Yn ddiweddar, mae Swyddog Digidol Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda phreswylwyr a busnesau sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig, er mwyn sicrhau cysylltiad rhyngrwyd gwell drwy Brosiectau Ffibr Cymunedol Openreach.

Mae’r Prosiect Ffibr Cymunedol yn rhoi’r cyfle i breswylwyr a busnesau i gael mynediad at well band eang gydag Openreach, er nad ydyn nhw’n rhan o’u cynlluniau cyflwyno presennol.

Mae yna bedwar cynllun Partneriaeth Ffibr Openreach yn y Sir ar hyn o bryd sy’n tynnu tua’r terfyn, a fydd yn darparu cysylltiad rhyngrwyd ffibr llawn ar gyfer 803 eiddo gwledig yng Nghlawddnewydd, Llidiart-y-Parc, Glyndyfrdwy, Tremeirchion a Llandyrnog.

Meddai Philip Burrows, Swyddog Digidol Sir Ddinbych: “O bosibl y bydd rhai cymunedau yn profi problemau, lle bydd angen ymyrraeth gan Openreach, fodd bynnag, ni all unigolion gysylltu’n uniongyrchol ag Openreach, ac mae hynny’n rhan o fy rôl i fel Swyddog Digidol y Cyngor.

“Gallaf fod yn gyswllt rhwng y ddwy ochr gyda’r gobaith o leihau’r straen o ddelio gyda phroblemau o’r fath. Gallaf hefyd gynghori ar sut i sicrhau cyllid i sefydlu Partneriaethau Ffibr Cymunedol os oes yna gymunedau penodol sy’n profi problemau tebyg”.

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Rwy’n falch o glywed am y cynlluniau sydd ar waith i ddarparu cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy i gymunedau mwyaf anghysbell ein Sir. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i helpu preswylwyr ddeall y dewisiadau a’r atebion ar gyfer cysylltiad rhyngrwyd gwell, sy’n hollbwysig yn yr oes ddigidol rydym yn byw ynddi.

“Dw i’n annog unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am y cyllid amrywiol sydd ar gael neu sy’n cael problemau gyda’u rhyngrwyd i gysylltu â Philip a fydd y gallu eich cynghori ar y camau gorau i’w cymryd.”

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu drafod sut y byddai modd i chi gyflymu eich mynediad i’r rhyngrwyd, cysylltwch â Philip Burrows ar communitydevelopment@sirddinbych.gov.uk