Mae gwaith i wella’r amddiffynfeydd rhag llifogydd ym Mharc Gwledig Loggerheads wedi dod i ben yn ddiweddar.
Mae’r prosiect, a ddarparwyd gan y contractwyr lleol MWT a Waterco, yn rhan o set fwy o welliannau ac uwchraddiadau i adeiladau a fydd yn dechrau yn y parc gwledig yn ddiweddarach eleni. Cafodd y gwaith lliniaru llifogydd, yr oedd mawr ei angen, ei ariannu gan Lywodraeth y DU.
Dyfarnwyd £10.95 miliwn i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU ar gyfer hen etholaeth Gorllewin Clwyd i gefnogi datblygu 10 prosiect gyda’r nod o warchod treftadaeth unigryw Rhuthun, lles ei phobl a’i chymunedau gwledig.
Roedd y gwaith yn cynnwys ailadeiladu wal garreg bresennol ar hyd yr afon a oedd wedi suddo, gan achosi llifogydd yn y parc gwledig dros y blynyddoedd diweddar, yn ogystal ag adnewyddu pont droed bren yr A494, a oedd wedi bod yn ei lle ers mwy nag ugain mlynedd. Cyflwynwyd perllan gymunedol newydd ac ardal eistedd hefyd i ymwelwyr eu mwynhau.
Bydd gwelliannau pellach yn dechrau yn 2025, gan gynnwys uwchraddio’r prif adeiladau i ymwelwyr a’r caffi, creu canopi allanol gyda mwy o le eistedd a gwell mynediad i ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Hoffwn ddiolch i Dîm y Prosiect am eu gwaith caled hyd yma wrth orffen y gwaith lliniaru llifogydd yr oedd mawr ei angen. Mae’r safleoedd hyn yn ardaloedd Tirwedd Cenedlaethol poblogaidd, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynnal a chadw a datblygu safleoedd fel rhain wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy poblogaidd i sicrhau bod modd i bawb sy’n ymweld â nhw barhau i’w mwynhau.”
“Rydym wedi gweld cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads dros y blynyddoedd diweddar a bydd prosiectau fel rhain, pan fyddan nhw wedi’u cwblhau, yn helpu i ddiogelu’r parc ar gyfer y dyfodol a bodloni disgwyliadau ymwelwyr.”
Mae cynlluniau ar gyfer gwaith gwella Loggerheads i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.