llais y sir

Newyddion

Tîm arlwyo yn ennill gwobr 'Gwasanaeth Arlwyo sy’n Perfformio Orau'

Aelodau o'r tîm Arlwyo yn derbyn y wobr

Cafodd gwasanaeth arlwyo y Cyngor ei enwebu gyda phum Awdurdod Lleol arall ar gyfer y wobr.

Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) yw un o’r asiantaethau meincnodi mwyaf blaenllaw ac maen nhw’n gweithio gyda mwy na 200 o Gynghorau ar draws y DU.

Mae gwasanaeth arlwyo Sir Ddinbych yn cyflwyno data meincnodi bob blwyddyn i APSE, a gaiff ei fesur yn erbyn data arall o bob cwr o’r DU. Mae’r data hwn yn cynnwys nifer y plant sy’n talu am brydau ysgol a’r nifer sy’n eu cael am ddim, hyfforddiant staff, perfformiad gwasanaeth a rheolaeth y gwasanaeth.

Ar ôl cyflwyno’r data i APSE, dyfarnwyd gwobr ‘Gwasanaeth Arlwyo sy’n Perfformio Orau’ i wasanaeth arlwyo’r Cyngor, a chawsant eu henwebu ar gyfer gwobr ‘Perfformiwr sydd wedi Gwella Orau’ ym maes gwasanaethau arlwyo hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Hoffwn longyfarch pawb sy’n rhan o’r gwasanaethau arlwyo am ennill y wobr wych hon. Mae’r wobr yn adlewyrchiad cywir o’r gwaith caled sy’n cael ei wneud bob dydd er mwyn darparu prydau iach a maethlon i blant ar draws y Sir.

Mae’n hanfodol darparu prydau ysgol ar gyfer dysgu a datblygiad plant, ac mae’r tîm arlwyo yn parhau i weithio gyda chyflenwyr lleol i ddarparu pryd poeth maethlon a chytbwys amser cinio. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i hybu bwyta’n iach ac mae’n gweithio’n galed gydag ysgolion i hyrwyddo iechyd a lles disgyblion.”

I weld eu bwydlen prydau ysgol, neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan prydau ysgol Sir Ddinbych.

Hwb iechyd a gofal cymdeithasol newydd ar ei ffordd i Ddinbych

Adeilad tri llawr gwyn gyda char yn y blaen

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cytuno i werthu adeilad swyddfa’r awdurdod yn Ninbych i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn amodol ar gytuno telerau rhwng y ddwy ochr.

Golyga hyn gall y bwrdd iechyd ddatblygu canolfan iechyd a gofal cymdeithasol sydd wir ei angen yn y dref ac a fydd o fantais i drigolion Dinbych a’r cyffiniau.

Mae cynlluniau ar gyfer y safle dan ddatblygiad ar hyn o bryd, ond mae’n debyg bydd yr Hwb newydd yn cynnwys gwasanaethau gofal cychwynnol, iechyd meddwl i oedolion, hwb amenedigol, gwasanaeth bydwreigiaeth a lle ar gyfer y Tîm Adnoddau Cymunedol.

Yn ogystal â chynnig gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwerthfawr yn y dref, bydd yr hwb lles newydd hwn yn cynnig ystod o fanteision lles cymdeithasol ac economaidd i’r ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y Cyngor: “Yn dilyn proses dendro anffurfiol gwnaed penderfyniad i waredu adeilad Caledfryn i’r bwrdd iechyd, yn amodol ar delerau sy’n cael eu cytuno rhwng y ddwy ochr. Mae’n wych gallu cadw’r adeilad hwn mewn perchnogaeth gyhoeddus ac yn well fyth y bydd yn dod â gwasanaethau hanfodol i gymuned leol.

“Fel rhan o’r gwaith yn y Cyngor i ddod o hyd i arbedion, gwnaed y penderfyniad i gau Caledfryn fis Rhagfyr 2023. Ers hynny, mae’r holl staff wedi symud i swyddfeydd eraill y Cyngor, sydd eisoes wedi arwain at arbedion. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld dyfodol newydd i Caledfryn fel canolbwynt i’r gymuned yn Ninbych a’r cyffiniau.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych: “Mae galw cynyddol a chyson ar dimau iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn y gymuned yn amhrisiadwy. Bydd yr hwb newydd hwn yn gaffaeliad gwirioneddol i dref Dinbych.”

Dywedodd Gareth Evans, cyfarwyddwr Cymunedau Iechyd Integredig (Canolog) gyda BIPBC: “Rwy’n falch iawn o allu datgelu’r newyddion hyn, sydd yn fy marn i, yn hynod gadarnhaol i drigolion Dinbych a’r cyffiniau.

“Mae’r rhan helaeth o’n gwaith yn digwydd yn y gymuned, felly rwy’n credu bod bachu ar y cyfle i symud o eiddo hen ffasiwn i leoliad gwell yn dangos ein hymrwymiad hirdymor i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl, yn nes at ble maen nhw’n byw.

“Bydd y datblygiad yn golygu y gallwn adleoli ein timau yn Nhrefeirian a Noddfa, sy’n gartref i Dîm Dyffryn Clwyd, i lety pwrpasol gwell unwaith caiff addasiadau eu cwblhau.

“Rydym yn ymwybodol iawn y golyga hyn y bydd angen i Sied Dynion Dinbych ddod o hyd i lety arall. Rydym wedi cysylltu â’r sefydliad cyn y cyhoeddiad hwn ac wedi ymrwymo i gynnig unrhyw gymorth ymarferol wrth iddynt chwilio am leoliad arall.

“Byddwn yn diweddaru’n holl gydweithwyr, partneriaid a’r cyhoedd am y camau nesaf gyda’r datblygiad. Yn dilyn cytundeb gan y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru’n ariannu’r pryniant, ac yn amodol ar gais cynllunio llwyddiannus i Gyngor Sir Ddinbych, disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yn y flwyddyn ariannol nesaf.”

Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ceisio dilysu'r cais cynllunio a gyflwynwyd yn ddiweddar ac yna'n cynnal proses ymgynghori statudol.

Gwasanaeth Gofal Ailalluogi i ehangu yn Sir Ddinbych

Van Gofal Ailalluogi

Mae'r Cyngor yn edrych ymlaen i ehangu ei wasanaeth ail-alluogi o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion, sy’n helpu preswylwyr i wneud pethau cyffredin megis gwisgo a choginio, trwy recriwtio 8 o Weithwyr Cymorth Ailalluogi newydd. Mae hyn yn ffurfio rhan o drawsnewidiad Sir Ddinbych er mwyn sicrhau Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a hefyd yn helpu i liniaru ychydig ar y pwysau ariannol y mae’r Cyngor yn ei wynebu.

Bydd y staff newydd yn cefnogi pobl sydd angen cymorth i adennill y sgiliau i wneud gweithgareddau bob dydd megis coginio prydau, golchi, gwisgo, symud o amgylch y cartref a mynd allan.

Mae nifer o resymau pam y gall pobl fod angen y cymorth hwn, megis yn dilyn cyfnod o salwch neu arhosiad yn yr ysbyty. Gall y gefnogaeth bara am gyn lleied ag wythnos neu bythefnos, ond gellir ei gynnig am hyd at chwe wythnos os oes angen.

Yn ogystal â’r gefnogaeth hon, mae’r Tîm Gofal a Chymorth yn cynnig Cymorth Cartref hirdymor pan fo angen.

Dywedodd Darylanne, Uwch Weithiwr Gofal a Chymorth yn y Cyngor: “Mae ein Gwasanaeth Ailalluogi yn helpu pobl i ddysgu neu ail-ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen i allu ymgysylltu mewn gweithgareddau bob dydd, a bod mor annibynnol â phosibl. Mae’n hynod o foddhaus gweld rhywun yn adennill eu hannibyniaeth ac yn dechrau byw eu bywydau yn llawn.”

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd Oedolion: “Mae gallu byw fel y dymunent yn eu cartrefi eu hunain yn hynod o bwysig i’n preswylwyr, ac rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i’w helpu gyda hyn. Gyda’r gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn, gallwn helpu preswylwyr i gael cyfle gwell o gynnal eu lles, yn ogystal ag aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am amser hirach. Rydym yn chwilio am bobl sydd eisiau helpu preswylwyr i ennill sgiliau er mwyn eu helpu i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi, i ymuno â’n tîm, a darganfod y rôl foddhaus o ofal am y rhai sydd angen ein help.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Yn aml mae preswylwyr sydd newydd gyrraedd adref o’r ysbyty neu ar ôl triniaeth angen cefnogaeth i addasu yn ôl i fywyd domestig, angen help gyda thasgau dyddiol megis coginio, glanhau neu efallai help i wneud eu siopa. Mae gan Weithiwr Cymorth Ailalluogi llwyddiannus sgiliau cyfathrebu da, empathi, ac yn bennaf, ymrwymiad gwirioneddol i helpu’r rhai sydd ei angen. Anogwn unrhyw un sy’n teimlo fel hyn i ddod i ymuno â’n tîm angerddol a gofalgar.”

Gellir dod o hyd i’r swydd ddisgrifiad llawn a manylion ymgeisio ar ein gwefan

I gael sgwrs anffurfiol am y rolau hyn, gall ymgeiswyr ymweld â Hafan Deg, Llys y Gofgolofn, Grange Road, Y Rhyl, LL18 4BS rhwng 4.30pm - 5.30pm ar ddydd Iau trwy gydol mis Ionawr a Chwefror.

Arolwg Budd-ddeiliad y Cyngor

Mae hi’n amser i chi ddweud eich dweud!

Mae Arolwg Budd-ddeiliad y Cyngor ar gyfer 2024-2025 wedi cael ei lansio. 

Rydym eisiau gwybod beth mae preswylwyr, busnesau, staff, aelodau etholedig a phartneriaid Sir Ddinbych yn ei feddwl am y gwaith rydym ni’n ei wneud yma yn y Cyngor. Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn cymryd ychydig o amser i gwblhau’r arolwg. Mae’r arolwg yn gyfle gwych i’r Cyngor ddeall a dysgu gan farn pobl eraill, felly gobeithio y gallwch chi ein helpu ni drwy ateb ychydig o gwestiynau. Mae hefyd yn ffordd wych i chi ddysgu mwy am y themâu sydd yn rhan o Gynllun Corfforaethol presennol y Cyngor.

Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan.

Dod i adnabod eich cymuned

Wrth ddatblygu syniad prosiect cymunedol, mae’n bwysig fod gennych ddealltwriaeth dda o'r ardal leol neu'r demograffig sydd i elwa. Mae hefyd yn fanteisiol defnyddio'r wybodaeth hon gan ddefnyddio ystadegau allweddol i helpu i arddangos yr angen am y prosiect i gyllidwyr.

Mae gwybodaeth ar ein gwefan a fydd yn eich helpu, gan gynnwys mapiau ar-lein a fydd yn eich galluogi i archwilio amrywiaeth o gyfleusterau, gwasanaethau a gwybodaeth am dir ledled Sir Ddinbych yn weledol.

Mapiau ar-lein

Mapiau ar-lein

Mae’n mapiau ar-lein yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Eich gwybodaeth Cyngor (gan gynnwys gwybodaeth etholaethau San Steffan), wardiau sirol, gorsafoedd pleidleisio, adeiladau cyngor, Aelodau Senedd Cymru a gwybodaeth am Gynghorau Dinasoedd Trefi a Chymuned
  • Lleoliadau Parciau a Banciau Ailgylchu
  • Gwybodaeth Cyngor i Ddefnyddwyr
  • Cyfleusterau addysg
  • Gwybodaeth am gyfleusterau hamdden, toiledau cyhoeddus a hawliau tramwy cyhoeddus
  • Cyfleusterau Llyfrgell ac Archifau
  • Gwybodaeth parcio, ffyrdd a theithio
  • Rheoliadau Adeiladu a Chynllunio (gan gynnwys ardaloedd cadwraeth, adeiladau rhestredig, cynllun datblygu lleol, ceisiadau cynllunio a gorchmynion diogelu coed)

Cyngor yn ymateb i nifer o alwadau am goed wedi disgyn yn ystod storm

Coed wedi disgyn

Yn ystod y storm penwythnos diwethaf, a welodd gwyntoedd cryf a chawodydd glaw trwm, ymatebodd y Cyngor i nifer o broblemau am goed a syrthiodd, ac amhariadau eraill ar rwydwaith ffyrdd y Sir.

Roedd timau priffyrdd y Cyngor yn barod nos Iau, ac yn gweithio y tu allan i oriau arferol i baratoi ar gyfer ymateb i alwadau.

Ymatebodd y tîm i 29 o alwadau o goed wedi syrthio a gofnodwyd trwy gydol dydd Gwener ac i mewn i’r penwythnos, gyda thîm priffyrdd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid lleol i glirio ffyrdd o amgylch y Sir gyfan yn gyflym. Ynghyd â’r 29 galwad am goed wedi syrthio, ymatebodd y tîm i ddigwyddiadau llai difrifol hefyd, yn nol yr angen ar hyd rhwydwaith ffyrdd y Sir.

Dywedodd Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol:

“Roedd y tîm priffyrdd yn barod ar gyfer y tywydd garw diweddar hwn, ac wedi gweithio mewn amodau gwyntog ac anffafriol iawn i sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd yn aros yn agored ac yn ddiogel trwy gydol y cyfnod rhybudd tywydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Hoffwn ddiolch i’n tîm priffyrdd, yn ogystal â’r partneriaid rydyn ni’n gweithio gyda am eu hymateb cyflym i nifer o adroddiadau am goed wedi syrthio trwy gydol y penwythnos. Maen nhw’n helpu i gadw ein ffyrdd yn ddiogel, gan wneud yn siŵr bod ein ffyrdd yn glir a gellir eu pasio.”

Y Cyngor yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ystadau Cymru

Partneriaid y prosiect y tu allan i Lys Owain

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod y Cyngor wedi dod yn ail yng Ngwobrau Ystadau Cymru 2024 yn dilyn cwblhau gwaith adfywio yng nghanol tref Corwen.

Dathlwyd y gwobrau prosiectau sy’n dangos rhagoriaeth mewn rheolaeth strategol ystâd sector cyhoeddus Cymru drwy hyrwyddo cydweithio ac arfer da.

Cydnabuwyd y Cyngor am eu gwaith cydweithio gyda Chadwyn Clwyd, Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, Cyngor Tref Corwen ac aelodau lleol i gyflawni ystod o brosiectau gyda’r nod o gefnogi twf economaidd lleol, creu swyddi a chefnogi’r synnwyr o falchder lleol yng Nghorwen.

Roedd y prosiectau hyn yn rhan o fuddsoddiad £13 miliwn ar draws Dyffryn Dyfrdwy a ariannwyd gan Lywodraeth y DU. Mae’r cyllid, a sicrhawyd yn 2021 drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Glandŵr Cymru, yn ceisio gwneud y mwyaf o botensial yr economi ymwelwyr yn dilyn COVID-19 a hynny yn Nyffryn Dyfrdwy a’r ardal o amgylch.

Cafodd £3.8M o’r cyllid hwn ei ddyrannu ar gyfer buddsoddi mewn 9 prosiect yng nghymunedau Corwen, Llangollen a Llandysilio yn Sir Dinbych a’r ardaloedd o amgylch.

Roedd y prosiectau hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen i gwblhau’r Rheilffordd Dreftadaeth newydd i’r dref, cyllid ar gyfer y fenter gymdeithasol Cadwyn Adfywio i gwblhau gwaith adnewyddu allanol ar adeilad Canolfan Llys Owain ac ystod o welliannau parth cyhoeddus i’r stryd fawr a’r maes parcio yng Nghorwen.

Roedd y newidiadau parth cyhoeddus yn cynnwys adfer a disodli dodrefn stryd, lloches fws newydd, gosod deg o fannau gwefru cerbydau trydan newydd ac adnewyddu’r bloc toiledau ym maes parcio Lôn Las sydd nawr o dan reolaeth Cyngor Tref Corwen.

Yn y seremoni, cyflwynwyd y wobr i’r swyddogion gan Jayne Bryant, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’n braf iawn gweld gwaith caled ein swyddogion a phartneriaid yn cael ei gydnabod am y gwaith gwych maen nhw wedi’i wneud yng Nghorwen. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid dros y tair blynedd diwethaf i ddod â gwelliannau cyffrous i’r ardal leol a hoffem ddiolch i bawb am eu gwaith caled drwy gydol y prosiect. Hoffwn hefyd ddiolch i’r gymuned am eu cydweithrediad ac amynedd dros y tair blynedd diwethaf pan oedd y prosiect y cael ei gwblhau.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan.

Symiau Cymudol Mannau Agored

Mae Symiau Cymudol Mannau Agored y Cyngor bellach ar agor i gymunedau ar draws y Sir. 

Mae cyfanswm o £318,970.09 o gyllid ar gael i wella mannau agored ac ardaloedd chware yn Sir Ddinbych. Mae’r gronfa ar agor i gynghorau tref a chymuned, grwpiau gwirfoddol neu grwpiau gwirfoddol ac y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gyllid ydy 7 Ebrill 2025.

I ddarganfod a oes gan eich ardal gyllid ar gael, ewch i'n gwefan

Os hoffech gefnogaeth i ddatblygu prosiect cymunedol neu syniad, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol drwy e-bost: datblygiadcymunedol@sirddinbych.gov.uk

Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Cerdded a mwynhau uchafbwyntiau Dyffryn Dyfrdwy

Chamlas Llangollen

Mae Ceidwaid Cefn Gwlad Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arwain cyfres o deithiau cerdded tywys yn Nyffryn Dyfrdwy.

Gan groesi rhannau o dde Sir Ddinbych, fe edmygir Dyffryn Dyfrdwy am ei thirwedd a’i golygfeydd anhygoel sy’n gymysgedd o rostir grug, creigiau calch, coedwigoedd hynafol a chopâu gwyllt, ac afon Dyfrdwy’n llifo’n fawreddog drwy ganol popeth.

Bu’r tirluniau hardd, copâu gwefreiddiol a’r trefi a phentrefi hanesyddol yn ysbrydoliaeth ar gyfer chwedlau, llenyddiaeth, celf a cherddoriaeth ers canrifoedd lawer.

Mae Ceidwaid y Tirwedd Cenedlaethol, gyda chefnogaeth gan Natur er Budd Iechyd, yn arwain teithiau tywys rheolaidd yn Nyffryn Dyfrdwy, er mwyn amlygu’r gwaith maent yn ei wneud i warchod a diogelu’r ardal, a thywys pobl i fanteisio ar y tirweddau a’r dreftadaeth sy’n ei gwneud mor arbennig, a mwynhau’r buddion ychwanegol o fod allan yn yr awyr agored.

Fe fydd y daith dywys nesaf yn mwynhau’r Lili Wen Fach yn Eglwys Sant Tysilio, ddydd Iau 6 Chwefror rhwng 1pm a 3pm. Y man cyfarfod fydd Maes Llantysilio. Gan edrych allan dros Rhaeadr y Bedol, mae Eglwys Sant Tysilio yn enwog am garped o Lili Wen Fach, sydd yn ôl y sôn yn dyddio o’r 13eg Ganrif.

Ddydd Mawrth 11 Mawrth, rhwng 1pm a 3pm, fe fydd Ceidwaid yn arwain taith dywys o amgylch Gwarchodfa Natur Wenffrwd a Chamlas Llangollen. Mae’r warchodfa yn ymdroelli drwy amrywiaeth o gynefinoedd ac yn rhoi golygfeydd hardd ar draws yr Afon Dyfrdwy. Y man cyfarfod ydi Gwarchodfa Natur Wenffrwd.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych: “Mae mynd allan i’r awyr agored mor fanteisiol ar gyfer hybu iechyd corfforol a meddyliol a byddwn yn annog unrhyw un i ymuno â’r teithiau tywys gwych hyn gan y ceidwaid i ddysgu am reolaeth a hanes ardal Dyffryn Dyfrdwy.”

I gael rhagor o fanylion ac i archebu lle ar y teithiau cerdded, e-bostiwch chloe.webster@sirddinbych.gov.uk.

Bryngaer hanesyddol yn edrych dros ddyfodol newydd i natur

Caer Drewyn

Mae cofeb hanesyddol yng Nghorwen yn cefnogi gwaith i helpu dyfodol cenedlaethau o natur a chymunedau.

Mae timau Newid Hinsawdd a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i ddarparu cefnogaeth newydd i natur ac ymwelwyr ei mwynhau o dan lygad barcud cofeb Bryngaer Oes Haearn Caer Drewyn.

Mae dros 1,500 o goed wedi’u plannu ar y llethrau isaf o dan y fryngaer er mwyn helpu i greu cynefinoedd newydd llawn rhywogaethau amrywiol i gefnogi’r byd natur lleol.

Mae gwrych 190 metr o hyd wedi’i greu gyda chymorth disgyblion Ysgol Caer Drewyn, sy’n cynnwys dros 1,000 o goed chwip gan gynnwys y Ddraenen Wen, Y Ddraenen Ddu, Cyll, Celyn, Rhosyn Gwyllt, Rhosyn Bwrned, Gellyg Gwyllt ac Afalau Surion.

Mae'r gwrych hefyd yn cynnwys 19 o goed maint safonol gan gynnwys Derw Digoes, Derw Coesynnog, Bedw Arian, Bedw Cyffredin a Chriafolen.

Wrth ymyl y clawdd mae 389 o goed wedi’u plannu ar 2.4 hectar o dir. Bydd y safle newydd hwn yn cynnwys coed Criafolen, Bedw Arian, Bedw Cyffredin, Draenen Wen, Rhosyn Gwyllt, Cyll, Draenen Ddu, Celyn, Afalau Surion, Derw Digoes, Ysgaw, Aethnen a Breuwydd.

Plannwyd y coed gyda chwech i saith metr rhyngddynt er mwyn creu ardal o gynefin coetir a fyddai’n fwy ffafriol i fyd natur lleol.

Mae’r datblygiad yma’n rhan o waith y Cyngor i fynd i’r afael â’r Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol a ddatganwyd yn 2019 a’i fwriad i fod yn Ddi-garbon Net ac yn awdurdod lleol Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae colli a darnio cynefinoedd yn fygythiadau mawr i fioamrywiaeth, ac mae newid hinsawdd yn gwaethygu hyn drwy gyfyngu ar allu rhywogaethau i gael mynediad at gynefinoedd mwy ffafriol.

I Gaer Drewyn, fe grëwyd coetir a gwrychoedd i wella cysylltedd rhwng cynefinoedd cyfagos sydd eisoes yn bodoli fel coridorau bywyd gwyllt.

Mae datblygiadau eraill ar y safle yn cynnwys gwella ardaloedd o rostir a datblygu ardal o gynefin gwlyptir. Mae llwybrau troed ar y safle yn cael eu gwella, ochr yn ochr â ffensys a giatiau mynediad newydd.

Mae’r prosiect creu coetir wedi derbyn cyllid grant gwerth £800,000 a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU ac mae’n cael ei gynnal ochr yn ochr â phrosiectau eraill yng Nghaer Drewyn, gan gynnwys menter gwella tirwedd, a ariennir gan y Grid Cenedlaethol, a mesurau yn yr ardal ehangach i warchod y gylfinir.

Bydd tîm ceidwaid Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau i reoli’r safle yn y tymor hir fel rhan o’u rôl i sicrhau bod amgylchedd yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn cael ei wella a’i amddiffyn a bod y tir yn cael ei wneud yn fwy hygyrch.

 

Defaid yn rhoi hwb i dwf natur ar ochr bryn

Fryniau Prestatyn

Mae defaid yn helpu i roi hwb i flodau a bywyd gwyllt ar ochr bryn yn Sir Ddinbych.

Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cyflwyno diadell o ddefaid i Fryniau Prestatyn i helpu i gynnal yr amrywiaeth o flodau a bywyd gwyllt sy’n cyfrannu at gymeriad arbennig y safle.

Mae’r ochr bryn wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am ei laswelltiroedd calchfaen sy’n bwysig yn genedlaethol.

Mae defnyddio anifeiliaid sy’n pori yn lleihau’r angen i reoli safleoedd yn fecanyddol drwy ddefnyddio offer a pheiriannau trwm ac mae’n galluogi i’r tir gael ei reoli mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Codwyd ffensys a gosodwyd cyflenwad dŵr ym mis Ionawr 2022 gyda’r holl ddeunyddiau yn cael eu cario ar y safle â llaw oherwydd y mynediad cyfyngedig i gerbydau. Gosodwyd giatiau mochyn hefyd i sicrhau nad oedd mynediad i gerddwyr yn cael ei gyfyngu ar hyd Llwybr Clawdd Offa.

Mae’r defaid ar y safle i gefnogi’r nifer fawr o flodau a bywyd gwyllt ar y safle. Maent yn cyflawni hyn drwy gael gwared ar y llystyfiant trwchus ac agor y glastir yn yr hydref/gaeaf a fydd yn caniatáu i blanhigion blodeuol llai ffynnu erbyn yr haf, gan roi hafan i loÿnnod byw a bywyd gwyllt arall.

Mae’r anifeiliaid yn cael eu rhoi allan am gyfnodau byr rhwng mis Hydref a Mawrth a gofynnir i’r cyhoedd gadw eu cŵn ar dennyn pan fyddant yn cerdded trwy’r ardaloedd y mae’r defaid yn eu pori.

Yn ystod mis Chwefror, bydd defaid yn pori ardal ar yr Ochr Bryn sydd heb gael ei ffensio felly bydd bugail yn cael ei ddefnyddio er mwyn cadw’r ardal mewn cyflwr ffafriol.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Dyma enghraifft gwych arall o waith ‘adfer natur’ y mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych yn ei gyfanrwydd, yn rhan ohono.”

Gwaith Amddiffyn rhag Llifogydd yn dod i ben yn Loggerheads

Wal newydd yn loggerheads

Mae gwaith i wella’r amddiffynfeydd rhag llifogydd ym Mharc Gwledig Loggerheads wedi dod i ben yn ddiweddar.

Mae’r prosiect, a ddarparwyd gan y contractwyr lleol MWT a Waterco, yn rhan o set fwy o welliannau ac uwchraddiadau i adeiladau a fydd yn dechrau yn y parc gwledig yn ddiweddarach eleni. Cafodd y gwaith lliniaru llifogydd, yr oedd mawr ei angen, ei ariannu gan Lywodraeth y DU.

Dyfarnwyd £10.95 miliwn i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU ar gyfer hen etholaeth Gorllewin Clwyd i gefnogi datblygu 10 prosiect gyda’r nod o warchod treftadaeth unigryw Rhuthun, lles ei phobl a’i chymunedau gwledig.

Roedd y gwaith yn cynnwys ailadeiladu wal garreg bresennol ar hyd yr afon a oedd wedi suddo, gan achosi llifogydd yn y parc gwledig dros y blynyddoedd diweddar, yn ogystal ag adnewyddu pont droed bren yr A494, a oedd wedi bod yn ei lle ers mwy nag ugain mlynedd. Cyflwynwyd perllan gymunedol newydd ac ardal eistedd hefyd i ymwelwyr eu mwynhau.

Bydd gwelliannau pellach yn dechrau yn 2025, gan gynnwys uwchraddio’r prif adeiladau i ymwelwyr a’r caffi, creu canopi allanol gyda mwy o le eistedd a gwell mynediad i ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Hoffwn ddiolch i Dîm y Prosiect am eu gwaith caled hyd yma wrth orffen y gwaith lliniaru llifogydd yr oedd mawr ei angen. Mae’r safleoedd hyn yn ardaloedd Tirwedd Cenedlaethol poblogaidd, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynnal a chadw a datblygu safleoedd fel rhain wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy poblogaidd i sicrhau bod modd i bawb sy’n ymweld â nhw barhau i’w mwynhau.”

“Rydym wedi gweld cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads dros y blynyddoedd diweddar a bydd prosiectau fel rhain, pan fyddan nhw wedi’u cwblhau, yn helpu i ddiogelu’r parc ar gyfer y dyfodol a bodloni disgwyliadau ymwelwyr.”

Mae cynlluniau ar gyfer gwaith gwella Loggerheads i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.

Gosod offer achub bywyd mewn maes parcio yng nghefn gwlad

Coed Moel Famau

Mae offer achub bywyd hanfodol wedi cael ei ailosod mewn maes parcio yng nghefn gwlad ar ôl i rywun ddwyn y gwreiddiol yn 2023.

Diolch i Redwyr Bryniau Dyffryn Clwyd mae arian wedi cael ei godi i brynu a gosod diffibriliwr newydd ym mloc toiledau Coed Moel Famau ar ôl i ladron ddwyn yr un gwreiddiol.

Cafodd yr offer gwreiddiol ei ariannu gan Redwyr Bryniau Dyffryn Clwyd yn 2018 a’i gyflwyno i’r ceidwaid cefn gwlad a oedd yn gofalu am y lleoliad.

Ar ôl y lladrad honedig fe gychwynnodd aelod o’r grŵp gronfa ar GoFund Me wnaeth godi £420 tuag at ddiffibriliwr newydd. Cyfrannodd Gyfeillion Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy £300 ac aelod ward y cyngor lleol at y gronfa.

Cyfrannodd Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy weddill y costau gyda chyngor a chefnogaeth gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

Erbyn hyn mae’r diffibriliwr wedi cael ei osod ac mae’r offer yn barod i ddarparu cefnogaeth i achub bywyd os oes angen.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio’r Cabinet: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Redwyr Bryniau Dyffryn Clwyd ar arwain yr ymgyrch i gael yr offer achub bywyd hanfodol hwn ym mloc toiledau Coed Moel Famau. Hoffwn ddiolch i bawb arall wnaeth gyfrannu at wneud yn siŵr bod yna ddiffibrilwr yn ôl yn y lleoliad hwn.”

Safle datblygu gwlyptir bryniau Clwyd yn dechrau ymffurfio

Moel y Plas

Mae ardal newydd o wlyptir yn cael ei ffurfio ar Fryniau Clwyd i gynorthwyo i gefnogi natur yn lleol.

Mae gwaith creu gwlyptir ychwanegol ar y gweill ar safle gwarchodfa natur Moel y Plas, ger Llanarmon yn Iâl.

Mae tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ar y cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych, yn datblygu ardal ar y bryniau er budd natur a chymunedau lleol.

Mae bron i 18,000 o goed llydanddail cynhenid wedi’u plannu ar y safle i greu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau amrywiol, mae llwyni wedi’u plannu i wella cysylltedd ar draws y safle a thrwy weithio gyda phrosiectau ffarmio bu modd dechrau adfer cynefinoedd ucheldir fel Rhostiroedd a Ffriddoedd drwy ailgyflwyno anifeiliaid pori.

Mae hygyrchedd ar gyfer ymwelwyr yr ardal wedi’i wella hefyd gyda ffensys newydd, arwyddion a giatiau mochyn er mwyn sicrhau bod y llwybrau’n hygyrch ac yn hawdd eu dilyn.

Bydd yr ardal newydd o wlyptir ym Moel y Plas yn gymorth i ddarparu lloches a bwyd ar gyfer nifer o anifeiliaid ac yn annog ystod eang o blanhigion i dyfu yno. Bydd y math yma o ardal hefyd yn storio carbon sy’n gymorth i liniaru effaith Newid Hinsawdd a gall weithredu fel rhwystr llifogydd naturiol drwy amsugno dŵr yn ystod cyfnodau o law trwm.

Gall ystod eang o fywyd gwyllt ddefnyddio’r math yma o gynefin sydd ar y gweill ym Moel y Plas, gan gynnwys Llygod Pengrwn y Dŵr, Chwistlod y Dŵr, Brogaod Cyffredin, Hwyaid Gwyllt, Crehyrod Glas, Crehyrod Bach Copog a Glas y Dorlan hyd yn oed.

Mae modd canfod pryfaid fel Rhianedd y Dŵr a Chwilod Dŵr yn y cynefin hefyd ochr yn ochr â Mursennod. Gall gwlyptiroedd annog tyfiant blodau gwyllt, fel Tegeirian Bera.

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae colli ein tir cynefin yn fygythiad mawr i fioamrywiaeth lleol ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wrthdroi hynny. Fe fydd yr ardal o wlyptir a ddatblygir ym Moel y Plas, sy’n safle gwych ar gyfer natur ac ymwelwyr, yn gymorth i annog nifer o rywogaethau i ffynnu eto ym Mryniau Clwyd.”

Ar gyfer datblygiad Moel y Plas, fe grëwyd coetir a gwrychoedd i wella cysylltedd rhwng cynefinoedd cyfagos sydd eisoes yn bodoli fel coridorau bywyd gwyllt.

Mae’r prosiect creu coetir wedi cael cyllid allan o grant o £800,000 a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU.

Bydd tîm ceidwaid Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau i reoli’r safle yn yr hirdymor fel rhan o’u rôl i sicrhau bod amgylchedd yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn cael ei wella a’i amddiffyn a bod y tir yn cael ei wneud yn fwy hygyrch.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Sialens 25 Llyfr

Beth am adduned wahanol ar ddechrau’r flwyddyn - y sialens o Ddarllen 25 llyfr yn 2025?

Ymunwch a’r Sialens hon i oedolion gan hefyd gefnogi’ch Llyfrgell leol. Galwch mewn i gasglu taflen bingo llyfr, darllenwch lyfr o bob un o’r themâu ar y daflen, mewn unrhyw drefn. Wrth ddychwelyd eich llyfr gofynnwch i aelod o staff stampio’r categori ar eich taflen. Cewch wobrau amrywiol ar ôl darllen 10, 20 a 25 o lyfrau tra bydd cyflenwad. Sialens ardderchog ar gyfer eich lles, mae modd ymuno hefyd ar-lein drwy eich cyfrif llyfrgell.

Mae manteision darllen yn cynnwys gwella eich hapusrwydd, lleihau lefelau straen ac yn ffordd wych o ymlacio a theimlo’n well.

Dewch i ymuno yn yr hwyl a darganfod rhywbeth newydd a gwahanol i ddarllen!

Sesiynau Hel Atgofion

Ymunwch â ni yn Llyfrgelloedd Rhuthun a Rhyl am baned, sgwrs ac i hel atgofion.

Bydd sesiynau yn cael eu cynnal yn y ddwy lyfrgell ar y dyddiadau canlynol:

  • Llyfrgell Rhuthun: Chwefror 25 a Mawrth 25
  • Llyfrgell Y Rhyl: Chwefror 18 a Mawrth 18

Cawn gwmni aelodau o ‘Making Sense’ sy’n archwilio rhyngweithio a chyfathrebu gyda chynulleidfa trwy wrthrychau a'r synhwyrau. Byddwn yn cyflwyno’r defnydd o Fagiau a Blychau Hel Atgofion yn y sesiynau sy’n cynnwys casgliad o lyfrau, cerddi, eitemau ac arogleuon sy’n ysgogi’r synhwyrau ac annog hel atgofion a thrafodaeth. Mae’r Blychau Hel Atgofion ar wahanol themâu fel Dyddiau Ysgol, Sinema a Lan y môr.

Mae’r sesiynau ar gyfer unigolion a hefyd staff mewn cartrefi gofal a phreswyl i gyfarfod mewn awyrgylch hamddenol gyda phaned.

Ymunwch â tîm Dechrau Da

Hoffech chi ymuno â'n tîm?
Caru rhigymau, llyfrau a gweithio gyda phlant bach a theuluoedd?
Ymunwch â’n tîm Dechrau Da
Dwy swydd rhan amser ar gael - mae'r manylion ar gael ar ein gwefan.
Dyddiad cau: 10 Chwefror

Press Reader

PressReader yw eich stondin newyddion ddigidol ar gyfer papurau newydd a chylchgronau.

Gallwch gael mynediad at fwy na 7,000 o brif gyhoeddiadau’r byd drwy ap PressReader neu arlein. Gallwch gael mynediad i gyhoeddiadau fel y Daily Post, Guardian, Y Cymro a Vogue i’w darllen yn syth neu eu lawrlwytho i’ch dyfais. Mae’r cyhoeddiadau ar gael mewn mwy na 60 iaith ac o dros 120 o wledydd ar draws y byd.

I fwynhau hyn oll lawrlwythwch ap PressReader new ewch i’r wefan pressreader.com a mewngofnodwch gyda rhif eich cerdyn Llyfrgell.

Mynediad am ddim i eLyfrau

Ydych chi wedi darganfod yr ap Borrowbox eto?
Cewch fynediad am ddim i eLyfrau, llyfrau sain, papurau newydd a chylchgronau 24/7.
Lawrlwythwch yr ap ac mewn gofnodwch gyda rhif eich cerdyn llyfrgell a PIN. Ddim yn aelod? Mae ymuno ar-lein yn gyflym ac yn hawdd.
Dyma rai o'r teitlau sydd ar gael i'w lawrlwytho rwan!

Cefnogaeth i drigolion

Ydych yn dymuno gwneud eich biliau dŵr yn fwy fforddiadwy?

Mae gan Dŵr Cymru nifer o ffyrdd y gallan nhw eich helpu i wneud eich biliau yn fwy fforddiadwy yn cynnwys tariff wedi’i leihau a’i gapio a chynlluniau talu i helpu glirio eich dyled.

Dewch i weld Tracey o Dŵr Cymru yn Llyfrgell Y Rhyl ar 18 Mawrth (10am - 2pm) am fwy o wybodaeth ac i weld os ydych yn gymwys am gefnogaeth:

 

Problemau gyda'r rhyngrwyd? Gall Swyddog Digidol y Sir eich helpu!

Gall breswylwyr a busnesau yn Sir Ddinbych elwa o gyngor a chymorth am ddim gan Swyddog Digidol y Cyngor. Mae’r Swyddog yn gallu helpu drwy ddod o hyd i’r datrysiad gorau i broblemau mae pobl yn ei brofi gyda’r rhyngrwyd o ganlyniad i gysylltiad araf.

Gyda nifer cynyddol o breswylwyr yn defnyddio technoleg i weithio o gartref, a gyda llawer o wasanaethau, megis bancio a gwasanaethau trydan a nwy bellach arlein, mae’n hanfodol fod gan bobl wasanaeth dibynadwy i ddiwallu eu hanghenion dyddiol.

Dywedodd Philip Burrows, Swyddog Digidol Sir Ddinbych, “Mae gan rai preswylwyr gysylltiadau rhyngrwyd araf neu annibynadwy, a dyma ble gallaf i helpu. Gallaf wneud diagnosis o’r broblem yna gweithio gyda phreswylwyr i’w ddatrys, gyda’r nod o wella ansawdd y cysylltiad â’r rhyngrwyd.

“Rydym yn ymwybodol bod pobl yn profi ystod o broblemau, er enghraifft, gall rhai pethau fod yn weddol hawdd i’w datrys gydag ychydig newidiadau i’w rhwydwaith yn y cartref. Fodd bynnag, hwyrach bod eraill gyda phroblemau mwy cymhleth fydd angen cael eu datrys gyda chwmni allanol.”

Mae rhai cymunedau’n profi problemau sy’n gofyn am ymyriad gan Openreach, sef y cwmni sy’n cynnal a darparu’r brif system teleffoni a rhwydwaith rhyngrwyd o amgylch y DU. Fodd bynnag, ni all unigolion gysylltu ag Openreach yn uniongyrchol, ond fe all y Swyddog Digidol wneud hyn ar eu rhan.

Mae Philip yn mynd ymlaen i ddweud, “Gallaf i gysylltu gydag Openreach er mwyn ceisio lleihau’r straen wrth ddatrys y mathau yma o broblemau. Gallaf hefyd gynghori ar sut i sicrhau arian i sefydlu partneriaethau cymunedol ffibr os oes cymunedau penodol yn profi problemau tebyg. Rwy’n hapus i gynghori unrhyw breswyliwr neu fusnes yn Sir Ddinbych ar eu chyswllt rhyngrwyd.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, “Mae sicrhau gwell rhwydweithiau digidol yn angenrheidiol ac mae cefnogi ein cymunedau i wneud hyn yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor. Mae Sir Ddinbych wedi ymrwymo i helpu preswylwyr i ddeall y dewisiadau a’r datrysiadau ar gyfer gwell cysylltiad â’r rhyngrwyd – rhywbeth sy’n hanfodol yn yr oes ddigidol sydd ohoni. Rwy’n annog unrhyw un sy’n profi anawsterau gyda’u rhyngrwyd i gysylltu â Philip fydd yn gallu cynghori ar y camau gorau i’w cymryd.”

Os ydych chi’n profi cyflymder rhyngrwyd araf neu os ydych yn cael trafferth yn cysylltu gyda’r rhyngrwyd yn eich cartref, cysylltwch â Swyddog Digidol y Cyngor ar datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig digwyddiadau misol yn rhad ac am ddim wedi'u cynllunio i gefnogi trigolion 16 oed a hŷn i wella eu sgiliau, gwella eu lles, a symud yn nes at gyflogaeth.

Mae'r digwyddiadau hyn yn darparu amgylchedd croesawgar i ddysgu pethau newydd, cysylltu ag eraill, a chynyddu eich hyder. P'un a ydych am archwilio cyfleoedd am swydd newydd, datblygu eich sgiliau proffesiynol, neu roi hwb i'ch lles personol, mae ein digwyddiadau yma i helpu.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fuddsoddi yn eich dyfodol - cofrestrwch heddiw!

Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol @SirDdinbychynGweithio.

Clwb Gwaith

Mae Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn ôl!

1891 restaurant

Bydd Sir Ddinbych yn Gweithio, ar y cyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru, yn cynnal Ffair Swyddi ddydd Mercher, 19 Chwefror, ym Mwyty a Bar 1891, y Rhyl.

Bydd y digwyddiad, fydd yn rhedeg rhwng 10am a 4pm, yn cynnig cyfle i rai sy’n chwilio am swyddi gysylltu gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr lleol a chenedlaethol, ar draws nifer o sectorau.

Bydd awr dawel rhwng 10am -11am yn ystod y digwyddiad, i bobl sydd yn gwerthfawrogi amgylchedd tawelach.

Er mwyn paratoi ar gyfer y Ffair Swyddi, bydd y sesiwn Clwb Swyddi arferol yn Llyfrgell y Rhyl ddydd Iau, 13 Chwefror rhwng 10am a 2pm, wedi’i theilwra i helpu mynychwyr i baratoi ar gyfer y digwyddiad. Bydd cyfle i rai sy’n chwilio am swyddi gwblhau ac argraffu eu CV neu lythyr eglurhaol, paratoi cynllun ar gyfer y Ffair a chael cyngor wedi’i deilwra er mwyn gwneud y mwyaf o’r digwyddiad.

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, lle bu mwy na 50 o gyflogwyr yn bresennol a mwy na 400 o fynychwyr, mae Ffair Swyddi eleni’n argoeli i fod yn fwy hyd yn oed.

Bydd cyfle i fynychwyr archwilio cyfleoedd gyrfa, siarad yn uniongyrchol â rheolwyr sy’n penodi, a chanfod llwybrau i hyfforddiant a chyflogaeth.

Bydd cyflogwyr fydd yn bresennol yn cynnwys Adferiad, Asda, GLLM, TG Williams Builders Ltd, a 2 Sisters Food Group, gan gynrychioli sectorau fel lletygarwch, gweithgynhyrchu, iechyd a gofal cymdeithasol a mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol ar gyfer cysylltu pobl â chyfleoedd ystyrlon am waith a chefnogi'r economi leol.

Mae Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn enghraifft wych o sut y gallwn gydweithio i wneud gwahaniaeth go iawn i’n cymunedau.

Rwy’n annog pawb i fynychu a gweld pa gyfleoedd sydd ar gael.”

Mae’r Ffair Swyddi yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. O rai sy’n chwilio am eu swydd gyntaf, rhai sy’n ystyried newid gyrfa neu geisio datblygu eu sgiliau, mae rhywbeth i bawb yn y digwyddiad hwn.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

I gael rhagor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf, dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar gyfryngau cymdeithasol neu ewch i.

Amserlen Sesiynau Barod: Mis Chwefror

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Gwaith carbon isel yn helpu i wella effeithlonrwydd ynni mewn ysgol

Ysgol Bodfari

Mae gwaith wedi cael ei wneud mewn ysgol gynradd yn Sir Ddinbych i ddarparu effeithlonrwydd ynni gwell i staff a disgyblion a chostau ynni is yn yr hir dymor ar gyfer yr adeilad.

Mae Tîm Ynni'r Cyngor wedi gweithio i fynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni a lleihau costau yn Ysgol Bodfari.

Mae'r tîm wedi rheoli nifer o brosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor yn cynnwys ysgolion, i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, lleihau allyriadau a chostau defnyddio dros y tymor hwy hefyd.

Fe wnaeth Tîm Ynni’r Cyngor asesu’r adeilad i weld pa ddefnydd o ynni allai gael ei wella er mwyn bod yn fwy effeithlon.

Roedd y gwaith yn Ysgol Bodfari yn cynnwys gosod system paneli solar (7.47KW) ar do’r ysgol. Fe fydd pob Kilowatt a gynhyrchir ac a ddefnyddir gan yr ysgol yn arbed tua 22 ceiniog, ac nid yn unig y mae’r capasiti yma’n lleihau carbon yn sylweddol, ond mae hefyd yn lleihau’r straen ar yr isadeiledd grid yn lleol.

Gosodwyd goleuadau LED y tu mewn i’r ysgol hefyd a fydd yn helpu i wella effeithlonrwydd a lleihau costau defnyddio ynni.

Gosodwyd bwyler effeithlon modern newydd yn yr ysgol hefyd sydd yn galluogi rhagor o arbedion costau ynni yn yr hir dymor ac effeithlonrwydd gwell ar gyfer y safle cyfan.

Disgwylir i’r holl waith arwain at arbedion blynyddol o tua 18079kWh, dros 4.5 tunnell o allyriadau carbon a thros £2961 y flwyddyn mewn llai o gostau ynni, gan dalu’n ôl yr hyn sydd wedi cael ei fuddsoddi mewn cyfnod cymharol fyr.

Dywedodd Martyn Smith, Rheolwr Ynni a Charbon Eiddo: “Rydym wedi dod â gwahanol ddarnau o dechnoleg at ei gilydd yn yr ysgol i helpu i wella amgylchedd yr ysgol ar gyfer disgyblion a staff ac i leihau biliau ynni yn yr hirdymor.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ein hadeiladau a diolch i’r Tîm Ynni am eu holl waith a’r gefnogaeth gan ddisgyblion a staff yn Ysgol Bodfari tra bod y gwaith wedi bod yn digwydd.”

Prosiect yn darparu dros 100 o nythod newydd i adar dan fygythiad

Y llynedd, bu i Dîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych lansio prosiect i sicrhau gwell amddiffyniad i wenoliaid duon sy’n nythu ar draws y sir.

Bydd prosiect a gynhaliwyd yn ystod 2024 yn cynnig cefnogaeth fwy cadarn i aderyn dan fygythiad sy’n dychwelyd i Sir Ddinbych eleni.

Y llynedd, bu i Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor lansio prosiect i sicrhau gwell amddiffyniad i wenoliaid duon sy’n nythu ar draws y sir.

Mae’r wennol ddu yn ymweld â’r DU dros yr haf, gan hedfan bron i 3,400 o filltiroedd ar ôl treulio’r gaeaf yn Affrica, i’r DU i fridio. Maen nhw’n paru am oes gan ddychwelyd i’r un safle bob tro.

Maent yn hoff o nythu mewn tai ac eglwysi, gan fynd i mewn drwy fylchau bach yn y to. Fodd bynnag, wrth i adeiladau hŷn gael eu hadnewyddu ac wrth i fylchau mewn toeau gael eu cau ac adeiladau newydd gael eu dylunio’n wahanol, mae’r gwenoliaid duon wedi diflannu’n gyflym.

Mae’r pryfed y mae’r adar yn dibynnu arnynt i fwydo eu cywion ac i gael egni ar gyfer mudo yn diflannu wrth i gynefinoedd megis ardaloedd blodau gwyllt a dŵr croyw gael eu colli. Mae’r Cyngor yn gweithio i adfer y colledion drwy reoli ei Brosiect Dolydd Blodau Gwyllt sydd hyd yma wedi creu bron i 70 acer o gynefinoedd addas, er mwyn cefnogi adferiad y boblogaeth o bryfed ac adar.

Er gwaethaf gwaith i’w diogelu yn lleol ac yn ehangach, mae’r wennol ddu ar y lefel uchaf o flaenoriaeth o ran cadwraeth yn y DU ar hyn o bryd.

Er mwyn cynnig mwy o gefnogaeth i’r gwenoliaid duon sy’n ymweld â Sir Ddinbych, cafodd 114 o flychau gwenoliaid eu gosod gan y Tîm Bioamrywiaeth y llynedd ar draws y sir. Mae'r rhain yn gymysgedd o flychau o ddeiliadaeth ar gyfer un, dwy a phedair gwennol, ac mae yna le i chwech ohonynt mewn ambell un.

Eglurodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Evie Challinor: “Gosodwyd y blychau hyn ar ysgolion, adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor gan gynnwys Neuadd y Sir a rhywfaint o breswylfeydd preifat yn ardaloedd Rhuthun, Corwen a’r Rhyl. Fe wnaethom ganolbwyntio ar y tair ardal yma, gan fod cofnodion Cofnod yn dangos i ni fod gwenoliaid duon i'w cael yn y lleoliadau hyn o hyd. Rydym eisiau cynnal y poblogaethau hyn cyn eu helpu i ehangu ledled y sir unwaith eto”.

“Mae llawer o’n dolydd blodau gwyllt i’w cael yn yr ardaloedd hyn hefyd, ac mae hynny’n gweithio’n dda, gan ddarparu cynefin i’r wennol ddu, sy’n cynnal y pryfed y maent yn dibynnu arnynt i fwydo.”

“Fe wnaethon ni gynnal teithiau cerdded yn y prif ardaloedd hyn er mwyn helpu i gofnodi gwenoliaid duon a gwenoliaid duon sy’n chwilota, yn ogystal â ‘heidiau sgrechian’. Mae’r grwpiau hyn sy’n galw’n uchel i gynnull adar yn yr awyr wrth iddi nosi, yn dangos i ni fod yr ardal hon â’r gallu i gefnogi’r adar, wrth i ni fynd ati i gryfhau eu poblogaethau sy’n prinhau.”

Mae’r Tîm Bioamrywiaeth yn parhau i weithio gyda Thai Sir Ddinbych, preswylwyr tai’r Cyngor, preswylfeydd preifat, ysgolion, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, partneriaid Bionet, busnesau lleol a grwpiau lleol megis grŵp Chirk Swifts (enillydd gwobr Bionet 2024) fel bod modd bwrw ymlaen â’r prosiect.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Rydym yn ddiolchgar i’n cydweithwyr yn Nhai Sir Ddinbych, eu preswylwyr a phawb a fu’n cefnogi’r prosiect hwn y llynedd, a bydd hyn yn helpu i sefydlogi poblogaeth y wennol ddu yn lleol.”

Diogelu yn helpu tegeirianau i ffynnu ar draws y sir

degeirian bera

Mae prosiect Bioamrywiaeth wedi rhoi bywyd newydd i ddyfodol rhywogaethau blodau gwyllt yn nhymor 2024.

Mae Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor wedi cofnodi cynnydd yn y mathau o degeirianau mewn dolydd blodau gwyllt yn y sir wedi i arolygon gael eu cynnal y llynedd.

Dechreuodd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y tîm yn 2019 gyda’r nod o adfer a chynyddu’r cynefinoedd sydd ar gael drwy’r sir i beillwyr a bywyd gwyllt.

Mae’r prosiect yn cynnwys ychydig dros 70 erw o ddolydd sy’n helpu ac yn diogelu natur leol ac yn cefnogi lles cymunedol ar hyd a lled y sir. Mae hefyd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Yn 2024 fe ddarganfu’r tîm degeirian bera yn y ddôl y tu allan i Neuadd y Sir yn Rhuthun nad oedd erioed wedi ei gofnodi ar y safle cyn hynny.

Roedd hwn y cyntaf o don newydd o degeirianau ar draws y sir yn ôl Liam Blazey, Uwch Swyddog Bioamrywiaeth.

Esboniodd: “Roedd y llynedd yn flwyddyn dda i degeirianau ar ein safleoedd. "Cafodd tegeirianau Berra, tegeirianau brych cyffredin a thegeirianau gwenyn eu cofnodi ar nifer o'n safleoedd nad oedd ganddynt gofnodion o degeirianau cyn hynny. Roedd dosbarthiad y cofnodion newydd hyn wedi'u lledaenu o ogledd i dde'r sir.

Mae ein dolydd yn cael eu rheoli i helpu i ddod â darn pwysig o fioamrywiaeth yr ydym wedi’i golli dros y blynyddoedd yn ôl sy’n helpu byd natur i ffynnu a’n peillwyr i barhau i allu cynnal y gadwyn fwyd yr ydym ni fel bodau dynol yn dibynnu arni.

“Mae’r cynnydd mewn tegeirianau yn dangos fod hyn yn gweithio fel ffordd i drychfilod ac anifeiliaid ar draws y sir i helpu i ailboblogi’r safleoedd hyn drwy gludo hadau o un i’r llall.

“Mae hefyd yn dda iawn i’r cymunedau lleol yn yr ardaloedd hyn gan fod y dolydd hyn yn dod â phlanhigion yn ôl y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau unwaith eto ochr yn ochr â’r gefnogaeth gadarnhaol a ddaw yn eu sgil i natur leol.”

Ers i’r prosiect gychwyn mae’r Tîm Bioamrywiaeth wedi cofnodi 17,716 o gofnodion blodau gwyllt unigol ar draws dolydd y sir drwy gynnal 1,423 o arolygon safle.

Yn ystod tymor 2024 cafodd 297 o rywogaethau gwahanol eu cofnodi a oedd yn golygu fod 5,269 o flodau gwyllt unigol wedi eu cofnodi.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein dolydd yn hanfodol ar gyfer cefnogi natur leol sydd wedi dioddef effeithiau’r Newid yn yr Hinsawdd. Wrth i fwy o flodau gwyllt fel tegeirianau ddychwelyd i safleoedd fe fyddant yn helpu i gynyddu bioamrywiaeth a lliw fel y gall cymunedau eu mwynhau a hefyd cefnogi peillwyr sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau, yn well.

“O gofio’r amser maent ei angen i sefydlu, bydd ein holl ddolydd er lles preswylwyr a bywyd gwyllt i’w mwynhau nawr ac, yn bwysicach fyth, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol sef preswylwyr iau Sir Ddinbych.”

Ydych chi awydd gwirfoddoli i ni?

Ydych chi wrth eich bod gyda garddwriaeth ac eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n bioamrywiaeth leol?

Mae croeso mawr i wirfoddolwyr yn ein planhigfa goed yn Llanelwy.

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Disgyblion yn creu hafan newydd i fyd natur lleol

Mae cynefin natur newydd wedi cael ei greu gan ddisgyblion Ysgol Bro Dyfrdwy i helpu bywyd gwyllt ardal Cynwyd.

Mae cynefin natur newydd wedi cael ei greu gan ddisgyblion Ysgol Bro Dyfrdwy i helpu bywyd gwyllt ardal Cynwyd.

Ymunodd y disgyblion gyda Thîm Bioamrywiaeth y Cyngor a’r Ceidwaid Cefn Gwlad i helpu gyda phlannu gwrych newydd a choed safonol ar dir yr ysgol.

Dros y 12 mis diwethaf, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ledled ysgolion y Sir, er mwyn helpu i gynyddu bioamrywiaeth a chanopïau coed ar diroedd ysgol, i helpu adferiad natur a darparu ardal awyr agored lles addysgol i’r plant. Cafodd ei ariannu drwy grant gan Lywodraeth y DU.

Mae plannu coed ar diroedd ysgol hefyd yn cefnogi ymdrech y Cyngor i fod yn ddi-garbon drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno).

Mae disgyblion wedi creu gwrych 50 metr o hyd, llawn rhywogaethau amrywiol dreiniog, sy’n blodeuo ac yn ffrwytho er mwyn cefnogi byd natur lleol.

Mae gwrych yn cynnwys afalau surion sy’n darparu bwyd i lindys a gwyfynod drwy eu dail. Mae eu blodau’n darparu ffynhonnell gynnar o neithdar i beillwyr, gan gynnwys gwenyn. Mae mwyalch, bronfreithod, brain a llygod cwta i gyd yn bwyta’r ffrwythau hefyd.

Wedi’i gynnwys yn y gwrych hefyd mae’r Griafolen. Mae eirin y goeden yn ffynhonnell gyfoethog o fwyd hydrefol i’r fronfraith fawr, y tingoch, asgell goch, y fronfraith, caseg y ddrycin a’r aden gwyr.

Mae coed eraill sydd wedi’u plannu gan y disgyblion yn y gwrych yn cynnwys coeden goeg-geirios, rhosod gwyllt, y fasarnen fach, y ddraenen wen, coeden gellyg gwyllt, y gollen, celyn, yr oestrwydden a’r gwyros.

Roedd coed o faint safonol y plannwyd ar diroedd ysgol yn cynnwys y geiriosen wyllt a’r gastanwydden bêr.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Ysgol Bro Dyfrdwy am eu cefnogaeth wych i helpu ein tîm Bioamrywiaeth gyda’r gwaith o greu’r ardal benigamp hon ar gyfer byd natur lleol, yn ogystal â lles ac addysg y plant sydd wedi bod yn cymryd rhan.”

Golygfeydd newydd o hafan i natur yn Y Rhyl

Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield

Mae gwarchodfa natur yn Y Rhyl yn agor mannau sy’n darparu golygfeydd newydd o’i fywyd gwyllt ar gyfer eleni.

Dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf mae Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor wedi parhau i weithio ar ddatblygu Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield i gefnogi natur leol a’r cymunedau o amgylch.

Fe anrhydeddwyd Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield yn ddiweddar yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2024 ar ôl derbyn y dosbarth ‘Ffynnu’ o dan wobrau ‘It’s Your Neighbourhood’ Cymru yn ei Blodau.

Mae ceidwaid cefn gwlad a gwirfoddolwyr, wedi eu cefnogi gan Natur er Budd Iechyd, wedi cyflawni gwaith sydd wedi arwain at agor perllan gymunedol a phwll, maent wedi gwneud gwelliannau i’r llwybrau, tynnu coed marw a thacluso’r golygfannau o amgylch y prif ddyfroedd.

Yn ogystal mae ardaloedd o amgylch y warchodfa natur wedi eu gwella i annog mwy o lygod pengrwn y dŵr i ymgartrefu ar y safle.

Yn ystod yr hydref a’r gaeaf mae gwaith wedi ei wneud i glirio’r mieri yn yr ardal wrth y llwybr beicio sy’n arwain i’r warchodfa natur o ochr Ysgol Tir Morfa. Fe symudwyd coed marw i alluogi mwy o olau i ddod i’r ardal i gefnogi’r natur sy’n goroesi, fe blannwyd coed pisgwydd a chymysgedd o’r gribell felen, gorudd a heuwyd cymysgedd o hadau blodau gwyllt y coetir i gefnogi peillwyr.

Oddi ar y llwybr mae’r tîm hefyd wedi creu twmpath cynefin i ddarparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt yn yr ardal.

Mae golygfannau newydd o’r pwll hefyd wedi eu hagor ar hyd y llwybr ar yr ochr ddeheuol i’r warchodfa natur drwy glirio mieri a choed marw.

Eglurodd y Ceidwad Cefn Gwlad Vitor Evora sut y gwnaed gwelliannau i’r olygfa gyntaf a geir o Bwll Brickfield wrth i ymwelwyr ddechrau cerdded ar y llwybr ar yr ochr ddeheuol o’r maes parcio.

“Fe fuom yn gweithio ar yr olygfa hon dros ddau gam, yn gyntaf fe aethom ati i glirio’r mieri a thacluso rhosod y cŵn, gallwch weld y gwahaniaeth oherwydd cynt nid oedd yna unrhyw laswellt, dim ond mieri, a nawr fe allwch chi weld y glaswellt.

“Nid ydym yn torri popeth, rydym eisiau pwysleisio hynny i bobl sy’n ymweld gan fod ein natur leol angen llawer o’r ardaloedd naturiol ar hyd y llwybr. Er enghraifft mae yna eiddew ar hyd y llwybr ac fe fyddwn yn ei adael gan ei fod yn darparu ardal gynefin dda iawn. Yr unig beth rydym eisiau ei wneud yw tynnu rhywogaethau sydd wedi marw a thocio ardaloedd eraill er mwyn galluogi planhigion a choed i ffynnu’n well yn y dyfodol.

“Bydd y golygfannau newydd hyn sydd gennym ni nawr, yn arbennig yn y gwanwyn a’r haf wrth i’r coed flaguro, wir yn cynnig lleoedd gwych i ymwelwyr i aros yma a mwynhau’r golygfeydd o’r bywyd gwyllt amrywiol sydd gan Bwll Brickfield ar ei ddyfroedd.”

Bydd ffensys cynaliadwy clwydi collen a wnaed yn y warchodfa natur yn cael eu gosod yn rhai o’r golygfannau a fydd hefyd yn cynnwys twmpathau o gynefinoedd eto i gefnogi bywyd gwyllt.

Mae gwaith hefyd wedi mynd rhagddo ar safle’r berllan gymunedol gyda’r pwll bach wedi ei agor i ymwelwyr o ganlyniad i dynnu ychydig o’r mieri ac mae cymysgedd o hadau blodau gwyllt y gwlypdir wedi eu hau ar y tir i helpu i roi hwb i drychfilod yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae’r warchodfa natur hon yn chwarae rhan bwysig o ran prosiectau a chefnogi bywyd gwyllt ac mae’n darparu man gwych i bobl ddod yma a chrwydro er budd i’w hiechyd. Rydym yn ddiolchgar i bawb fu’n ymwneud â hyn yn y warchodfa am barhau i ddatblygu’r ardal ac rwy’n edrych ymlaen at weld y safle wedi blodeuo’n llawn wrth i ni ddod i gyfnod y gwanwyn a’r haf eleni.”

 

Cadwch gŵn ar dennyn

Rydym wedi gweld rhai digwyddiadau yn ddiweddar lle mae defaid wedi cael eu hanafu neu eu lladd o ganlyniad i ymosodiadau gan gŵn oddi ar eu tennyn. Mae ffermwyr wedi colli defaid neu wedi cael profiad o gŵn yn ymosod ar eu hanifeiliaid. Gellir osgoi hyn drwy gydweithio â pherchnogion cŵn, gan anfon y neges adref y dylid cadw cŵn ar dennyn. 

Rydym yn gwerthfawrogi pam y byddai pobl eisiau mynd ar deithiau cerdded yn ein cefn gwlad. Mae llawer o gerddwyr yn dod â chŵn gyda nhw ac er ein bod am i hynny barhau, y cyfan rydyn ni'n ei ofyn yw bod pobl yn parchu'r Cod Cefn Gwlad.

Mae digon o arwyddion rhybuddio a gwybodaeth am fynd â chŵn ar dennyn, felly'r cyfan rydyn ni'n ei ofyn yw eich bod chi'n barchus tuag at gefn gwlad yn enwedig yng nghyffiniau da byw.

A beth mae Shaun the Sheep yn feddwl am hyn i gyd?

Gwaith yn dechrau ar gadwraeth etifeddiaeth Derwen yn Rhuthun

Mhlanhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar gadwraeth etifeddiaeth hen goeden ym mharc Rhuthun.

Diwedd flwyddyn diwethaf, achosodd Storm Darragh ddifrod i nifer o ardaloedd ar draws Sir Ddinbych gyda gwyntoedd cryfion, gan achosi i nifer o goed gwympo ar draws y sir.

Ym mharc Cae Ddôl, daeth Derwen yr amcangyfrifir ei bod hi’n 550 mlwydd oed i lawr yn y storm. Mae cenedlaethau o breswylwyr ac ymwelwyr â Rhuthun wedi mwynhau’r goeden oedd yn sefyll ger y dŵr.

Er mwyn cadw atgof y Dderwen ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae gwaith cywrain yn cael ei wneud ym Mhlanhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy.

Mae Tîm Coed a Thîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn arwain y ffordd er mwyn diogelu etifeddiaeth yr hen Dderwen.

Aethpwyd â thoriadau o’r Dderwen i’r blanhigfa goed ac mae’r staff yn bwriadu eu lluosogi ar y safle. Ymhen amser, gobeithir y bydd cyfle i blannu epil y Dderwen o amgylch Cae Ddôl a’r ardal leol.

Defnyddiwyd techneg trawsblannu hefyd â’r gobaith o gynhyrchu coed newydd o linach y tirnod cofiadwy hwn yn Rhuthun.

Gan fod y Dderwen wedi’i diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed y safle, mae dyletswydd ar y Cyngor dan ddeddfwriaeth y Gorchymyn i blannu Derwen arall yn yr un lle (bras), er mwyn sicrhau bod gwerth amwynder y Gorchymyn yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y Cyngor yn gwneud hyn cyn gynted ag sy’n ymarferol, pan fydd cynlluniau ar gyfer y goeden a’r safle wedi’u cwblhau.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Phencampwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn gwybod pa mor bwysig oedd yr hen Dderwen hon i nifer fawr o bobl ar draws y blynyddoedd, gan greu llawer o atgofion i’r rhai fu’n ymweld â’r parc. Yn y blanhigfa goed, rydym yn gweithio i sicrhau bod etifeddiaeth y brif goeden yn cael ei diogelu, er na ellid ei hachub ar ôl y storm yn anffodus. A gobeithio y gallwn ailgyflwyno ei llinach i Gae Ddôl un diwrnod.

Bwriad y Cyngor yw ymgysylltu gyda’r cyhoedd a chasglu gwybodaeth i sicrhau bod trigolion Rhuthun yn rhan o’r penderfyniad am ddyfodol y Dderwen.

Mae rhai o’r syniadau a gynigiwyd yn cynnwys achub gymaint ag sy’n bosibl o bren hyfyw o’r goeden, i’w storio a’i falu ar gyfer prosiectau yn y parc a’r ardal gyfagos yn y dyfodol a gadael bonyn y goeden lle y mae, fel cynefin gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt lleol, neu ei gerfio yn gerflun coffa yn ddiweddarach.

Gwirfoddoli i ofalu am yr arfordir yn helpu i gefnogi iechyd a natur

Ar draws arfordir y sir, mae gwirfoddolwyr wedi helpu ceidwaid i ailgyflwyno moresg i’r system twyni o amgylch harbwr y Rhyl i gefnogi bioamrywiaeth leol, atgyweirio pren ar y llwybr pren a gosod dwy fainc newydd.

Mae cyfleoedd i ofalu am yr arfordir yn darparu buddion i bobl a byd natur lleol.

Ar draws arfordir y sir, mae gwirfoddolwyr wedi helpu ceidwaid i ailgyflwyno moresg i’r system twyni o amgylch harbwr y Rhyl i gefnogi bioamrywiaeth leol, atgyweirio pren ar y llwybr pren a gosod dwy fainc newydd.

Maent hefyd wedi helpu i osod disgiau ac arwyddion newydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ger yr harbwr yn Horton's Point , Barkby a thwyni Gronant.

Mae’r gwirfoddolwyr hefyd wedi helpu i baratoi pethau ar gyfer y nythfa o fôr-wenoliaid yn Nhwyni Gronant ac maent yn help mawr gyda rhedeg y nythfa o ddydd i ddydd yn ystod tymor y môr-wennoliaid bach.

Mae clirio prysgwydd wedi bod yn flaenoriaeth dros fisoedd y gaeaf, ac mae gwaith wedi’i wneud ar dwyni Barkby a Gronant a Thraeth y Tŵr. O dan arweiniad y ceidwaid, gwnaeth y gwirfoddolwyr waith cynnal a chadw pwysig ar y cychod gwenyn unigol, gan eu glanhau’n iawn a sicrhau eu bod yn barod i’w rhoi allan unwaith eto yn y gwanwyn.

Meddai Claudia Smith, Ceidwad Arfordir Gogledd Sir Ddinbych: “Mae cael gwirfoddolwyr yn torchi llewys a gweithio efo ni yn wych gan eich bod chi’n gallu gweld faint maen nhw’n mwynhau bod tu allan a gwneud rhywbeth pwysig i helpu natur leol a’u cymuned i fwynhau’r ardal.

“Mae gwirfoddoli gyda ni yng nghefn gwlad yn ffordd wych i roi hwb i’ch iechyd, ennill profiad a gofalu am yr amgylchedd lleol.

Gwaith arfordirol y gallwch chi ein helpu ni gyda:

Lleoliad

Gweithgaredd

Dyddiad

Amser

Canolfan Fowlio Gogledd Cymru, Ferguson Avenue, Prestatyn LL19 7YA

Clirio prysgwydd

Dydd Gwener 7 Chwefror

10am-3pm

Maes parcio Traeth Barkby, wrth y toiledau cyhoeddus, Barkby Avenue LL19 7LG

Tasgau ar y twyni

Dydd Llun 10 Chwefror

10am-3pm

Lle chwarae Traeth y Tŵr, Ffordd Idwal, Prestatyn LL19 7US

Tasgau ar y twyni

Dydd Llun 17 Chwefror

10am-3pm

Maes parcio Traeth Barkby, wrth y toiledau cyhoeddus, Barkby Avenue LL19 7LG

Clirio prysgwydd

Dydd Llun 24 Chwefror

10am-3pm

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych: “Mae mynd tu allan yn bwysig ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol, ac rydym ni’n ddiolchgar am y cyfle parhaus hwn gan y ceidwaid i wirfoddolwyr allu cefnogi eu lles eu hunain.

“Mae hefyd yn bwysig ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu natur ar hyd ein harfordir, sydd hefyd yn helpu i warchod yr ardaloedd a’r cynefinoedd fel llefydd i bobl ymweld â nhw a’u mwynhau.

Os hoffech chi helpu, cysylltwch â Claudia ar 07785517398 neu Claudia.Smith@sirddinbych.gov.uk.

Addysg

Gwneud cais am le mewn meithrinfa

Gall plant fynychu dosbarth meithrin y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Nid yw cael lle mewn dosbarth meithrin mewn ysgol benodol yn gwarantu lle i’ch plentyn mewn dosbarth derbyn yn yr ysgol honno. Bydd angen i chi wneud cais newydd ar gyfer lle mewn dosbarth derbyn.

Gallwch wneud cais am le mewn dosbarth meithrin yn 2025 rŵan.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin, ar gyfer plant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022, yw 17 Chwefror 2025, a byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 6 Mai 2025.

Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan.

Bod yn Llywodraethwr Ysgol

Ydych chi erioed wedi ystyried bod yn llywodraethwr ysgol?

Mae ein hysgolion bob amser yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â'r Cyrff Llywodraethol. Gall unrhywun dros 18 oed fod yn llywodraethwr ysgol - does dim rhaid i chi fod yn rhiant sydd â phlentyn yn yr ysgol.  Fodd bynnag, mae pob corff llywodraethu yn cynnwys llywodraethwyr sy'n rhieni, a gall fod yn ffordd werth chweil o fod yn rhan o ysgol eich plentyn.

Os ydych chi'n credu bod gennych yr ymrwymiad a'r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth, yna cofrestrwch eich diddordeb ar ein gwefan.

Cyngor Ieuenctid

Cyngor Ieuenctid Sir Ddinbych: Ein Dyfodol

Mae Cyngor Ieuenctid Sir Ddinbych yn cael ei gynnal gan bobl ifanc Sir Ddinbych, ar gyfer bobl ifanc sy'n byw yn Sir Ddinbych.

Mae Cyngor Ieuenctid Sir Ddinbych yn bodoli er mwyn cynrychioli barn pobl ifanc i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar draws y Sir ac ymhellach.

  • Nid oes etholiadau ar gyfer Cyngor Ieuenctid Sir Ddinbych, felly gallwch ymuno unrhyw bryd
  • Mae nhw yn cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau yn aml er mwyn lleisio eu barn
  • Os ydych eisiau cymeryd rhan, e-bostiwch cyngor.ieuenctid@sirddinbych.gov.uk

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid