Bydd Sir Ddinbych yn Gweithio, ar y cyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru, yn cynnal Ffair Swyddi ddydd Mercher, 19 Chwefror, ym Mwyty a Bar 1891, y Rhyl.

Bydd y digwyddiad, fydd yn rhedeg rhwng 10am a 4pm, yn cynnig cyfle i rai sy’n chwilio am swyddi gysylltu gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr lleol a chenedlaethol, ar draws nifer o sectorau.

Bydd awr dawel rhwng 10am -11am yn ystod y digwyddiad, i bobl sydd yn gwerthfawrogi amgylchedd tawelach.

Er mwyn paratoi ar gyfer y Ffair Swyddi, bydd y sesiwn Clwb Swyddi arferol yn Llyfrgell y Rhyl ddydd Iau, 13 Chwefror rhwng 10am a 2pm, wedi’i theilwra i helpu mynychwyr i baratoi ar gyfer y digwyddiad. Bydd cyfle i rai sy’n chwilio am swyddi gwblhau ac argraffu eu CV neu lythyr eglurhaol, paratoi cynllun ar gyfer y Ffair a chael cyngor wedi’i deilwra er mwyn gwneud y mwyaf o’r digwyddiad.

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, lle bu mwy na 50 o gyflogwyr yn bresennol a mwy na 400 o fynychwyr, mae Ffair Swyddi eleni’n argoeli i fod yn fwy hyd yn oed.

Bydd cyfle i fynychwyr archwilio cyfleoedd gyrfa, siarad yn uniongyrchol â rheolwyr sy’n penodi, a chanfod llwybrau i hyfforddiant a chyflogaeth.

Bydd cyflogwyr fydd yn bresennol yn cynnwys Adferiad, Asda, GLLM, TG Williams Builders Ltd, a 2 Sisters Food Group, gan gynrychioli sectorau fel lletygarwch, gweithgynhyrchu, iechyd a gofal cymdeithasol a mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol ar gyfer cysylltu pobl â chyfleoedd ystyrlon am waith a chefnogi'r economi leol.

Mae Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn enghraifft wych o sut y gallwn gydweithio i wneud gwahaniaeth go iawn i’n cymunedau.

Rwy’n annog pawb i fynychu a gweld pa gyfleoedd sydd ar gael.”

Mae’r Ffair Swyddi yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. O rai sy’n chwilio am eu swydd gyntaf, rhai sy’n ystyried newid gyrfa neu geisio datblygu eu sgiliau, mae rhywbeth i bawb yn y digwyddiad hwn.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

I gael rhagor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf, dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar gyfryngau cymdeithasol neu ewch i.