llais y sir

Planhigfa Goed yn agor ei drysau i ddisgyblion Prestatyn

Mae disgyblion wedi cael blas o fenter bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.

Yn ddiweddar, bu disgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn ym mhlanhigfa coed lleol y Cyngor yn Fferm Green Gates, Llanelwy.

Nod y safle yw tyfu 5,000 o blanhigion blodau gwylltion brodorol bob blwyddyn ochr yn ochr â 5,000 o goed brodorol, ac mae wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Arweiniodd tîm bioamrywiaeth Sir Ddinbych y disgyblion ar daith o gwmpas y twnelau polythen ar y safle lle mae’r planhigion a’r coed yn tyfu o hadau sydd wedi tarddu o fewn y sir.

Cawsant y cyfle hefyd i brofi eu sgiliau garddio drwy ailblannu rhai o’r blodau gwylltion a dyfwyd ar y safle.

Cafodd y disgyblion gipolwg gan y tîm bioamrywiaeth ar fentrau eraill sy’n digwydd yn y blanhigfa goed, sy’n cynnwys gwrych cyfoethog ei rywogaethau, dôl fawr o flodau gwylltion brodorol, a gaeafwisg madfall ddŵr gribog, a gynlluniwyd oll i gynnal bywyd gwyllt lleol.

Dangoswyd iddynt hefyd yr ardd law a phwll dŵr bywyd gwyllt mawr, a osodwyd fel rhan o system ddraenio gynaliadwy i hybu bioamrywiaeth a lleihau llifogydd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd yn wych croesawu’r disgyblion i’n planhigfa goed, a rhoi’r cyfle iddynt weld drostynt eu hunain a chael profiad o’r gwaith mae ein tîm bioamrywiaeth yn ei wneud i gynnal a gwella ein hamgylchedd lleol.

“Roedd yn braf gweld a chlywed cymaint o ddiddordeb gan y disgyblion mewn bioamrywiaeth a sut y gallant ei gynnal, ac rydym yn gobeithio eu bod wedi dysgu gwybodaeth ddefnyddiol iawn i gynorthwyo eu hardal leol eu hunain.”

Yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor yn 2019, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ledled y sir.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymweld â’r blanhigfa goed, neu ein cynorthwyo drwy wirfoddoli ar y safle, e-bostiwch: bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid