llais y sir

Newyddion

Tîm arlwyo yn ennill gwobr 'Gwasanaeth Arlwyo sy’n Perfformio Orau'

Aelodau o'r tîm Arlwyo yn derbyn y wobr

Cafodd gwasanaeth arlwyo y Cyngor ei enwebu gyda phum Awdurdod Lleol arall ar gyfer y wobr.

Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) yw un o’r asiantaethau meincnodi mwyaf blaenllaw ac maen nhw’n gweithio gyda mwy na 200 o Gynghorau ar draws y DU.

Mae gwasanaeth arlwyo Sir Ddinbych yn cyflwyno data meincnodi bob blwyddyn i APSE, a gaiff ei fesur yn erbyn data arall o bob cwr o’r DU. Mae’r data hwn yn cynnwys nifer y plant sy’n talu am brydau ysgol a’r nifer sy’n eu cael am ddim, hyfforddiant staff, perfformiad gwasanaeth a rheolaeth y gwasanaeth.

Ar ôl cyflwyno’r data i APSE, dyfarnwyd gwobr ‘Gwasanaeth Arlwyo sy’n Perfformio Orau’ i wasanaeth arlwyo’r Cyngor, a chawsant eu henwebu ar gyfer gwobr ‘Perfformiwr sydd wedi Gwella Orau’ ym maes gwasanaethau arlwyo hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Hoffwn longyfarch pawb sy’n rhan o’r gwasanaethau arlwyo am ennill y wobr wych hon. Mae’r wobr yn adlewyrchiad cywir o’r gwaith caled sy’n cael ei wneud bob dydd er mwyn darparu prydau iach a maethlon i blant ar draws y Sir.

Mae’n hanfodol darparu prydau ysgol ar gyfer dysgu a datblygiad plant, ac mae’r tîm arlwyo yn parhau i weithio gyda chyflenwyr lleol i ddarparu pryd poeth maethlon a chytbwys amser cinio. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i hybu bwyta’n iach ac mae’n gweithio’n galed gydag ysgolion i hyrwyddo iechyd a lles disgyblion.”

I weld eu bwydlen prydau ysgol, neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan prydau ysgol Sir Ddinbych.

Hwb iechyd a gofal cymdeithasol newydd ar ei ffordd i Ddinbych

Adeilad tri llawr gwyn gyda char yn y blaen

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cytuno i werthu adeilad swyddfa’r awdurdod yn Ninbych i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn amodol ar gytuno telerau rhwng y ddwy ochr.

Golyga hyn gall y bwrdd iechyd ddatblygu canolfan iechyd a gofal cymdeithasol sydd wir ei angen yn y dref ac a fydd o fantais i drigolion Dinbych a’r cyffiniau.

Mae cynlluniau ar gyfer y safle dan ddatblygiad ar hyn o bryd, ond mae’n debyg bydd yr Hwb newydd yn cynnwys gwasanaethau gofal cychwynnol, iechyd meddwl i oedolion, hwb amenedigol, gwasanaeth bydwreigiaeth a lle ar gyfer y Tîm Adnoddau Cymunedol.

Yn ogystal â chynnig gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwerthfawr yn y dref, bydd yr hwb lles newydd hwn yn cynnig ystod o fanteision lles cymdeithasol ac economaidd i’r ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y Cyngor: “Yn dilyn proses dendro anffurfiol gwnaed penderfyniad i waredu adeilad Caledfryn i’r bwrdd iechyd, yn amodol ar delerau sy’n cael eu cytuno rhwng y ddwy ochr. Mae’n wych gallu cadw’r adeilad hwn mewn perchnogaeth gyhoeddus ac yn well fyth y bydd yn dod â gwasanaethau hanfodol i gymuned leol.

“Fel rhan o’r gwaith yn y Cyngor i ddod o hyd i arbedion, gwnaed y penderfyniad i gau Caledfryn fis Rhagfyr 2023. Ers hynny, mae’r holl staff wedi symud i swyddfeydd eraill y Cyngor, sydd eisoes wedi arwain at arbedion. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld dyfodol newydd i Caledfryn fel canolbwynt i’r gymuned yn Ninbych a’r cyffiniau.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych: “Mae galw cynyddol a chyson ar dimau iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn y gymuned yn amhrisiadwy. Bydd yr hwb newydd hwn yn gaffaeliad gwirioneddol i dref Dinbych.”

Dywedodd Gareth Evans, cyfarwyddwr Cymunedau Iechyd Integredig (Canolog) gyda BIPBC: “Rwy’n falch iawn o allu datgelu’r newyddion hyn, sydd yn fy marn i, yn hynod gadarnhaol i drigolion Dinbych a’r cyffiniau.

“Mae’r rhan helaeth o’n gwaith yn digwydd yn y gymuned, felly rwy’n credu bod bachu ar y cyfle i symud o eiddo hen ffasiwn i leoliad gwell yn dangos ein hymrwymiad hirdymor i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl, yn nes at ble maen nhw’n byw.

“Bydd y datblygiad yn golygu y gallwn adleoli ein timau yn Nhrefeirian a Noddfa, sy’n gartref i Dîm Dyffryn Clwyd, i lety pwrpasol gwell unwaith caiff addasiadau eu cwblhau.

“Rydym yn ymwybodol iawn y golyga hyn y bydd angen i Sied Dynion Dinbych ddod o hyd i lety arall. Rydym wedi cysylltu â’r sefydliad cyn y cyhoeddiad hwn ac wedi ymrwymo i gynnig unrhyw gymorth ymarferol wrth iddynt chwilio am leoliad arall.

“Byddwn yn diweddaru’n holl gydweithwyr, partneriaid a’r cyhoedd am y camau nesaf gyda’r datblygiad. Yn dilyn cytundeb gan y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru’n ariannu’r pryniant, ac yn amodol ar gais cynllunio llwyddiannus i Gyngor Sir Ddinbych, disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yn y flwyddyn ariannol nesaf.”

Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ceisio dilysu'r cais cynllunio a gyflwynwyd yn ddiweddar ac yna'n cynnal proses ymgynghori statudol.

Gwasanaeth Gofal Ailalluogi i ehangu yn Sir Ddinbych

Van Gofal Ailalluogi

Mae'r Cyngor yn edrych ymlaen i ehangu ei wasanaeth ail-alluogi o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion, sy’n helpu preswylwyr i wneud pethau cyffredin megis gwisgo a choginio, trwy recriwtio 8 o Weithwyr Cymorth Ailalluogi newydd. Mae hyn yn ffurfio rhan o drawsnewidiad Sir Ddinbych er mwyn sicrhau Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a hefyd yn helpu i liniaru ychydig ar y pwysau ariannol y mae’r Cyngor yn ei wynebu.

Bydd y staff newydd yn cefnogi pobl sydd angen cymorth i adennill y sgiliau i wneud gweithgareddau bob dydd megis coginio prydau, golchi, gwisgo, symud o amgylch y cartref a mynd allan.

Mae nifer o resymau pam y gall pobl fod angen y cymorth hwn, megis yn dilyn cyfnod o salwch neu arhosiad yn yr ysbyty. Gall y gefnogaeth bara am gyn lleied ag wythnos neu bythefnos, ond gellir ei gynnig am hyd at chwe wythnos os oes angen.

Yn ogystal â’r gefnogaeth hon, mae’r Tîm Gofal a Chymorth yn cynnig Cymorth Cartref hirdymor pan fo angen.

Dywedodd Darylanne, Uwch Weithiwr Gofal a Chymorth yn y Cyngor: “Mae ein Gwasanaeth Ailalluogi yn helpu pobl i ddysgu neu ail-ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen i allu ymgysylltu mewn gweithgareddau bob dydd, a bod mor annibynnol â phosibl. Mae’n hynod o foddhaus gweld rhywun yn adennill eu hannibyniaeth ac yn dechrau byw eu bywydau yn llawn.”

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd Oedolion: “Mae gallu byw fel y dymunent yn eu cartrefi eu hunain yn hynod o bwysig i’n preswylwyr, ac rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i’w helpu gyda hyn. Gyda’r gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn, gallwn helpu preswylwyr i gael cyfle gwell o gynnal eu lles, yn ogystal ag aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am amser hirach. Rydym yn chwilio am bobl sydd eisiau helpu preswylwyr i ennill sgiliau er mwyn eu helpu i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi, i ymuno â’n tîm, a darganfod y rôl foddhaus o ofal am y rhai sydd angen ein help.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Yn aml mae preswylwyr sydd newydd gyrraedd adref o’r ysbyty neu ar ôl triniaeth angen cefnogaeth i addasu yn ôl i fywyd domestig, angen help gyda thasgau dyddiol megis coginio, glanhau neu efallai help i wneud eu siopa. Mae gan Weithiwr Cymorth Ailalluogi llwyddiannus sgiliau cyfathrebu da, empathi, ac yn bennaf, ymrwymiad gwirioneddol i helpu’r rhai sydd ei angen. Anogwn unrhyw un sy’n teimlo fel hyn i ddod i ymuno â’n tîm angerddol a gofalgar.”

Gellir dod o hyd i’r swydd ddisgrifiad llawn a manylion ymgeisio ar ein gwefan

I gael sgwrs anffurfiol am y rolau hyn, gall ymgeiswyr ymweld â Hafan Deg, Llys y Gofgolofn, Grange Road, Y Rhyl, LL18 4BS rhwng 4.30pm - 5.30pm ar ddydd Iau trwy gydol mis Ionawr a Chwefror.

Arolwg Budd-ddeiliad y Cyngor

Mae hi’n amser i chi ddweud eich dweud!

Mae Arolwg Budd-ddeiliad y Cyngor ar gyfer 2024-2025 wedi cael ei lansio. 

Rydym eisiau gwybod beth mae preswylwyr, busnesau, staff, aelodau etholedig a phartneriaid Sir Ddinbych yn ei feddwl am y gwaith rydym ni’n ei wneud yma yn y Cyngor. Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn cymryd ychydig o amser i gwblhau’r arolwg. Mae’r arolwg yn gyfle gwych i’r Cyngor ddeall a dysgu gan farn pobl eraill, felly gobeithio y gallwch chi ein helpu ni drwy ateb ychydig o gwestiynau. Mae hefyd yn ffordd wych i chi ddysgu mwy am y themâu sydd yn rhan o Gynllun Corfforaethol presennol y Cyngor.

Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan.

Dod i adnabod eich cymuned

Wrth ddatblygu syniad prosiect cymunedol, mae’n bwysig fod gennych ddealltwriaeth dda o'r ardal leol neu'r demograffig sydd i elwa. Mae hefyd yn fanteisiol defnyddio'r wybodaeth hon gan ddefnyddio ystadegau allweddol i helpu i arddangos yr angen am y prosiect i gyllidwyr.

Mae gwybodaeth ar ein gwefan a fydd yn eich helpu, gan gynnwys mapiau ar-lein a fydd yn eich galluogi i archwilio amrywiaeth o gyfleusterau, gwasanaethau a gwybodaeth am dir ledled Sir Ddinbych yn weledol.

Mapiau ar-lein

Mapiau ar-lein

Mae’n mapiau ar-lein yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Eich gwybodaeth Cyngor (gan gynnwys gwybodaeth etholaethau San Steffan), wardiau sirol, gorsafoedd pleidleisio, adeiladau cyngor, Aelodau Senedd Cymru a gwybodaeth am Gynghorau Dinasoedd Trefi a Chymuned
  • Lleoliadau Parciau a Banciau Ailgylchu
  • Gwybodaeth Cyngor i Ddefnyddwyr
  • Cyfleusterau addysg
  • Gwybodaeth am gyfleusterau hamdden, toiledau cyhoeddus a hawliau tramwy cyhoeddus
  • Cyfleusterau Llyfrgell ac Archifau
  • Gwybodaeth parcio, ffyrdd a theithio
  • Rheoliadau Adeiladu a Chynllunio (gan gynnwys ardaloedd cadwraeth, adeiladau rhestredig, cynllun datblygu lleol, ceisiadau cynllunio a gorchmynion diogelu coed)

Cyngor yn ymateb i nifer o alwadau am goed wedi disgyn yn ystod storm

Coed wedi disgyn

Yn ystod y storm penwythnos diwethaf, a welodd gwyntoedd cryf a chawodydd glaw trwm, ymatebodd y Cyngor i nifer o broblemau am goed a syrthiodd, ac amhariadau eraill ar rwydwaith ffyrdd y Sir.

Roedd timau priffyrdd y Cyngor yn barod nos Iau, ac yn gweithio y tu allan i oriau arferol i baratoi ar gyfer ymateb i alwadau.

Ymatebodd y tîm i 29 o alwadau o goed wedi syrthio a gofnodwyd trwy gydol dydd Gwener ac i mewn i’r penwythnos, gyda thîm priffyrdd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid lleol i glirio ffyrdd o amgylch y Sir gyfan yn gyflym. Ynghyd â’r 29 galwad am goed wedi syrthio, ymatebodd y tîm i ddigwyddiadau llai difrifol hefyd, yn nol yr angen ar hyd rhwydwaith ffyrdd y Sir.

Dywedodd Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol:

“Roedd y tîm priffyrdd yn barod ar gyfer y tywydd garw diweddar hwn, ac wedi gweithio mewn amodau gwyntog ac anffafriol iawn i sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd yn aros yn agored ac yn ddiogel trwy gydol y cyfnod rhybudd tywydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Hoffwn ddiolch i’n tîm priffyrdd, yn ogystal â’r partneriaid rydyn ni’n gweithio gyda am eu hymateb cyflym i nifer o adroddiadau am goed wedi syrthio trwy gydol y penwythnos. Maen nhw’n helpu i gadw ein ffyrdd yn ddiogel, gan wneud yn siŵr bod ein ffyrdd yn glir a gellir eu pasio.”

Y Cyngor yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ystadau Cymru

Partneriaid y prosiect y tu allan i Lys Owain

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod y Cyngor wedi dod yn ail yng Ngwobrau Ystadau Cymru 2024 yn dilyn cwblhau gwaith adfywio yng nghanol tref Corwen.

Dathlwyd y gwobrau prosiectau sy’n dangos rhagoriaeth mewn rheolaeth strategol ystâd sector cyhoeddus Cymru drwy hyrwyddo cydweithio ac arfer da.

Cydnabuwyd y Cyngor am eu gwaith cydweithio gyda Chadwyn Clwyd, Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, Cyngor Tref Corwen ac aelodau lleol i gyflawni ystod o brosiectau gyda’r nod o gefnogi twf economaidd lleol, creu swyddi a chefnogi’r synnwyr o falchder lleol yng Nghorwen.

Roedd y prosiectau hyn yn rhan o fuddsoddiad £13 miliwn ar draws Dyffryn Dyfrdwy a ariannwyd gan Lywodraeth y DU. Mae’r cyllid, a sicrhawyd yn 2021 drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Glandŵr Cymru, yn ceisio gwneud y mwyaf o botensial yr economi ymwelwyr yn dilyn COVID-19 a hynny yn Nyffryn Dyfrdwy a’r ardal o amgylch.

Cafodd £3.8M o’r cyllid hwn ei ddyrannu ar gyfer buddsoddi mewn 9 prosiect yng nghymunedau Corwen, Llangollen a Llandysilio yn Sir Dinbych a’r ardaloedd o amgylch.

Roedd y prosiectau hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen i gwblhau’r Rheilffordd Dreftadaeth newydd i’r dref, cyllid ar gyfer y fenter gymdeithasol Cadwyn Adfywio i gwblhau gwaith adnewyddu allanol ar adeilad Canolfan Llys Owain ac ystod o welliannau parth cyhoeddus i’r stryd fawr a’r maes parcio yng Nghorwen.

Roedd y newidiadau parth cyhoeddus yn cynnwys adfer a disodli dodrefn stryd, lloches fws newydd, gosod deg o fannau gwefru cerbydau trydan newydd ac adnewyddu’r bloc toiledau ym maes parcio Lôn Las sydd nawr o dan reolaeth Cyngor Tref Corwen.

Yn y seremoni, cyflwynwyd y wobr i’r swyddogion gan Jayne Bryant, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’n braf iawn gweld gwaith caled ein swyddogion a phartneriaid yn cael ei gydnabod am y gwaith gwych maen nhw wedi’i wneud yng Nghorwen. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid dros y tair blynedd diwethaf i ddod â gwelliannau cyffrous i’r ardal leol a hoffem ddiolch i bawb am eu gwaith caled drwy gydol y prosiect. Hoffwn hefyd ddiolch i’r gymuned am eu cydweithrediad ac amynedd dros y tair blynedd diwethaf pan oedd y prosiect y cael ei gwblhau.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan.

Symiau Cymudol Mannau Agored

Mae Symiau Cymudol Mannau Agored y Cyngor bellach ar agor i gymunedau ar draws y Sir. 

Mae cyfanswm o £318,970.09 o gyllid ar gael i wella mannau agored ac ardaloedd chware yn Sir Ddinbych. Mae’r gronfa ar agor i gynghorau tref a chymuned, grwpiau gwirfoddol neu grwpiau gwirfoddol ac y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gyllid ydy 7 Ebrill 2025.

I ddarganfod a oes gan eich ardal gyllid ar gael, ewch i'n gwefan

Os hoffech gefnogaeth i ddatblygu prosiect cymunedol neu syniad, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol drwy e-bost: datblygiadcymunedol@sirddinbych.gov.uk

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid