llais y sir

Dyfarnu contract adeiladu cam 1 Prosiect Adeiladau’r Frenhines

Mae'r Cyngor bellach wedi dyfarnu’r contract ar gyfer cam 1 Prosiect Adeiladau’r Frenhines yn y Rhyl.

Mae dwy ddelwedd CGI newydd wedi’u creu i ddangos y cynlluniau ar gyfer yr adeiladau, sy’n brosiect allweddol yn rhaglen adfywio ehangach y Rhyl.

Bydd y cam cyntaf yn cynnwys codi neuadd farchnad dan do newydd, creu gofod digwyddiadau ac ardal wedi’i thirlunio y tu allan, ac ailwampio Siambrau’r Frenhines – yr adeilad brics coch ar Stryd Sussex.

Roedd y gwaith i fod wedi dechrau ond, oherwydd adar yn nythu ar y safle, bu’n rhaid aildrefnu i ddechrau’r gwaith yn yr haf. Mae timau proffesiynol yn monitro’r safle’n agos i geisio atal rhagor o adar rhag nythu ac i sicrhau bod yr adar sydd eisoes wedi nythu yn ddiogel.

Mae’r cyllid ar gyfer y datblygiad hwn wedi’i ddarparu gan y Cyngor, rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop; a chwmni Wynne Construction sydd wedi’i benodi, drwy fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru, i godi’r adeilad.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Rydw i’n edrych ymlaen at weld y datblygiad allweddol hwn yn mynd rhagddo. Bydd Adeiladau’r Frenhines yn creu swyddi amrywiol ac yn darparu cynnig manwerthu unigryw i drigolion ac ymwelwyr y sir.

“Mae pobl yn defnyddio canol trefi mewn ffordd wahanol bellach. Bydd y prosiect hwn yn ein gwneud ni’n fodern ac yn darparu ased go iawn i’r Rhyl yn ogystal â gweddill y sir a’r economi lleol.”

Mae arwyddion wedi’u gosod o amgylch yr adeilad i ddangos y prosiectau eraill sy’n rhan o raglen Adfywio’r Rhyl, yn cynnwys Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Crist y Gair, Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl, SC2, 1891, Gwyrddu’r Rhyl, Harbwr y Rhyl, gofod cydweithio Costigans a Stryd Edward Henry.

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau sy’n rhan o raglen adfywio’r Rhyl, ewch i: www.sirddinbych.gov.uk/adfywior-rhyl

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid