Mae gwarchodfa natur yn Y Rhyl yn agor mannau sy’n darparu golygfeydd newydd o’i fywyd gwyllt ar gyfer eleni.
Dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf mae Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor wedi parhau i weithio ar ddatblygu Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield i gefnogi natur leol a’r cymunedau o amgylch.
Fe anrhydeddwyd Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield yn ddiweddar yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2024 ar ôl derbyn y dosbarth ‘Ffynnu’ o dan wobrau ‘It’s Your Neighbourhood’ Cymru yn ei Blodau.
Mae ceidwaid cefn gwlad a gwirfoddolwyr, wedi eu cefnogi gan Natur er Budd Iechyd, wedi cyflawni gwaith sydd wedi arwain at agor perllan gymunedol a phwll, maent wedi gwneud gwelliannau i’r llwybrau, tynnu coed marw a thacluso’r golygfannau o amgylch y prif ddyfroedd.
Yn ogystal mae ardaloedd o amgylch y warchodfa natur wedi eu gwella i annog mwy o lygod pengrwn y dŵr i ymgartrefu ar y safle.
Yn ystod yr hydref a’r gaeaf mae gwaith wedi ei wneud i glirio’r mieri yn yr ardal wrth y llwybr beicio sy’n arwain i’r warchodfa natur o ochr Ysgol Tir Morfa. Fe symudwyd coed marw i alluogi mwy o olau i ddod i’r ardal i gefnogi’r natur sy’n goroesi, fe blannwyd coed pisgwydd a chymysgedd o’r gribell felen, gorudd a heuwyd cymysgedd o hadau blodau gwyllt y coetir i gefnogi peillwyr.
Oddi ar y llwybr mae’r tîm hefyd wedi creu twmpath cynefin i ddarparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt yn yr ardal.
Mae golygfannau newydd o’r pwll hefyd wedi eu hagor ar hyd y llwybr ar yr ochr ddeheuol i’r warchodfa natur drwy glirio mieri a choed marw.
Eglurodd y Ceidwad Cefn Gwlad Vitor Evora sut y gwnaed gwelliannau i’r olygfa gyntaf a geir o Bwll Brickfield wrth i ymwelwyr ddechrau cerdded ar y llwybr ar yr ochr ddeheuol o’r maes parcio.
“Fe fuom yn gweithio ar yr olygfa hon dros ddau gam, yn gyntaf fe aethom ati i glirio’r mieri a thacluso rhosod y cŵn, gallwch weld y gwahaniaeth oherwydd cynt nid oedd yna unrhyw laswellt, dim ond mieri, a nawr fe allwch chi weld y glaswellt.
“Nid ydym yn torri popeth, rydym eisiau pwysleisio hynny i bobl sy’n ymweld gan fod ein natur leol angen llawer o’r ardaloedd naturiol ar hyd y llwybr. Er enghraifft mae yna eiddew ar hyd y llwybr ac fe fyddwn yn ei adael gan ei fod yn darparu ardal gynefin dda iawn. Yr unig beth rydym eisiau ei wneud yw tynnu rhywogaethau sydd wedi marw a thocio ardaloedd eraill er mwyn galluogi planhigion a choed i ffynnu’n well yn y dyfodol.
“Bydd y golygfannau newydd hyn sydd gennym ni nawr, yn arbennig yn y gwanwyn a’r haf wrth i’r coed flaguro, wir yn cynnig lleoedd gwych i ymwelwyr i aros yma a mwynhau’r golygfeydd o’r bywyd gwyllt amrywiol sydd gan Bwll Brickfield ar ei ddyfroedd.”
Bydd ffensys cynaliadwy clwydi collen a wnaed yn y warchodfa natur yn cael eu gosod yn rhai o’r golygfannau a fydd hefyd yn cynnwys twmpathau o gynefinoedd eto i gefnogi bywyd gwyllt.
Mae gwaith hefyd wedi mynd rhagddo ar safle’r berllan gymunedol gyda’r pwll bach wedi ei agor i ymwelwyr o ganlyniad i dynnu ychydig o’r mieri ac mae cymysgedd o hadau blodau gwyllt y gwlypdir wedi eu hau ar y tir i helpu i roi hwb i drychfilod yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae’r warchodfa natur hon yn chwarae rhan bwysig o ran prosiectau a chefnogi bywyd gwyllt ac mae’n darparu man gwych i bobl ddod yma a chrwydro er budd i’w hiechyd. Rydym yn ddiolchgar i bawb fu’n ymwneud â hyn yn y warchodfa am barhau i ddatblygu’r ardal ac rwy’n edrych ymlaen at weld y safle wedi blodeuo’n llawn wrth i ni ddod i gyfnod y gwanwyn a’r haf eleni.”