Gyda nifer cynyddol o breswylwyr yn defnyddio technoleg i weithio o gartref, a gyda llawer o wasanaethau, megis bancio a gwasanaethau trydan a nwy bellach arlein, mae’n hanfodol fod gan bobl wasanaeth dibynadwy i ddiwallu eu hanghenion dyddiol.
Dywedodd Philip Burrows, Swyddog Digidol Sir Ddinbych, “Mae gan rai preswylwyr gysylltiadau rhyngrwyd araf neu annibynadwy, a dyma ble gallaf i helpu. Gallaf wneud diagnosis o’r broblem yna gweithio gyda phreswylwyr i’w ddatrys, gyda’r nod o wella ansawdd y cysylltiad â’r rhyngrwyd.
“Rydym yn ymwybodol bod pobl yn profi ystod o broblemau, er enghraifft, gall rhai pethau fod yn weddol hawdd i’w datrys gydag ychydig newidiadau i’w rhwydwaith yn y cartref. Fodd bynnag, hwyrach bod eraill gyda phroblemau mwy cymhleth fydd angen cael eu datrys gyda chwmni allanol.”
Mae rhai cymunedau’n profi problemau sy’n gofyn am ymyriad gan Openreach, sef y cwmni sy’n cynnal a darparu’r brif system teleffoni a rhwydwaith rhyngrwyd o amgylch y DU. Fodd bynnag, ni all unigolion gysylltu ag Openreach yn uniongyrchol, ond fe all y Swyddog Digidol wneud hyn ar eu rhan.
Mae Philip yn mynd ymlaen i ddweud, “Gallaf i gysylltu gydag Openreach er mwyn ceisio lleihau’r straen wrth ddatrys y mathau yma o broblemau. Gallaf hefyd gynghori ar sut i sicrhau arian i sefydlu partneriaethau cymunedol ffibr os oes cymunedau penodol yn profi problemau tebyg. Rwy’n hapus i gynghori unrhyw breswyliwr neu fusnes yn Sir Ddinbych ar eu chyswllt rhyngrwyd.”
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, “Mae sicrhau gwell rhwydweithiau digidol yn angenrheidiol ac mae cefnogi ein cymunedau i wneud hyn yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor. Mae Sir Ddinbych wedi ymrwymo i helpu preswylwyr i ddeall y dewisiadau a’r datrysiadau ar gyfer gwell cysylltiad â’r rhyngrwyd – rhywbeth sy’n hanfodol yn yr oes ddigidol sydd ohoni. Rwy’n annog unrhyw un sy’n profi anawsterau gyda’u rhyngrwyd i gysylltu â Philip fydd yn gallu cynghori ar y camau gorau i’w cymryd.”
Os ydych chi’n profi cyflymder rhyngrwyd araf neu os ydych yn cael trafferth yn cysylltu gyda’r rhyngrwyd yn eich cartref, cysylltwch â Swyddog Digidol y Cyngor ar datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk.