llais y sir

Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Cerdded a mwynhau uchafbwyntiau Dyffryn Dyfrdwy

Chamlas Llangollen

Mae Ceidwaid Cefn Gwlad Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arwain cyfres o deithiau cerdded tywys yn Nyffryn Dyfrdwy.

Gan groesi rhannau o dde Sir Ddinbych, fe edmygir Dyffryn Dyfrdwy am ei thirwedd a’i golygfeydd anhygoel sy’n gymysgedd o rostir grug, creigiau calch, coedwigoedd hynafol a chopâu gwyllt, ac afon Dyfrdwy’n llifo’n fawreddog drwy ganol popeth.

Bu’r tirluniau hardd, copâu gwefreiddiol a’r trefi a phentrefi hanesyddol yn ysbrydoliaeth ar gyfer chwedlau, llenyddiaeth, celf a cherddoriaeth ers canrifoedd lawer.

Mae Ceidwaid y Tirwedd Cenedlaethol, gyda chefnogaeth gan Natur er Budd Iechyd, yn arwain teithiau tywys rheolaidd yn Nyffryn Dyfrdwy, er mwyn amlygu’r gwaith maent yn ei wneud i warchod a diogelu’r ardal, a thywys pobl i fanteisio ar y tirweddau a’r dreftadaeth sy’n ei gwneud mor arbennig, a mwynhau’r buddion ychwanegol o fod allan yn yr awyr agored.

Fe fydd y daith dywys nesaf yn mwynhau’r Lili Wen Fach yn Eglwys Sant Tysilio, ddydd Iau 6 Chwefror rhwng 1pm a 3pm. Y man cyfarfod fydd Maes Llantysilio. Gan edrych allan dros Rhaeadr y Bedol, mae Eglwys Sant Tysilio yn enwog am garped o Lili Wen Fach, sydd yn ôl y sôn yn dyddio o’r 13eg Ganrif.

Ddydd Mawrth 11 Mawrth, rhwng 1pm a 3pm, fe fydd Ceidwaid yn arwain taith dywys o amgylch Gwarchodfa Natur Wenffrwd a Chamlas Llangollen. Mae’r warchodfa yn ymdroelli drwy amrywiaeth o gynefinoedd ac yn rhoi golygfeydd hardd ar draws yr Afon Dyfrdwy. Y man cyfarfod ydi Gwarchodfa Natur Wenffrwd.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych: “Mae mynd allan i’r awyr agored mor fanteisiol ar gyfer hybu iechyd corfforol a meddyliol a byddwn yn annog unrhyw un i ymuno â’r teithiau tywys gwych hyn gan y ceidwaid i ddysgu am reolaeth a hanes ardal Dyffryn Dyfrdwy.”

I gael rhagor o fanylion ac i archebu lle ar y teithiau cerdded, e-bostiwch chloe.webster@sirddinbych.gov.uk.

Bryngaer hanesyddol yn edrych dros ddyfodol newydd i natur

Caer Drewyn

Mae cofeb hanesyddol yng Nghorwen yn cefnogi gwaith i helpu dyfodol cenedlaethau o natur a chymunedau.

Mae timau Newid Hinsawdd a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i ddarparu cefnogaeth newydd i natur ac ymwelwyr ei mwynhau o dan lygad barcud cofeb Bryngaer Oes Haearn Caer Drewyn.

Mae dros 1,500 o goed wedi’u plannu ar y llethrau isaf o dan y fryngaer er mwyn helpu i greu cynefinoedd newydd llawn rhywogaethau amrywiol i gefnogi’r byd natur lleol.

Mae gwrych 190 metr o hyd wedi’i greu gyda chymorth disgyblion Ysgol Caer Drewyn, sy’n cynnwys dros 1,000 o goed chwip gan gynnwys y Ddraenen Wen, Y Ddraenen Ddu, Cyll, Celyn, Rhosyn Gwyllt, Rhosyn Bwrned, Gellyg Gwyllt ac Afalau Surion.

Mae'r gwrych hefyd yn cynnwys 19 o goed maint safonol gan gynnwys Derw Digoes, Derw Coesynnog, Bedw Arian, Bedw Cyffredin a Chriafolen.

Wrth ymyl y clawdd mae 389 o goed wedi’u plannu ar 2.4 hectar o dir. Bydd y safle newydd hwn yn cynnwys coed Criafolen, Bedw Arian, Bedw Cyffredin, Draenen Wen, Rhosyn Gwyllt, Cyll, Draenen Ddu, Celyn, Afalau Surion, Derw Digoes, Ysgaw, Aethnen a Breuwydd.

Plannwyd y coed gyda chwech i saith metr rhyngddynt er mwyn creu ardal o gynefin coetir a fyddai’n fwy ffafriol i fyd natur lleol.

Mae’r datblygiad yma’n rhan o waith y Cyngor i fynd i’r afael â’r Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol a ddatganwyd yn 2019 a’i fwriad i fod yn Ddi-garbon Net ac yn awdurdod lleol Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae colli a darnio cynefinoedd yn fygythiadau mawr i fioamrywiaeth, ac mae newid hinsawdd yn gwaethygu hyn drwy gyfyngu ar allu rhywogaethau i gael mynediad at gynefinoedd mwy ffafriol.

I Gaer Drewyn, fe grëwyd coetir a gwrychoedd i wella cysylltedd rhwng cynefinoedd cyfagos sydd eisoes yn bodoli fel coridorau bywyd gwyllt.

Mae datblygiadau eraill ar y safle yn cynnwys gwella ardaloedd o rostir a datblygu ardal o gynefin gwlyptir. Mae llwybrau troed ar y safle yn cael eu gwella, ochr yn ochr â ffensys a giatiau mynediad newydd.

Mae’r prosiect creu coetir wedi derbyn cyllid grant gwerth £800,000 a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU ac mae’n cael ei gynnal ochr yn ochr â phrosiectau eraill yng Nghaer Drewyn, gan gynnwys menter gwella tirwedd, a ariennir gan y Grid Cenedlaethol, a mesurau yn yr ardal ehangach i warchod y gylfinir.

Bydd tîm ceidwaid Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau i reoli’r safle yn y tymor hir fel rhan o’u rôl i sicrhau bod amgylchedd yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn cael ei wella a’i amddiffyn a bod y tir yn cael ei wneud yn fwy hygyrch.

 

Defaid yn rhoi hwb i dwf natur ar ochr bryn

Fryniau Prestatyn

Mae defaid yn helpu i roi hwb i flodau a bywyd gwyllt ar ochr bryn yn Sir Ddinbych.

Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cyflwyno diadell o ddefaid i Fryniau Prestatyn i helpu i gynnal yr amrywiaeth o flodau a bywyd gwyllt sy’n cyfrannu at gymeriad arbennig y safle.

Mae’r ochr bryn wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am ei laswelltiroedd calchfaen sy’n bwysig yn genedlaethol.

Mae defnyddio anifeiliaid sy’n pori yn lleihau’r angen i reoli safleoedd yn fecanyddol drwy ddefnyddio offer a pheiriannau trwm ac mae’n galluogi i’r tir gael ei reoli mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Codwyd ffensys a gosodwyd cyflenwad dŵr ym mis Ionawr 2022 gyda’r holl ddeunyddiau yn cael eu cario ar y safle â llaw oherwydd y mynediad cyfyngedig i gerbydau. Gosodwyd giatiau mochyn hefyd i sicrhau nad oedd mynediad i gerddwyr yn cael ei gyfyngu ar hyd Llwybr Clawdd Offa.

Mae’r defaid ar y safle i gefnogi’r nifer fawr o flodau a bywyd gwyllt ar y safle. Maent yn cyflawni hyn drwy gael gwared ar y llystyfiant trwchus ac agor y glastir yn yr hydref/gaeaf a fydd yn caniatáu i blanhigion blodeuol llai ffynnu erbyn yr haf, gan roi hafan i loÿnnod byw a bywyd gwyllt arall.

Mae’r anifeiliaid yn cael eu rhoi allan am gyfnodau byr rhwng mis Hydref a Mawrth a gofynnir i’r cyhoedd gadw eu cŵn ar dennyn pan fyddant yn cerdded trwy’r ardaloedd y mae’r defaid yn eu pori.

Yn ystod mis Chwefror, bydd defaid yn pori ardal ar yr Ochr Bryn sydd heb gael ei ffensio felly bydd bugail yn cael ei ddefnyddio er mwyn cadw’r ardal mewn cyflwr ffafriol.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Dyma enghraifft gwych arall o waith ‘adfer natur’ y mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych yn ei gyfanrwydd, yn rhan ohono.”

Gwaith Amddiffyn rhag Llifogydd yn dod i ben yn Loggerheads

Wal newydd yn loggerheads

Mae gwaith i wella’r amddiffynfeydd rhag llifogydd ym Mharc Gwledig Loggerheads wedi dod i ben yn ddiweddar.

Mae’r prosiect, a ddarparwyd gan y contractwyr lleol MWT a Waterco, yn rhan o set fwy o welliannau ac uwchraddiadau i adeiladau a fydd yn dechrau yn y parc gwledig yn ddiweddarach eleni. Cafodd y gwaith lliniaru llifogydd, yr oedd mawr ei angen, ei ariannu gan Lywodraeth y DU.

Dyfarnwyd £10.95 miliwn i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU ar gyfer hen etholaeth Gorllewin Clwyd i gefnogi datblygu 10 prosiect gyda’r nod o warchod treftadaeth unigryw Rhuthun, lles ei phobl a’i chymunedau gwledig.

Roedd y gwaith yn cynnwys ailadeiladu wal garreg bresennol ar hyd yr afon a oedd wedi suddo, gan achosi llifogydd yn y parc gwledig dros y blynyddoedd diweddar, yn ogystal ag adnewyddu pont droed bren yr A494, a oedd wedi bod yn ei lle ers mwy nag ugain mlynedd. Cyflwynwyd perllan gymunedol newydd ac ardal eistedd hefyd i ymwelwyr eu mwynhau.

Bydd gwelliannau pellach yn dechrau yn 2025, gan gynnwys uwchraddio’r prif adeiladau i ymwelwyr a’r caffi, creu canopi allanol gyda mwy o le eistedd a gwell mynediad i ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Hoffwn ddiolch i Dîm y Prosiect am eu gwaith caled hyd yma wrth orffen y gwaith lliniaru llifogydd yr oedd mawr ei angen. Mae’r safleoedd hyn yn ardaloedd Tirwedd Cenedlaethol poblogaidd, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynnal a chadw a datblygu safleoedd fel rhain wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy poblogaidd i sicrhau bod modd i bawb sy’n ymweld â nhw barhau i’w mwynhau.”

“Rydym wedi gweld cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads dros y blynyddoedd diweddar a bydd prosiectau fel rhain, pan fyddan nhw wedi’u cwblhau, yn helpu i ddiogelu’r parc ar gyfer y dyfodol a bodloni disgwyliadau ymwelwyr.”

Mae cynlluniau ar gyfer gwaith gwella Loggerheads i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.

Gosod offer achub bywyd mewn maes parcio yng nghefn gwlad

Coed Moel Famau

Mae offer achub bywyd hanfodol wedi cael ei ailosod mewn maes parcio yng nghefn gwlad ar ôl i rywun ddwyn y gwreiddiol yn 2023.

Diolch i Redwyr Bryniau Dyffryn Clwyd mae arian wedi cael ei godi i brynu a gosod diffibriliwr newydd ym mloc toiledau Coed Moel Famau ar ôl i ladron ddwyn yr un gwreiddiol.

Cafodd yr offer gwreiddiol ei ariannu gan Redwyr Bryniau Dyffryn Clwyd yn 2018 a’i gyflwyno i’r ceidwaid cefn gwlad a oedd yn gofalu am y lleoliad.

Ar ôl y lladrad honedig fe gychwynnodd aelod o’r grŵp gronfa ar GoFund Me wnaeth godi £420 tuag at ddiffibriliwr newydd. Cyfrannodd Gyfeillion Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy £300 ac aelod ward y cyngor lleol at y gronfa.

Cyfrannodd Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy weddill y costau gyda chyngor a chefnogaeth gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

Erbyn hyn mae’r diffibriliwr wedi cael ei osod ac mae’r offer yn barod i ddarparu cefnogaeth i achub bywyd os oes angen.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio’r Cabinet: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Redwyr Bryniau Dyffryn Clwyd ar arwain yr ymgyrch i gael yr offer achub bywyd hanfodol hwn ym mloc toiledau Coed Moel Famau. Hoffwn ddiolch i bawb arall wnaeth gyfrannu at wneud yn siŵr bod yna ddiffibrilwr yn ôl yn y lleoliad hwn.”

Safle datblygu gwlyptir bryniau Clwyd yn dechrau ymffurfio

Moel y Plas

Mae ardal newydd o wlyptir yn cael ei ffurfio ar Fryniau Clwyd i gynorthwyo i gefnogi natur yn lleol.

Mae gwaith creu gwlyptir ychwanegol ar y gweill ar safle gwarchodfa natur Moel y Plas, ger Llanarmon yn Iâl.

Mae tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ar y cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych, yn datblygu ardal ar y bryniau er budd natur a chymunedau lleol.

Mae bron i 18,000 o goed llydanddail cynhenid wedi’u plannu ar y safle i greu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau amrywiol, mae llwyni wedi’u plannu i wella cysylltedd ar draws y safle a thrwy weithio gyda phrosiectau ffarmio bu modd dechrau adfer cynefinoedd ucheldir fel Rhostiroedd a Ffriddoedd drwy ailgyflwyno anifeiliaid pori.

Mae hygyrchedd ar gyfer ymwelwyr yr ardal wedi’i wella hefyd gyda ffensys newydd, arwyddion a giatiau mochyn er mwyn sicrhau bod y llwybrau’n hygyrch ac yn hawdd eu dilyn.

Bydd yr ardal newydd o wlyptir ym Moel y Plas yn gymorth i ddarparu lloches a bwyd ar gyfer nifer o anifeiliaid ac yn annog ystod eang o blanhigion i dyfu yno. Bydd y math yma o ardal hefyd yn storio carbon sy’n gymorth i liniaru effaith Newid Hinsawdd a gall weithredu fel rhwystr llifogydd naturiol drwy amsugno dŵr yn ystod cyfnodau o law trwm.

Gall ystod eang o fywyd gwyllt ddefnyddio’r math yma o gynefin sydd ar y gweill ym Moel y Plas, gan gynnwys Llygod Pengrwn y Dŵr, Chwistlod y Dŵr, Brogaod Cyffredin, Hwyaid Gwyllt, Crehyrod Glas, Crehyrod Bach Copog a Glas y Dorlan hyd yn oed.

Mae modd canfod pryfaid fel Rhianedd y Dŵr a Chwilod Dŵr yn y cynefin hefyd ochr yn ochr â Mursennod. Gall gwlyptiroedd annog tyfiant blodau gwyllt, fel Tegeirian Bera.

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae colli ein tir cynefin yn fygythiad mawr i fioamrywiaeth lleol ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wrthdroi hynny. Fe fydd yr ardal o wlyptir a ddatblygir ym Moel y Plas, sy’n safle gwych ar gyfer natur ac ymwelwyr, yn gymorth i annog nifer o rywogaethau i ffynnu eto ym Mryniau Clwyd.”

Ar gyfer datblygiad Moel y Plas, fe grëwyd coetir a gwrychoedd i wella cysylltedd rhwng cynefinoedd cyfagos sydd eisoes yn bodoli fel coridorau bywyd gwyllt.

Mae’r prosiect creu coetir wedi cael cyllid allan o grant o £800,000 a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU.

Bydd tîm ceidwaid Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau i reoli’r safle yn yr hirdymor fel rhan o’u rôl i sicrhau bod amgylchedd yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn cael ei wella a’i amddiffyn a bod y tir yn cael ei wneud yn fwy hygyrch.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid