Mae defaid yn helpu i roi hwb i flodau a bywyd gwyllt ar ochr bryn yn Sir Ddinbych.

Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cyflwyno diadell o ddefaid i Fryniau Prestatyn i helpu i gynnal yr amrywiaeth o flodau a bywyd gwyllt sy’n cyfrannu at gymeriad arbennig y safle.

Mae’r ochr bryn wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am ei laswelltiroedd calchfaen sy’n bwysig yn genedlaethol.

Mae defnyddio anifeiliaid sy’n pori yn lleihau’r angen i reoli safleoedd yn fecanyddol drwy ddefnyddio offer a pheiriannau trwm ac mae’n galluogi i’r tir gael ei reoli mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Codwyd ffensys a gosodwyd cyflenwad dŵr ym mis Ionawr 2022 gyda’r holl ddeunyddiau yn cael eu cario ar y safle â llaw oherwydd y mynediad cyfyngedig i gerbydau. Gosodwyd giatiau mochyn hefyd i sicrhau nad oedd mynediad i gerddwyr yn cael ei gyfyngu ar hyd Llwybr Clawdd Offa.

Mae’r defaid ar y safle i gefnogi’r nifer fawr o flodau a bywyd gwyllt ar y safle. Maent yn cyflawni hyn drwy gael gwared ar y llystyfiant trwchus ac agor y glastir yn yr hydref/gaeaf a fydd yn caniatáu i blanhigion blodeuol llai ffynnu erbyn yr haf, gan roi hafan i loÿnnod byw a bywyd gwyllt arall.

Mae’r anifeiliaid yn cael eu rhoi allan am gyfnodau byr rhwng mis Hydref a Mawrth a gofynnir i’r cyhoedd gadw eu cŵn ar dennyn pan fyddant yn cerdded trwy’r ardaloedd y mae’r defaid yn eu pori.

Yn ystod mis Chwefror, bydd defaid yn pori ardal ar yr Ochr Bryn sydd heb gael ei ffensio felly bydd bugail yn cael ei ddefnyddio er mwyn cadw’r ardal mewn cyflwr ffafriol.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Dyma enghraifft gwych arall o waith ‘adfer natur’ y mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych yn ei gyfanrwydd, yn rhan ohono.”