Mae gwaith yn mynd rhagddo ar gadwraeth etifeddiaeth hen goeden ym mharc Rhuthun.
Diwedd flwyddyn diwethaf, achosodd Storm Darragh ddifrod i nifer o ardaloedd ar draws Sir Ddinbych gyda gwyntoedd cryfion, gan achosi i nifer o goed gwympo ar draws y sir.
Ym mharc Cae Ddôl, daeth Derwen yr amcangyfrifir ei bod hi’n 550 mlwydd oed i lawr yn y storm. Mae cenedlaethau o breswylwyr ac ymwelwyr â Rhuthun wedi mwynhau’r goeden oedd yn sefyll ger y dŵr.
Er mwyn cadw atgof y Dderwen ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae gwaith cywrain yn cael ei wneud ym Mhlanhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy.
Mae Tîm Coed a Thîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn arwain y ffordd er mwyn diogelu etifeddiaeth yr hen Dderwen.
Aethpwyd â thoriadau o’r Dderwen i’r blanhigfa goed ac mae’r staff yn bwriadu eu lluosogi ar y safle. Ymhen amser, gobeithir y bydd cyfle i blannu epil y Dderwen o amgylch Cae Ddôl a’r ardal leol.
Defnyddiwyd techneg trawsblannu hefyd â’r gobaith o gynhyrchu coed newydd o linach y tirnod cofiadwy hwn yn Rhuthun.
Gan fod y Dderwen wedi’i diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed y safle, mae dyletswydd ar y Cyngor dan ddeddfwriaeth y Gorchymyn i blannu Derwen arall yn yr un lle (bras), er mwyn sicrhau bod gwerth amwynder y Gorchymyn yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y Cyngor yn gwneud hyn cyn gynted ag sy’n ymarferol, pan fydd cynlluniau ar gyfer y goeden a’r safle wedi’u cwblhau.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Phencampwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn gwybod pa mor bwysig oedd yr hen Dderwen hon i nifer fawr o bobl ar draws y blynyddoedd, gan greu llawer o atgofion i’r rhai fu’n ymweld â’r parc. Yn y blanhigfa goed, rydym yn gweithio i sicrhau bod etifeddiaeth y brif goeden yn cael ei diogelu, er na ellid ei hachub ar ôl y storm yn anffodus. A gobeithio y gallwn ailgyflwyno ei llinach i Gae Ddôl un diwrnod.
Bwriad y Cyngor yw ymgysylltu gyda’r cyhoedd a chasglu gwybodaeth i sicrhau bod trigolion Rhuthun yn rhan o’r penderfyniad am ddyfodol y Dderwen.
Mae rhai o’r syniadau a gynigiwyd yn cynnwys achub gymaint ag sy’n bosibl o bren hyfyw o’r goeden, i’w storio a’i falu ar gyfer prosiectau yn y parc a’r ardal gyfagos yn y dyfodol a gadael bonyn y goeden lle y mae, fel cynefin gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt lleol, neu ei gerfio yn gerflun coffa yn ddiweddarach.