llais y sir

Arddangos doniau creadigol yn yr Urdd

Bu 11 o ysgolion o Ddinbych a’r cyffiniau yn cymryd rhan mewn prosiect celf a grewyd i ddatblygu sgiliau Cymraeg y disgyblion trwy’r celfyddydau ac i ddatblygu eu gwybodaeth o’u diwylliant a’u hanes lleol.

Ariannwyd y prosiect gan GwE (y consortia addysg rhanbarthol) a’i arwain gan Ffion Hughes o Ysgol y Parc ar ran eu clwstwr ysgolion, mewn cydweithrediad â thîm Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Yna rhannwyd y patrymau iaith Gymraeg a ddatblygwyd yn ystod y sesiynau hyn rhwng yr ysgolion er mwyn gwella safonau Cymraeg y staff a’r disgyblion ar draws y clwstwr.

Yr ysgolion a gymerodd ran yn y prosiect oedd: Ysgol y Parc, Ysgol Frongoch, Ysgol Pendref (i gyd yn Ninbych i gyd), Ysgol Gynradd Llanelwy, Ysgol y Santes Ffraid (Dinbych), Ysgol Bodfari, Ysgol Cefn Meiriadog, Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol Esgob Morgan (Llanelwy), Ysgol y Faenol (Bodelwyddan) ac Ysgol Trefnant.

Roedd yr arddangosfa i’w gweld ym mhabell y Cyngor ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Bu disgyblion yn gweithio gyda’r artistiaid proffesiynol Eleri Jones a Catrin Williams dros gyfnod o dri mis rhwng Ionawr a Mawrth 2022. Bu Catrin Williams yn archwilio adeiladau gwych tref hanesyddol Dinbych, gyda’r disgyblion wedyn yn creu trefluniau hynod o liwgar gyda Dinbych yn ysbrydoliaeth iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd: “Mae hwn yn brosiect gwych sydd wedi rhoi’r cyfle i ddisgyblion o nifer o ysgolion lle nad yw’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt gymryd rhan weithredol yn yr Eisteddfod mewn modd greadigol a deniadol."

Dywedodd Sian Fitzgerald, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol gyda thîm Cymunedau Actif Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Wrth weithio gydag Eleri Jones bu’r disgyblion yn edrych ar ddelweddau o ffigurau hanesyddol sydd wedi cyfrannu mewn llawer o wahanol ffyrdd at ddefnydd parhaus o’r Gymraeg. Buont yn edrych ar ffigyrau o’r Celtiaid i Dafydd a Llywelyn ap Gruffydd ac Owain Glyndwr, i ffigyrau hanesyddol Sir Ddinbych fel y dramodydd Twm o’r Nant, y nofelydd Kate Roberts a’r reslwr Orig Williams.

“Fe greodd y plant a’r bobl ifanc blatiau print colograff unigol o bortreadau o bobl Sir Ddinbych, yn ogystal â rhai portreadau ohonyn nhw eu hunain. Cafodd y rhain eu defnyddio ar ben delweddau o adeiladau Sir Ddinbych a grëwyd gan y disgyblion fu’n  gweithio gyda Catrin, i greu’r gweithiau celf gorffenedig a welwch yma heddiw”.

Yn Sir Ddinbych, mae prosiectau celfyddydau cymunedol yn cael eu rheoli gan Wasanaeth Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych Cyf. I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau yn Sir Ddinbych, cysylltwch â Jo McGregor ar 07799 582766 / jo.mcgregor@denbighshireleisure.co.uk neu Sian Fitzgerald ar 07717540857 / sian.fitzgerald@denbighshireleisure.co.uk.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid