llais y sir

Newyddion

Gwobr i geidwad cefn gwlad sy’n gofalu am yr arfordir

Yn ddiweddar, bu i Geidwad Arfordir Cefn Gwlad Gogledd Sir Ddinbych, Claudia Smith, dderbyn Gwobr Treftadaeth Forol gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn y Symposiwm Un Cefnfor a gynhaliwyd yn y Rhyl.

Mae ceidwad arfordir cefn gwlad wedi derbyn gwobr anrhydeddus am ei gwaith i helpu bywyd gwyllt yr arfordir.

Yn ddiweddar, bu i Geidwad Arfordir Cefn Gwlad Gogledd Sir Ddinbych, Claudia Smith, dderbyn Gwobr Treftadaeth Forol gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn y Symposiwm Un Cefnfor a gynhaliwyd yn y Rhyl.

Mae Claudia yn unigolyn prysur ar hyd arfordir Sir Ddinbych, sy’n cadw llygad yn rheolaidd ar natur a bywyd gwyllt lleol, o’r Rhyl i Dwyni Gronant.

Ar hyd arfordir y sir, gyda chefnogaeth gan ei gwirfoddolwyr ymroddedig, mae Claudia wedi ailgyflwyno moresg i’r system dwyni o amgylch harbwr y Rhyl i gefnogi bioamrywiaeth leol, trwsio prennau'r llwybr a gosod meinciau newydd.

Maen nhw hefyd wedi helpu i osod disgiau ac arwyddion newydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ger yr harbwr, Trwyn Horton, Twyni Barkby a Gronant.

Mae Claudia a’r gwirfoddolwyr hefyd yn helpu gyda sefydlu nythfa ar gyfer môr-wenoliaid bychain yn Nhwyni Gronant ac maent o gymorth mawr gyda chynnal y nythfa o ddydd i ddydd yn ystod tymor y môr-wenoliaid bychain.

Yn ddiweddar, bu’n cynorthwyo â’r gwaith o sefydlu prosiect CoastSnap ar hyd yr arfordir i helpu i fonitro effaith newid hinsawdd ar hyd glannau Sir Ddinbych.

Meddai Claudia ar ôl iddi dderbyn y wobr: “Rwyf wedi bod yn gweithio ar brosiect Hiraeth yn y Môr, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, sy’n dod i ben ddiwedd y mis. Nod y prosiect oedd cysylltu pobl leol rhwng Gronant a Phensarn â’r cefnfor, trwy gyfrwng digwyddiadau, addysg a hyfforddiant.

“Cymerais ran yn eu Fforwm Un Cefnfor fel cynrychiolydd Cefn Gwlad Sir Ddinbych, a lywiodd gyfeiriad y prosiect. Bu hyn yn gyfle i mi gwrdd â phobl o bob rhan o’r gymuned a hyrwyddo gwaith gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych.

Trefnais ymweliadau â’r môr-wenoliaid bychain yng Ngronant gyda nhw, yn ogystal â sesiynau glanhau’r traeth. Helpodd hyn gyda'n nodau o ran ymgysylltu yng Ngronant, yn ogystal â’u rhai hwythau. Bu i mi hefyd fynychu mwy o’u sesiynau glanhau’r traeth ac ambell un o’u digwyddiadau addysg, gan gynnwys eu Harddangosfa Forol a hyfforddiant arolygu sesiynau glanhau’r traeth, a fydd o gymorth i mi ar sesiynau glanhau’r traeth yn y dyfodol. Mae wedi bod yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono!

Dywedodd Howard Sutcliffe, Swyddog Arweiniol Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: “Mae’n braf bod Claudia wedi’i chydnabod am y wobr hon gan nad yw llawer o’r gwaith y mae ein Ceidwaid yn ei wneud i’w weld, ond mae o fudd i fywyd gwyllt a hefyd yn gwella bywydau ein trigolion ac ymwelwyr, mae’r camau bach hyn yn gweithio tuag at dirwedd well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

O glywed bod Claudia wedi derbyn y wobr, dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio’r Cabinet: “Llongyfarchiadau mawr i Claudia. Mae hi’n ysbrydoliaeth enfawr i lawer oherwydd ei hymroddiad a’i hymrwymiad i gefnogi a chadw’r cynefin arfordirol penigamp sydd gennym yn y sir.”

Carchar Rhuthun yn dathlu penblwydd arbennig!

Ddydd Sadwrn, 5 Ebrill, bydd Carchar Rhuthun, un o atyniadau treftadaeth mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru, yn cynnal digwyddiad dathlu i nodi dechrau tymor 2025, a phen-blwydd eithaf trawiadol sy'n cael ei ganmol fel 250 mlynedd o Garchar Rhuthun!

Mae Carchar Rhuthun yn ailagor ddydd Mercher, 2 Ebrill, gyda'r digwyddiad Dathlu Pen-blwydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 5 Ebrill, ac fe'ch gwahoddir i gyd fynychu seremoni swyddogol Datgloi'r Carchar am 11:00am a mwynhau hwyl a gemau teuluol am ddim a fydd ar gael drwy gydol y dydd yn y Cwrt blaen (mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol ar gyfer mynediad i'r Carchar ei hun).

Mae mwy o fanylion ar ein gwefan.

Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru

Poster Cynllun Cymunedau sy'n Deall Dementia Gogledd Cymru

Mae’r daith i greu cymunedau sy’n deall dementia ledled Gogledd Cymru wedi dechrau ers tro.

Mae'r Mae Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia yn ymwneud â helpu i ddatblygu cymunedau sy’n dosturiol, yn gynhwysol ac yn gydnerth i bobl sy’n byw gyda dementia, a hefyd i gynorthwyo eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u gofalwyr di-dâl i gynnal cysylltiadau, a byw yn dda yn eu hardaloedd lleol. Lansiodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gogledd Cymru Gynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru ar 1 Ionawr 2024.

Mae’r fenter hon yn adeiladu ar waith gwerthfawr Cymdeithas Alzheimer, y mae ei chynllun bellach wedi dod i ben, ac mae’n golygu cydweithio â chwe chyngor lleol, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, busnesau lleol, ac elusennau.

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC) wedi gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygiad y cynllun, gan rannu arbenigedd o'u prosiect Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia i gynorthwyo cynghorau eraill a hyrwyddo'r fenter ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Rebecca Bowcot, Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia, DVSC:

“Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia ledled Sir Ddinbych wedi bod yn ffordd wych o rymuso unigolion a chymunedau i weithredu er mwyn helpu pobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn eu cymunedau lleol. Mae’n hynod werth chweil gweld pobl yn dod at ei gilydd i gyflawni eu nodau unigol yn ymwneud â dymuno cynorthwyo pobl fel y gall pawb barhau i gael eu cynnwys a chyfrannu’n weithredol at fywyd eu cymuned. Rydym yn cynnal cyfarfodydd Rhwydwaith Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia bob yn ail fis ac mae hynny’n galluogi cymunedau sy’n deall dementia i ddod at ei gilydd i rannu syniadau a chynorthwyo ei gilydd i alluogi eu cymunedau sy’n deall dementia i ddatblygu a ffynnu.”

Dywedodd Dilwyn Jones, Cadeirydd Dinbych sy’n Deall Dementia:

“Roedd yn anrhydedd i mi ddod yn Gadeirydd Dinbych sy’n Deall Dementia a bod yn rhan o’r broses o godi ymwybyddiaeth yn lleol, trwy sesiwn wybodaeth. Rydym wedi gallu rhoddi eitemau megis teclynnau Alexa a chathod a chŵn robotig i helpu'r sawl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr."

Gall cymunedau sy’n cyfranogi yn y cynllun gael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion, a gallai hynny gynnwys:

  • Hyfforddiant ar gyfer staff mewn busnesau lleol
  • Arwyddion eglur a hawdd eu deall o amgylch y dref
  • Gweithgareddau deall dementia

Ar hyn o bryd, mae 12 cymuned yng Ngogledd Cymru yn cael eu cydnabod am eu cynnydd tuag at ddod yn gymunedau sy’n deall dementia, o Ynys Môn i Wrecsam. Rhagwelir y bydd 12 cymuned arall yn ystyried cyflwyno cais am achrediad statws cymuned sy’n deall dementia yn ystod 2025.

Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun:

  • Cynorthwywyd dros 1,000 o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr di-dâl trwy grwpiau dementia.
  • Mynychodd mwy na 150 o bobl sesiynau hyfforddiant ynghylch dementia.
  • Dywedodd dros 1,400 o bobl fod ganddynt wybodaeth well am wasanaethau dementia yn eu cymuned.

Dywedodd un unigolyn sy’n byw gyda dementia:

“Mae bod yn rhan o gymuned sy’n deall dementia yn helpu i sicrhau y caiff eich llais ei glywed. Mae hynny hefyd wedi helpu i hyrwyddo’r grŵp Precious Memories yn y Rhyl sy’n cynnal cyfarfodydd wythnosol ac sy’n ffynhonnell werthfawr o gymorth gan gymheiriaid i bobl”.

Mae hwn yn un o nifer o gynlluniau a gyflwynwyd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (RPB) a’u partneriaid, sy’n gweithio i sicrhau bod cymunedau’n fwy cynhwysol a grymusol.

I gael rhagor o fanylion am Gynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru a sut i gyflwyno cais, cliciwch yma.

Dementia cyntaf yng Ngogledd Cymru I gael rhagor o wybodaeth am waith DVSC, cliciwch yma.

Symiau Cymudol Mannau Agored

Mae'r dyddiad cau yn prysur agosáu i chi wneud cais am Symiau Cymudol Mannau Agored Cyngor Sir Ddinbych.

Mae cyfanswm o 💷 £318,970.09 o gyllid ar gael i wella mannau agored ac ardaloedd chware yn Sir Ddinbych.

Mae’r gronfa ar agor i gynghorau Dinas, Tref a Chymuned neu grwpiau cymunedol neu wirfoddol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gyllid ydi Dydd Llun, 7 Ebrill 2025.

I ddarganfod a oes gan eich ardal gyllid ar gael, ewch i'n gwefan. Os hoffech gefnogaeth i ddatblygu prosiect cymunedol neu syniad, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol drwy e-bost: datblygiadcymunedol@sirddinbych.gov.uk



Diweddariad ar brisiau prydau ysgol

Mae Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion Sir Ddinbych wedi wynebu cynnydd mewn prisiau ar gyfer yr holl brif gynhyrchion bwyd a brynir yn fasnachol, y farchnad fwyd domestig ac ar draws holl gadwyni cyflenwi’r farchnad fwyd.

Oherwydd costau cynyddol, cytunwyd i gynyddu cost prydau ysgol 5c, a fydd yn cael ei weithredu ar Ebrill 28.

Mae’r Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion wedi’i gydnabod yn ddiweddar fel y gwasanaeth arlwyo sy’n perfformio orau yng ngwobrau’r Gymdeithas er Rhagoriaeth Gwasanaeth Cyhoeddus (GRGC) yn gynharach eleni.

Mae'r gydnabyddiaeth hon, gan y Gymdeithas er Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus yn seiliedig ar gymariaethau â gwasanaethau prydau ysgol eraill o bob rhan o'r DU.

Mae'n ystyried agweddau fel y nifer sy'n cael prydau bwyd am ddim ac am dâl, hyfforddiant staff, perfformiad y gwasanaeth a rheolaeth y gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Ni chymerwyd y penderfyniad i gynyddu cost prydau ysgol yn ysgafn, ond hyd yn oed ar ôl y cynnydd hwn, bydd y prisiau newydd hyn yn dal yn gymharol isel o gymharu ag awdurdodau lleol eraill.

“Fel y gwelwyd yn eu llwyddiant diweddar yng ngwobrau GRGC, mae gwasanaeth Arlwyo Ysgolion y Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu gwerth am arian o ran ansawdd y bwyd a roddir i ddisgyblion ar draws ein hysgolion”.

I weld y fwydlen prydau ysgol, neu am fwy o wybodaeth ewch i wefan prydau ysgol Sir Ddinbych.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid