Bod yn Llywodraethwr Ysgol
![](/img/6802fe42/550/550)
Ydych chi erioed wedi ystyried bod yn llywodraethwr ysgol?
Mae ein hysgolion bob amser yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â'r Cyrff Llywodraethol. Gall unrhywun dros 18 oed fod yn llywodraethwr ysgol - does dim rhaid i chi fod yn rhiant sydd â phlentyn yn yr ysgol. Fodd bynnag, mae pob corff llywodraethu yn cynnwys llywodraethwyr sy'n rhieni, a gall fod yn ffordd werth chweil o fod yn rhan o ysgol eich plentyn.
Os ydych chi'n credu bod gennych yr ymrwymiad a'r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth, yna cofrestrwch eich diddordeb ar ein gwefan.