llais y sir

Newyddion

Pleidleisio mewn etholiadau

Mae angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Mae hyn yn berthnasol i:

  • Etholiadau seneddol y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol, isetholiadau a deisebau adalw
  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru neu etholiadau cynghorau lleol.

Ffurfiau ID Ffotograffig a dderbynnir

Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r mathau canlynol o ID ffotograffig a dderbynnir wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.

Teithiau rhyngwladol

  • Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth AEE neu o wledydd y Gymanwlad (gan gynnwys Cerdyn Pasbort Gwyddelig)

Gyrru a Pharcio

  • Trwydded yrru a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE (mae hyn yn cynnwys trwydded yrru dros dro)
  • Bathodyn Glas

Teithio lleol

  • Pàs Bws Person Hŷn a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Pàs Bws Person Anabl a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Cerdyn Oyster 60+ a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Pàs Freedom
  • Cerdyn Hawl Cenedlaethol yr Alban a roddwyd at ddibenion teithio rhatach (gan gynnwys Pàs bws 60+, anabl neu rai dan 22 oed)
  • Cerdyn Teithio Rhatach i bobl 60 oed a hŷn a gyhoeddir yng Nghymru
  • Cerdyn Teithio Rhatach i bobl anabl a gyhoeddwyd yng Nghymru
  • SmartPass i Bobl Hŷn a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass i bobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Anabledd Rhyfel a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass 60+ a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Hanner Pris a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)

Dogfennau eraill a gyhoeddwyd gan y llywodraeth

  • Dogfen mewnfudo fiometrig
  • Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddir gan wladwriaeth AEE
  • Cerdyn Adnabod Etholiadol a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
  • Dogfen Etholwr Dienw

Dim ond un math o ID ffotograffig y bydd angen i chi ei ddangos. Mae angen iddo fod yn fersiwn wreiddiol ac nid llungopi.

ID ffotograffig nad yw’n gyfredol

Gallwch ddal defnyddio eich ID ffotograffig os nad yw’n gyfredol, cyhyd â’i fod yn dal yn edrych yn debyg i chi.

Dylai’r enw ar eich ID fod yr un enw a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru i bleidleisio.

Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Gallwch wneud cais am ddogfen adnabod pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr; https://www.gov.uk/apply-for-photo-id-voter-authority-certificate

Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio cyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Newidiadau i Bleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy

Gallwch nawr wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post ac ar gyfer rhai mathau o bleidleisio drwy ddirprwy. Mae'r newidiadau hyn yn berthnasol i etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys is-etholiadau a deisebau adalw, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Gofynnir i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol wrth wneud cais, i brofi pwy ydych.

Mae terfynau ar faint o bobl y gall pleidleisiwr weithredu fel dirprwy ar eu rhan. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar gyfer dau berson sy'n byw yn y DU y gallwch chi weithredu fel dirprwy. Os ydych yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer pobl sy'n byw dramor, gallwch weithredu fel dirprwy ar gyfer hyd at bedwar o bobl ond dim ond dau o'r rhain y gellir eu lleoli yn y DU.

Nid yw’r newidiadau’n berthnasol i etholiadau Senedd Cymru a chynghorau lleol yng Nghymru. Ar gyfer yr etholiadau hyn bydd angen i chi lenwi ffurflen gais bapur o hyd.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pleidleisio-ac-etholiadau/ffyrdd-i-bleidleisio neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0800 328 0280.

Y Cyngor a Chlwb Golff y Rhyl i gydweithio ar adeilad Clwb newydd

Clwb Golff Y Rhyl

Mae’r Cyngor a Chlwb Golff y Rhyl wedi bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau y bydd Cynllun Amddiffyn Arfordirol Canol Prestatyn yn cael ei gwblhau ar amser, a’r dyddiad gorffen yn dal ar y trywydd cywir i fod ddiwedd y flwyddyn nesaf.

Mae’r Cynllun wedi cael effaith sylweddol ar y Clwb Golff a’r Cwrs Golff, ac mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda’r Clwb Golff i sicrhau bod yr effaith hon mor fach â phosib’, a sicrhau hefyd bod y Clwb yn gallu parhau i weithredu ar ôl cwblhau’r prosiect.

O ganlyniad uniongyrchol i’r Cynllun Amddiffyn rhag Llifogydd, mae’r Clwb angen adeilad Clwb newydd, a bydd y gost yn cael ei thalu o’r gyllideb y cytunwyd arni’n wreiddiol ar gyfer y Cynllun. Mae hyn yn bosib’ gan fod digon o arian at raid wedi’i gynnwys yng nghyllideb y prosiect i dalu costau oedd yn gysylltiedig ag adeilad y Clwb. Y cynllun gwreiddiol oedd adnewyddu’r adeilad presennol, ond penderfynwyd nad oedd hynny’n ymarferol ar ôl archwilio’r adeilad yn fwy manwl.

Mae 85% o’r cyllid ar gyfer y Cynllun Amddiffyn Arfordirol wedi dod gan Lywodraeth Cymru, gyda 15% o gyllid cyfatebol gan Gyngor Sir Ddinbych.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i weithio gyda’r Clwb Golff a’i bartneriaid i sicrhau bod y Cynllun Amddiffyn Arfordirol yn cael ei gyflawni o fewn y terfynau amser a gynlluniwyd ac o fewn y gyllideb a sicrhau nad oes effaith andwyol ar gymunedau lleol. Bydd y cynllun llifogydd hwn yn gwarchod dros 2,000 o adeiladau rhag llifogydd posib’ ac erydiad yr arfordir am y 100 mlynedd nesaf.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cynnal perthynas waith dda gyda Chlwb Golff y Rhyl drwy gydol cyfnod y gwaith adeiladu, ac mae’r Cyngor yn deall yn iawn bod y gwaith wedi cael effaith fawr ar y clwb a’i allu i weithredu. Mi hoffem ni ddiolch i’r Clwb am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod yma.

Rydyn ni rŵan yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i gwblhau’r prosiect mor fuan â phosib’, fel bod adeiladau’n cael eu gwarchod rhag llifogydd arfordirol a bod y Clwb yn gallu dychwelyd i weithredu fel arfer.

Dywedodd Dave Miller, Cyfarwyddwr Cyllid Clwb Golff y Rhyl:

“Bydd adeilad Clwb newydd yn ased arbennig fydd yn dod â nifer o fanteision i’r gymuned yn yr ardal. Bydd yn ganolbwynt cymunedol fydd yn gallu cynnal digwyddiadau a hefyd yn gartref ar newydd wedd i golffwyr y Rhyl.

Rydyn ni’n diolch i’r Cyngor am eu cydweithrediad, ac yn edrych ymlaen at groesawu ein golffwyr yn ôl i chwarae yn nhymor newydd y gwanwyn.”

Y Rhyl i dderbyn cyllid i gefnogi prosiectau yn y dyfodol

Mae'r Cyngor yn croesawu dyraniad cyllid tuag at brosiectau yn y dyfodol yn y Rhyl.

Yn dilyn cyhoeddi cyllideb y gwanwyn, mae £20 miliwn wedi’i ddyrannu i Sir Ddinbych fel rhan o’r fenter Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi, er mwyn llunio cynllun hirdymor i gefnogi’r Rhyl.

Bydd y cyllid tebyg i gronfa waddol yn rhoi sicrwydd ar gyfer cyflawni prosiectau dros gyfnod deng mlynedd y rhaglen, a hyblygrwydd i fuddsoddi mewn ymyriadau sy’n seiliedig ar anghenion a dymuniadau lleol.

Bydd y Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Tref a ffurfiwyd yn ddiweddar, i gydweithio â budd-ddeiliaid lleol, er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwireddu gweledigaeth a rennir ar gyfer y dref.

Mae’r £20 miliwn ychwanegol hwn o Gyllid Ffyniant Bro ar gyfer y Rhyl, yn ychwanegol i’r £35 miliwn o Gyllid Ffyniant Bro sydd eisoes wedi’i ddarparu i Sir Ddinbych ar draws ardaloedd etholaeth De Clwyd, Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd, yn dangos hyder amlwg yng Nghabinet a Rheolwyr y Cyngor i gyflawni rhaglen newid, cefnogi a datblygu ein cymunedau.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid