Cynnyrch Coed Meifod
Oeddech chi'n gwybod bod gan Gynnyrch Coed Meifod dudalen Facebook?
Mae Meifod, sy'n cynhyrchu dodrefn gardd, yn darparu gwasanaethau gweithgareddau yn ystod y dydd i oedolion ag anableddau cymhleth.
Pam na wnewch chi eu dilyn ar Facebook? Mae ganddynt lawer o bethau i'w gwerthu, gan gynnwys:
- Plannwyr
- Meinciau
- Byrddau a Chadeiriau
- Byrddau Picnic
a llawer mwy
Maent wedi'u lleoli ar Stad Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych a gallwch eu e-bostio ar meifod.woodproducts@sirddinbych.gov.uk neu gallwch ffonio nhw ar 01745 816900.
![](/img/34cf27c4/1024/1024)
Gwersylloedd Haf yr Urdd 2024
![](/img/61ade960/1024/1024)
Gwersylloedd Haf yr Urdd 2024
Ydych chi’n chwilio am opsiynau gofal plant fforddiadwy dros yr haf?
Mae gwersylloedd haf Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, yn cynnig cyrsiau i blant a phobl ifanc 8-25 oed sy’n llawn cyffro, gweithgareddau a mwynhad.
Gwersylloedd 2024
Gwersyll Pentre Ifan, Sir Benfro
- Cwrs Cynaladwyedd a Natur, 13-15 Awst, bl. 12 a 13
- Enclil Haf: Lles a Natur, 19-21 Awst, 18-25 oed
- Enclil Haf: Lles a Natur, 22-24 Awst, bl. 12 a 13
- Gwersyll Gwyllt, 27-29 Awst, bl.7 a 8
Gwersyll Caerdydd
- Dianc i’r ddinas, 22-26 Gorffennaf, bl. 7-9
- Wythnos Hwyl, 29 Gorffennaf – 2 Awst, bl.4-6
- Cwrs Perfformio, 12-16 Awst, bl.4-6
- Cwrs Creu, 20-23 Awst, bl.7-9
- Gŵyl Hwyl, 27-29 Awst, bl.4-6
Gwersyll Llangrannog, Ceredigion
- Wythnos Joio, 22-26 Gorffennaf, bl. 4-7
- Tridiau Joio, 29-31 Gorffennaf, bl.4-7
- Gwersyll dwyieithog, 31 Gorffennaf – 2 Awst, bl. 4-7
Gwersyll Glan-llyn, Gwynedd
- Anturdd Fawr, 22-26 Gorffennaf, bl. 7 a 8
- Antur i’r Eithaf, 22-26 Gorffennaf, bl. 9 a 10
- Dysgwyr Cynradd, 29-31 Gorffennaf, bl. 4-6
- Dysgwyr Uwchradd, 29 Gorffennaf – 2 Awst bl. 7 a 8
- Dysgwyr Cynradd, 31 Gorffennaf – 2 Awst, bl.4-6
- Anturdd Fach, 20-23 Awst, bl.4-6
- Antur i’r Eithaf, 20-23 Awst, bl. 9 a 10
I roi profiad bythgofiadwy i’ch plentyn /blant, cofrestrwch yma: www.urdd.cymru/gwersyllhaf
Cronfa Cyfle i Bawb
Diolch i nawdd caredig ffrindiau a phartneriaid yr Urdd, mae Cronfa Cyfle i Bawb yn cynnig lle i 300 o blant yng ngwersylloedd haf 2024.
Gall rhieni, warchodwr neu athrawon wneud cais i’r gronfa i dalu am wyliau i blentyn neu berson ifanc sy’n dod o gefndir incwm isel. Bydd y gronfa yn talu am bris cyfan y cwrs.
Gwneud cais i’r gronfa.