Symiau Cymudol Mannau Agored
Mae'r dyddiad cau yn prysur agosáu i chi wneud cais am Symiau Cymudol Mannau Agored Cyngor Sir Ddinbych.
Mae cyfanswm o 💷 £318,970.09 o gyllid ar gael i wella mannau agored ac ardaloedd chware yn Sir Ddinbych.
Mae’r gronfa ar agor i gynghorau Dinas, Tref a Chymuned neu grwpiau cymunedol neu wirfoddol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gyllid ydi Dydd Llun, 7 Ebrill 2025.
I ddarganfod a oes gan eich ardal gyllid ar gael, ewch i'n gwefan. Os hoffech gefnogaeth i ddatblygu prosiect cymunedol neu syniad, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol drwy e-bost: datblygiadcymunedol@sirddinbych.gov.uk