau a/neu unigolion i’w henwebu eu hunain neu enwebu eraill a fyddai’n enillwyr teilwng.

I weld holl fanylion y gwobrau, ewch i https://gonorthwalestourismawards.website

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Dôl yn tyfu preswylydd tymhorol newydd

tegeirian bera

Mae tegeirian wedi ymddangos am y tro cyntaf mewn dôl tref.

Gwnaeth Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor ganfyddiad newydd tra’n archwilio’r ddôl blodau gwyllt wrth Neuadd y Sir yn Rhuthun.

Ymwelodd y tîm â’r safle i wirio ei gynnydd y tymor hwn sydd eisoes wedi gweld arddangosfa dda o flodau gwyllt gan gynnwys gludlys coch, llygad llo mawr a’r melynydd.

Mae’r safle hwn yn rhan o’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt sy’n cynnwys ychydig dros 70 erw o ddolydd sy’n helpu ac yn diogelu natur leol ac yn cefnogi lles cymunedol ar draws y sir. Ariannwyd y prosiect hwn hefyd gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Leol Cymru.

Wrth archwilio’r ddôl, canfuwyd tegeirian bera yn tyfu ymhlith y rhywogaethau eraill gan y Tîm Bioamrywiaeth.

Roedd y blodyn gwyllt ond wedi’i ganfod yn flaenorol mewn dwy ddôl arfordirol ym Mhrestatyn yn ystod 2023.

Mae’n cynnwys blodau pinc pigog sy’n ffurfio siâp pyramid ac mae’n tyfu fel arfer ar laswelltir sialc, cynefinoedd arfordirol, prysgwydd, ymylon ffyrdd, hen chwareli ac argloddiau rheilffordd.

Mae tegeirian bera yn blodeuo ym mis Mehefin a Gorffennaf ac yn denu amrywiaeth o loÿnnod byw a gwyfynod.

Meddai Liam Blazey, Uwch Swyddog Bioamrywiaeth: “Mae’r dolydd ar draws y sir yn cael eu rheoli i helpu i ddod â darn pwysig o fioamrywiaeth a gollwyd dros y blynyddoedd er mwyn i’n natur i ffynnu a hefyd i bryfed peillio barhau i allu cynnal y gadwyn fwyd yr ydym ni fel bodau dynol yn dibynnu arni.

“Dyma ganfyddiad gwych yn Rhuthun gan ei fod yn dangos bod y dolydd sydd gennym yn gweithio fel priffordd gyfunol i bryfetach ac anifeiliaid ar draws i sir i helpu i ailboblogi’r safleoedd hyn drwy gario hadau o un i’r llall.

“Mae’n wych i gymunedau lleol hefyd gan fod y dolydd yn dod â phlanhigion y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau unwaith eto ynghyd â’r gefnogaeth gadarnhaol a gynigir ganddynt i natur leol.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn ganfyddiad cyntaf gwych yn un o’n dolydd tref gorau ac mae’n dangos wrth i’n dolydd aeddfedu eu bod yn hanfodol i ddarparu cefnogaeth i natur sydd wedi ei chael hi’n anodd oherwydd effaith newid hinsawdd.

“Wrth i fwy o flodau gwyllt fel y tegeirian hwn ddychwelyd i safleoedd byddant yn helpu i ychwanegu amrywiaeth a lliw yn ein safleoedd i’r gymuned ei fwynhau, ynghyd â’r peillwyr sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.

“O gofio’r amser mae’n gymryd i’w sefydlu, bydd ein dolydd i gyd er lles preswylwyr a’r bywyd gwyllt i’w mwynhau rŵan ac, yn bwysicach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol sef ein preswylwyr iau yn Sir Ddinbych.”

Mae’r tegeirian bera wedi’i gofnodi gan y tîm Bioamrywiaeth sy’n rheoli a monitro’r holl rywogaethau a ganfyddir ar ddolydd y sir i helpu i ddiogelu a thyfu cefnogaeth iddynt yn y dyfodol.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch neges e-bost at biodiversity@sirddinbych.gov.uk 

Gwaith dechrau ar lwybr i gysylltu cymuned y Rhyl safle natur newydd

Ffordd Parc Elan yn Llys Brenig

Mae gwaith yn parhau i gysylltu cymuned leol y Rhyl gyda manteision safle natur newydd ar gyfer lles.

Mae gwaith datblygu’r Safle Natur Cymunedol newydd wrth ymyl Ffordd Parc Elan yn Llys Brenig ar Ystâd Park View yn parhau dros yr haf hwn yn barod ar gyfer cwblhau’r prosiect erbyn mis Rhagfyr.

Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â thri Safle Natur Cymunedol arall a sefydlwyd gan y Cyngor eleni yn Llanelwy, Henllan a Chlocaenog.

Mae’r Prosiect Safleoedd Natur Cymunedol wedi derbyn cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cafodd ardal gwlyptir newydd ei greu yn y safle yn gynharach eleni ac mae eisoes wedi dangos arwyddion o rywogaethau newydd, gydag amrywiaeth o flodau gwyllt cyfagos yn cefnogi pryfed peillio. Roedd y gwaith gwlyptir yn dilyn disgyblion Blwyddyn 4 Ysgol Bryn Hedydd yn plannu dros fil o goed ar y safle sydd bellach yn ffynnu gyda cheidwaid a gwirfoddolwyr cefn gwlad.

Mae contractwyr yn gwneud y gwaith terfynol ar lwybr troed newydd o amgylch ymyl y safle a fydd yn cysylltu gyda Llys Brenig a Ffordd Elan, gan ganiatáu i’r gymuned leol fwynhau natur unwaith y bydd y safle’n agored.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych gweld y safle’n ffynnu yn dilyn yr holl waith caled a wnaed gan bawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r ardal i gaffael y tir.

“Rwyf wedi gwylio’r hwyaid eisoes yn mwynhau’r safle natur cymunedol newydd hwn ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gymuned leol yn mwynhau cerdded o amgylch y safle gan y bydd wirioneddol yn helpu eu hiechyd meddwl a’u lles corfforol ac yn eu galluogi i ddysgu am fywyd gwyllt lleol.

Ar y cyd â safleoedd cyfagos ym Maes Gwilym, The Green, Fern Way a’r parc cyfagos yn Ffordd Elan, bydd hefyd yn cyfrannu at rwydwaith o fannau gwyrdd i helpu i ddarparu coridorau o fywyd gwyllt o fewn y gymdogaeth faestrefol.

Bydd safle natur y Rhyl hefyd yn darparu buddion cymunedol eraill megis gwell ansawdd aer, oeri gwres trefol ac ardaloedd o ddiddordeb cymysg ar gyfer addysg a chwarae.

Mae’r gwaith hwn yn cefnogi’r ymdrech i leihau ôl troed carbon y sir hefyd drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno) gan goed.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Cyfle i arddio yn helpu i greu lle cymunedol newydd yn yr awyr agored

Mae cyfle i wirfoddoli wedi helpu i ysgogi garddwr i weddnewid ei chymdogaeth

Mae cyfle i wirfoddoli wedi helpu i ysgogi garddwr i weddnewid ei chymdogaeth.

Mae Corinne Barber o Langollen wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau garddio gwirfoddol dan arweiniad staff ym Mhlas Newydd, gyda chefnogaeth Natur er Budd Iechyd.

Mae Natur er Budd Iechyd yn brosiect cydweithredol sy’n cydweithio gydag unigolion a chymunedau i amlygu sut all mynediad at natur wella iechyd a lles.

Mae Plas Newydd wedi lansio cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer garddwyr selog sydd â diddordeb hefyd mewn cadw darn o hanes y dref.

Mae cartref y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby yn cynnwys oddeutu 10 erw o dir, o erddi rhosod i goetir a’r glyn, wedi’u hategu gan nant yn llifo drwyddo.

Fe eglurodd Corinne ei fod wedi bod yn ‘ysbrydoliaeth’ i wirfoddoli yn y safle hanesyddol fel un o’r garddwyr.

Dywedodd: “Rydw i’n byw mewn fflat heb ardd a dim ond lle i barcio. Rydw i’n caru garddio ac fe awgrymodd ffrind fy mod i’n gwirfoddoli gyda chi. Mae gen i gi sydd bellach yn hen a methu symud llawer erbyn hyn, felly roedd ei gymryd yno’n golygu y gallai eistedd yn awyr iach tra roeddwn i’n garddio.

“Ar ôl ychydig fisoedd, cefais fy ysbrydoli i drio gwneud ein maes parcio yn fwy deniadol, nid i mi fy hun yn unig, ond i fy nghymdogion hefyd. Fe baentiais y ffensys a phlannu llawer o lwyni a phlanhigion. Fe greodd fy chwaer stand planhigion allan o hen baled ac fe baentiodd fy nghymydog ‘The Grapes Community Garden’ arno.

“Mae’r cymdogion wedi dod ynghyd, fe roddodd rhai blanhigion, fe roddodd rhai arian ac fe roddodd rai eraill werthfawrogiad a chefnogaeth. Drwy wneud hyn, rwyf yn gweld bod y cymdogion i gyd wedi dod ynghyd. Mae gennym rywle braf i eistedd ac rwyf wedi ychwanegu goleuadau solar i roi awyrgylch braf min nos.

“Mae ychydig ohonom yn dod ynghyd ac yn eistedd y tu allan am sgwrs ac mae pobl sydd yn cerdded i fynd a lawr yr allt yn galw draw am sgwrs i drafod y planhigion weithiau. Alla i ddim credu’r gwahaniaeth y mae wedi ei wneud i’n cymuned fach, ac mae’r cyfan yn deillio o fy nghyfnod yn gwirfoddoli ym Mhlas Newydd, fe roddodd ysbrydoliaeth a hyder i mi greu ein paradwys fach ein hunain.

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Mae gwirfoddoli i helpu gyda’r ardd ym Mhlas Newydd yn gyfle gwych i drigolion sydd â diddordeb mewn garddio i hybu eu lles trwy dreulio amser yn helpu yn yr awyr agored hardd hon.

“Mae’n wych clywed bod Corianne wedi mwynhau’r profiad yma a’i bod wedi ei ddefnyddio i greu ardal o ardd gymunedol ffantastig iddi hi a’i chymuned ei fwynhau a phrofi manteision yr awyr agored ar stepen eu drws eu hunain.”

Prosiect yn datblygu cynlluniau i helpu newydd-ddyfodiaid

gylfinir

Mae tîm prosiect yn paratoi i ddiogelu dyfodiaid bach i helpu aderyn dan fygythiad i oroesi.

Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cymryd rhan ym mhrosiect “Cysylltu Gylfinir Cymru”, partneriaeth prosiect Adfer y Gylfinir yng Nghymru sy’n gweithio gyda Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helfeydd a Bywyd Gwyllt.

Mae hyn o dan brosiect partneriaeth Cymru gyfan, Gylfinir Cymru sydd â’r nod o roi hwb i’r gylfinirod sy’n magu ledled y wlad, gan gynnwys Sir Ddinbych.

Mae’r gylfinir dan fygythiad enbyd ac fe’i rhoddwyd ar ‘Restr Goch’ Adar o Bryder Cadwraethol Cymru a’r Deyrnas Unedig. Ers y 1990au, mae mwy nag 80 y cant o’r gylfinirod sy’n magu yng Nghymru wedi diflannu.

Mae nifer o resymau am y dirywiad, gan gynnwys colli cynefin, pwysau ffermio yn ystod y tymor nythu ac effaith anifeiliaid eraill yn eu lladd.

Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i amddiffyn yr adar mewn deuddeg o ardaloedd yng Nghymru, wedi’i ariannu drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Y Swyddog Gylfinirod a Phobl Lleol, Sam Kenyon, sy’n arwain y gwaith yn yr ardal, sy’n cynnwys ardaloedd helaeth yn Sir Ddinbych a rhannau o Sir y Fflint a Wrecsam.

Drwy weithio ochr yn ochr gyda ffermwyr a gwirfoddolwyr, mae Sam a’i thîm wedi lleoli bron i 30 pâr o’r gylfinir ac maent yn paratoi ar gyfer yr hyn fydd y cam prysuraf o’r prosiect.

Dywedodd: “Mae’r prosiect yn mynd yn dda iawn, rydym yn cael llawer o wybodaeth am ein hadar y tymor hwn drwy ddod i’w hadnabod nhw a’r parau yn well a sut maent yn ymddwyn, diolch i’r wybodaeth leol sydd gennym yn ein cymunedau.

“Mae’r ffermwyr wedi bod yn anhygoel wrth weithio gyda nhw. Rydym wedi derbyn cefnogaeth wych sydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer y prosiect. Roedd un ar ddeg o bobl o wyth fferm wahanol wedi cyfarfod y tîm yn ddiweddar yn y Berwyn Arms ac roedd y cyfnewid gwybodaeth yn werthfawr.”

Drwy weithio gyda’r ffermwyr, mae Sam a’r tîm wedi cynnal ymyriadau syml i ddiogelu’r Gylfinirod a nythod ar draws yr Ardal o Bwysigrwydd i’r Gylfinir.

Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn monitro saith nyth, rhai wedi gweld ffens drydan yn amgylchynu pob nyth i gadw ysglyfaethwyr draw.

Eglurodd Sam “Gyda hon yn flwyddyn gyntaf i ni, drwy gynnal yr ymyriadau, rydym yn gobeithio llwyddo i gynyddu’r raddfa deori o tua 30 y cant i tua 90 y cant.

Mae arwyddion o’r deoriad cyntaf o gywion yn agosáu'n gyflym ac mae Sam a’r Tîm yn barod i symud i’r cam nesaf o amddiffyn a monitro’r adar gyda chymorth ffermwyr lleol.

“Byddwn yn monitro’r cywion ar y ddaear ac yn gweithio’n agos gyda’n ffermwyr i gadw’r cywion mor ddiogel â phosibl. Oherwydd eu bod ar y ddaear am chwe wythnos nes byddant yn magu plu, yn gyffredinol bydd yna 10 wythnos rhwng dodwy a dechrau hedfan”

Bydd y Gylfinir gwrywaidd yn gofalu am y rhan fwyaf o fagu’r cywion tra bydd y menywod yn gwneud yn fawr o allu bwydo eu hunain ac adennill eu cyflwr.
Ychwanegodd Sam: “Ni fydd y cywion yn gadael ardal y ffens drydan am yr ychydig ddyddiau cyntaf, ond yna yn eithaf buan byddant yn gallu mynd ychydig gannoedd o fetrau ar draws y ddaear ar eu coesau bach, sy’n golygu y byddant yn gallu symud drwy ffensys i gaeau eraill ac ar ffermydd eraill a dyna ran arall yn y prosiect ble mae ein rhwydwaith o ffermwyr yn ein helpu i gadw cyfrif o’r adar.”

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Mae hwn yn brosiect arbennig o bwysig i helpu aderyn oedd unwaith i’w weld yn aml, nid yn unig yn Sir Ddinbych a Gogledd Cymru ond ledled y Deyrnas Unedig. Rydym yn ddiolchgar bod y prosiect a’r cyllid hwn yn caniatáu i’r Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fwrw ymlaen yn wirioneddol â gwaith i ddiogelu’r gylfinir, gan annog y poblogaethau i oroesi a gobeithio ffynnu yn y dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect neu sôn am unrhyw ylfinirod rydych chi wedi’u gweld neu’u clywed yn yr ardaloedd dan sylw, e-bostiwch samantha.kenyon@sirddinbych.gov.uk

Fforwm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Fforwm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol)

Cynhaliwyd Fforwm Cefnogwyr, Cynghorau Thref a Chymuned ac Aelodau Lleol Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ddiweddar yn Ninbych (ac roedd ar gael ar-lein). Pwrpas y Fforwm oedd creu llwyfan rhyngweithiol i Gynghorau Tref a Chymuned ac Aelodau Lleol yn Nhirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ddod ynghyd a thrafod syniadau, a gweithio tuag ar gymunedau gwell. Cynhaliwyd trafodaethau a chyflwyniadau am Brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru, https://www.denbighshire.gov.uk/cy/newyddion/manylion-newyddion.aspx?article=b4a73cd1-b462-45ff-9be5-7839f6539a0e

Cofnodi Biolegol, INNS Mapper https://innsmapper.org/home

 a gweithio gyda Cofnod https://www.cofnod.org.uk/Home a Bionet,  https://www.bionetwales.co.uk/

a’r Prosiect Dynodiad Parc Cenedlaethol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/north-east-gogledd-ddwyrain/new-national-park-proposal-information-page-wales/

Cafodd y rhai oedd yn bresennol gipolwg gwerthfawr ar rai o brosiectau a mentrau parhaus Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Cynhelir y Fforymau ddwywaith y flwyddyn a bydd y Fforwm nesaf yn yr Hydref.  

Perchnogion cŵn yn cael eu hannog i fod yn gyfrifol

Mae'r Cyngor a Thirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn atgoffa perchnogion cŵn i fod yn gyfrifol wrth i bobl baratoi i ymweld â mannau cefn gwlad poblogaidd y sir yn ystod gwyliau’r haf.

Yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiadau yn ardal Moel Famau, mae pobl yn cael eu hannog i ddilyn cyngor pwysig i gadw anifeiliaid anwes ar dennyn tra bod nhw allan yng nghefn gwlad yn ystod y gwyliau.

Mae tarfu ar dda byw, hynny yw cŵn yn tarfu ar ddefaid ac yn eu herlid, yn anghyfreithlon. Gall cŵn sy’n cael eu dal yn tarfu ar dda byw gael eu difa a gall eu perchnogion gael eu herlyn.

Dylai ymwelwyr â chefn gwlad fod yn ymwybodol o ba gyfyngiadau a chanllawiau sydd mewn grym yn yr ardal benodol honno a chadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Fe atgoffir pobl hefyd i wirio ymlaen llaw i weld a yw cyfleusterau cefn gwlad ar agor yn ystod adegau prysur a pharcio’n gyfrifol mewn ardaloedd dynodedig.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Fe wyddom fod llawer o berchnogion cŵn sy’n ymweld â’n hardaloedd cefn gwlad yn barchus ac yn cadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn tra’u bod yn mwynhau’r golygfeydd, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am hynny.

“Fodd bynnag, rydym ni’n gwybod bod yna rai sydd ddim yn dilyn y rheolau ac rydym ni’n eu hatgoffa mai nhw sy’n gyfrifol am les eu ci pan fyddan nhw’n cerdded drwy gefn gwlad.

“Gellir erlyn pob perchennog ci sy’n anwybyddu’r rheolau ac sy’n gadael i’w hanifeiliaid anwes darfu ar dda byw, ac os caiff eu hanifeiliaid eu dal yn tarfu, fe ellir eu saethu’n gyfreithiol. Mae hyn yn achosi trallod i bawb ac yn ganlyniad sydd arnom ni wir eisiau ei osgoi.

“Os ydych chi’n dod â’ch ci efo chi i’n cefn gwlad, cofiwch gynllunio ymlaen llaw, dewch i wybod am y tir y byddwch chi’n cerdded arno, parchwch y cod cefn gwlad a chadwch eich ci ar dennyn bob amser.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'w gwefan.   

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Y Parcdir yn llawn bwrlwm gyda’r newydd-ddyfodiaid prysur

Mae’r gwaith ym Modelwyddan eisoes yn sicrhau cefnogaeth i’r peillwyr pwysig. 

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor wedi gosod sawl cwch gwenyn yn y parcdir ger y gwesty ym Modelwyddan.

Mae ardal y parc hanesyddol, sy’n gymysgedd o laswelltir, coed a pherllannau, wedi bod yn cael ei rheoli a’i chynnal a’i chadw gan y Ceidwaid Cefn Gwlad ers 2022.

Erbyn hyn, mae cychod gwenyn wedi’u gosod gan wenynwr lleol ar y safle, er budd y gwenyn, drwy’r amrywiaeth gyfoethog o goed a phlanhigion sydd ar y tir. Maent wedi cael eu cyflwyno hefyd i wirfoddolwyr drwy’r rhaglen Natur er Budd Iechyd, a gynhelir mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cefn Gwlad.

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Mae’r gwenyn yn rhan hollbwysig o’r system peillio ac mae’r parcdir hwn yn cynnig cymysgedd gwych o gefnogaeth iddynt gyflawni eu rôl bwysig. Maent yn gallu peillio bron i 90% o’r holl blanhigion sy’n blodeuo a chefnogi’r broses o ffrwytho tua 30% o’r bwyd ar ein byrddau. Ar ôl chwilota a helpu i drosglwyddo paill o un blodyn i’r llall, gall y gwenyn hefyd gario cymysgedd o neithdar a phaill i’r cychod gwenyn, a gaiff ei droi’n fêl yn y pen draw. 

“Mae wedi bod yn wych gweld y preswylwyr newydd hyn yn ymgartrefu yn y parcdir ac yn helpu ein gwirfoddolwyr i ddysgu mwy am ba mor bwysig yw natur o ran eu lles hwythau, ac mae’n gyfle iddynt weld â’u llygaid eu hunain sut mae’r gwenyn yn gallu cael dylanwad ar y bwyd maent yn ei fwyta.” 

“Mae llawer o waith caled wedi’i wneud eisoes gan ein tîm o geidwaid a gwirfoddolwyr y tu ôl i’r llen, er mwyn cynnal a gwella ardal y parcdir a bydd y cychod gwenyn hyn ar y tir o gymorth mawr o ran cyfoethogi’r amrywiaeth o rywogaethau sy’n tyfu yma ac rydym yn edrych ymlaen at weld effaith y preswylwyr bach newydd hyn.” 

Ymgymryd â gwaith terfynol i ddiogelu safle hanesyddol Prestatyn

Maddonau Rhufeinig Prestatyn

Bydd darn olaf o waith adfer yn diogelu darn o hanes Prestatyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae gwaith wedi’i wneud ym Maddonau Rhufeinig Prestatyn i helpu i ddiogelu ac adfer y safle hanesyddol yn Melyd Avenue.

Cafodd y trysor cudd ei ddarganfod am y tro cyntaf yn y 1930au yn ystod gwaith cloddio ar y safle. Yna cafodd ei ail orchuddio ac yna ei gloddio eto yn y 1980au, pan adeiladwyd y stad dai gyfagos. Credir i’r Baddondy gael ei adeiladu o amgylch 120 OC, gydag estyniad pellach yn 150 OC.

Mae yna rywfaint o ddadlau ynglŷn â’r rheswm dros ei leoliad ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, credir fod yna gysylltiad rhyngddo â’r llengoedd Rhufeinig yng Nghaer a Chaernarfon, gan ei fod yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng y ddau.

Gallai hefyd fod yn gysylltiedig â harbwr cyfagos, oherwydd ei leoliad arfordirol.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn rheoli a gofalu am y Baddonau Rhufeinig ac wedi ymgymryd â rhaglen o waith adfer yn yr ardal.

Roedd gwaith adfer diweddar a wnaed gan Ben Davies sy’n arbenigo mewn gwaith adfer ar y safle yn cynnwys adfer y gweddillion, gan fod y garreg wedi’i rhoi yn ôl yn ei lle gyda sment y tro diwethaf y gwnaed gwaith, nad yw’n ddelfrydol.

Mae Ben, sydd hefyd yn artist wedi bod yn tynnu hwn ac yn rhoi cerrig yn ôl yn eu lle gwreiddiol yn defnyddio morter calch. Morter calch fyddai wedi cael ei ddefnyddio yn hanesyddol ac mae’n caniatáu ar gyfer ehangu/cyfyngu yn ystod newid yn y tymheredd sy’n helpu i gadw’r garreg wreiddiol (atal craciau ac ati).

Mae tyllau hefyd wedi cael eu llenwi i atal dŵr rhag sefyll ar y gweddillion a difrod gan rew dilynol.

Roedd ceidwaid cefn gwlad ynghyd â gwirfoddolwyr a gefnogwyd gan y Rhaglen Natur er Budd Iechyd hefyd wedi gwneud gwaith i wella’r llwybrau troed yn y safle.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r safle pwysig hwn wirioneddol yn un o ‘drysorau cudd’ Prestatyn ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at adfer a diogelu’r ardal hanesyddol hon.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes i ymweld â’r Baddondy Rhufeinig i gael golwg ar y darn hwn o hanes sydd i’w weld yn glir ym Mhrestatyn.”

Cynlluniau’r haf i ymweld â chefn gwlad

Moel Famau

Mae'r Cyngor a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n atgoffa ymwelwyr i barcio’n gyfrifol wrth ymweld ag atyniadau yng nghefn gwlad dros yr haf.

Maent yn gofyn i ymwelwyr sydd am fwynhau’r mannau prysur yng nghefn gwlad o amgylch Dyffryn Dyfrdwy a Bryniau Clwyd gynllunio ymlaen llaw cyn teithio i’r ardaloedd.

Mae nifer o baratoadau eisoes wedi’u gwneud ar gyfer cynnydd mewn traffig yn yr ardal wrth i wyliau’r haf gyrraedd.

Bydd ceidwaid cefn gwlad ychwanegol yn gweithio mewn ardaloedd sy’n cynnwys Rhaeadr y Bedol yn Llangollen, Moel Famau a Pharc Gwledig Loggerheads i gynorthwyo a darparu gwybodaeth i ymwelwyr.

Bydd swyddogion gorfodi sifil hefyd yn monitro’r safleoedd, yn enwedig pan mae disgwyl iddynt fod ar eu prysuraf.

Gall rhai sy’n ymweld ag ardal Llangollen ar ddyddiau Sadwrn bellach ddefnyddio gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy, sy’n mynd ar lwybr cylchol bob dydd Sadwrn tan 30 Awst. Mae’n cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos â Rhaeadr y Bedol ac atyniadau poblogaidd lleol gan gynnwys Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur y Wenffrwd, Abaty Glyn y Groes, Tŷ Hanesyddol Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Bydd y gwasanaeth yn galluogi ymwelwyr a thrigolion i ymweld a mwynhau’r lleoliadau hyn heb orfod mynd i’r drafferth o chwilio am le i barcio ym mhob safle.

Mae’r bws yn galw ym Mhafiliwn Llangollen, lle mae digonedd o le i barcio cerbydau am y dydd.

Mae cyfres o fesurau hefyd wedi’u cyflwyno wrth Foel Famau i leihau tagfeydd yn yr ardal, yn cynnwys llinellau melyn dwbl, rhagor o leoedd parcio a lle i barcio ar ochr y ffordd er mwyn i draffig ymwelwyr lifo’n well.

Mae ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog yn gryf i barchu cefn gwlad a bod yn synhwyrol drwy barcio’n gyfrifol, peidio â thaflu sbwriel a beicio ar lwybrau lle mae caniatâd yn unig.

Os yw hi’n braf, mae pobl hefyd yn cael eu hannog i beidio â chynnau barbeciw, stofiau gwersylla na thanau ar ardaloedd rhostir oherwydd y perygl sylweddol o dân. Dewch â phicnic yn hytrach na barbeciw ac ewch â'r holl sbwriel adref gyda chi.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych: “Rydyn ni eisiau i bobl fwynhau’r atyniadau awyr agored gwych sydd ar gael yma, ond hoffem eu hatgoffa bod cyfyngiadau parcio’n bwysig ar gyfer diogelwch ffyrdd ac i sicrhau nad oes unrhyw un yn hawlio lleoedd parcio’n annheg. Gall swyddogion gorfodi sifil roi Rhybudd Talu Cosb i unrhyw un sydd ddim yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau parcio.

“Mae ein ceidwaid yn gweithio pob penwythnos i ddarparu cyngor ac arweiniad i ymwelwyr sy’n dod i’r safleoedd a byddwn yn gofyn i’r cyhoedd hefyd barchu’r rôl maen nhw yno i’w gwneud.

“Cynlluniwch eich diwrnod ymlaen llaw, ceisiwch ddefnyddio cyfleusterau fel bws Dyffryn Dyfrdwy i deithio, a fydd yn arbed lleoedd parcio, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio dewisiadau eraill i ymweld â nhw ac o ran parcio os na fydd modd i chi ymweld â’ch dewis cyntaf o leoliad. Mae digonedd o atyniadau i ymweld â nhw yn yr ardal arbennig hon.”

Perchnogion cŵn yn cael eu hannog i yn gyfrifol yn teithiau gwlad haf

Mae'r Cyngor a Thirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn atgoffa perchnogion cŵn i fod yn gyfrifol wrth i bobl baratoi i ymweld â mannau cefn gwlad poblogaidd y sir yn ystod gwyliau’r haf.

Yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiadau yn ardal Moel Famau, mae pobl yn cael eu hannog i ddilyn cyngor pwysig i gadw anifeiliaid anwes ar dennyn tra’u bod allan yng nghefn gwlad yn ystod y gwyliau.

Mae tarfu ar dda byw, hynny yw cŵn yn tarfu ar ddefaid ac yn eu herlid, yn anghyfreithlon. Gall cŵn sy’n cael eu dal yn tarfu ar dda byw gael eu difa a gall eu perchnogion gael eu herlyn.

Dylai ymwelwyr â chefn gwlad fod yn ymwybodol o ba gyfyngiadau a chanllawiau sydd mewn grym yn yr ardal benodol honno a chadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Fe atgoffir pobl hefyd i wirio ymlaen llaw i weld a yw cyfleusterau cefn gwlad ar agor yn ystod adegau prysur a pharcio’n gyfrifol mewn ardaloedd dynodedig.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Fe wyddom fod llawer o berchnogion cŵn sy’n ymweld â’n hardaloedd cefn gwlad yn barchus ac yn cadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn tra’u bod yn mwynhau’r golygfeydd, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am hynny.

“Fodd bynnag, rydym ni’n gwybod bod yna rai sydd ddim yn dilyn y rheolau ac rydym ni’n eu hatgoffa mai nhw sy’n gyfrifol am les eu ci pan fyddan nhw’n cerdded drwy gefn gwlad.

“Gellir erlyn pob perchennog ci sy’n anwybyddu’r rheolau ac sy’n gadael i’w hanifeiliaid anwes darfu ar dda byw, ac os caiff eu hanifeiliaid eu dal yn tarfu, fe ellir eu saethu’n gyfreithiol. Mae hyn yn achosi trallod i bawb ac yn ganlyniad sydd arnom ni wir eisiau ei osgoi.

“Os ydych chi’n dod â’ch ci efo chi i’n cefn gwlad, cofiwch gynllunio ymlaen llaw, dewch i wybod am y tir y byddwch chi’n cerdded arno, parchwch y cod cefn gwlad a chadwch eich ci ar dennyn bob amser.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/?lang=cy a dilynwch AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar Facebook ac X.

Ymgymryd â gwaith terfynol i ddiogelu safle hanesyddol Prestatyn

Maddonau Rhufeinig Prestatyn

Bydd darn olaf o waith adfer yn diogelu darn o hanes Prestatyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae gwaith wedi’i wneud ym Maddonau Rhufeinig Prestatyn i helpu i ddiogelu ac adfer y safle hanesyddol yn Melyd Avenue.

Cafodd y trysor cudd ei ddarganfod am y tro cyntaf yn y 1930au yn ystod gwaith cloddio ar y safle. Yna cafodd ei ail orchuddio ac yna ei gloddio eto yn y 1980au, pan adeiladwyd y stad dai gyfagos. Credir i’r Baddondy gael ei adeiladu o amgylch 120 OC, gydag estyniad pellach yn 150 OC.

Mae yna rywfaint o ddadlau ynglŷn â’r rheswm dros ei leoliad ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, credir fod yna gysylltiad rhyngddo â’r llengoedd Rhufeinig yng Nghaer a Chaernarfon, gan ei fod yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng y ddau.

Gallai hefyd fod yn gysylltiedig â harbwr cyfagos, oherwydd ei leoliad arfordirol.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn rheoli a gofalu am y Baddonau Rhufeinig ac wedi ymgymryd â rhaglen o waith adfer yn yr ardal.

Roedd gwaith adfer diweddar a wnaed gan Ben Davies sy’n arbenigo mewn gwaith adfer ar y safle yn cynnwys adfer y gweddillion, gan fod y garreg wedi’i rhoi yn ôl yn ei lle gyda sment y tro diwethaf y gwnaed gwaith, nad yw’n ddelfrydol.

Mae Ben, sydd hefyd yn artist wedi bod yn tynnu hwn ac yn rhoi cerrig yn ôl yn eu lle gwreiddiol yn defnyddio morter calch. Morter calch fyddai wedi cael ei ddefnyddio yn hanesyddol ac mae’n caniatáu ar gyfer ehangu/cyfyngu yn ystod newid yn y tymheredd sy’n helpu i gadw’r garreg wreiddiol (atal craciau ac ati).

Mae tyllau hefyd wedi cael eu llenwi i atal dŵr rhag sefyll ar y gweddillion a difrod gan rew dilynol.

Roedd ceidwaid cefn gwlad ynghyd â gwirfoddolwyr a gefnogwyd gan y Rhaglen Natur er Budd Iechyd hefyd wedi gwneud gwaith i wella’r llwybrau troed yn y safle.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r safle pwysig hwn wirioneddol yn un o ‘drysorau cudd’ Prestatyn ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at adfer a diogelu’r ardal hanesyddol hon.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes i ymweld â’r Baddondy Rhufeinig i gael golwg ar y darn hwn o hanes sydd i’w weld yn glir ym Mhrestatyn.”

 

Adran Busnes

Eich cyfle i ddarparu gwybodaeth i gefnogi adfer a twf economaidd

Bu heriau sylweddol i'r gymuned fusnes yn Sir Ddinbych dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda'r heriau hyn, mae tirwedd economi Sir Ddinbych a’r modd mae busnesau'n gweithredu wedi esblygu.

Rydym yn cynnal arolwg busnes yn Sir Ddinbych, i gael mewnwelediad gwerthfawr i sut y gallwn lunio cefnogaeth i helpu ein hadferiad a thwf economaidd i’r dyfodol. Mae pob ymateb yn gwbl gyfrinachol.

Cliciwch yma i gymryd rhan yn yr arolwg: https://forms.office.com/e/CweL936aty

Canllawiau i Fusnesau Cynaliadwy

Adnodd i'ch busnes ar effeithlonrwydd ac arbed arian. Cofrestrwch heddiw i dderbyn copi am ddim.

Bwriad y Canllawiau i Fusnesau Cynaliadwy yw eich helpu i arbed arian trwy gynnig cyngor ynghylch sut y gall camau arbed ynni gynyddu effeithlonrwydd yn y cartref a'r gweithle, lleihau eich ôl troed carbon a gwella cynaliadwyedd.

https://www.gllm.ac.uk/cy/busnes/projects/green-digital-academy/the-sustainable-business-guide

Clwb Busnes Sir Ddinbych

Dod â busnesau Sir Ddinbych at ei gilydd. Mae aelodaeth yn rhoi mynediad i chi i ddigwyddiadau rhwydweithio, gweithdai, expos, a mwy - yn hollol rhad ac am ddim am y 12 mis cyntaf.

Am gyfnod cyfyngedig, gallwch hefyd gael mynediad at gyllid grant, gan ddarparu 3 mis o le gwaith gostyngol i chi yn y Rhyl. I ddarganfod mwy a hawlio eich aelodaeth am ddim, ewch i Clwb Busnes Sir Ddinbych

Addysg

Grant nawr ar agor i helpu gyda chostau ysgol

Mae'r Cyngor yn annog rhieni a gwarcheidwaid cymwys i beidio â cholli’r cyfle i gael hyd at £200 drwy’r Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru. Mae’r grant nawr ar agor ar gyfer ceisiadau ar gyfer blwyddyn ysgol 2024-2025. 

Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu gyda chostau gwisg ysgol, gan gynnwys esgidiau, dillad ac offer chwaraeon ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol, gweithgareddau ysgol megis dysgu offeryn cerdd neu hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys pinnau ysgrifennu, pensiliau a bagiau yn ogystal â gliniaduron a chyfrifiaduron.

Gall y grant hefyd fynd tuag at gost gweithgareddau ehangach megis y sgowtiaid a’r geidiau ac offer ar gyfer Gwobr Dug Caeredin.

Mae plant o deuluoedd sydd ar incymau is sy’n cael budd-dal penodol, yn gallu hawlio £125 y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol. Mae hyn yn cynnwys yr holl ddysgwyr yn y derbyn neu flwyddyn 1 i 11 (heblaw blwyddyn 7).

Oherwydd y costau ychwanegol y gall teuluoedd eu hwynebu pan fydd eu plant yn dechrau mewn ysgol uwchradd, mae £200 ar gael i ddisgyblion cymwys a fydd yn dechrau ym mlwyddyn 7.

Dywedodd Geraint Davies, Pennaeth Addysg y Cyngor:

“Mae’r Grant Hanfodion Ysgol, yn helpu i ostwng y baich ariannol ar deuluoedd wrth brynu gwisg ysgol ac offer, gan alluogi’r plant i fynd i’r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â’u cyfoedion.

Hyd yn oed os yw eich plentyn eisoes yn cael Prydau Ysgol am Ddim Cynradd Cyffredinol, mae dal angen i chi wneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol. Mae hefyd yn golygu y bydd eich ysgol yn cael arian ychwanegol.

Rydym yn gwybod fod teuluoedd yn teimlo’r pwysau oherwydd costau byw a gall y grant hwn wneud gwir wahaniaeth.”

Mae’r ffenestr ymgeisio ar gyfer cyllid eleni yn agor ar 1 Gorffennaf ac yn cau ar 31 Mai 2025.Gall pobl sy’n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, yn ogystal â’r Grant Hanfodion Ysgol, ddefnyddio’r un ffurflen gais ar-lein i ymgeisio am y ddau. Unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais, nid oes angen iddynt ymgeisio eto.

Os yw eich plentyn yn mynd i ysgol yn Sir Ddinbych, gallwch wneud cais ar-lein am grant trwy ymweld â'n tudalen grant hanfodion ysgolion.

Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

Bydd y gronfa yn cefnogi myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol ac sydd neu a fydd yn astudio Ffiseg, Cemeg, neu Fathemateg, neu unrhyw gyfuniad â phwnc gwyddonol cysylltiedig.

Pwy all wneud cais?

Gall unigolion sy’n astudio Ffiseg, Cemeg, neu Fathemateg, neu gwrs ag agwedd wyddonol arwyddocaol wneud cais am grant o £1,000 y flwyddyn, hyd at bedair blynedd ar gyfer y dulliau astudio canlynol:

  • Lefel israddedig
  • Lefel ôl-raddedig
  • HND
  • PhD

Mwy o wybodaeth a ffurflen gais: https://communityfoundationwales.org.uk/cy/grants/cronfa-gwyddoniaeth-gogledd-ddwyrain-cymru-unigolion/

 

Treftadaeth

Diwrnod Natur Tŷ Hanesyddol yn ysbrydoli pob oed

Ddiwrnod Natur yn Nantclwyd y Dre

Mae tŷ hanesyddol yn Rhuthun wedi helpu pob oed i ddysgu am sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth i natur leol.

Cynhaliodd Bionet eu hail Ddiwrnod Natur yn Nantclwyd y Dre, Rhuthun yn ddiweddar gan ddod â gwledd o addysg a gwybodaeth am natur ynghyd ar draws y rhanbarth.

Nod y diwrnod wnaeth ddenu bron i 300 o ymwelwyr i’r lleoliad hanesyddol oedd i helpu pobl ddeall rolau rhai o’r sefydliadau cadwraeth sy’n gofalu am natur ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.

Roedd pobl o bob oed yn gallu sgwrsio gyda chynrychiolwyr o Bionet, Prifysgol Caer, Planhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, Cysylltiadau’r Gylfinir Cymru, Natur er Budd Iechyd Cyngor Sir Ddinbych, Cyfeillion y Ddaear Rhuthun, Cadwraeth Glöynnod Byw Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Wild Ground.

Cynhaliwyd gweithgareddau hwyl i’r teulu drwy’r dydd gan gynnwys ‘creu eich gylfinir eich hun’, plannu eich blodau gwyllt eich hun, paentio wynebau, sesiynau adrodd straeon byw a gweithdai gwehyddu helyg.

Mae Bionet yn cwmpasu Sir y Fflint, Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam, ac yn gweithio i warchod, diogelu a gwella bioamrywiaeth yn y rhanbarth ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Dywedodd Clare Owen, Swyddog Prosiect BIONET: “Aeth y diwrnod yn dda iawn, roedd y tywydd yn dda ac roedd yn wych gweld pawb yn rhoi cynnig ar y gweithgareddau a gynhaliwyd a hefyd yn cymryd amser i ddysgu am y gwaith cadwraeth pwysig sy’n digwydd ar draws y rhanbarth Bionet. Ein nod oedd cysylltu pobl i natur ac yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd rydym yn bendant wedi cyflawni hynny. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gyfrannu ac i bawb oedd yn bresennol.”

Dywedodd Kate Thomson, rheolwr Tŷ Hanesyddol a Gerddi Nantclwyd y Dre: “Roedd yn wych croesawu cymaint o bobl, o bob oed, a oedd wir â diddordeb yn y sefydliadau cadwraeth ac eisiau gwybod sut y gallant gyfrannu at helpu i amddiffyn ein byd naturiol. Diolch yn fawr i bawb a fu o gymorth i’w wneud yn ddigwyddiad llwyddiannus yn Nantclwyd y Dre."

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae Diwrnod Natur Bionet yn dod yn rhan gadarn o’r calendr sydd wirioneddol yn amlygu gwaith sefydliadau i ddiogelu ein natur leol. Mae’n wych gweld gymaint o bobl yn cymryd diddordeb yn ystod y diwrnod yn yr holl waith mae’r sefydliadau i gyd yn ei wneud mewn lleoliad treftadaeth mor hyfryd ac rwy’n gobeithio y bydd pawb wnaeth ymweld yn cael eu hysbrydoli o ran sut y gallan nhw eu hunain wneud gwahaniaeth i ddyfodol natur."

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid