llais y sir

Newyddion

Gwobr i geidwad cefn gwlad sy’n gofalu am yr arfordir

Yn ddiweddar, bu i Geidwad Arfordir Cefn Gwlad Gogledd Sir Ddinbych, Claudia Smith, dderbyn Gwobr Treftadaeth Forol gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn y Symposiwm Un Cefnfor a gynhaliwyd yn y Rhyl.

Mae ceidwad arfordir cefn gwlad wedi derbyn gwobr anrhydeddus am ei gwaith i helpu bywyd gwyllt yr arfordir.

Yn ddiweddar, bu i Geidwad Arfordir Cefn Gwlad Gogledd Sir Ddinbych, Claudia Smith, dderbyn Gwobr Treftadaeth Forol gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn y Symposiwm Un Cefnfor a gynhaliwyd yn y Rhyl.

Mae Claudia yn unigolyn prysur ar hyd arfordir Sir Ddinbych, sy’n cadw llygad yn rheolaidd ar natur a bywyd gwyllt lleol, o’r Rhyl i Dwyni Gronant.

Ar hyd arfordir y sir, gyda chefnogaeth gan ei gwirfoddolwyr ymroddedig, mae Claudia wedi ailgyflwyno moresg i’r system dwyni o amgylch harbwr y Rhyl i gefnogi bioamrywiaeth leol, trwsio prennau'r llwybr a gosod meinciau newydd.

Maen nhw hefyd wedi helpu i osod disgiau ac arwyddion newydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ger yr harbwr, Trwyn Horton, Twyni Barkby a Gronant.

Mae Claudia a’r gwirfoddolwyr hefyd yn helpu gyda sefydlu nythfa ar gyfer môr-wenoliaid bychain yn Nhwyni Gronant ac maent o gymorth mawr gyda chynnal y nythfa o ddydd i ddydd yn ystod tymor y môr-wenoliaid bychain.

Yn ddiweddar, bu’n cynorthwyo â’r gwaith o sefydlu prosiect CoastSnap ar hyd yr arfordir i helpu i fonitro effaith newid hinsawdd ar hyd glannau Sir Ddinbych.

Meddai Claudia ar ôl iddi dderbyn y wobr: “Rwyf wedi bod yn gweithio ar brosiect Hiraeth yn y Môr, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, sy’n dod i ben ddiwedd y mis. Nod y prosiect oedd cysylltu pobl leol rhwng Gronant a Phensarn â’r cefnfor, trwy gyfrwng digwyddiadau, addysg a hyfforddiant.

“Cymerais ran yn eu Fforwm Un Cefnfor fel cynrychiolydd Cefn Gwlad Sir Ddinbych, a lywiodd gyfeiriad y prosiect. Bu hyn yn gyfle i mi gwrdd â phobl o bob rhan o’r gymuned a hyrwyddo gwaith gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych.

Trefnais ymweliadau â’r môr-wenoliaid bychain yng Ngronant gyda nhw, yn ogystal â sesiynau glanhau’r traeth. Helpodd hyn gyda'n nodau o ran ymgysylltu yng Ngronant, yn ogystal â’u rhai hwythau. Bu i mi hefyd fynychu mwy o’u sesiynau glanhau’r traeth ac ambell un o’u digwyddiadau addysg, gan gynnwys eu Harddangosfa Forol a hyfforddiant arolygu sesiynau glanhau’r traeth, a fydd o gymorth i mi ar sesiynau glanhau’r traeth yn y dyfodol. Mae wedi bod yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono!

Dywedodd Howard Sutcliffe, Swyddog Arweiniol Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: “Mae’n braf bod Claudia wedi’i chydnabod am y wobr hon gan nad yw llawer o’r gwaith y mae ein Ceidwaid yn ei wneud i’w weld, ond mae o fudd i fywyd gwyllt a hefyd yn gwella bywydau ein trigolion ac ymwelwyr, mae’r camau bach hyn yn gweithio tuag at dirwedd well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

O glywed bod Claudia wedi derbyn y wobr, dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio’r Cabinet: “Llongyfarchiadau mawr i Claudia. Mae hi’n ysbrydoliaeth enfawr i lawer oherwydd ei hymroddiad a’i hymrwymiad i gefnogi a chadw’r cynefin arfordirol penigamp sydd gennym yn y sir.”

Carchar Rhuthun yn dathlu penblwydd arbennig!

Ddydd Sadwrn, 5 Ebrill, bydd Carchar Rhuthun, un o atyniadau treftadaeth mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru, yn cynnal digwyddiad dathlu i nodi dechrau tymor 2025, a phen-blwydd eithaf trawiadol sy'n cael ei ganmol fel 250 mlynedd o Garchar Rhuthun!

Mae Carchar Rhuthun yn ailagor ddydd Mercher, 2 Ebrill, gyda'r digwyddiad Dathlu Pen-blwydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 5 Ebrill, ac fe'ch gwahoddir i gyd fynychu seremoni swyddogol Datgloi'r Carchar am 11:00am a mwynhau hwyl a gemau teuluol am ddim a fydd ar gael drwy gydol y dydd yn y Cwrt blaen (mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol ar gyfer mynediad i'r Carchar ei hun).

Mae mwy o fanylion ar ein gwefan.

Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru

Poster Cynllun Cymunedau sy'n Deall Dementia Gogledd Cymru

Mae’r daith i greu cymunedau sy’n deall dementia ledled Gogledd Cymru wedi dechrau ers tro.

Mae'r Mae Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia yn ymwneud â helpu i ddatblygu cymunedau sy’n dosturiol, yn gynhwysol ac yn gydnerth i bobl sy’n byw gyda dementia, a hefyd i gynorthwyo eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u gofalwyr di-dâl i gynnal cysylltiadau, a byw yn dda yn eu hardaloedd lleol. Lansiodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gogledd Cymru Gynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru ar 1 Ionawr 2024.

Mae’r fenter hon yn adeiladu ar waith gwerthfawr Cymdeithas Alzheimer, y mae ei chynllun bellach wedi dod i ben, ac mae’n golygu cydweithio â chwe chyngor lleol, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, busnesau lleol, ac elusennau.

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC) wedi gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygiad y cynllun, gan rannu arbenigedd o'u prosiect Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia i gynorthwyo cynghorau eraill a hyrwyddo'r fenter ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Rebecca Bowcot, Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia, DVSC:

“Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia ledled Sir Ddinbych wedi bod yn ffordd wych o rymuso unigolion a chymunedau i weithredu er mwyn helpu pobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn eu cymunedau lleol. Mae’n hynod werth chweil gweld pobl yn dod at ei gilydd i gyflawni eu nodau unigol yn ymwneud â dymuno cynorthwyo pobl fel y gall pawb barhau i gael eu cynnwys a chyfrannu’n weithredol at fywyd eu cymuned. Rydym yn cynnal cyfarfodydd Rhwydwaith Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia bob yn ail fis ac mae hynny’n galluogi cymunedau sy’n deall dementia i ddod at ei gilydd i rannu syniadau a chynorthwyo ei gilydd i alluogi eu cymunedau sy’n deall dementia i ddatblygu a ffynnu.”

Dywedodd Dilwyn Jones, Cadeirydd Dinbych sy’n Deall Dementia:

“Roedd yn anrhydedd i mi ddod yn Gadeirydd Dinbych sy’n Deall Dementia a bod yn rhan o’r broses o godi ymwybyddiaeth yn lleol, trwy sesiwn wybodaeth. Rydym wedi gallu rhoddi eitemau megis teclynnau Alexa a chathod a chŵn robotig i helpu'r sawl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr."

Gall cymunedau sy’n cyfranogi yn y cynllun gael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion, a gallai hynny gynnwys:

  • Hyfforddiant ar gyfer staff mewn busnesau lleol
  • Arwyddion eglur a hawdd eu deall o amgylch y dref
  • Gweithgareddau deall dementia

Ar hyn o bryd, mae 12 cymuned yng Ngogledd Cymru yn cael eu cydnabod am eu cynnydd tuag at ddod yn gymunedau sy’n deall dementia, o Ynys Môn i Wrecsam. Rhagwelir y bydd 12 cymuned arall yn ystyried cyflwyno cais am achrediad statws cymuned sy’n deall dementia yn ystod 2025.

Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun:

  • Cynorthwywyd dros 1,000 o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr di-dâl trwy grwpiau dementia.
  • Mynychodd mwy na 150 o bobl sesiynau hyfforddiant ynghylch dementia.
  • Dywedodd dros 1,400 o bobl fod ganddynt wybodaeth well am wasanaethau dementia yn eu cymuned.

Dywedodd un unigolyn sy’n byw gyda dementia:

“Mae bod yn rhan o gymuned sy’n deall dementia yn helpu i sicrhau y caiff eich llais ei glywed. Mae hynny hefyd wedi helpu i hyrwyddo’r grŵp Precious Memories yn y Rhyl sy’n cynnal cyfarfodydd wythnosol ac sy’n ffynhonnell werthfawr o gymorth gan gymheiriaid i bobl”.

Mae hwn yn un o nifer o gynlluniau a gyflwynwyd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (RPB) a’u partneriaid, sy’n gweithio i sicrhau bod cymunedau’n fwy cynhwysol a grymusol.

I gael rhagor o fanylion am Gynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru a sut i gyflwyno cais, cliciwch yma.

Dementia cyntaf yng Ngogledd Cymru I gael rhagor o wybodaeth am waith DVSC, cliciwch yma.

Symiau Cymudol Mannau Agored

Mae'r dyddiad cau yn prysur agosáu i chi wneud cais am Symiau Cymudol Mannau Agored Cyngor Sir Ddinbych.

Mae cyfanswm o 💷 £318,970.09 o gyllid ar gael i wella mannau agored ac ardaloedd chware yn Sir Ddinbych.

Mae’r gronfa ar agor i gynghorau Dinas, Tref a Chymuned neu grwpiau cymunedol neu wirfoddol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gyllid ydi Dydd Llun, 7 Ebrill 2025.

I ddarganfod a oes gan eich ardal gyllid ar gael, ewch i'n gwefan. Os hoffech gefnogaeth i ddatblygu prosiect cymunedol neu syniad, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol drwy e-bost: datblygiadcymunedol@sirddinbych.gov.uk



Diweddariad ar brisiau prydau ysgol

Mae Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion Sir Ddinbych wedi wynebu cynnydd mewn prisiau ar gyfer yr holl brif gynhyrchion bwyd a brynir yn fasnachol, y farchnad fwyd domestig ac ar draws holl gadwyni cyflenwi’r farchnad fwyd.

Oherwydd costau cynyddol, cytunwyd i gynyddu cost prydau ysgol 5c, a fydd yn cael ei weithredu ar Ebrill 28.

Mae’r Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion wedi’i gydnabod yn ddiweddar fel y gwasanaeth arlwyo sy’n perfformio orau yng ngwobrau’r Gymdeithas er Rhagoriaeth Gwasanaeth Cyhoeddus (GRGC) yn gynharach eleni.

Mae'r gydnabyddiaeth hon, gan y Gymdeithas er Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus yn seiliedig ar gymariaethau â gwasanaethau prydau ysgol eraill o bob rhan o'r DU.

Mae'n ystyried agweddau fel y nifer sy'n cael prydau bwyd am ddim ac am dâl, hyfforddiant staff, perfformiad y gwasanaeth a rheolaeth y gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Ni chymerwyd y penderfyniad i gynyddu cost prydau ysgol yn ysgafn, ond hyd yn oed ar ôl y cynnydd hwn, bydd y prisiau newydd hyn yn dal yn gymharol isel o gymharu ag awdurdodau lleol eraill.

“Fel y gwelwyd yn eu llwyddiant diweddar yng ngwobrau GRGC, mae gwasanaeth Arlwyo Ysgolion y Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu gwerth am arian o ran ansawdd y bwyd a roddir i ddisgyblion ar draws ein hysgolion”.

I weld y fwydlen prydau ysgol, neu am fwy o wybodaeth ewch i wefan prydau ysgol Sir Ddinbych.

Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Cerbyd 4x4 trydan cyntaf y DU yn dod i gynnal a tirweddau Sir Ddinbych

Munro 4x4 trydan Cyfres M

Bydd cerbyd traws gwlad trydan, a gynhyrchwyd yn y DU, yn ymuno â fflyd y Cyngor gan fentro ar fryniau Sir Ddinbych a’r ardaloedd cyfagos.

Mae Adran Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau cerbyd Munro 4x4 trydan Cyfres M i gefnogi’r tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’r cerbyd wedi’i gefnogi’n rhannol drwy gyllid llenwi bwlch gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Bydd y cerbyd traws gwlad, sydd wrthi’n cael ei gynhyrchu yn yr Alban ar hyn o bryd, yn disodli tryc sy’n cael ei bweru gan danwydd ffosil ac sydd wedi dod i ddiwedd ei oes yn y fflyd. Bydd wedi’i leoli ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Bydd ceidwaid cefn gwlad yn defnyddio’r Cerbyd Cyfres M, y cerbyd cyfres cyntaf i ddod o’r Alban ers dros 40 o flynyddoedd, i gefnogi eu rolau dyddiol wrth reoli’r tirweddau yn eu hardal.

Dewiswyd y cerbyd i fynd i’r afael â thirwedd Bryniau Clwyd a safleoedd bryniog eraill, oherwydd y profion manwl a gynhaliwyd ar bob math o sefyllfaoedd oddi ar y ffordd a’i allu i ymdopi â llethrau serth dros 40 gradd.

Mae cyflwyno Munro yn rhan o ymdrech barhaus Cyngor Sir Ddinbych i leihau allyriadau carbon y fflyd, gwella ansawdd yr aer, a lleihau costau cynnal a chadw a gwasanaeth hirdymor drwy ddisodli cerbydau ar ddiwedd eu hoes gyda cherbydau trydan cyfwerth.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn parhau i ymrwymo i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol a ddatganwyd yn 2019 a braf yw gweld cerbyd trydan a ddatblygwyd yn y DU yn disodli cerbyd tanwydd ffosil sydd wedi dod i ddiwedd ei oes. Bydd yn darparu gwasanaeth traws gwlad cadarn ar gyfer y ceidwaid tra’n gwneud teithio’n fwy gwyrdd a glân a gan leihau costau tanwydd a chynnal a chadw ar yr un pryd. Cerbyd delfrydol i’w gael yn ein Hardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.”

Dywedodd Russell Peterson, Prif Weithredwr a Chyd-Sylfaenydd Munro Vehicles: “Rydym yn falch iawn o fod mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych, fel yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio Munro Cyfres-M. Mae hyn yn nodi cam arwyddocaol tuag at allu traws-gwlad, cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae ymrwymiad Sir Ddinbych i arloesedd a sero net yn cyd-fynd yn berffaith â’n hymgyrch i ddarparu cerbydau 4x4 trydan sy’n gadarn a dibynadwy. Rydym yn edrych ymlaen at weld y Cerbyd Cyfres-M ar waith, gan brofi y gall cerbydau heb allyriadau gyflawni’r tasgau mwyaf heriol.”

Tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn sicrhau cyllid grant ar gyfer Prosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd

Mae Tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn falch o gyhoeddi eu bod wedi llwyddo i sicrhau grant o £872,676 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, sy’n cael ei hwyluso drwy Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn elfen hanfodol o Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i ddylunio i wella cyflwr a gwydnwch safleoedd tir a morol gwarchodedig Cymru wrth feithrin ymgysylltiad cymunedol a chefnogi adferiad natur.

Bwriad Prosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd yw gwella cyflwr cynefinoedd a chysylltedd ymysg pum glaswelltir calchfaen arwyddocaol sy’n safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yng ngogledd Bryniau Clwyd, sy’n rhan o Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Bydd y prosiect yn gweithredu cyfres o waith cyfalaf, yn cynnwys rheoli rhywogaethau ymledol fel creigafal a choed mêl, rheoli glaswelltir calchaidd prin, torri gwair, rheoli prysgwydd a rheoli rhedyn.  Drwy gydweithio â pherchnogion tir preifat, bydd yn creu cynefinoedd a choridorau bywyd gwyllt ar draws y tirlun ehangach, gan gysylltu’r safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig â gwarchodfeydd natur eraill, yn cynnwys Coed Bell yng Ngronant.

Yn ogystal â gwelliannau ecolegol, mae’r prosiect yn pwysleisio ymgysylltiad cymunedol trwy gyfleoedd gwirfoddoli, sesiynau hyfforddi, teithiau tywys, sgyrsiau a digwyddiadau gan annog cyfranogiad lleol mewn ymdrechion gwarchod natur.

Er mwyn hwyluso cyflawni’r prosiect, bydd y Gronfa Rhwydweithiau Natur yn ariannu dwy swydd llawn amser: Ceidwad Rhwydweithiau Natur a Rheolwr Prosiect, bydd y ddwy swydd yn cael eu hariannu nes y bydd y prosiect wedi’i gwblhau ym mis Mawrth 2028.

Mae’r fenter hon yn nodi cam sylweddol tuag at wella treftadaeth naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, gan sicrhau bod yr ecosystemau hanfodol hyn yn cael eu gwarchod a’u cyfoethogi ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Mae mwy o wybodaeth ar y prosiect yma.

Gwasanaeth Cefn Gwlad a Newid Hinsawdd

Parc gwledig yn ymestyn statws caru gwenyn

Mae Tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych a Cheidwaid Cefn Gwlad Loggerheads wedi creu ardal o flodau gwyllt Caru Gwenyn ar hyd y glannau a grëwyd gan y gwaith amddiffyn rhag llifogydd a gwblhawyd yn ddiweddar ger adeiladau’r parc.

Mae gwaith wedi’i gwblhau ar ymestyn cynllun i gefnogi natur leol ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Mae Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor a Cheidwaid Cefn Gwlad Loggerheads wedi creu ardal o flodau gwyllt Caru Gwenyn ar hyd y glannau a grëwyd gan y gwaith amddiffyn rhag llifogydd a gwblhawyd yn ddiweddar ger adeiladau’r parc.

Mae’r Cynllun Caru Gwenyn yn fenter i sicrhau bod Cymru’n gyfeillgar i beillwyr gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

Crëwyd y safle Caru Gwenyn cyntaf ym Mharc Gwledig Loggerheads yn y maes parcio’r llynedd.

A nawr mae ail safle wedi’i leoli ar y glannau newydd a adeiladwyd ar hyd yr Afon Alun ar ôl cwblhau gwaith atal llifogydd ar y safle gyda chyllid Llywodraeth y DU.

Eglurodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Dyma’r ail Ardal Caru Gwenyn yn Loggerheads! Rydym wedi plannu dros 200 o blanhigion blodau gwyllt yn yr ardal gyda chymorth myfyrwyr profiad gwaith. Tyfwyd y cyfan ar ein cyfer gan y Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari o hadau lleol a gasglwyd o ddolydd blodau gwyllt Sir Ddinbych, fel rhan o’n Prosiect Caru Gwenyn.

“Y rhywogaethau yr ydym wedi’u plannu yn yr ardal newydd i gefnogi natur leol yw gludlys coch, y bengaled, crafanc brân y gweunydd, clust y gath, peradyl yr hydref, pys y ceirw a bysedd y cŵn.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein dolydd yn hanfodol ar gyfer cefnogi natur leol sydd wedi dioddef effeithiau’r Newid yn yr Hinsawdd. Bydd sefydlu mwy o safleoedd o dan fenter Caru Gwenyn fel yr ardal wych yn Loggerheads yn darparu gwell cefnogaeth i beillwyr sydd mewn perygl ac sy’n cynorthwyo i roi bwyd ar ein byrddau ac yn cynyddu bioamrywiaeth a lliw er mwyn i’r ymwelwyr eu mwynhau wrth ymweld â’r parc”.

 

Twristiaeth

Camwch i'r Gwanwyn gyda llyfryn gerdded newydd yn Sir Ddinbych

Camwch i mewn i Wanwyn gydag ysbrydoliaeth gerdded newydd i ymwelwyr a thrigolion. Mae'r Tîm Twristiaeth wedi bod yn gweithio ar lyfryn cerdded newydd. Gellir cyrraedd gyda thrafnidiaeth cyhoeddus gan ei gwneud yn fwy caredig i'r amgylchedd.

Gadewch y car gartref - mae Sir Ddinbych yn gyrchfan cerdded gwych. Dyma’r ffordd orau i weld ein cefn gwlad eiconig a rhoi amser i chi wirioneddol ymlacio.

Mae hyd yn oed yn fwy pleserus heb straen ychwanegol traffig a pharcio - ac yn well i'r amgylchedd hefyd. Dyna pam y gwnaethom ofyn i'r awdur teithio Julie Brominicks greu'r teithiau hyn gyda'n gwasanaethau bysiau mewn golwg.
Wedi'u trefnu mewn trefn gyda'r byrraf cyntaf, pob un â'i fap ei hun, gyda disgrifiadau nodweddiadol ac atgofus Julie i gyd-fynd â nhw.

Lawrlwythwch eich copi yma, neu codwch gopi caled o'n canolfannau croeso  o'r 21ain o Fawrth.

Gallwch archebu gan y gwasanaeth dosbarthu taflenni os yw eich busnes yn neu o amgylch Gogledd Ddwyrain Cymru ac os ydych mewn cyswllt ag ymwelwyr drwy glicio ar y ddolen yma ... Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth.

Dewch yn Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych

Mae’r cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, yn gwrs hyfforddiant ar-lein am ddim i wella eich gwybodaeth am y sector twristiaeth yn Sir Ddinbych.

Mae 14 modiwl i ddewis ohonynt ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys cerdded, becio. bwyd, celfyddydau, arfordir, hanes a thwristiaeth gynaliadwy.

Gwyliwch ein ffilm fer sy’n sôn am y cwrs yma.

Ewch i www.llysgennad.cymru a chychwyn arni heddiw.

Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru ’25

Dychwelodd Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2025.

Cynhaliwyd y digwyddiad ym mis Mawrth yn Venue Cymru, Llandudno, a gynhaliwyd gan Croeso Cymru ac yn arddangos y gorau o dwristiaeth Cymru.

Cyrhaeddodd Bearded Men Adventures o Langollen restr fer y categorïau 'Gweithgaredd, Profiad neu Daith Gorau' a 'Seren y Dyfodol'.

Fe gewch fwy o wybodaeth am y gwobrau Cenedlaethol with glicio yma.

Cadw mewn cysylltiad

Gallwch gofrestru ar lein i gael y wybodaeth a newyddion ddiweddaraf am dwristiaeth yn Sir Ddinbych. Cofrestrwch yma

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael y newyddion diweddaraf drwy ein dilyn ar X, Facebook ac Instagram.

Darllenwch ein blogiau diweddaraf ar wefan Gogledd Ddwyrain Cymru

Cefnogaeth i drigolion

Cymunedau Sir Ddinbych yn elwa o gysylltiad rhyngrwyd gwell

Mae disgwyl i fwy nag 800 eiddo gwledig yn Sir Ddinbych elwa o gysylltiad rhyngrwyd gwell.

Yn ddiweddar, mae Swyddog Digidol Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda phreswylwyr a busnesau sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig, er mwyn sicrhau cysylltiad rhyngrwyd gwell drwy Brosiectau Ffibr Cymunedol Openreach.

Mae’r Prosiect Ffibr Cymunedol yn rhoi’r cyfle i breswylwyr a busnesau i gael mynediad at well band eang gydag Openreach, er nad ydyn nhw’n rhan o’u cynlluniau cyflwyno presennol.

Mae yna bedwar cynllun Partneriaeth Ffibr Openreach yn y Sir ar hyn o bryd sy’n tynnu tua’r terfyn, a fydd yn darparu cysylltiad rhyngrwyd ffibr llawn ar gyfer 803 eiddo gwledig yng Nghlawddnewydd, Llidiart-y-Parc, Glyndyfrdwy, Tremeirchion a Llandyrnog.

Meddai Philip Burrows, Swyddog Digidol Sir Ddinbych: “O bosibl y bydd rhai cymunedau yn profi problemau, lle bydd angen ymyrraeth gan Openreach, fodd bynnag, ni all unigolion gysylltu’n uniongyrchol ag Openreach, ac mae hynny’n rhan o fy rôl i fel Swyddog Digidol y Cyngor.

“Gallaf fod yn gyswllt rhwng y ddwy ochr gyda’r gobaith o leihau’r straen o ddelio gyda phroblemau o’r fath. Gallaf hefyd gynghori ar sut i sicrhau cyllid i sefydlu Partneriaethau Ffibr Cymunedol os oes yna gymunedau penodol sy’n profi problemau tebyg”.

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Rwy’n falch o glywed am y cynlluniau sydd ar waith i ddarparu cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy i gymunedau mwyaf anghysbell ein Sir. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i helpu preswylwyr ddeall y dewisiadau a’r atebion ar gyfer cysylltiad rhyngrwyd gwell, sy’n hollbwysig yn yr oes ddigidol rydym yn byw ynddi.

“Dw i’n annog unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am y cyllid amrywiol sydd ar gael neu sy’n cael problemau gyda’u rhyngrwyd i gysylltu â Philip a fydd y gallu eich cynghori ar y camau gorau i’w cymryd.”

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu drafod sut y byddai modd i chi gyflymu eich mynediad i’r rhyngrwyd, cysylltwch â Philip Burrows ar communitydevelopment@sirddinbych.gov.uk

Sir Ddinbych yn Gweithio

Sir Ddinbych yn Gweithio

Yn Sir Ddinbych yn Gweithio rydym yma i helpu preswylwyr 16 oed a hŷn a allai fod yn ei chael yn anodd neu sy’n poeni am arian. P’un ai a ydych chi’n chwilio am waith neu angen cefnogaeth i godi eich hun yn ôl ar eich traed, rydym yma i’ch arwain chi tuag at ddyfodol gwell.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fuddsoddi yn eich dyfodol, cofrestrwch heddiw wrth fynd ar ein gwefan. Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol @SirDdinbychynGweithio

Sesiynau am ddim i'ch paratoi ar gyfer gwaith

Barod (Gweithgaredd Lles) Amserlen

Treftadaeth

Nantclwyd y Dre yn agor ar gyfer tymor 2025

Bydd tŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre yn Rhuthun yn croesawu ymwelwyr unwaith eto wrth iddo agor ar gyfer y tymor ddydd Iau, 3ydd Ebrill 2025.

Mae'r tŷ tref ffrâm bren chwil-chwâl sy'n cynnig dros 500 mlynedd o hanes i ymwelwyr o dan yr un to a’r gerddi cudd hardd, yn llawn arddangosfeydd, gweithgareddau a llwybrau newydd diweddar, wedi'u cynllunio i adrodd hanes diddorol yr atyniad hanesyddol hwn, mewn ffyrdd newydd a rhyngweithiol.

Un o brif uchafbwyntiau ar gyfer 2025 yw cyflwyno arogleuon hanesyddol. O ganhwyllau gwerog myglyd yn yr ystafell ganoloesol, i fara ffres yn y gegin a rhosod cain yn yr ystafell wely Georgaidd, mae persawr atgofus yn ychwanegu at y profiad ymgolli, gan ategu'r gwisgoedd cyfnod, seinweddau, a gweithgareddau ymarferol sy'n helpu i ddod â hanes Nantclwyd y Dre yn fyw.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: "Edrychaf ymlaen at Nantclwyd y Dre yn agor y drysau unwaith eto. Mae'n ddarn hanfodol o hanes Rhuthun ac yn wir Sir Ddinbych. Mae'r tŷ tref, tawelwch y gerddi yn rhai o'r rhesymau dros ymweld â Nantclwyd y Dre a byddwn yn eich annog chi i gyd i wneud hynny."

Meddai Kate Thomson, Rheolwr Safle Nantclwyd y Dre: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr yn ôl am dymor arall. Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr brwdfrydig yn rhoi'r cyffyrddiadau olaf i'r ffyrdd newydd sydd gennym i ymwelwyr archwilio'r tŷ a'r gerddi - ni allwn aros i weld ymwelwyr yn eu mwynhau!"

Wedi'i gynllunio i wneud hanes yn 'ymarferol', mae profiad unigryw ymwelwyr Nantclwyd y Dre yn cynnig digon o ffyrdd i ymwelwyr o bob oed ddysgu am y tŷ a phrofi sut beth oedd bywyd bob dydd i'r cymeriadau a fu'n byw ac yn gweithio yma. Yn dal statws Trysor Cudd, achrediad Plant mewn Amgueddfeydd a sgôr o 4.5 seren ar TripAdvisor, mae Nantclwyd y Dre yn cynnig taith bleserus iawn i selogion hanes a theuluoedd fel ei gilydd.

Bydd Nantclwyd y Dre ar agor rhwng 10.30am a 4.30pm (mynediad olaf 3.30pm), dydd Iau – dydd Sadwrn tan 30 Medi 2025. Am fanylion llawn am oriau agor a phrisiau tocynnau, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/treftadaeth.

Ailagor Plas Newydd ar gyfer Tymor 2025!

Mae adeilad hanesyddol Plas Newydd yn Llangollen yn barod i agor ei ddrysau am y tymor newydd a chynnig amrywiaeth gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Mae’r hen dŷ rhyfeddol hwn, lle trigai’r anfarwol Ferched Llangollen tua diwedd y ddeunawfed ganrif, yn ailagor unwaith eto ddechrau mis Ebrill.

Daliodd y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby ddychymyg cymdeithas yng nghyfnod y Rhaglywiaeth. Deuai llu o ymwelwyr i’r bwthyn bach diymhongar a weddnewidiwyd gan y Merched ar hyd y blynyddoedd yn ffantasi Gothig o wydr lliw a phren derw wedi’i naddu’n gain. Cewch ddysgu mwy am eu hanes rhyfeddol a phrynu tocynnau i ymweld â’r tŷ rhwng 11am a 4pm, saith niwrnod yr wythnos.

Gallwch gael te, fel y gwnaeth Wordsworth, Syr Walter Scott a Dug Wellington ers talwm, a mwynhau tamaid blasus i’w fwyta yn ystafelloedd te’r Hen Stabl rhwng 10am a 4pm bob dydd o Ebrill 1 ymlaen.

Mae gerddi Plas Newydd yn enwog am eu rhamant a’u hanes cyfoethog. Roedd y Merched wrth eu boddau â byd natur a garddio, ac aethant ati i weddnewid y gerddi’n lle rhamantus, llawn planhigion lliwgar, llwybrau troellog, rhaeadrau ac addurniadau sy’n dal i gyfareddu ymwelwyr hyd heddiw. Cewch grwydro’r gerddi’n rhad ac am ddim bob dydd, gydol y flwyddyn, o 8am nes mae hi’n nosi.

Cadwch lygad am ddigwyddiadau a gynhelir cyn bo hir, a hyrwyddir yn lleol ar dudalen Facebook Plas Newydd, Llangollen: www.facebook.com/plasnewyddllangollen Bydd tymor 2025 yn llawn o weithgareddau difyr fel gweithdai crefft, teithiau tywys a darlithoedd yn y gerddi, digwyddiadau hanesyddol, dramâu, perfformiadau a gweithgareddau i deuluoedd, gan gynnwys yr helfeydd trysor tymhorol sy’n arbennig o boblogaidd â phlant ac yn cynnig gwobrau newydd gwych. Eleni, bydd Plas Newydd hefyd yn cynnal yr wythnos gyntaf erioed i glodfori Gwaddol Merched Llangollen ym mis Mehefin, pan fyddwn yn cynnal llu o weithgareddau’n canolbwyntio ar y Merched, eu hanes unigryw a’r gwaddol y maent wedi’i adael inni.

“Mae gan y tîm ym Mhlas Newydd raglen gyffrous o ddigwyddiadau a phethau newydd i’w rhannu â’n hymwelwyr yn 2025, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobl o bell ac agos,” meddai Sallyanne Hall, Swyddog Cyswllt Cymunedol y Dirwedd Genedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae Plas Newydd yn drysor hanesyddol yr ydym ni’n ffodus iawn o’i gael yma ar garreg ein drws yn Sir Ddinbych. Mae’r eiddo hanesyddol yn gyfle i archwilio cyfoeth o hanes ac mae’n le gwych i ymweld ag o yn 2025.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid