llais y sir

Dull rheoli glaswellt naturiol yn arwain at ganlyniad cadarnhaol

Mae cynllun peilot wedi arwain at fanteision o ran rheoli glaswellt ar ddolydd yn y dyfodol.

Y llynedd fe dreialodd tîm bioamrywiaeth y Cyngor dechneg naturiol i leihau a rheoli hyd y borfa ar safle dôl blodau gwyllt yn Ninbych a gwella’r tir er mwyn i flodau flodeuo.

Mae Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yn cynnwys dros 100 o safleoedd a gaiff eu rheoli ar gyfer dolydd blodau gwyllt (gan gynnwys yr 11 gwarchodfa natur ar ymylon ffyrdd).  Mae’r safleoedd hyn yn gyfystyr â gwerth bron i 35 o gaeau pêl-droed o laswelltir a reolir fel dolydd blodau gwyllt cynhenid.

A nawr mae safle yn Ninbych wedi dod yn sail i ddull naturiol newydd a hunan-gynhaliol o gadw hyd y glaswellt ar y dolydd yn fyrrach tra’u bod yn eu tymor.

Cafodd rhan o’r ddôl yn Ninbych Isaf ei thynnu a chafodd hadau’r Gribell Felen, a gynaeafwyd o ddôl arall yn y dref, eu hau.

Yn ystod mis Mehefin fe archwiliodd y tîm Bioamrywiaeth y safle a chanfuwyd fod hyd y glaswellt wedi lleihau ac roedd y nifer o flodau gwyllt wedi cynyddu, lle’r oedd y treial wedi ei gynnal.

Mae hyn wedi arwain at fwy o fwyd ar gyfer trychfilod sy’n peillio a’u hysglyfaethwyr, ac mae’n golygu fod cynlluniau yn y dyfodol i gyflwyno blodau gwyllt newydd, sydd â’u tarddiad yn lleol ac a gaiff eu tyfu ym Mhlanhigfa Goed Sir Ddinbych, yn cael gwell siawns o lwyddiant gyda llai o gystadleuaeth gan laswellt y dolydd.

Mae’r Gribell Felen yn blanhigyn parasitig, sy’n treiddio at wreiddiau glaswellt a phlanhigion eraill gerllaw gan ddwyn eu maeth.  Mae hyn wedi lleihau goruchafiaeth glaswellt o fewn y ddôl gan alluogi i fwy o flodau cynhenid dyfu.

Mae bwriad i gynaeafu hadau’r Gribell Felen o’r safle yn Ninbych er mwyn galluogi i’r planhigyn gael ei gyflwyno i ardaloedd eraill o ddolydd blodau gwyllt yn y sir i leihau goruchafiaeth glaswellt a helpu i gynyddu’r nifer o flodau gwyllt o fewn y safleoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r tîm Bioamrywiaeth am dreialu’r prosiect hwn. Mae’r dull naturiol a hunan-gynhaliol hwn wedi cael effaith gadarnhaol yn y safle yn Ninbych, gan helpu blodau gwyllt eraill i dyfu yn y dyfodol a hefyd rheoli hyd y glaswellt.

“Rydym yn edrych ymlaen at fynd ymlaen â’r cynllun naturiol hwn i wella bioamrywiaeth ac edrychiad safleoedd eraill er budd y cymunedau lleol, rhywogaethau planhigion a thrychfilod cynhenid.”

Mae’r holl safleoedd blodau gwyllt yn cael eu rheoli yn unol â chanllawiau Rheoli Glaswelltir Ymylon Ffyrdd Plantlife sy’n arwain at wahardd torri glaswellt yn y safleoedd hyn rhwng Mawrth ac Awst bob blwyddyn gan roi digon o amser i flodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu.

Ar ôl mis Awst caiff y safle ei dorri gyda’r hyn a dorrir yn cael ei gasglu i leihau ffrwythlondeb y pridd a darparu’r amodau gorau posibl i flodau gwyllt.

Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid