llais y sir

Treftadaeth

Nantclwyd y Dre yn agor ar gyfer tymor 2025

Bydd tŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre yn Rhuthun yn croesawu ymwelwyr unwaith eto wrth iddo agor ar gyfer y tymor ddydd Iau, 3ydd Ebrill 2025.

Mae'r tŷ tref ffrâm bren chwil-chwâl sy'n cynnig dros 500 mlynedd o hanes i ymwelwyr o dan yr un to a’r gerddi cudd hardd, yn llawn arddangosfeydd, gweithgareddau a llwybrau newydd diweddar, wedi'u cynllunio i adrodd hanes diddorol yr atyniad hanesyddol hwn, mewn ffyrdd newydd a rhyngweithiol.

Un o brif uchafbwyntiau ar gyfer 2025 yw cyflwyno arogleuon hanesyddol. O ganhwyllau gwerog myglyd yn yr ystafell ganoloesol, i fara ffres yn y gegin a rhosod cain yn yr ystafell wely Georgaidd, mae persawr atgofus yn ychwanegu at y profiad ymgolli, gan ategu'r gwisgoedd cyfnod, seinweddau, a gweithgareddau ymarferol sy'n helpu i ddod â hanes Nantclwyd y Dre yn fyw.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: "Edrychaf ymlaen at Nantclwyd y Dre yn agor y drysau unwaith eto. Mae'n ddarn hanfodol o hanes Rhuthun ac yn wir Sir Ddinbych. Mae'r tŷ tref, tawelwch y gerddi yn rhai o'r rhesymau dros ymweld â Nantclwyd y Dre a byddwn yn eich annog chi i gyd i wneud hynny."

Meddai Kate Thomson, Rheolwr Safle Nantclwyd y Dre: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr yn ôl am dymor arall. Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr brwdfrydig yn rhoi'r cyffyrddiadau olaf i'r ffyrdd newydd sydd gennym i ymwelwyr archwilio'r tŷ a'r gerddi - ni allwn aros i weld ymwelwyr yn eu mwynhau!"

Wedi'i gynllunio i wneud hanes yn 'ymarferol', mae profiad unigryw ymwelwyr Nantclwyd y Dre yn cynnig digon o ffyrdd i ymwelwyr o bob oed ddysgu am y tŷ a phrofi sut beth oedd bywyd bob dydd i'r cymeriadau a fu'n byw ac yn gweithio yma. Yn dal statws Trysor Cudd, achrediad Plant mewn Amgueddfeydd a sgôr o 4.5 seren ar TripAdvisor, mae Nantclwyd y Dre yn cynnig taith bleserus iawn i selogion hanes a theuluoedd fel ei gilydd.

Bydd Nantclwyd y Dre ar agor rhwng 10.30am a 4.30pm (mynediad olaf 3.30pm), dydd Iau – dydd Sadwrn tan 30 Medi 2025. Am fanylion llawn am oriau agor a phrisiau tocynnau, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/treftadaeth.

Ailagor Plas Newydd ar gyfer Tymor 2025!

Mae adeilad hanesyddol Plas Newydd yn Llangollen yn barod i agor ei ddrysau am y tymor newydd a chynnig amrywiaeth gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Mae’r hen dŷ rhyfeddol hwn, lle trigai’r anfarwol Ferched Llangollen tua diwedd y ddeunawfed ganrif, yn ailagor unwaith eto ddechrau mis Ebrill.

Daliodd y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby ddychymyg cymdeithas yng nghyfnod y Rhaglywiaeth. Deuai llu o ymwelwyr i’r bwthyn bach diymhongar a weddnewidiwyd gan y Merched ar hyd y blynyddoedd yn ffantasi Gothig o wydr lliw a phren derw wedi’i naddu’n gain. Cewch ddysgu mwy am eu hanes rhyfeddol a phrynu tocynnau i ymweld â’r tŷ rhwng 11am a 4pm, saith niwrnod yr wythnos.

Gallwch gael te, fel y gwnaeth Wordsworth, Syr Walter Scott a Dug Wellington ers talwm, a mwynhau tamaid blasus i’w fwyta yn ystafelloedd te’r Hen Stabl rhwng 10am a 4pm bob dydd o Ebrill 1 ymlaen.

Mae gerddi Plas Newydd yn enwog am eu rhamant a’u hanes cyfoethog. Roedd y Merched wrth eu boddau â byd natur a garddio, ac aethant ati i weddnewid y gerddi’n lle rhamantus, llawn planhigion lliwgar, llwybrau troellog, rhaeadrau ac addurniadau sy’n dal i gyfareddu ymwelwyr hyd heddiw. Cewch grwydro’r gerddi’n rhad ac am ddim bob dydd, gydol y flwyddyn, o 8am nes mae hi’n nosi.

Cadwch lygad am ddigwyddiadau a gynhelir cyn bo hir, a hyrwyddir yn lleol ar dudalen Facebook Plas Newydd, Llangollen: www.facebook.com/plasnewyddllangollen Bydd tymor 2025 yn llawn o weithgareddau difyr fel gweithdai crefft, teithiau tywys a darlithoedd yn y gerddi, digwyddiadau hanesyddol, dramâu, perfformiadau a gweithgareddau i deuluoedd, gan gynnwys yr helfeydd trysor tymhorol sy’n arbennig o boblogaidd â phlant ac yn cynnig gwobrau newydd gwych. Eleni, bydd Plas Newydd hefyd yn cynnal yr wythnos gyntaf erioed i glodfori Gwaddol Merched Llangollen ym mis Mehefin, pan fyddwn yn cynnal llu o weithgareddau’n canolbwyntio ar y Merched, eu hanes unigryw a’r gwaddol y maent wedi’i adael inni.

“Mae gan y tîm ym Mhlas Newydd raglen gyffrous o ddigwyddiadau a phethau newydd i’w rhannu â’n hymwelwyr yn 2025, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobl o bell ac agos,” meddai Sallyanne Hall, Swyddog Cyswllt Cymunedol y Dirwedd Genedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae Plas Newydd yn drysor hanesyddol yr ydym ni’n ffodus iawn o’i gael yma ar garreg ein drws yn Sir Ddinbych. Mae’r eiddo hanesyddol yn gyfle i archwilio cyfoeth o hanes ac mae’n le gwych i ymweld ag o yn 2025.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid