llais y sir

Mae Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy i wella mynediad at gyrchfannau allweddol Dyffryn Dyfrdwy wedi ailddechrau

Mae Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn rhedeg eto eleni i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.

Mae gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn mynd ar daith gylchdro bob dydd Sadwrn o fis Mai hyd at fis Hydref 2022 ac mae’n cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos ag atyniadau poblogaidd lleol fel Dyfrbont Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur Wernffrwd, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Tŷ Hanesyddol Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Mae’r gwasanaeth hwn yn annog pobl i ymweld â'r atyniadau allweddol yma heb angen car a lleihau’r angen am fannau parcio, ei gwneud hi’n haws i’r rheiny heb gar deithio i’r llefydd yma a helpu i leihau tagfeydd yn rhai o ardaloedd prysuraf Dyffryn Dyfrdwy.   Ystyriwch barcio mewn rhai o’r meysydd parcio mwyaf fel yn Wenffrwd a mynd ar y bws am ymweliad i rai o’r lleoliadau mwyaf prysur neu ar gyfer taith hirach. Dewis gwych fyddai parcio yn y prif faes parcio Stryd y Frenhines Dyfrbont Pontcysyllte, Cefn Mawr, ewch ar y bws i Raeadr y Bedol a cherdded yn ôl ar hyd y gamlas. Bydd y gwasanaeth hefyd yn rhoi cyfle i drigolion ac ymwelwyr archwilio’r ardal ehangach. Mae’r bws yn cynnig cyfleuster camu ymlaen a chamu i ffwrdd gyda phris tocyn 1Bws yn caniatau teithio diderfyn drwy’r dydd yn ei gwneud yn ddelfrydol i gamu oddi ar y bws i ymweld â safle ac yna yn ôl ar y bws yn hwyrach.

Mae’r gwasanaeth wedi’i greu diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, ac mae’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a phrosiect Ein Tirlun Darluniadwy, cynllun partneriaeth tirlun sy’n ceisio gwarchod a gwella mynediad at dirweddau ysbrydoledig Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Camlas a Dyfrbont Pontcysyllte.

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy 199 ar gael ddydd Sadwrn yn unig, o ddydd Sadwrn 7 Mai tan ddydd Sadwrn 29 Hydref 2022. I weld yr amserlen lawn a phrisiau’r tocynnau ar gyfer y Gwasanaeth Bws Darluniadwy, ewch i dudalen we Amserlenni Bysiau Sir Ddinbych, gwefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu ewch i Ganolfan Groeso Llangollen i nôl taflen wybodaeth.

https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/projects/y-bws-darluniadwy/?lang=cy

https://www.sirddinbych.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/cludiant-cyhoeddus/amserlenni-bws/amserlenni-bws.aspx

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/cludiant-cyhoeddus/1bws.aspx

Meddai Kate Thomson, Swyddog Partneriaeth prosiect Ein Tirlun Darluniadwy:

“Mae’n bleser gennym ni groesawu Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy am ail flwyddyn. Rydym yn falch iawn y bydd y gwasanaeth hwn yn gallu rhedeg ar y capasiti 16 sedd llawn yn dilyn y pandemig.   Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych rydym ni wedi gallu sicrhau bod y gwasanaeth yn ategu’r ddarpariaeth cludiant cyhoeddus bresennol. Mae cysylltu ag amserlenni bysiau o Gorwen a Wrecsam yn gwneud y Gwasanaeth Bws Darluniadwy yn ddewis da ar gyfer mynd am dro yn yr ardal.   Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Gronfa Treftadaeth y Loteri am wneud y gwasanaeth yma’n bosibl, ac rydym ni’n gobeithio y bydd yn llwyddiant ysgubol ac yn etifeddiaeth go iawn gan brosiect Ein Tirlun Darluniadwy.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid