llais y sir

Newyddion

Pleidleisio mewn etholiadau

Mae angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Mae hyn yn berthnasol i:

  • Etholiadau seneddol y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol, isetholiadau a deisebau adalw
  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru neu etholiadau cynghorau lleol.

Ffurfiau ID Ffotograffig a dderbynnir

Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r mathau canlynol o ID ffotograffig a dderbynnir wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.

Teithiau rhyngwladol

  • Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth AEE neu o wledydd y Gymanwlad (gan gynnwys Cerdyn Pasbort Gwyddelig)

Gyrru a Pharcio

  • Trwydded yrru a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE (mae hyn yn cynnwys trwydded yrru dros dro)
  • Bathodyn Glas

Teithio lleol

  • Pàs Bws Person Hŷn a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Pàs Bws Person Anabl a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Cerdyn Oyster 60+ a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Pàs Freedom
  • Cerdyn Hawl Cenedlaethol yr Alban a roddwyd at ddibenion teithio rhatach (gan gynnwys Pàs bws 60+, anabl neu rai dan 22 oed)
  • Cerdyn Teithio Rhatach i bobl 60 oed a hŷn a gyhoeddir yng Nghymru
  • Cerdyn Teithio Rhatach i bobl anabl a gyhoeddwyd yng Nghymru
  • SmartPass i Bobl Hŷn a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass i bobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Anabledd Rhyfel a gyhoeddwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass 60+ a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Hanner Pris a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)

Dogfennau eraill a gyhoeddwyd gan y llywodraeth

  • Dogfen mewnfudo fiometrig
  • Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddir gan wladwriaeth AEE
  • Cerdyn Adnabod Etholiadol a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
  • Dogfen Etholwr Dienw

Dim ond un math o ID ffotograffig y bydd angen i chi ei ddangos. Mae angen iddo fod yn fersiwn wreiddiol ac nid llungopi.

ID ffotograffig nad yw’n gyfredol

Gallwch ddal defnyddio eich ID ffotograffig os nad yw’n gyfredol, cyhyd â’i fod yn dal yn edrych yn debyg i chi.

Dylai’r enw ar eich ID fod yr un enw a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru i bleidleisio.

Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Gallwch wneud cais am ddogfen adnabod pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr; https://www.gov.uk/apply-for-photo-id-voter-authority-certificate

Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio cyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Newidiadau i Bleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy

Gallwch nawr wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post ac ar gyfer rhai mathau o bleidleisio drwy ddirprwy. Mae'r newidiadau hyn yn berthnasol i etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys is-etholiadau a deisebau adalw, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Gofynnir i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol wrth wneud cais, i brofi pwy ydych.

Mae terfynau ar faint o bobl y gall pleidleisiwr weithredu fel dirprwy ar eu rhan. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar gyfer dau berson sy'n byw yn y DU y gallwch chi weithredu fel dirprwy. Os ydych yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer pobl sy'n byw dramor, gallwch weithredu fel dirprwy ar gyfer hyd at bedwar o bobl ond dim ond dau o'r rhain y gellir eu lleoli yn y DU.

Nid yw’r newidiadau’n berthnasol i etholiadau Senedd Cymru a chynghorau lleol yng Nghymru. Ar gyfer yr etholiadau hyn bydd angen i chi lenwi ffurflen gais bapur o hyd.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pleidleisio-ac-etholiadau/ffyrdd-i-bleidleisio neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0800 328 0280.

Y Cyngor a Chlwb Golff y Rhyl i gydweithio ar adeilad Clwb newydd

Clwb Golff Y Rhyl

Mae’r Cyngor a Chlwb Golff y Rhyl wedi bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau y bydd Cynllun Amddiffyn Arfordirol Canol Prestatyn yn cael ei gwblhau ar amser, a’r dyddiad gorffen yn dal ar y trywydd cywir i fod ddiwedd y flwyddyn nesaf.

Mae’r Cynllun wedi cael effaith sylweddol ar y Clwb Golff a’r Cwrs Golff, ac mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda’r Clwb Golff i sicrhau bod yr effaith hon mor fach â phosib’, a sicrhau hefyd bod y Clwb yn gallu parhau i weithredu ar ôl cwblhau’r prosiect.

O ganlyniad uniongyrchol i’r Cynllun Amddiffyn rhag Llifogydd, mae’r Clwb angen adeilad Clwb newydd, a bydd y gost yn cael ei thalu o’r gyllideb y cytunwyd arni’n wreiddiol ar gyfer y Cynllun. Mae hyn yn bosib’ gan fod digon o arian at raid wedi’i gynnwys yng nghyllideb y prosiect i dalu costau oedd yn gysylltiedig ag adeilad y Clwb. Y cynllun gwreiddiol oedd adnewyddu’r adeilad presennol, ond penderfynwyd nad oedd hynny’n ymarferol ar ôl archwilio’r adeilad yn fwy manwl.

Mae 85% o’r cyllid ar gyfer y Cynllun Amddiffyn Arfordirol wedi dod gan Lywodraeth Cymru, gyda 15% o gyllid cyfatebol gan Gyngor Sir Ddinbych.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i weithio gyda’r Clwb Golff a’i bartneriaid i sicrhau bod y Cynllun Amddiffyn Arfordirol yn cael ei gyflawni o fewn y terfynau amser a gynlluniwyd ac o fewn y gyllideb a sicrhau nad oes effaith andwyol ar gymunedau lleol. Bydd y cynllun llifogydd hwn yn gwarchod dros 2,000 o adeiladau rhag llifogydd posib’ ac erydiad yr arfordir am y 100 mlynedd nesaf.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cynnal perthynas waith dda gyda Chlwb Golff y Rhyl drwy gydol cyfnod y gwaith adeiladu, ac mae’r Cyngor yn deall yn iawn bod y gwaith wedi cael effaith fawr ar y clwb a’i allu i weithredu. Mi hoffem ni ddiolch i’r Clwb am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod yma.

Rydyn ni rŵan yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i gwblhau’r prosiect mor fuan â phosib’, fel bod adeiladau’n cael eu gwarchod rhag llifogydd arfordirol a bod y Clwb yn gallu dychwelyd i weithredu fel arfer.

Dywedodd Dave Miller, Cyfarwyddwr Cyllid Clwb Golff y Rhyl:

“Bydd adeilad Clwb newydd yn ased arbennig fydd yn dod â nifer o fanteision i’r gymuned yn yr ardal. Bydd yn ganolbwynt cymunedol fydd yn gallu cynnal digwyddiadau a hefyd yn gartref ar newydd wedd i golffwyr y Rhyl.

Rydyn ni’n diolch i’r Cyngor am eu cydweithrediad, ac yn edrych ymlaen at groesawu ein golffwyr yn ôl i chwarae yn nhymor newydd y gwanwyn.”

Y Rhyl i dderbyn cyllid i gefnogi prosiectau yn y dyfodol

Mae'r Cyngor yn croesawu dyraniad cyllid tuag at brosiectau yn y dyfodol yn y Rhyl.

Yn dilyn cyhoeddi cyllideb y gwanwyn, mae £20 miliwn wedi’i ddyrannu i Sir Ddinbych fel rhan o’r fenter Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi, er mwyn llunio cynllun hirdymor i gefnogi’r Rhyl.

Bydd y cyllid tebyg i gronfa waddol yn rhoi sicrwydd ar gyfer cyflawni prosiectau dros gyfnod deng mlynedd y rhaglen, a hyblygrwydd i fuddsoddi mewn ymyriadau sy’n seiliedig ar anghenion a dymuniadau lleol.

Bydd y Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Tref a ffurfiwyd yn ddiweddar, i gydweithio â budd-ddeiliaid lleol, er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwireddu gweledigaeth a rennir ar gyfer y dref.

Mae’r £20 miliwn ychwanegol hwn o Gyllid Ffyniant Bro ar gyfer y Rhyl, yn ychwanegol i’r £35 miliwn o Gyllid Ffyniant Bro sydd eisoes wedi’i ddarparu i Sir Ddinbych ar draws ardaloedd etholaeth De Clwyd, Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd, yn dangos hyder amlwg yng Nghabinet a Rheolwyr y Cyngor i gyflawni rhaglen newid, cefnogi a datblygu ein cymunedau.

Gwastraff ac Ailgylchu

Y gwasanaeth ailgylchu newydd

Mae'r cynwysyddion Trolibocs newydd yn parhau i gael eu dosbarthu ledled y sir a gallwch wirio'r cyflenwadau sydd i ddod ar y tudalennau ailgylchu ar y wefan.

 

Cofiwch! Nid yw’r gwasanaeth newydd yn cychwyn tan ddydd Llun, 3 Mehefin.

Llun o\'r Trolibocs ailgylchu

Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni gyflwyno'r gwasanaeth newydd i 45,000 o gartrefi ledled y sir. Mae pecyn gwybodaeth cynhwysfawr am y gwasanaeth newydd ym mlwch uchaf y Trolibocs ac mae gwybodaeth helaeth ar dudalen cwestiynau cyffredin y wefan.  Gall eich diwrnod casglu newid, a gallwch wirio’r wybodaeth hon ar ein gwefan o ddydd Mercher, 15 Mai.

Mae popeth sydd angen i chi ei wybod am y gwasanaeth newydd ar gael ar dudalen newidiadau ailgylchu a gwastraff y wefan. Yma mae gwybodaeth am beth sy'n newid, canllawiau a gwybodaeth, cyflwyniad i'r Trolibocs newydd a llawer mwy.

Ffeithiau allweddol am y gwasanaeth newydd:

  • ailgylchu (papur, gwydr, cardbord, plastig, metelau a thuniau) i'w gasglu bob wythnos
  • gwastraff bwyd i'w gasglu bob wythnos
  • capasiti ailgylchu yn cynyddu o 240 litr bob pythefnos i 290 litr yr wythnos (mwy na dwbl y capasiti presennol)
  • casgliad am ddim o eitemau trydanol bach a batris cartref bob wythnos
  • deunyddiau hylendid amsugnol i'w casglu bob wythnos (gwasanaeth tanysgrifio)
  • gwastraff gardd i'w gasglu bob pythefnos (gwasanaeth y codir tâl amdano)
  • casglu tecstilau am ddim bob pedair wythnos
  • gwastraff na ellir ei ailgylchu i'w gasglu bob pedair wythnos mewn bin mwy 240 litr

Llun o\'r pecyn gwybodaeth am ailgylchu

Ar hyn o bryd, mae Sir Ddinbych yn gorfod talu i sortio ailgylchu ac mae’r gost hon yn cynyddu. Gan fod rhywfaint o'r ailgylchu cymysg presennol wedi'i lygru, mae'n arwain at ddirwyon. Yn ogystal, gallai tua 33% o'r hyn sy'n cael ei roi mewn biniau du ar hyn o bryd gael ei ailgylchu. Gyda thrigolion yn sortio eu hailgylchu eu hunain bydd yn golygu llai o lygru, ac felly llai o ddirwyon. Yn ogystal, bydd cynnydd mewn ailgylchu a bydd o ansawdd gwell fydd yn galluogi’r cyngor i ddewis ble mae deunyddiau'n cael eu gwerthu.

Hyd yn oed gyda mwy o gasgliadau a gweithwyr, bydd y gwasanaeth yn rhatach na'r model presennol ac yn bwysicach fyth, mae'n well i'r amgylchedd.

Dyddiadau allweddol:

23 Chwefror – 17 Mai                  Dosbarthu’r cynwysyddion Trolibocs ledled y sir

Dydd Mercher, 16 Mai                 Gwybodaeth am ddyddiadau casglu ar gael ar y wefan

Dydd Llun 3 Mehefin                    Gwasanaeth newydd yn dechrau

 

Mae eich ailgylchu’n gwneud gwahaniaeth MAWR yn Sir Ddinbych.

Llun o logo Sir Ddinbych yn ailgylchu

 

 

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Dathlu Diwrnod y Llyfr

Dathlwyd Diwrnod y Llyfr ar Fawrth 7fed yn ein Llyfrgelloedd gydag ymweliadau gan ysgolion, storiâu a sesiynau rhigwm hwyliog gan y tîm Dechrau Da.

Mae Diwrnod y Llyfr yn ddathliad rhyngwladol o lyfrau a darllen. 

Gall teuluoedd ddewis o’r casgliad eang sydd ar gael ar ein silffoedd a hefyd drwy ap Borrowbox i’w lawrlwytho am ddim. Eleni rhoddwyd cannoedd o dalebau llyfrau am ddim i blant y Sir yn ein Llyfrgelloedd yn ogystal â nifer o lyfrau am ddim. 

Mis Hanes LHDT+

Yn Chwefror cynhaliodd Llyfrgell y Rhyl ddigwyddiad arbennig i ddathlu Mis Hanes LHDT+.

Roedd arddangosfeydd a stondinau gan sefydliadau lleol, er enghraifft, siaradodd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru am Linell Amser LHDT+ ar gyfer Gogledd Cymru a bu Sir Ddinbych yn Gweithio yn hyrwyddo eu gwasanaethau i helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant. Roedd sefydliadau eraill yn cynnwys y Gay Outdoors Club, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Making Sense a’r Rhwydwaith Trawsrywiol Unigryw.

Cafwyd sgwrs addysgiadol gan Jenny-Anne Bishop OBE am hanes gwasanaethau rhywedd yng Nghymru a chafwyd perfformiad difyr am Foneddigesau Llangollen trwy lygad eu ffrind ffyddlon a’u morwyn, Mary Caryll.

Drwy gydol y mis bu llyfrgelloedd yn hyrwyddo’r amrywiaeth o ffuglen LHDT+ sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd a thrwy Borrowbox.

 

Sesiynau Cerdd Dechrau Da Sir Ddinbych

Cafwyd sesiynau bywiog a cherddorol yn y cyfarfodydd Dechrau Da yn Llyfrgelloedd Rhuthun, Prestatyn a Rhyl gyda chyfeiliant offerynau amrywiol i’r rhigymau arferol.  Darparwyd y gerddoriaeth gan Ganolfan Gerdd William Mathias gyda Charlotte ac Angharad yn canu’r delyn, sacsoffon a flugelhorn.  Roedd y plant a’r babis wrth eu boddau yn cael eu swyno gan sŵn yr offerynau, mwynhawyd sesiynau hwyliog gan y teuluoedd.

Diolch i Dîm Cymunedau Bywiog, Hamdden Sir Ddinbych am gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gynnal a threfnu’r gweithgareddau creadigol yma.

Hyder Digidol Sir Ddinbych

Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych mewn partneriaeth gyda Cwmpas yn cynnal nifer o sesiynau Hyder Digidol yn eu Llyfrgelloedd, cynllun a alluogwyd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd yn gwella lefelau cynhwysiant digidol ac yn lleihau’r rhwystrau y mae trigolion Sir Ddinbych yn eu hwynebu sy’n eu hatal rhag symud i gyflogaeth ac addysg. gan ddarparu ystod o ymyriadau cynhwysiant digidol uniongyrchol i ddinasyddion Sir Ddinbych.

Mae’r sesiynau o fudd i unigolion yn Sir Ddinbych sy’n profi allgáu digidol oherwydd rhai neu bob un o’r ffactorau canlynol.

  • Sgiliau, llythrennedd digidol sylfaenol
  • Tlodi, anallu i fforddio mynediad at dechnoleg a thrwy hynny gael mynediad at adnoddau ar-lein fel bancio a chyflenwyr ynni.
  • Daearyddiaeth, cysylltedd 4G neu fand eang cyfyngedig neu ddim o gwbl.
  • Y gallu i gael mynediad at ofal iechyd.
  • Angen mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

Cynnigir amrywiaeth o sesiynau galw heibio, gweithdai, a chyrsiau sgiliau hanfodol. Mae darpariaeth ddiweddar wedi cynnwys sesiynau ar ddiogelwch ar-lein, siopa’n ddiogel ar-lein, hanes a hel atgofion, chwilio am waith, adnoddau iechyd a lles ar-lein, ymgyfarwyddo llechen a chyfrifiaduron sylfaenol ac ymwybyddiaeth cyfryngau cymdeithasol.

Gyda’n gilydd, gadewch i ni adeiladu Sir Ddinbych ddigidol gynhwysol.

Sesiwn ddigidol boblogaidd yn Llyfrgell Dinbych

Cefnogaeth i drigolion

Annog pobl ifanc i hawlio eu cynilion

Gallai nifer o oedolion ifanc yn Sir Ddinbych fod â chyfartaledd o £2,000 yn aros amdanynt yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio.

Mae’r Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrifon cynilo di-dreth hir-dymor a agorwyd ar gyfer pob plentyn a anwyd rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, lle’r oedd y llywodraeth yn cyfrannu blaendal cychwynnol a oedd yn o leiaf £250. Gellir tynnu’r arian ar ôl i’r cyfrif aeddfedu pan fydd y plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 18 oed.

Yn ôl data’r llywodraeth, mae bron i filiwn o bobl ifanc yn y DU dal heb hawlio eu Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant. Mae mwy na 800,000 o gyfrifon yn perthyn i bobl o gefndiroedd incwm isel - sydd yn achosi pryder nad yw’r rheiny sydd fwyaf angen yr arian yn cael mynediad ato.

Bydd pob unigolyn 16 oed yn cael gwybodaeth am sut i ddod o hyd i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi gyda’u llythyr Yswiriant Gwladol. Os oes unrhyw un yn ansicr am eu sefyllfa, yna dylent wirio gyda’u banc neu gymdeithas adeiladu. Fel arall, gall oedolion ifanc a rhieni chwilio ar www.gov.uk/child-trust-funds i ddod o hyd i ble mae eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cael ei gadw.

Mae 5.3 miliwn o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn agored ar hyn o bryd. Gall pobl ifanc 16 oed neu’n hŷn gymryd rheolaeth o’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eu hunain, er na ellir tynnu’r arian o’r gronfa tan fyddant yn 18 oed. Gall teuluoedd barhau i dalu hyd at £9,000 y flwyddyn yn ddi-dreth i’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant tan fydd y cyfrif yn aeddfedu. Mae’r arian yn aros yn y cyfrif tan fydd y plentyn yn ei dynnu allan neu yn ei ail-fuddsoddi i mewn i gyfrif arall.

Os nad oedd rhiant neu warcheidwad wedi gallu agor cyfrif i’w plentyn, bu i’r llywodraeth agor cyfrif cynilo ar ran y plentyn. Bu i’r cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gau ym mis Ionawr 2011 a bu i Gyfrifon Cynilo Unigol (ISA) Plant gymryd eu lle.  

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth o ran costau byw yn Sir Ddinbych, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych www.cadenbighshire.co.uk

Arbed arian ychwanegol drwy hawlio Lwfans Priodasol

Gallai cyplau sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil yn Sir Ddinbych dderbyn hwb ariannol drwy rannu lwfansau treth sydd heb eu defnyddio.

Fe wnaeth bron i 70,000 o gyplau wneud cais fis Mawrth y llynedd.  A gyda’r dewis o ôl-ddyddio eu hawliad am 4 blynedd, gallai cyplau cymwys dderbyn cyfandaliad o dros £1,000, a lleihau eu bil treth ar gyfer blwyddyn dreth o hyd at £252.   

Er mwyn elwa o’r gostyngiad yn y dreth, mae’n rhaid i un partner dderbyn incwm sy’n is na’r Lwfans Personol o £12,570 a bod incwm y partner sy’n ennill mwy rhwng £12,571 a £50,270.  Mae’n rhaid i’r cyplau fod wedi’u geni ar neu ar ôl 6 Ebrill 1935.

Gall preswylwyr Sir Ddinbych ganfod a ydynt yn gymwys mewn 30 eiliad drwy ddefnyddio’r Gyfrifiannell Lwfans Priodasol ar-lein.

Dywedodd Sharon Evans, Rheolwr Tîm y Gwasanaeth Cofrestru /Cofrestrydd Arolygol yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Cynhelir nifer o seremonïau priodasol a phartneriaethau sifil yma yn Sir Ddinbych bob blwyddyn. 

"Nid yw nifer o gyplau’n ymwybodol o’r cynllun treth, a byddwn yn annog unrhyw un sy’n diwallu’r meini prawf i ddefnyddio’r gyfrifiannell a gwneud cais ar-lein yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni ar hyn o bryd.” 

Y ffordd hawsaf o wneud cais am Lwfans Priodasol yw ar-lein yn https://www.gov.uk/lwfans-priodasol

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth o ran costau byw yn Sir Ddinbych ewch i'n gwefan neu cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych www.cadenbighshire.co.uk

Arbedwch arian ar eich biliau ynni

A ydych mewn dyled ac yn ansicr ynghylch sut i reoli hyn? Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych am gyngor ar sut i ymdrin â'r sefyllfaoedd hyn. Gallwch gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r e-bost neu'r rhifau isod neu fel arall ewch i'w gwefan >> https://www.cadenbighshire.co.uk/.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Sir Ddinbych yn Gweithio yn tynnu sylw at weithdai lles i leihau straen

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio, gwasanaeth cyflogadwyedd sy’n cael ei redeg gan y Cyngor, wedi trefnu cyfres o weithdai lles i ar gyfer Mis Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Straen ym mis Ebrill.

Bwriad y gweithdai hyn, sy’n cael eu cynnal gan y tîm Barod, yw cefnogi unigolion sydd yn ddi-waith ar hyn o bryd ac sy’n cael problemau gyda’u hyder, cymhelliant, a’u lles yn gyffredinol, i’w helpu i oresgyn eu heriau a dod o hyd i gyfleoedd gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn tynnu sylw at gynnig y tîm Barod a’r ystod eang o ddigwyddiadau y maent yn eu trefnu i hyrwyddo lleihau straen a gwella lles yn gyffredinol.

Ar 12 Ebrill, cynhelir gweithdy diwrnod llawn yng Nghanolfan Naylor Leyland yn Rhuthun, wedi’i ddylunio i godi’r hwyliau a rhoi technegau ymarferol i’r cyfranogwyr er mwyn iddynt allu delio â straen yn effeithiol. Yn ogystal â hyn, bydd gweithdy cynhwysol deuddydd sy’n canolbwyntio ar hyder a chymhelliant yn cael ei gynnal yn Ne’r Sir ar 16 Ebrill a 19 Ebrill ac yng Ngogledd y Sir ar 23 Ebrill a 26 Ebrill.

Er mwyn datblygu ymdeimlad o gymuned a chefnogaeth, mae Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd wedi trefnu sesiynau Cerdded a Sgwrsio rhyngweithiol a fydd yn cael eu cynnal o gwmpas y Sir bob dydd Llun o 8 Ebrill ymlaen. Mae’r rhaglen hon yn cyfuno ymarfer corff ysgafn gyda deialog ystyrlon, gan gynnig strategaeth gynhwysfawr ar gyfer mynd i’r afael ar straen a gwella lles meddyliol i’r rhai sy’n cymryd rhan.

Gall trigolion Sir Ddinbych hefyd fynychu sesiynau galw heibio wythnosol bob dydd Iau i gael cefnogaeth gyda lles neu hyder mewn amgylchedd meithringar a hamddenol. Gall trigolion 25+ oed ymweld â Hwb Dinbych rhwng 12pm – 1pm neu Lyfrgell y Rhyl rhwng 11.15am – 12.15pm, a gall trigolion 16-24 oed ymweld â Hwb Dinbych rhwng 1.30pm - 2.30pm neu Ganolfan Ieuenctid y Rhyl rhwng 1pm – 2.30pm.

Meddai Tina Foulkes, Rheolwr Gweithredol Sir Ddinbych Yn Gweithio, “Mae’r digwyddiadau a’r gweithdai a drefnwyd gan Sir Ddinbych yn Gweithio yn arddangos ymrwymiad y gwasanaeth i wella lles cyffredinol trigolion Sir Ddinbych, yn benodol yn ymwneud â’r heriau sy’n gysylltiedig â straen ac ansicrwydd.

“Nid yn unig y mae mentrau Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhoi sgiliau a strategaethau hanfodol i unigolion er mwyn iddynt allu llywio’r farchnad swyddi yn effeithiol, ond maent hefyd yn blaenoriaethu iechyd meddwl a gwydnwch emosiynol fel pileri sylfaenol ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy a boddhad personol.

“Byddaf yn annog unrhyw un sy’n byw yn Sir Ddinbych ac sy’n 16+ oed ac yn chwilio am waith, neu sy’n ystyried chwilio am waith, i fanteisio ar y digwyddiadau a’r gweithdai rhad ac am ddim sydd i ddod.

Meddai Liz Grieve, Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau, “Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei gydnabod gan bobl fel ffagl o obaith a chefnogaeth i unigolion sy’n ceisio llywio cymhlethdodau’r farchnad swyddi wrth ddiogelu eu lles meddyliol. Mae effaith ddwys mentrau’r tîm Barod a’r gyfres o ddigwyddiadau sydd i ddod yn dangos pŵer trawsnewidiol cefnogaeth gymunedol, gwydnwch a grymuso.”

Am fanylion llawn o’r digwyddiad, yn cynnwys lleoliad, amseroedd a dyddiadau, ewch i wefan Swyddi Den.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal nhw rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Amserlen BAROD Mis Ebrill

Gweithdai Cyfrifiadur Sylfaenol am ddim

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi uno gyda Cwmpas i gynnig gweithdai cyfrifiadur sylfaenol AM DDIM ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych!

Bydd y gweithdy nesaf ar 17 Ebrill (10am - 12pm) yn Llyfrgell Llangollen. Nid oes angen cofrestry - gallwch i fewn.

Erbyn diwedd y sesiwn gyntaf, byddwch yn gallu:

     ✅  Creu cyfeiriad e-bost

     ✅  Llenwi ffurflenni ar-lein

     ✅  Defnyddio offer llunio CV ar-lein am ddim

     ✅  Chwilio am swyddi gan ddefnyddio apiau a chyfryngau cymdeithasol

     ✅  Canfod sgamiau swyddi ar-lein

Mae mwy o ddyddiadau isod.

Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cyrsiau hyfforddi

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cyfle i ailhyfforddi ac ennill mwy o gymwysterau i unrhyw un sy’n byw yn Sir Ddinbych, gan ganiatáu i fwy o bobl gael swydd newydd neu i symud ymlaen yn eu swyddi presennol.

Os ydych yn dymuno gweithio ym maes lletygarwch neu os ydych eisoes yn gwneud hynny, mae’r hyfforddiant hwn i chi!

Mae’r cwrs diogelwch a hylendid bwyd hwn yn gwrs undydd sydd ar gael am ddim i drigolion Sir Ddinbych.

📅 15 Ebrill

📍Canolfan Ieuenctid y Rhyl

🕘9.30am a 4.30pm.

Cofrestrwch heddiw i gael eich cymhwyster lefel 2 mewn diogelwch a hylendid bwyd

https://www.eventbrite.com/e/hylendid-bwyd-a-diogelwch-arlwyo-lefel-2level-2-food-safety-and-hygiene-tickets-866589090297

++++++++++++++++++++

Rydym yn cynnal cwrs Barista yn rhad ac am ddim ar gyfer pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych! ☕

📅 17 - 18 Ebrill

📍Canolfan Ieuenctid y Rhyl

🕘9.30am a 4.30pm.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle ar y cwrs ewch i

https://www.eventbrite.com/e/hyfforddiant-barista-barista-training-tickets-866545931207

++++++++++++++++++++

 Rydym yn cynnal cwrs undydd cymorth cyntaf yn rhad ac am ddim ar gyfer pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych!

📅22 Ebrill

📍Canolfan Ieuenctid y Rhyl

🕘9.30am a 4.30pm.

Cofrestrwch yn awr i ddysgu sut i achub bywydau!

https://www.eventbrite.com/e/cymorth-cyntaf-brys-yn-y-gweithle-emergency-first-aid-at-work-tickets-848282504807

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Ymgynghoriad yn dechrau i roi hwb i waith newid hinsawdd Sir Ddinbych

Gwahoddir preswylwyr Sir Ddinbych i helpu i fwrw ymlaen â’r gwaith i wella hinsawdd ac amgylchedd y sir.

Mae'r Cyngor wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i helpu i gynllunio a chyflawni gwaith i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ac i adfer natur.

Yn dilyn adborth a gafwyd drwy arolwg cychwynnol y llynedd, mae’r Cyngor wedi diweddaru’r strategaeth sydd ar gael ar ffurf drafft a gellir gweld hwn ar dudalen ymgynghori Sgwrs y Sir.

Mae arnom ni eisiau parhau i gydweithio gyda phreswylwyr i helpu ein hinsawdd a’n hamgylchedd adfer a ffynnu.

Mae’r strategaeth ddiweddaraf wedi’i dylunio i’n cefnogi ni i wneud y canlynol:

  • Parhau i leihau ein hallyriadau carbon a chynyddu amsugniad carbon ar draws y Cyngor drwy adeiladau ar ein llwyddiannau hyd yma
  • Parhau i gynyddu ein gwytnwch i effeithiau newid hinsawdd
  • Parhau i gefnogi camau gweithredu ar gyfer yr hinsawdd ac adferiad natur ar draws Sir Ddinbych

Mae’r Cyngor wedi lleihau ei allyriadau carbon – gwerth 2098 tunnell o garbon deuocsid yn llai (tCO2e), gan ddod â’r Cyngor yn nes at fod yn Gyngor carbon sero-net erbyn 2030. Mae gwaith ecolegol gadarnhaol y Cyngor wedi gwella’r tir dan reolaeth y Cyngor, erbyn heddiw mae gan 51% o’r tir gyfoeth uchel o rywogaethau (38% yn 2019/20).

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar-lein ar 25 Mawrth 2024 ac mae’r Cyngor yn annog pawb i fynegi eu barn ar y ddogfen i helpu i siapio’r camau nesaf ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd yn y sir.

Meddai Gary Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Llywodraethu a Busnes: “Mae mewnbwn lleol gan y cyhoedd wedi bod yn bwysig iawn i siapio’r ffordd rydym ni’n mynd i’r afael â newid hinsawdd a newidiadau ecolegol yn y sir. Mae arnom ni eisiau iddyn nhw barhau ar y daith hon gyda ni i wneud gwahaniaeth go iawn yn nyfodol Sir Ddinbych.

“Diolch i’r adborth rydym ni eisoes wedi’i dderbyn gan lawer o breswylwyr rydym ni wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwella ein bioamrywiaeth a’n hamgylchedd. Mae arnom ni eisiau adeiladu ar y bartneriaeth bwysig yma drwy gydweithio’n agosach i wneud yn siŵr bod y gwaith arloesol yn dwyn ffrwyth ac yn gwella gwytnwch ein sir yn erbyn newid hinsawdd.

“Hoffaf annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad gan fod barn y cyhoedd sy’n gweld effeithiau newid hinsawdd yn y sir yn ddyddiol yn hynod o bwysig i ni wrth i ni siapio’r ffordd y gallwn ni gefnogi cenedlaethau'r dyfodol yn Sir Ddinbych.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad edrychwch i dudalen ymgynghori Sgwrs y Sir.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 20 Mai.

Gofal Cymdeithasol

Gweithiwr Cymdeithasol yn ymddeol ar ôl gyrfa wych o 40 mlynedd

alaw pierce

A hithau wedi gweithio mewn awdurdodau lleol drwy gydol ei gyrfa, mae Alaw Pierce wedi treulio 40 mlynedd yn helpu preswylwyr Gogledd Cymru drwy’r nifer o swyddi pwysig y mae hi wedi ymgymryd â hwy.

Ar ôl graddio o Brifysgol Bangor, aeth ymlaen i ennill ei Thystysgrif Cymhwyser mewn Gwaith Cymdeithasol a chymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol yn 1983.

Gan ddechrau fel Gweithiwr Cymdeithasol yng Nghyngor Gwynedd ym mis Hydref 1983, symudodd Alaw i weithio yng Nghyngor Sir Clwyd, bryd hynny, yn 1989.

Bu Alaw’n gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol am bron i 11 mlynedd, gan weithio gyda phobl hŷn a phobl ag anableddau corfforol, cyn symud ymlaen i weithio ym maes iechyd meddwl ac yna mewn ysbytai cymunedol.

Yna, ymgymerodd â swydd Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol yn Ysbyty Glan Clwyd a dechreuodd weithio yng Nghyngor Sir Ddinbych yn swyddogol yn sgil yr ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1996.

Yn 2000, symudodd o’r ysbyty i fod yn Rheolwr Tîm ar dimau anableddau dysgu, mynediad a derbyniadau yn y Rhyl.

Ar ôl bod yn Rheolwr Tîm mewn swyddi amrywiol o fewn yr Awdurdod am 16 mlynedd, daeth Alaw yn Rheolwr Gwasanaeth yn 2011, ac mae hi wedi bod yn y swydd honno am 13 mlynedd bellach. Bydd Alaw yn ymddeol yn swyddogol dros y misoedd nesaf.

Wrth drafod ei gyrfa, dywedodd Alaw:

“Roeddwn i eisiau helpu pobl i wneud gwahaniaeth yn eu bywydau, dyna pam y des i’n Weithiwr Cymdeithasol yn y lle cyntaf. Mae’r swydd wedi newid llawer ers i mi ddechrau, ond dw i’n credu mai’r un yw’r egwyddorion craidd.

Mae hi’n swydd wych. Dw i wedi mwynhau pob swydd rydw i wedi bod ynddi. Dw i ddim yn meddwl y byddwn i eisiau gwneud unrhyw beth arall. Pe bawn i’n cael mynd yn ôl i’r dechrau, byddwn yn sicr yn gweithio ym maes gwaith cymdeithasol.

Mae cyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa yn y swydd. Pan ddechreuais i ym maes Gwaith Cymdeithasol, doedd gen i ddim diddordeb mewn bod yn rheolwr. Ond, a bod yn onest, dw i wedi mwynhau’r profiad o fod yn rheolwr, lawn cymaint ag yr wyf wedi mwynhau bod yn Weithiwr Cymdeithasol. Nid yw’r llwybr hwnnw at ddant pawb, ond mae gwahanol lefelau i weithio ym maes Gofal Cymdeithasol.

Mae wedi bod yn yrfa wych ac mae gen i atgofion melys wrth edrych yn ôl. Dw i wedi mwynhau’r fraint o gael bod yn rhan o fywydau pobl. Dw i wedi cwrdd â phobl hyfryd yn ystod fy ngyrfa, ac wedi gweithio â chydweithwyr gwych.”

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Trwy gydol ei chyfnod yn Sir Ddinbych, mae Alaw wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau’r unigolion y mae hi wedi dod i gysylltiad â nhw, ac mae wedi dylanwadu ar a datblygu’r gwasanaethau rydym ni’n eu darparu o fewn yr Awdurdod Lleol, yn ogystal ag ar draws Gogledd Cymru. Mae Alaw yn enghraifft wych o’r yrfa y gellir ei chyflawni fel Gweithiwr Cymdeithasol ac o fewn y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol. Rydym ni i gyd yn dymuno ymddeoliad hir, iach a dedwydd iddi.”

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Gwasanaeth bws poblogaidd â golygfeydd yn dychwelyd i Ddyffryn Dyfrdwy

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn rhedeg eto eleni i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.

Y Bws Darluniadwy - Bwlch yr Oernant

Mae gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn daith gylchol sy’n cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos ag atyniadau poblogaidd lleol, gan gynnwys Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur Wenffrwd, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Tŷ Hanesyddol Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Y Bws Darluniadwy tu allan i Dŷ Hanesyddol Plas Newydd

Fe fydd y gwasanaeth camu ymlaen a chamu i ffwrdd yn galluogi i deithwyr ymweld â'r atyniadau allweddol hyn heb fod angen car, gan ei gwneud hi’n haws i’r rheiny heb gar deithio i’r lleoedd yma. Bydd yn helpu i leihau tagfeydd yn rhai o ardaloedd prysuraf Dyffryn Dyfrdwy. Mae'r tocyn dydd 1Bws yn werthfawr i'r rhai sydd am fynd ar daith gerdded dywys o'r ardal, ac eleni bydd y gwasanaeth hefyd yn cynnig taliadau i neidio ymlaen ac i ffwrdd ar gyfer teithiau sengl byrrach, gan ei wneud yn opsiwn delfrydol ar gyfer darganfod rhai o deithiau cerdded llinellol yr ardal.

Mae’r gwasanaeth wedi’i greu diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, ac mae’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a phrosiect Ein Tirlun Darluniadwy, cynllun partneriaeth tirlun sy’n ceisio gwarchod a gwella mynediad at dirweddau ysbrydoledig Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Camlas a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte.

Meddai Hannah Marubbi, Swyddog Partneriaeth Ein Tirlun Darluniadwy: “Mae’n bleser gennym ni groesawu Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy am y bedwaredd flwyddyn. Gwelodd y gwasanaeth y nifer uchaf erioed o ddefnyddwyr y llynedd, ac rydym yn gobeithio y bydd y tymor hwn yn rhoi’r cyfle i hyd yn oed mwy o ymwelwyr a thrigolion lleol grwydro’r ardal ehangach.”

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy 199 ar gael ar ddydd Sadwrn yn unig tan ddydd Sadwrn, 30 Awst 2024. I weld yr amserlen lawn a phrisiau tocynnau, ewch i wefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, tudalen we amserlen bysiau y Cyngor, neu codwch daflen o Ganolfan Groeso Llangollen.

Chwilio am Geidwaid Gwirfoddol i helpu i ofalu am Ddyffryn Dyfrdwy

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn chwilio am Geidwaid Gwirfoddol

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn chwilio am Geidwaid Gwirfoddol a hoffai helpu ein tîm ofalu am ardal ddeheuol y dirwedd ddynodedig.

Mae Dyffryn Dyfrdwy yn ardal eiconig o olygfeydd gwirioneddol eithriadol, sy'n gyfoethog mewn treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol. Fel ceidwad gwirfoddol, gallwch ddod yn llysgennad i’r AHNE, rhannu eich cariad a’ch gwybodaeth am yr ardal hon, ac ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i helpu i warchod yr hyn sy’n gwneud Dyffryn Dyfrdwy mor arbennig.

Bydd Ceidwaid Gwirfoddol wedi'u lleoli'n bennaf mewn dau o'r safleoedd mwyaf poblogaidd yn yr ardal; Castell Dinas Brân, y fryngaer hynafol sy'n edrych dros Langollen; a Rhaeadr y Bedol, campwaith Thomas Telford a man cychwyn Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.

Byddant yn cael gwisg benodol a byddant yn cyfarfod ac yn ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd, gan rannu gwybodaeth ac ateb cwestiynau.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu tîm Ceidwaid AHNE ar eu cyfnodau prysuraf, felly rydym yn chwilio am bobl a all ymrwymo i o leiaf cwpl o ddiwrnodau'r mis, naill ai ar benwythnosau neu ddyddiau'r wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol. Bydd pob Ceidwad Gwirfoddol newydd yn cael hyfforddiant cyn dechrau yn eu rolau.

Mae hwn yn gyfle gwych oherwydd gall mynd allan i’r awyr agored a phrofi ein hamgylchedd anhygoel o amgylch Dyffryn Dyfrdwy fod yn fuddiol iawn i helpu iechyd corfforol a meddyliol unigolion.

Mae hefyd yn waith pwysig iawn i warchod natur yn Nyffryn Dyfrdwy, i helpu i warchod yr ardal i bobl barhau i ymweld â hi a’i mwynhau. 

Mae’r rôl yn agored i unrhyw un dros 18 oed, nid oes angen profiad blaenorol ond mae cariad at y dirwedd yn hanfodol! Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r tîm, byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth am y rolau ar nos Fawrth 23 Ebrill. I archebu eich lle, cysylltwch â Hannah Law. Y dyddiad cau ar gyfer datgan diddordeb yw Dydd Gwener, 19 Ebrill 2024.

Mae’r Rhaglen Cymunedau a Natur wedi cael £292,772 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cefnogaeth cronfa prosiect cynaliadwy nawr ar gael

Pobl y gwrando ar gyflwyniad ar Fryniau Clwyd

Mae cymorth ariannol nawr ar gael ar gyfer prosiectau amgylchedd cynaliadwy cymunedol ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru a’i rheoli gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy nawr yn agored ar gyfer ceisiadau.

Mae’r gronfa gyfalaf hon ar gael ar gyfer prosiectau yn yr AHNE sy’n edrych ar gyrraedd ffordd mwy cynaliadwy o fyw yng nghefn gwlad a rhoi cyfleoedd i gymunedau barhau’n iach yn gymdeithasol gyda lles economaidd cadarn.

Agorwyd y cynllun ar 1 Ebrill 2024 a bydd pot o £90,000 ar gael. Gellir gwneud cais am grantiau llai na £1,000 neu grantiau mwy o hyd at £25,000. Mae cyllid ar gael i sefydliadau gan gynnwys grwpiau cymunedol neu wirfoddol, awdurdodau lleol yn ogystal â’r sector preifat ac unigolion.

Mae’n rhaid i’r sector preifat ac unigolion ddangos bod gan eu prosiectau fudd cyhoeddus ehangach ac mae’n rhaid i’r prosiect bwriedig gwrdd â nod ac amcanion y cynllun a chael ei leoli yn neu â budd uniongyrchol i AHNE. Mae’n rhaid i brosiectau hefyd gydymffurfio â gofynion rheoleiddio perthnasol fel caniatâd cynllunio neu reoliadau adeiladu.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Mae Cronfa Datblygu Cynaliadwy yn bennaf ar gyfer cynlluniau ymarferol, arloesol, sy’n cynnwys cymunedau lleol a phobl ifanc mewn prosiectau yn AHNE Cymru. Y mathau o brosiectau fydd yn cael eu cefnogi yw’r rhai sy’n bodloni amcanion cynaliadwy y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ac AHNE.

“Mae’r amcanion hyn ar gyfer cadw a gwella harddwch naturiol yr AHNE, gan gynnwys yr amgylchedd adeiledig, i hybu ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd AHNE, i hybu lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol ac i hybu mwynhad AHNE mewn tawelwch.”

Rhoddir blaenoriaeth i gynigion prosiect sy’n:

  • Dangos arloesedd neu arfer orau.
  • Cynnwys cymunedau lleol a phobl ifanc
  • Ysgogi cyfraniadau gan ffynonellau eraill, mewn arian parod neu mewn nwyddau
  • Goresgyn rhwystrau i gynaliadwyedd a hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o gynaliadwyedd.
  • Hyrwyddo ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd neu ychwanegu gwerth at brosiectau cynaliadwyedd sy'n bodoli eisoes.
  • Codi ymwybyddiaeth o'r AHNE a chynhyrchu swyddi neu incwm i gymunedau, heb niweidio'r dirwedd.

I gael mwy o wybodaeth am y cyllid ac ynglŷn â sut i ymgeisio ewch i wefan Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. 

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Pobl ifanc yn helpu i lunio safle natur cymunedol newydd Henllan

Ysgol Henllan

Mae disgyblion Ysgol Henllan wedi torchi eu llewys i helpu i lunio safle newydd y gall byd natur a phreswylwyr ei fwynhau gyda’i gilydd.

Fe fu’r disgyblion yn gweithio’r wythnos hon gyda Cheidwaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr i ddechrau llunio Safle Natur Cymunedol newydd Henllan ar dir y tu ôl i Ffordd Meifod.

Mae’r ardal hon yn un o bedwar safle natur cymunedol newydd - ochr yn ochr ag ardaloedd tebyg yn Y Rhyl, Llanelwy a Chlocaenog - y mae Gwasanaeth Cefn Gwlad a thimau Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ddinbych yn eu creu yn y sir eleni i hybu manteision ar gyfer bywyd gwyllt lleol a lles preswylwyr.

Mae gwaith Safleoedd Natur Cymunedol yn ogystal â gwaith creu coetiroedd mewn ysgolion ar hyd a lled y sir eleni wedi derbyn cyllid a ddaw o grant £800,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae disgyblion wedi bod yn brysur yn palu gan helpu i blannu dros 1,700 o goed ar y safle. Bydd y safle hefyd yn cynnwys llwybrau troed newydd, pwll, dolydd blodau gwyllt, man hamdden ac ardal bicnic, lloches i drychfilod (hynny yw “banc gwenyn”) ac ystafell ddosbarth awyr agored cyn diwedd y flwyddyn hon.

Bydd Safle Natur Cymunedol Henllan hefyd yn helpu i gefnogi ymdrech y Cyngor i leihau ôl-troed carbon y sir drwy gyfrannu at y cyfanswm o garbon a gaiff ei storio (neu ei amsugno) mewn llystyfiant a phriddoedd.

Disgyblion Llanelwy yn cefnogi natur leol

Ysgol Glan Clwyd

Mae disgyblion Ysgol Glan Clwyd wedi helpu i ddatblygu mwy o help i natur yn yr ysgol.

Mae disgyblion wedi gosod gwreiddiau ar gyfer ardal goetir newydd ar dir yr ysgol wrth weithio gyda cheidwaid a swyddogion bioamrywiaeth Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor.

Bu’r bobl ifanc yn cymryd rhan yn y gwaith sy’n mynd rhagddo ar draws ysgolion y sir i helpu i gynyddu bioamrywiaeth a chanopïau coed i helpu adferiad natur a darparu ardal awyr agored lles addysgol i’r disgyblion.

Mae Ysgol Glan Clwyd yn un o wyth ysgol a fydd, at ei gilydd, yn derbyn mwy na 8,000 o goed, yn cynnwys gwrychoedd a choed ffrwythau, er mwyn darparu gwell ardaloedd cynefin i gefnogi natur leol, yn ogystal â mannau awyr agored ar gyfer dysgu er mwyn helpu lles disgyblion.

Mae’r gwaith hwn wedi cael cyllid gan grant o £800,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae’r gwaith plannu coed eleni mewn ysgolion hefyd yn ategu ymdrech y Cyngor i leihau ôl troed carbon y sir drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno).

Bydd cynyddu’r canopi coetir yn Ysgol Glan Clwyd ac ysgolion eraill yn helpu i wella ansawdd aer, oeri gwres trefol, gwella lles corfforol a meddyliol ar gyfer disgyblion a staff, ac ardaloedd o ddiddordeb cymysg ar gyfer addysg a chwarae.

Mae timau Bioamrywiaeth a Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn parhau i weithio gydag ysgolion drwy gydol y flwyddyn i helpu i ddatblygu ardaloedd ar dir ysgolion i gefnogi natur ymhellach, a’r dysgu a lles i ddisgyblion a staff.

Yr wythnos hon, mae mwy na 2,400 o goed yn cael eu plannu yn Ysgol Glan Clwyd, cymysgedd o rywogaethau coetir llydanddail cynhenid a choed ffrwythau lleol Cymreig.

Addysg

Cludiant Ysgol Uwchradd

Ydy eich plentyn yn newydd i'r ysgol uwchradd o fis Medi 2024?

A yw eich plentyn yn gymwys i gael cludiant am ddim? 

Mae lleoedd mewn ysgolion uwchradd yn Sir Ddinbych bellach wedi'u dyrannu ac mae angen i chi wneud cais am gludiant ysgol am ddim. Mae ceisiadau nawr yn cael eu prosesu ar gyfer mis Medi - gwnewch gais ar-lein cyn gynted â phosib.

Nodweddion

Cynnyrch Coed Meifod

Oeddech chi'n gwybod bod gan Gynnyrch Coed Meifod dudalen Facebook?

Mae Meifod, sy'n cynhyrchu dodrefn gardd, yn darparu gwasanaethau gweithgareddau yn ystod y dydd i oedolion ag anableddau cymhleth.

Pam na wnewch chi eu dilyn ar Facebook? Mae ganddynt lawer o bethau i'w gwerthu, gan gynnwys:

  • Plannwyr
  • Meinciau
  • Byrddau a Chadeiriau
  • Byrddau Picnic

a llawer mwy

Maent wedi'u lleoli ar Stad Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych a gallwch eu e-bostio ar meifod.woodproducts@sirddinbych.gov.uk neu gallwch ffonio nhw ar 01745 816900.

Gwersylloedd Haf yr Urdd 2024

Gwersylloedd Haf yr Urdd 2024

Ydych chi’n chwilio am opsiynau gofal plant fforddiadwy dros yr haf?

Mae gwersylloedd haf Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, yn cynnig cyrsiau i blant a phobl ifanc 8-25 oed sy’n llawn cyffro, gweithgareddau a mwynhad.

Gwersylloedd 2024

Gwersyll Pentre Ifan, Sir Benfro

  • Cwrs Cynaladwyedd a Natur, 13-15 Awst, bl. 12 a 13
  • Enclil Haf: Lles a Natur, 19-21 Awst, 18-25 oed
  • Enclil Haf: Lles a Natur, 22-24 Awst, bl. 12 a 13
  • Gwersyll Gwyllt, 27-29 Awst, bl.7 a 8

Gwersyll Caerdydd

  • Dianc i’r ddinas, 22-26 Gorffennaf, bl. 7-9
  • Wythnos Hwyl, 29 Gorffennaf – 2 Awst, bl.4-6
  • Cwrs Perfformio, 12-16 Awst, bl.4-6
  • Cwrs Creu, 20-23 Awst, bl.7-9
  • Gŵyl Hwyl, 27-29 Awst, bl.4-6

Gwersyll Llangrannog, Ceredigion

  • Wythnos Joio, 22-26 Gorffennaf, bl. 4-7
  • Tridiau Joio, 29-31 Gorffennaf, bl.4-7
  • Gwersyll dwyieithog, 31 Gorffennaf – 2 Awst, bl. 4-7

Gwersyll Glan-llyn, Gwynedd

  • Anturdd Fawr, 22-26 Gorffennaf, bl. 7 a 8
  • Antur i’r Eithaf, 22-26 Gorffennaf, bl. 9 a 10
  • Dysgwyr Cynradd, 29-31 Gorffennaf, bl. 4-6
  • Dysgwyr Uwchradd, 29 Gorffennaf – 2 Awst bl. 7 a 8
  • Dysgwyr Cynradd, 31 Gorffennaf – 2 Awst, bl.4-6
  • Anturdd Fach, 20-23 Awst, bl.4-6
  • Antur i’r Eithaf, 20-23 Awst, bl. 9 a 10

I roi profiad bythgofiadwy i’ch plentyn /blant, cofrestrwch yma: www.urdd.cymru/gwersyllhaf 

Cronfa Cyfle i Bawb

Diolch i nawdd caredig ffrindiau a phartneriaid yr Urdd, mae Cronfa Cyfle i Bawb yn cynnig lle i 300 o blant yng ngwersylloedd haf 2024.

Gall rhieni, warchodwr neu athrawon wneud cais i’r gronfa i dalu am wyliau i blentyn neu berson ifanc sy’n dod o gefndir incwm isel. Bydd y gronfa yn talu am bris cyfan y cwrs.

Gwneud cais i’r gronfa.

 

Treftadaeth

Mae angen eich barn am Nantclwyd y Dre

Mae tŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre yn atyniad i ymwelwyr sy’n cael ei redeg gan Wasanaeth Treftadaeth y Cyngor. Fel rhan o brosiect parhaus i ddatblygu’r safle, byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn a’ch awgrymiadau ar sut y gallwn barhau i wella.

Pe gallech gymryd ychydig funudau i lenwi'r ffurflen, byddem yn ddiolchgar iawn >>> https://forms.gle/V6xhHsgBYBe6xrNu8

Diolch

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid