Bydd cerbyd traws gwlad trydan, a gynhyrchwyd yn y DU, yn ymuno â fflyd y Cyngor gan fentro ar fryniau Sir Ddinbych a’r ardaloedd cyfagos.

Mae Adran Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau cerbyd Munro 4x4 trydan Cyfres M i gefnogi’r tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’r cerbyd wedi’i gefnogi’n rhannol drwy gyllid llenwi bwlch gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Bydd y cerbyd traws gwlad, sydd wrthi’n cael ei gynhyrchu yn yr Alban ar hyn o bryd, yn disodli tryc sy’n cael ei bweru gan danwydd ffosil ac sydd wedi dod i ddiwedd ei oes yn y fflyd. Bydd wedi’i leoli ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Bydd ceidwaid cefn gwlad yn defnyddio’r Cerbyd Cyfres M, y cerbyd cyfres cyntaf i ddod o’r Alban ers dros 40 o flynyddoedd, i gefnogi eu rolau dyddiol wrth reoli’r tirweddau yn eu hardal.

Dewiswyd y cerbyd i fynd i’r afael â thirwedd Bryniau Clwyd a safleoedd bryniog eraill, oherwydd y profion manwl a gynhaliwyd ar bob math o sefyllfaoedd oddi ar y ffordd a’i allu i ymdopi â llethrau serth dros 40 gradd.

Mae cyflwyno Munro yn rhan o ymdrech barhaus Cyngor Sir Ddinbych i leihau allyriadau carbon y fflyd, gwella ansawdd yr aer, a lleihau costau cynnal a chadw a gwasanaeth hirdymor drwy ddisodli cerbydau ar ddiwedd eu hoes gyda cherbydau trydan cyfwerth.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn parhau i ymrwymo i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol a ddatganwyd yn 2019 a braf yw gweld cerbyd trydan a ddatblygwyd yn y DU yn disodli cerbyd tanwydd ffosil sydd wedi dod i ddiwedd ei oes. Bydd yn darparu gwasanaeth traws gwlad cadarn ar gyfer y ceidwaid tra’n gwneud teithio’n fwy gwyrdd a glân a gan leihau costau tanwydd a chynnal a chadw ar yr un pryd. Cerbyd delfrydol i’w gael yn ein Hardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.”

Dywedodd Russell Peterson, Prif Weithredwr a Chyd-Sylfaenydd Munro Vehicles: “Rydym yn falch iawn o fod mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych, fel yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio Munro Cyfres-M. Mae hyn yn nodi cam arwyddocaol tuag at allu traws-gwlad, cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae ymrwymiad Sir Ddinbych i arloesedd a sero net yn cyd-fynd yn berffaith â’n hymgyrch i ddarparu cerbydau 4x4 trydan sy’n gadarn a dibynadwy. Rydym yn edrych ymlaen at weld y Cerbyd Cyfres-M ar waith, gan brofi y gall cerbydau heb allyriadau gyflawni’r tasgau mwyaf heriol.”