Gwefrwyr trydan nawr ymlalen mewn maes parcio ym Mhrestatyn
Mae dau bwynt gwefru cerbydau trydan newydd wedi'u gosod mewn maes parcio ym Mhrestatyn.
Mae'r Cyngor wedi troi ymlaen dau bwynt gwefru ym maes parcio arhosiad byr Rhodfa Brenin. Bydd pob dyfais wefru 50kw yn darparu cyfleusterau gwefru ‘cyflym’ dros bedwar bae parcio cwbl hygyrch.
Mae’r prosiect diweddaraf hwn yn rhan o gamau gweithredu’r Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 a mabwysiadu’r Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol yn 2021.
Sicrhawyd cyllid ar gyfer y dyfeisiau gwefru ‘cyflym’, sy’n gallu gwefru’r rhan fwyaf o fatris cerbydau i 80% mewn llai nag awr, gan Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru.
Mae’r ddwy ddyfais wefru newydd yn ychwanegol at waith sy’n cael ei wneud i ddarparu pwyntiau gwefru cyflym i’r cyhoedd eu defnyddio mewn wyth maes parcio cyhoeddus yn Sir Ddinbych.
Disgwylir i’r gwaith ar safle Rhodfa Brenin gael ei orffen erbyn diwedd mis Mai.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni’n falch iawn o allu cyflwyno’r pwyntiau gwefru ychwanegol hyn ar gyfer cerbydau trydan ym Mhrestatyn, ochr yn ochr â’r cyfleuster lleol arall yn Fern Avenue. Fe fydd y pwyntiau gwefru hyn yn cefnogi ein gwaith pwysig o ran newid hinsawdd a byddant o fantais glir i aelwydydd gerllaw lle nad oes cyfleusterau gwefru oddi ar y ffordd.
“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y cyfleuster newydd hwn yn annog perchnogion cerbydau trydan i ddod i Brestatyn a gwefru eu cerbydau yn y maes parcio wrth siopa’n lleol, er mwyn cefnogi’r nifer o fusnesau sydd yn y dref.”
Planhigfa Goed yn agor ei drysau i ddisgyblion Prestatyn
Mae disgyblion wedi cael blas o fenter bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.
Yn ddiweddar, bu disgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn ym mhlanhigfa coed lleol y Cyngor yn Fferm Green Gates, Llanelwy.
Nod y safle yw tyfu 5,000 o blanhigion blodau gwylltion brodorol bob blwyddyn ochr yn ochr â 5,000 o goed brodorol, ac mae wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Arweiniodd tîm bioamrywiaeth Sir Ddinbych y disgyblion ar daith o gwmpas y twnelau polythen ar y safle lle mae’r planhigion a’r coed yn tyfu o hadau sydd wedi tarddu o fewn y sir.
Cawsant y cyfle hefyd i brofi eu sgiliau garddio drwy ailblannu rhai o’r blodau gwylltion a dyfwyd ar y safle.
Cafodd y disgyblion gipolwg gan y tîm bioamrywiaeth ar fentrau eraill sy’n digwydd yn y blanhigfa goed, sy’n cynnwys gwrych cyfoethog ei rywogaethau, dôl fawr o flodau gwylltion brodorol, a gaeafwisg madfall ddŵr gribog, a gynlluniwyd oll i gynnal bywyd gwyllt lleol.
Dangoswyd iddynt hefyd yr ardd law a phwll dŵr bywyd gwyllt mawr, a osodwyd fel rhan o system ddraenio gynaliadwy i hybu bioamrywiaeth a lleihau llifogydd.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd yn wych croesawu’r disgyblion i’n planhigfa goed, a rhoi’r cyfle iddynt weld drostynt eu hunain a chael profiad o’r gwaith mae ein tîm bioamrywiaeth yn ei wneud i gynnal a gwella ein hamgylchedd lleol.
“Roedd yn braf gweld a chlywed cymaint o ddiddordeb gan y disgyblion mewn bioamrywiaeth a sut y gallant ei gynnal, ac rydym yn gobeithio eu bod wedi dysgu gwybodaeth ddefnyddiol iawn i gynorthwyo eu hardal leol eu hunain.”
Yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor yn 2019, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ledled y sir.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymweld â’r blanhigfa goed, neu ein cynorthwyo drwy wirfoddoli ar y safle, e-bostiwch: bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk.
Dull rheoli glaswellt naturiol yn arwain at ganlyniad cadarnhaol
Mae cynllun peilot wedi arwain at fanteision o ran rheoli glaswellt ar ddolydd yn y dyfodol.
Y llynedd fe dreialodd tîm bioamrywiaeth y Cyngor dechneg naturiol i leihau a rheoli hyd y borfa ar safle dôl blodau gwyllt yn Ninbych a gwella’r tir er mwyn i flodau flodeuo.
Mae Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yn cynnwys dros 100 o safleoedd a gaiff eu rheoli ar gyfer dolydd blodau gwyllt (gan gynnwys yr 11 gwarchodfa natur ar ymylon ffyrdd). Mae’r safleoedd hyn yn gyfystyr â gwerth bron i 35 o gaeau pêl-droed o laswelltir a reolir fel dolydd blodau gwyllt cynhenid.
A nawr mae safle yn Ninbych wedi dod yn sail i ddull naturiol newydd a hunan-gynhaliol o gadw hyd y glaswellt ar y dolydd yn fyrrach tra’u bod yn eu tymor.
Cafodd rhan o’r ddôl yn Ninbych Isaf ei thynnu a chafodd hadau’r Gribell Felen, a gynaeafwyd o ddôl arall yn y dref, eu hau.
Yn ystod mis Mehefin fe archwiliodd y tîm Bioamrywiaeth y safle a chanfuwyd fod hyd y glaswellt wedi lleihau ac roedd y nifer o flodau gwyllt wedi cynyddu, lle’r oedd y treial wedi ei gynnal.
Mae hyn wedi arwain at fwy o fwyd ar gyfer trychfilod sy’n peillio a’u hysglyfaethwyr, ac mae’n golygu fod cynlluniau yn y dyfodol i gyflwyno blodau gwyllt newydd, sydd â’u tarddiad yn lleol ac a gaiff eu tyfu ym Mhlanhigfa Goed Sir Ddinbych, yn cael gwell siawns o lwyddiant gyda llai o gystadleuaeth gan laswellt y dolydd.
Mae’r Gribell Felen yn blanhigyn parasitig, sy’n treiddio at wreiddiau glaswellt a phlanhigion eraill gerllaw gan ddwyn eu maeth. Mae hyn wedi lleihau goruchafiaeth glaswellt o fewn y ddôl gan alluogi i fwy o flodau cynhenid dyfu.
Mae bwriad i gynaeafu hadau’r Gribell Felen o’r safle yn Ninbych er mwyn galluogi i’r planhigyn gael ei gyflwyno i ardaloedd eraill o ddolydd blodau gwyllt yn y sir i leihau goruchafiaeth glaswellt a helpu i gynyddu’r nifer o flodau gwyllt o fewn y safleoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r tîm Bioamrywiaeth am dreialu’r prosiect hwn. Mae’r dull naturiol a hunan-gynhaliol hwn wedi cael effaith gadarnhaol yn y safle yn Ninbych, gan helpu blodau gwyllt eraill i dyfu yn y dyfodol a hefyd rheoli hyd y glaswellt.
“Rydym yn edrych ymlaen at fynd ymlaen â’r cynllun naturiol hwn i wella bioamrywiaeth ac edrychiad safleoedd eraill er budd y cymunedau lleol, rhywogaethau planhigion a thrychfilod cynhenid.”
Mae’r holl safleoedd blodau gwyllt yn cael eu rheoli yn unol â chanllawiau Rheoli Glaswelltir Ymylon Ffyrdd Plantlife sy’n arwain at wahardd torri glaswellt yn y safleoedd hyn rhwng Mawrth ac Awst bob blwyddyn gan roi digon o amser i flodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu.
Ar ôl mis Awst caiff y safle ei dorri gyda’r hyn a dorrir yn cael ei gasglu i leihau ffrwythlondeb y pridd a darparu’r amodau gorau posibl i flodau gwyllt.
Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Partneriaethau Natur Lleol Cymru.