Cafodd gwasanaeth arlwyo y Cyngor ei enwebu gyda phum Awdurdod Lleol arall ar gyfer y wobr.
Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) yw un o’r asiantaethau meincnodi mwyaf blaenllaw ac maen nhw’n gweithio gyda mwy na 200 o Gynghorau ar draws y DU.
Mae gwasanaeth arlwyo Sir Ddinbych yn cyflwyno data meincnodi bob blwyddyn i APSE, a gaiff ei fesur yn erbyn data arall o bob cwr o’r DU. Mae’r data hwn yn cynnwys nifer y plant sy’n talu am brydau ysgol a’r nifer sy’n eu cael am ddim, hyfforddiant staff, perfformiad gwasanaeth a rheolaeth y gwasanaeth.
Ar ôl cyflwyno’r data i APSE, dyfarnwyd gwobr ‘Gwasanaeth Arlwyo sy’n Perfformio Orau’ i wasanaeth arlwyo’r Cyngor, a chawsant eu henwebu ar gyfer gwobr ‘Perfformiwr sydd wedi Gwella Orau’ ym maes gwasanaethau arlwyo hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Hoffwn longyfarch pawb sy’n rhan o’r gwasanaethau arlwyo am ennill y wobr wych hon. Mae’r wobr yn adlewyrchiad cywir o’r gwaith caled sy’n cael ei wneud bob dydd er mwyn darparu prydau iach a maethlon i blant ar draws y Sir.
Mae’n hanfodol darparu prydau ysgol ar gyfer dysgu a datblygiad plant, ac mae’r tîm arlwyo yn parhau i weithio gyda chyflenwyr lleol i ddarparu pryd poeth maethlon a chytbwys amser cinio. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i hybu bwyta’n iach ac mae’n gweithio’n galed gydag ysgolion i hyrwyddo iechyd a lles disgyblion.”
I weld eu bwydlen prydau ysgol, neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan prydau ysgol Sir Ddinbych.