llais y sir

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Dathlu Diwrnod y Llyfr

Dathlwyd Diwrnod y Llyfr ar Fawrth 7fed yn ein Llyfrgelloedd gydag ymweliadau gan ysgolion, storiâu a sesiynau rhigwm hwyliog gan y tîm Dechrau Da.

Mae Diwrnod y Llyfr yn ddathliad rhyngwladol o lyfrau a darllen. 

Gall teuluoedd ddewis o’r casgliad eang sydd ar gael ar ein silffoedd a hefyd drwy ap Borrowbox i’w lawrlwytho am ddim. Eleni rhoddwyd cannoedd o dalebau llyfrau am ddim i blant y Sir yn ein Llyfrgelloedd yn ogystal â nifer o lyfrau am ddim. 

Mis Hanes LHDT+

Yn Chwefror cynhaliodd Llyfrgell y Rhyl ddigwyddiad arbennig i ddathlu Mis Hanes LHDT+.

Roedd arddangosfeydd a stondinau gan sefydliadau lleol, er enghraifft, siaradodd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru am Linell Amser LHDT+ ar gyfer Gogledd Cymru a bu Sir Ddinbych yn Gweithio yn hyrwyddo eu gwasanaethau i helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant. Roedd sefydliadau eraill yn cynnwys y Gay Outdoors Club, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Making Sense a’r Rhwydwaith Trawsrywiol Unigryw.

Cafwyd sgwrs addysgiadol gan Jenny-Anne Bishop OBE am hanes gwasanaethau rhywedd yng Nghymru a chafwyd perfformiad difyr am Foneddigesau Llangollen trwy lygad eu ffrind ffyddlon a’u morwyn, Mary Caryll.

Drwy gydol y mis bu llyfrgelloedd yn hyrwyddo’r amrywiaeth o ffuglen LHDT+ sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd a thrwy Borrowbox.

 

Sesiynau Cerdd Dechrau Da Sir Ddinbych

Cafwyd sesiynau bywiog a cherddorol yn y cyfarfodydd Dechrau Da yn Llyfrgelloedd Rhuthun, Prestatyn a Rhyl gyda chyfeiliant offerynau amrywiol i’r rhigymau arferol.  Darparwyd y gerddoriaeth gan Ganolfan Gerdd William Mathias gyda Charlotte ac Angharad yn canu’r delyn, sacsoffon a flugelhorn.  Roedd y plant a’r babis wrth eu boddau yn cael eu swyno gan sŵn yr offerynau, mwynhawyd sesiynau hwyliog gan y teuluoedd.

Diolch i Dîm Cymunedau Bywiog, Hamdden Sir Ddinbych am gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gynnal a threfnu’r gweithgareddau creadigol yma.

Hyder Digidol Sir Ddinbych

Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych mewn partneriaeth gyda Cwmpas yn cynnal nifer o sesiynau Hyder Digidol yn eu Llyfrgelloedd, cynllun a alluogwyd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd yn gwella lefelau cynhwysiant digidol ac yn lleihau’r rhwystrau y mae trigolion Sir Ddinbych yn eu hwynebu sy’n eu hatal rhag symud i gyflogaeth ac addysg. gan ddarparu ystod o ymyriadau cynhwysiant digidol uniongyrchol i ddinasyddion Sir Ddinbych.

Mae’r sesiynau o fudd i unigolion yn Sir Ddinbych sy’n profi allgáu digidol oherwydd rhai neu bob un o’r ffactorau canlynol.

  • Sgiliau, llythrennedd digidol sylfaenol
  • Tlodi, anallu i fforddio mynediad at dechnoleg a thrwy hynny gael mynediad at adnoddau ar-lein fel bancio a chyflenwyr ynni.
  • Daearyddiaeth, cysylltedd 4G neu fand eang cyfyngedig neu ddim o gwbl.
  • Y gallu i gael mynediad at ofal iechyd.
  • Angen mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

Cynnigir amrywiaeth o sesiynau galw heibio, gweithdai, a chyrsiau sgiliau hanfodol. Mae darpariaeth ddiweddar wedi cynnwys sesiynau ar ddiogelwch ar-lein, siopa’n ddiogel ar-lein, hanes a hel atgofion, chwilio am waith, adnoddau iechyd a lles ar-lein, ymgyfarwyddo llechen a chyfrifiaduron sylfaenol ac ymwybyddiaeth cyfryngau cymdeithasol.

Gyda’n gilydd, gadewch i ni adeiladu Sir Ddinbych ddigidol gynhwysol.

Sesiwn ddigidol boblogaidd yn Llyfrgell Dinbych

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid