Mae prosiect Bioamrywiaeth wedi rhoi bywyd newydd i ddyfodol rhywogaethau blodau gwyllt yn nhymor 2024.
Mae Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor wedi cofnodi cynnydd yn y mathau o degeirianau mewn dolydd blodau gwyllt yn y sir wedi i arolygon gael eu cynnal y llynedd.
Dechreuodd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y tîm yn 2019 gyda’r nod o adfer a chynyddu’r cynefinoedd sydd ar gael drwy’r sir i beillwyr a bywyd gwyllt.
Mae’r prosiect yn cynnwys ychydig dros 70 erw o ddolydd sy’n helpu ac yn diogelu natur leol ac yn cefnogi lles cymunedol ar hyd a lled y sir. Mae hefyd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru.
Yn 2024 fe ddarganfu’r tîm degeirian bera yn y ddôl y tu allan i Neuadd y Sir yn Rhuthun nad oedd erioed wedi ei gofnodi ar y safle cyn hynny.
Roedd hwn y cyntaf o don newydd o degeirianau ar draws y sir yn ôl Liam Blazey, Uwch Swyddog Bioamrywiaeth.
Esboniodd: “Roedd y llynedd yn flwyddyn dda i degeirianau ar ein safleoedd. "Cafodd tegeirianau Berra, tegeirianau brych cyffredin a thegeirianau gwenyn eu cofnodi ar nifer o'n safleoedd nad oedd ganddynt gofnodion o degeirianau cyn hynny. Roedd dosbarthiad y cofnodion newydd hyn wedi'u lledaenu o ogledd i dde'r sir.
Mae ein dolydd yn cael eu rheoli i helpu i ddod â darn pwysig o fioamrywiaeth yr ydym wedi’i golli dros y blynyddoedd yn ôl sy’n helpu byd natur i ffynnu a’n peillwyr i barhau i allu cynnal y gadwyn fwyd yr ydym ni fel bodau dynol yn dibynnu arni.
“Mae’r cynnydd mewn tegeirianau yn dangos fod hyn yn gweithio fel ffordd i drychfilod ac anifeiliaid ar draws y sir i helpu i ailboblogi’r safleoedd hyn drwy gludo hadau o un i’r llall.
“Mae hefyd yn dda iawn i’r cymunedau lleol yn yr ardaloedd hyn gan fod y dolydd hyn yn dod â phlanhigion yn ôl y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau unwaith eto ochr yn ochr â’r gefnogaeth gadarnhaol a ddaw yn eu sgil i natur leol.”
Ers i’r prosiect gychwyn mae’r Tîm Bioamrywiaeth wedi cofnodi 17,716 o gofnodion blodau gwyllt unigol ar draws dolydd y sir drwy gynnal 1,423 o arolygon safle.
Yn ystod tymor 2024 cafodd 297 o rywogaethau gwahanol eu cofnodi a oedd yn golygu fod 5,269 o flodau gwyllt unigol wedi eu cofnodi.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein dolydd yn hanfodol ar gyfer cefnogi natur leol sydd wedi dioddef effeithiau’r Newid yn yr Hinsawdd. Wrth i fwy o flodau gwyllt fel tegeirianau ddychwelyd i safleoedd fe fyddant yn helpu i gynyddu bioamrywiaeth a lliw fel y gall cymunedau eu mwynhau a hefyd cefnogi peillwyr sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau, yn well.
“O gofio’r amser maent ei angen i sefydlu, bydd ein holl ddolydd er lles preswylwyr a bywyd gwyllt i’w mwynhau nawr ac, yn bwysicach fyth, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol sef preswylwyr iau Sir Ddinbych.”