llais y sir

Loggerheads yn cael gwobr am amddiffyn awyr y nos

Mae prosiect i droi man harddwch yn barth cyfeillgar i awyr dywyll wedi ennill gwobr.

Mae goleuadau allanol ym Mharc Gwledig Loggerheads yn Ardal o Harddwch Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cael eu newid i wella ansawdd awyr y nos yn yr ardal.

Enillodd y gwaith y Wobr Goleuadau Da gan y Comisiwn Awyr Dywyll, sefydliad sy’n ceisio gwarchod ansawdd ein hawyr nos.

Mae'r goleuadau LED, sy'n gweithredu ar synhwyrydd mudiant, wedi'u cysgodi'n llawn felly nid oes unrhyw ollyngiad i fyny ac mae golau'n cael ei gyfeirio i'r man lle mae ei angen yn unig.

Wedi’u dylunio’n fewnol gan Beiriannydd Goleuadau Sir Ddinbych, Graham Mitchell, mae’r goleuadau LED yn fwy effeithlon na goleuadau traddodiadol ac mae tymheredd y lliw yn olau melynach meddalach.

Mae'r gwaith yn Loggerheads yn dangos nad yw amddiffyn ein awyr nos yn golygu diffodd ein goleuadau - mae'n golygu cael y swm cywir o olau wedi'i gyfeirio'n ofalus at y lleoedd y mae ei angen arnom, ar yr adegau y mae ei angen arnom. Dangoswyd bod goleuadau gwael, yn enwedig y golau glas/gwyn llym sy'n aml yn gysylltiedig â LEDs, yn cael effaith drychinebus ar fioamrywiaeth trwy amharu ar batrymau ymddygiad pryfed sy'n cael effaith gynyddol ar draws yr ecosystem, tra dangoswyd bod llygredd golau hefyd yn cael effaith negyddol ar ein hiechyd corfforol a meddyliol ein hunain. Mae golau gwael yn cael effaith mor negyddol ar ein bioamrywiaeth a’n hansawdd bywyd ein hunain ac eto mae’n gymharol hawdd ei wneud yn iawn.

Mae'r prosiect hefyd wedi dangos, er bod goleuadau diogelwch traddodiadol yn gallu creu llacharedd a chysgodion, gall llai o olau, wedi'i gyfeirio'n gywir fod yn llawer mwy effeithiol - ac yn well i'r amgylchedd.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd, mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn y broses o wneud cais am statws Cymuned Awyr Dywyll gyda’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol.

Byddai statws Awyr Dywyll yn helpu i warchod awyr y nos, yn hyrwyddo dyluniad goleuo da yn yr AHNE ac yn darparu cyfleoedd i seryddwyr, selogion a sylwedyddion achlysurol weld awyr y nos yn ei holl ogoniant.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/projects/dark-skies/

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid